| |
I'r Athro Geraint Gruffydd ar ei Ymddeoliad
Mae dyfnder, mae llawnder lliw - dydd o haf
Yn dy ddysg diledryw,
Canys clared aeddfed yw
Gwin i hudo'r gwan ydyw!
Fel ffrwyth
glān dy winllan di; - heneiddio'n
Fonheddig foed iti
A pharhau i rannu'n ffri
Haul euraid dy seleri!
|