Gorchest y Saethwr
(Darllenwyd ar Talwrn y Beirdd, Chwefror 1997. Meuryn: Gerallt Lloyd
Owen.)
Ni weli di, wr diwair,
Gawod waed mewn targed wair.
Yn dy wn mae oerni'r dydd,
Wyt yn orchest, anarchydd
Hen a brau na w^yr am bris
Y Catraeth yn y cetris.
Mae ynot sawl Romania'n
Gysgodion hirion o ia^.
Yn dy fwled o foliant
A chan plwm mae sgrechian plant
Yn oer fel pigau weiren.
Dy wn a'i blwm yw Dunblane,
Y difaddau, difyddin:
Doda dy arf yn dy din.
Gweler hefyd:
www.cymruwales.com