Cegin Gareth Ioan
(11.12.1983)
Blynyddoedd y blodau, medden nhw,
oedd bia'r ddelfrydiaeth fawr,
a'r weledigaeth fawr,
ynglyn a'r waredigaeth fawr
a roddai ini ein Cymru Rydd Gymraeg
Ond roedd genym ninau, blant pync,
plant y pinau cau,
roedd genym nina'r ddelfryd hefyd;
roedd y peth dal yn bwysig ac yn bosib
ym mlynyddoedd materol
y blaendwf Thatcherol
... nes cyraedd cegin Gareth Ioan
wedi noson flodfresych yn London House, Crymych,
a thafodau'n blodeuo, a'r cwrw'n egino,
cyn mynd nol i dy oer, a'r hwyl yn edwino
a cheisio mwytho'r crac
o'r tri can o Felinfoel oedd ar ol,
gwrthod gadael i'r afiaith gilio
nes godro'r tropyn ola ohono.
Roedd hi'n oer y noson hono
a ninau mewn cotia
o amgylch Aga
oedd yn methu gwrthweithio
noson Llywelyn o Ragfyr rhewllyd,
y cymylau'n rasio a'r ser yn syrthio,
ac roedd hi'n dlawd arnon ni'r noson hono,
Alff yn trio gwneud tric y dorth a'r sgodyn
hefo owns o sbageti a haner nionyn,
ac albym gynta'r Maffia, uchafbwynt blwyddyn
ar Dansette ar y llawr
yn cael ei droi bob haner awr,
fel stecsan gyndyn
a'r sgwrs yn dilyn trywydd naturiol,
(os bogeiliol)
i griw o Gymry cydwybodol,
sef iaith, mewnlifiad
a ffigura'r cyfrifiad,
a dyma ni'n cymharu'r plwyfi mor hawdd,
Llanfairisgaer a Charon uwch clawdd,
fel 'tai penio'r stadegau rhwng ein gilydd
yn eu cadw'n yr awyr ryngom ni rywsut.
Tri can o Felinfoel oedd ar ol,
fel trysor yn ein dwylo, yn iro'r sgwrs,
ond ar y noson hono wrth gwrs
y gwawriodd y gwirionedd
a 'nghalon yn gorfod agor y clo
ar rywbeth fu 'mhen i'n amau ers tro:
Tydi hi ddim yn mynd i ddigwydd....
Oerodd fy nghalon
yng nghegin Gareth Ioan....