Ffenestr Eglwys San Malo
(Wedi dinistr yr Ail Ryfel Byd bu San Malo heb Gadeirlan gyflawn
cyn
adeiladu'r ffenestr drawiadol bresenol, a wnaeth yr adeilad yn gyflawn drachefn.)
Gwewyr ein gorfoledd,
dryswch ein hawddfyd.
Dydy'r ffenestr ddim yn gwneud unrhyw synwyr arbenig.
Mae'n fodern.
medd hen wraig glen
yn gwerthu cardiau.
Dail aml-liw cyfoes
fel dagrau lliwgar
dyn
o oes i oes;
olwyn liwgar
yn diferu fflamau
o hapusrwydd
i'n dyrchafu
er eu bod yn syrthio.
Cofio dinistr diferu angau
drwy ein codi,
codi.
Yn dy liwiau a'th lewyrch
gellir maddau
i'r byd
ac i ninau
ein beiau oll.