www.barddoniaeth.com Rhys Dafis

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com

   

    

Aled Lewis Evans
Andrea Parry
Dafydd E. Morris
Donald Evans
Emrys Williams
Emyr Lewis
Heledd Haf
Huw Dylan Jones
Huw Dylan Owen
Ifor ap Glyn
Iolo Wyn Williams
Marc Lloyd Jones
Martin Davies
Mei Mac
Meirion Hughes
Menna Elfyn
Moi Parri
Nici Beech
Peredur Lynch
Philip Jonathan
Rhys Dafis
robin llwyd
Robin Llywelyn
Tudur Dylan Jones
Urien William
Ynyr Williams
 

 

 

"Ie!"

 

Rhaid symud, mae'r byd ar ben!

Er pob cynnwr', pob cynnen,

A hau yr hen amheuon,

Y mae'r werin hydrin hon

Do, wedi meiddio â meddwl

Mor hy am rym, am hôm rwl!

O na! nid y ni a'n hiaith?

Ni diwmor nad â ymaith;

Ni staen ar ffenest hanes;

Ni â'n parhaus angen pres

Ar y sgrownj, nawr eisiau grym!

O!'r haid anniolchgar ydym!

Ie ni! fu gynt yn un

Ein gelyniaeth; fu'n glynu'n

Dynn wrth y Brydeinig deth

Â'n babanol ddibynieth;

Ni ail law, gwastraff o le;

Y ni, o bawb, â'n Ie!

Ie ni! fu'n destun hwyl -

Mor anwar, O mor annwyl!

Ni gyntefig ein tafod;

Ni'r mannau â'r enwau od,

Yn dal mewn rhyw fyd a aeth;

Annalluog a llywaeth.

Ie ni! ac mae 'na her,

Mae 'na nwyd, mae 'na hyder

Yn ôl yn ein llygad ni;

Mae 'na wên tu mewn inni.

Yn ddi-daw, ogledd a de,

Aeth Na am byth yn Ie!

 

 

Rhaid cael tamaid pentymor!

(cerddi gwahodd i swper blynyddol y dosbarth nos)

 

Sbeis a reis ac ymryson

(1998)

Dewch i'r wledd; cyd-eisteddwn;

I feirdd a'u crefft cawn fwrdd crwn!

Cawn sgwrsio a llowcio llên,

A mwynhau chow mein awen;

Cnoi cyw, ciniawa cywydd,

Mwynhau swyn y gerdd mewn sudd -

Afon goch dros fin a gên

Y saws wrth racsio asen;

Afon goch mor goch â'r gân

I'w rhoi i'm feuryn druan!

Ai mwynhau eich odlau chi -

Chips awen, rhyw chop suey

Di-ddant yw'r mwyniant i mi?

Na, cwrdd i racsio'ch cerddi

Yw fy mlys - yw fy mhleser!

A rhoi sweips wrth rannu'r ser;

Gweld pwy sy'n cario'r goron,

Pa arwr yw y king prawn!

Da chi, ffowch o'ch uwd a'ch ffa

Yn dorf i'r Hapus Dyrfa*;

Yn ddi-au, cawn noson dda!

(* Bwyty Tseiniaidd yn Nhreganna)

 

 

 

Talwrn y Balti-Wallah

(1999)

Chi byncwyr, drychwch, bancwet

O gyri iach! Noson grêt!

Bwyd lysh, sy'n llawn perlysiau;

Dyma'n wir ydi mwynhau.

Bwytawn yn hael; nid awn ni

Yn brin, na myn biriani!

Mae rhin ciwmin yn cymell

Awen y bardd; ni bu'i well

Am ennyn ias fel rasal,

Am gerdd goeth, a phoeth fel Phall;

A'r canu - nid llymru llên -

Yn gry gan gyri'r awen.

Cawn wneud acen o dikkas,

A mydrau rhemp o Madrás!

Cawn ddal y glec sy'n galw

Yn odlau iach Vindaloo!

A daw o hud poppadom

Rhyw ddawn sy'n corddi ynom!

Llaciwch felt, llowciwch Falti!

A dewch â cherdd gyda chi

I roi sbeis ar eisiau bwyd,

Blys, ysfa i'r blasusfwyd.

Am greu dwys! Am gyri da -

Wel talwrn Balti-Wallah!

 

 

 

Awn i dalwrn Eidalaidd!

(2000)

Hei! chi feirdd, dewch i farddas;

Y tro hwn, cewch brofi tras

A sawr y wledd glasurol

I ennyn canu'n eich côl;

Acenion cân yw y cig,

Y protin operatig!

