www.barddoniaeth.com Dafydd E. Morris

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com

   

    

Aled Lewis Evans
Andrea Parry
Dafydd E. Morris
Donald Evans
Emrys Williams
Emyr Lewis
Heledd Haf
Huw Dylan Jones
Huw Dylan Owen
Ifor ap Glyn
Iolo Wyn Williams
Marc Lloyd Jones
Martin Davies
Mei Mac
Meirion Hughes
Menna Elfyn
Moi Parri
Nici Beech
Peredur Lynch
Philip Jonathan
Rhys Dafis
robin llwyd
Robin Llywelyn
Tudur Dylan Jones
Urien William
Ynyr Williams
 

 

 

Cadernid

Un iaith sydd yn ei theithi - yn addo
hen hedd Ynys Enlli
hen arwriaeth Eryri
a hen nawdd Gwynedd i ni.

Ysgol

"Yn hon, pan ddelwn innau - y bu hwyl
heb ei ail... mae'ch lleisiau
ieuanc oll yn bywiocau
y cof am heulog hafau."

Maenor Bŷr
(Wedi ymweld a'r eglwys a'r castell. Yma y claddwyd Gerallt Gymro a'i frawd.)

Teg awel hen dawelwch ym Mhenfro;
mae unfryd lonyddwch
hyd y lle; hen goed; a llwch
hen arwyr a synhwyrwch.

 

Tri Englyn

Gwydion Tomos
(Baban newydd Sue ac Aled Jones-Williams)

Wyt tramant ymysg plantos; wyt ddyheu;
Wyt ddewin chwedleuos;
Wyt ein dileit; wyt wên dlos;
Wyt yma, Gwydion Tomos!

Nofel
Am hon, am eiriau gonest, daw angau
dy dynged ddiamnest;
am y gwir, Solmon, mi gest
dy warchae am dy orchest.
Ymson
(Wedi derbyn y rhestr dasgau gan Aled)

Nid ydyw'n hawdd dwedyd, "Na!" - ac Aled
yn galw a^'r tasgau;
anodd im yw gwneud yn dda;
anos cyffesu hynna!

 

Disgyrchiant

 

A Newton yn pendroni
Uwch ystyr ein natur ni,
yno daeth, a disgyn, do,
fel hwyrnos afal arno;
un afal dihafal oedd,
afal a phwys canrifoedd
yn ei gwymp, yn syrthio'n gaeth
er enyn fflach athroniaeth
ar ei ben ... mewn amser byr
i Isaac, dyna'i gysur
wrth ddeddfu, tra'n barnu bant
"Does gwarchod rhag disgyrchiant!"

 

 


 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.