Camau Cyntaf
gan
Nici Beech
(Hwn ydy'r y cywydd a ennillodd y
"Slam" neu'r "Stomp" Gymraeg i
Nici mis Mawrth, 1999 yng gwyl Ty Newydd yng Nghricieth. Llongyf am gerdd gret!!! -
Gol)
A minnau'n friwiau o fri,
yn storws o dosturi,
fel rhyw ddawn, a ddaw'n ddi-wad,
yn amlach fe ddaw'r teimlad.
Fo'n Jiwdas a fi'n jadan,
dyn a'i nerth sy'n ngwneud i'n wan!
Pam 'mod i, yn gi sy'n gaeth,
yn udo am warchodaeth?
Ond eto fyth, dwyt ti fawr
o arth-foi, dim byd gwerthfawr.
Un yfwr, un o nifer,
un llyfr o fewn blwyddlyfr blêr.
Un o griw i wella'r graith,
un neis - mi wnest am noswaith.
Ond heddiw y mae'r briwiau
mewn lliw ac er mwyn lleihau
y brad, rhaid cyrraedd y brig,
fi'n onest, a fi'n unig.
Ar ben ein rhestr roedd llestri
neis, ond mae'n anrhegion ni
bellach yn geriach i'w gwared.
Creiriau ynt o golli cred.
Ai hyn yw ein gwahanu?
Rhyw focs o wydrau a fu
unwaith yn ein cyfuno?
Nadu clwyf wrth newid clo
ein cyd-fyw; codi dau fys
ar yr allor, ewyllys
rhannu ar chwâl, anialwch
sy'n y gegin, a'r llestri'n llwch.
Ar llynedd, 'rwy'n cau'r llenni,
Ar y Ddoe mawr oedd i mi
Yn fwrn, ond eto, fe aeth.
Ac eleni, rhagluniaeth
hollol wahanol yw'r her.
Troediaf ar hyd tir hyder
Gyda'm rhwyd hel breuddwydion
A'm hunan-ffydd i mi'n ffon,
F'adduned yn garped gwyn.
Welwch chi'r cwch yn cychwyn?
A llid yn ei llywio hi?
Llechan lân fydd eleni.