Caoineadh Airt Uí Laoghaire : Marwnad Airt Uí Laoghaire
gan Eibhlín Ní Chonaill (fl. 1770)
(Nodyn: Pwt o gerdd a gyfieithis beth amser yn ol - o'r Wyddeleg bid sicr - a
nodiadau a luniais i roi chydig bach o'r cefndir. Gellir cael fersiwn hwy o'r gerdd yn An
Duanaire gan Sean O Tuama t.200 - 219 (Dolmen Press, Portlaoise.)
Un o deulu cefnog O'Connell o Doire Fhíonáin (Derrynane) yn swydd
Ciarraí (Kerry) oedd Eibhlín Ní Chonaill a hithau'n fodryb i Daniel O'Connell y
Rhyddfreiniwr. Ym 1767, yn groes i ewyllys ei theulu, priododd ag Art Ó Laoghaire, capten
ifanc penboeth hefo'r Hwsariaid Hwngaraidd, a fynta newydd ddychwelyd i Iwerddon ar y
pryd. Aethon nhw i fyw i diroedd teulu Ó Laoghaire ger Maigh Chromtha (Macroom) yn Swydd
Corcaí (Cork) a byw ar ben eu digon a'u rhwysg yn fawr hyd nes i gweryl godi rhwng Art ac
Abraham Morris, Uchel Siryf yr ardal, a welodd yn dda alltudio Art o'i gynefin fel herwr
ar ffo. Mylliodd Art a chymryd yn ei ben ladd y Sais trahaus. Ben bore'r 4ydd o Fai, 1773
llamodd Art ar gefn ei farch ac i ffwrdd â fo i ddwyn ei fwriad i ben. Ond yr oedd wedi
ei fradychu gan ryw gynffonwyr i'r Uchel Sirfyf ac roedd Morris a'i wyr yn aros amdano dal
gêl ger y rhyd wrth Garraig an Ime ac yno y'i trechwyd a'i ladd ganddynt. Yn ôl
traddodiad canwyd y llinellau hyn gan Eibhlín a hithau'n penlinio uwch ei gorff.)
Fy nghariad gwyn i,
y dydd y'th welais di
yn nhalcen neuadd y farchnad,
fe sylwodd fy llygaid arnat,
fe ymserchodd fy nghalon ynot,
a ffoi a wnes o'm ceraint gyda thi
ymhell o'm cartref gyda thi.
Ac ni fu'n edifar gennyf :
Peraist beintio parlyrau imi,
a dodrefnu ystafelloedd imi,
cochi poptái becws imi,
tylino a phobi torthau imi,
cigoedd rhost ar ferau imi,
gorchymyn lladd gwartheg imi;
Finnau'n cael cysgu mewn gwely plu
tan hanner dydd
neu'n hwyrach byth os leiciwn i.
Fy nghariad gwyn i!
Mae fy meddwl yn cofio
y diwrnod braf hwnnw o Wanwyn,
mor dda y gweddai'r het iti
a'r bandyn aur main tynn amdani;
y cleddyf carn arian,
a'th law dde'n ddiwyro,
dy rodio bygythiol -
a'r crud o ofn
a ddeuai ar elynion bradwrus -
pan hwyliet ti i farchogaeth,
a cheffyl cul talcen gwyn oddi tanat -
Y Saeson yn moesymgrymu
lawr i'r llawr ichdi,
ac nid o ewyllys da ichdi
ond o lond tin o'th ofn di arnynt,
er mai nhw a'th laddodd di,
anwylyd gwyn fy enaid i...
Fy nghariad gwyn i!
A phan ddôn nhw adref ata' i,
Conchúr bach annwyl
a Fear O Laoghaire, y baban,
gofyn wnawn nhw'n union deg
ymhle y gadewais eu tad.
Dywedaf wrthynt yn fy ngofid
imi'i adael yng Nghil na Martar.
Galwant hwythau ar eu tada
na fydd yno i'w hateb.
Fy nghariad gwyn i!
Ni chredais erioed mo'th ladd
nes daeth dy farch adref hebot
a'r awenau hyd y llawr,
a gwaed dy galon ar hyd ei gefn
ac ar dy gyfrwy sgleiniog
lle byddet yn dy eistedd ac yn dy sefyll.
Rhoddais un llam dros y trothwy,
a'r ail lam i'r llidiart,
a'r trydydd llam ar gefn dy farch.
Curais fy nwylo'n glep
i gael ganddo garlamu,
hynny fedrwn i,
hyd nes dy ganfod ger fy mron a chdithau'n gorff
dan lwyn o eithin isel,
heb na Phab nac esgob
na gweinidog nac offeiriad
i ddarllen salm drosot,
neb ond gwreigen fusgrell lom
ac ymyl ei chlogyn wedi'i daenu drosot -
a'th waed yn ffrydio ohonot;
ni arhosais i'w sychu
dim ond ei yfed o gwpan fy nwylo.
Fy nghariad gwyn i!
Tyrd, cyfod i'th sefyll
a thyred adref gyda mi,
gael imi drefnu lladd gwartheg ichdi,
gael imi alw cwmpeini ynghyd,
ac mi gawn ganu a cherddi,
ac mi gyweiriaf ichdi wely
dan gynfasau gwynion,
a chwrlidau brithion braf,
a dynnith y chwys ohonot
yn lle'r oerfel sy'n gafael ynot.
(Nodyn 2: Cedwir fersiynau gwahanol o Farwnad Art Ó Laoghaire
ar lafar gwlad yn ardaloedd Gwyddeleg Corcaí a Chiarraí. O'u cwmpas magodd corff o ganu
atodol ar yr un thema ond traddodiadol yn y bôn yw llawer o hwnnw. Serch hynny, llais
Eibhlín sy'n cynnal y gerdd ac nid oes fawr o amheuaeth nad hi yw awdures wreiddiol y
gân gan gynnwys y llinellau uchod. Ystyrir Caoineadh Airt Uí Laoghaire yn un o farwnadau
mawrion Iwerddon a hi hefyd yw un o gerddi serch gorau'r iaith.)