Dan nef
asur - segura - am oriau
Ar lan môr
a bwyta;
Bod o hyd mewn byd o ha'
Euraid - 'sdim son am eira.

"Y SAWL A UNODD
BYW TALI NA WAHANED PRIODAS..."
Rhyfedd fel mae pobol
yn gwrthdaro,
Ac yn ffaelu cytuno...
Dyna i chi Brys
A Beti 'i fisus -
Y ddau wedi
Bod yn byw tali
Am flwyddyn neu ddwy,
Neu fwy.
Pan glywodd y ddau
deulu
Fe fu pethe'n tasgu -
Gweiddi cas
Ac ambell air go fras,
A dau dad yn gwgu
A dwy fam yn pwdu,
Yn fawr ‘u cur,
Am nad oedd modrwy ar
law'r bur -
Y bur? - A hithau'n
cydwelya
Heb fendith cofrestrfa
Na neb a fo'n
gweinidoga?
(Doedd hynny ddim yn
beth gweddus,
A Beti'n ferch i
ddiacon parchus.)
A beth pe dôi babi
A hithau'n "gorfod"
priodi,
A phawb yn cyfri'r
misoedd,
A'r rheiny'n fêl ar
fysedd,
Rhwng y diwrnod
priodasol
A dydd y cynnydd
teuluol -
A hynny ar un llaw?
Rhyfedd ar y naw.
Onid gwarthus -
A rhyfygus -
Pe priodai "yn y
gwyn",
Gyda hyn,
Er ei bod yn nodedig
O chwyddedig?
Ta'
pun,
O'r diwedd fe gytunodd
y fun
Y byddai'n fwy taclus
Petai hi a Phrys
Yn rhoi cwlwm glân
briodas
Ynghyd â thipyn o
urddas
Yn ôl defodau
cymdeithas
Biwritanaidd,
Anwaraidd,
Ffilistaidd,
A hollol
Ragrithiol.
A sylwer nad oedd sôn
am fapa
Yn ei bola.
Serch hynny, pennwyd y
dydd -
Dydd yr ymbarchuso
[Gobeithio] -
A throi'n ðr gwraig ac
yn wraig gðr,
Bid siðr,
Drwy ddefod
A llofnod,
A dymuniadau gorau
I'r ddau,
A chonffeti
Dros het Beti
A mis mêl, er nad oedd
fawr o bwynt -
Ond roedd y dydd yn eu
hanes yn drobwynt.
A dyna'r gwir -
Oherwydd cyn hir
LLedodd si,
Gair o anfri,
Fod Prys
A'i fisus,
Mewn brys i wahanu -
A'r briodas yn simsanu
-
Ar ôl y sbloet a'r
gost
(Fe fu Dadi'n bur dost)
A gorfod dychwel y
rhoddion,
Y llestri nad oeddyn yn
deilchion,
Gwrthbannau, tostiwr,
tywelion,
Murluniau, sosbenni,
Y peiriant golchi,
Y cyfan i gyd
I'w dychwelyd
Gydag ymddiheuriad
Am y digwyddiad!
Wel,
os do fe'te!
Fe fu yno'r fath le!
Os oedd Dad yn grac y
tro o'r bla'n,
Tro hyn roedd e'n
wenfflam fel tân!
A mam yn sgrechen
mwrdwr,
Yn athrist ei chyflwr -
Pam ddiain na fydden
nhw 'di aros yn ddibriod,
Yn eu pechod,
Gan fyw tali
Yn deidi?

Babi
Bu wbain pan aeth Babi – am ei fwyd
(Ble mae’i fam?) i weiddi:
`Potel laeth lawn maeth i mi –
Ni ddotiaf fawr ar dditi’.

Englynion Meddwyn
Macwy sy am Mackeson - yn ochain,
Awchus am Worthington;
Am whisgi, sierri mae’n sôn –
Yfed cwrw fel afon.
Afon o fedd i feddwyn - neu Guineass
À gwên ar y woblyn;
Tancio’r trochion eigionwyn
Onid gwych yw’r gwydraid gwyn?
Surwin sy’n wych - a sieri – â’i
ymbil
Ydi `ambell’ whisgi;
Ym mhoen ig mae’n mynegi
"Siandi nawr, un mawr, i mi"
Siandi a brandi i’r brawd - a hwylir
Yn hylaw rhwng deufawd;
A’i oerfron dwyma’r birfrawd
À `rum’ – ei feunyddiol rawd.
I’w rawd yn simsan rodio – yn hercog
Fel corcyn yn morio;
Fel eliffant yn danto -
Diurddas, un cas yw Co.
Co ag atgo am fodca – yn sgwrio
Ymysgaroedd ei gylla;
A’i gri ffôl i’w daith ola?
"Myn Diawl! – Boed imi win da!"

Cwestiwn
Sut hwyl gest ar dy wyliau? A fynnaist
Feinir yn dy freichiau
À thân yn ei chusanau
Am ennyd lwys, ddwys i ddau?

Ffor Owyr Inglish Spicing
Ffrends:
Miss World
She’s so cute – such a beauty – a
maiden
So modest and pretty;
A queen in her bikini –
So neat and so sweet is she.

I’r Olew Rhag Gorheulo
Sunhine is most essential –
on your tum
For a tan right royal;
Rub hard my back – you’re a pal,
O spouse, with ointment special.

Pour Nos Amis Français
À Votre Santé
A Tours ‘il y a un hôpital – en ville
Qu’on voie en cadre spéciale;
Il est énorme - c’est normal
Pour guérir (sans mourir) le mal.