Pwy sy' â llais top 'C' llên?

Traw Pavarotti'r awen?

Pwy fydd pencerdd ein llwyfan?

Am hawlio'i le'n ein Milan?

Pa gerdd? Pwy fydd y cerddor

Eleni'n cael ein 'encor'?

Dewch da chi! A dewch â chân

Un wych - dyna mor fychan

Yw'r pris gan Don Dafisi;

A chewch beth yw'ch tynged chi

Yn Zio Peppino, - pwy

Yw'r 'hood' sy'n gymeradwy!

 

Glas y Dorlan

Un nawn o haf wrth Gafn Hyrdd

Oedwn yn y gwawl hudwyrdd,

A'r dwr dan fy mhry di-hid

Yn ddiog ddi-addewid.

Drwy'r hen goeden gysgedig

Nerf o wynt chwaraeai fig,

A thawel lwyth o ewyn

Eildro'n llywio o gylch y llyn.

Ond yna, holltwyd ennyd

Ar y banc, gan ddeffro'r byd;

Treiddiodd dart trwy hedd y dwr;

Saethodd, hyrddiodd i'r merddwr

Blymiwr â'i blu o emau;

Edn glas ar ei adain glau,

Â'i ehediad mor sydyn

Nes i'r lliw enfysu'r llyn;

Disgyn ar sydyn grwsâd,

Yna'n ôl yr un eiliad,

A'i ysgytwol bysgota'n

Rhuthr o liw, yn wyrth o'r lan.

Eiliadau hudol wedyn,

A'r dydd mor llonydd â'r llyn,

Nid oedd yn y distawddwr

Un dim i gynhyrfu'r dwr,

Dim ond tawel ddychwelyd

Rhimyn o ewyn o hyd.

Er mai profiad eiliad oedd,

Ni symudais am hydoedd.

 

 

Llyn y Gist

Yn llun y bonyn, bu yno yr un

Falerina'n dawnsio

Waltz ddi-derfyn er cyn co.

Er llifo'n chwil ar ei llwyfan, ni ddaw'n

Ddi-ddiwedd o'i hunfan;

Mae o hyd yn yr un man.

Mae'n rhuthro dyfod o hyd; rhyw yrru

Aros a wna hefyd;

Pasio ymaith heb symud.

 

 

 

Ffoadur

Posmon llon, â'i wep fel llwy,

Yn naidredeg drwy'r adwy

I'r hewl, cyn troi, a sgrialu,

A rhesi daint yr ast hy

Yn sownd yn ei drowsus o;

Yna rheg, a swn rhwygo,

Swn bygwth - sgrech - swn begian,

Yna ras fawr am ddrws fan,

Agos, hirnos o siwrne

A'i lais clir yn llenwi'r lle

 geiriau coethaf gwerin,

Ac olion daint Gel 'nei din.

 

 

Tranc cenedl

Colli tir, colli tarian; colli grym,

Colli gwraidd ei hanian;

Colli'r iaith yw colli rhan;

Colli'r cof, colli'r cyfan.

 

 

Pont Hafren

Dyma adwy y mudo; gwagenni'r

Dyn gwyn yn ymwthio

 sêl eu hoes i hawlio

Darn o fyd rhyw Navaho.

 

 

Llawenydd

Dwyn i gof fy Eden gynt, a chlywed

Uwchlaw twrw'r pelmynt

Bryfed anwel a'u helynt,

Swn gwair yn suo'n y gwynt.

 

 

Darlun

Wedi i law Duw ei liwio, a'i orffen

Yn berffaith i'w fframio,

Dalwyd eiliad a'i hoelio'n

Olew cain ar wal y co.

 

 

 

Prysurdeb

Â'i ddawn yn newydd o hyd, 'rôl agor

Ei Lego, i wynfyd

Yr â plentyn mewn munud,

I'w chwarae bach - a chreu byd.

 

 

 

Winc

Llinell i ffonio'n calonnau, â serch

I su ei negesau,

A rhed gwefr hyd ei gwifrau

I roi tinc i gariad dau.

 

Difa wrth dyfu

Onid gwir, pan enir ni,

O'n mewn yn fraint mae inni

Synhwyrau'r wig sy'n aros -

Dawn i weld yn nu y nos,

A gweled miwsig alaw,

Synhwyro, ogleuo glaw.

Yna'n gynnar o'n geni

'R doniau hyn 'afradwn ni;

O dyfu'n hÿn, camu'n ôl

Yw'n hanes; mae'r bod dynol

Yn rhy wâr i ddoniau'r wîg,

Ac yn tyfu'n gyntefig.

 

 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.