YFORY
"Dim
ond wrthot ti," meddai hi
Wrth
y weilgi ffrom ei gwedd,
"y
galla i weud y cwbwl
a
rhannu'r pethe dwli dwl."
"Dim
ond wrth wrando llio cyson
y
feiston,
neu
fwstwr y storom
yn
erbyn y gro
y
galla i lwyr ddadlwytho."
Wedi
drifftio draw o'r pyb
i'r
prom,
am
ymgom â'r eigion â'r sêr -
yn
froc digymar, deugain oed,
wedi
arfer dygymod ag aml gnoc;
atgofion
ddoe'n wymon flêr
yn
tagu'i meddwl -
a
bron â'i hala'n ddwl:
Pob
cariad hen a newydd
Y
gobeithion rhif y gwlith
Pob
siomiant, pob llawenydd
i
gyd yn driphlith draphlith."
"Pe
bai, petai, petase,"
atebai'r
tonnau oll yn ffyrnig -
"Pe
gwyddid be' sy'n dyfod
I
ba radde y rhoddid cynnig
ar
wyro hynt y rhôd?"
"A
fydde heddi'n wahanol?
Fyddet
heno ar y trâ'th?
Yn
llefen uwch y llanw;
Yn
hiraethu bod yn sâff?"
"A
fyddet 'falle nawr yn fam
pe
baet ti wedi ateb "gwnaf"?
pe
baet ti wedi paso pob ecsam
A
fydde bywyd yn fras a braf?
'Set
ti'n fenyw fusnes, falle;
Neu'n
gantores roc o fri,
A'th
henw yn y neon
ym
mhedwar ban y byd
Neu
drwy aberthu wrth yr allor,
yn
wraig gymen, bert a ffel
yn
gaeth i hud y botel,
yn
hen yn gynt na'i phryd,
yn
buten-briod i racsyn salw
sy'n
ddwrn a choc i gyd."
Mae
ei nerth ar drai mor fynych
A'i
ffydd ar ddistyll bell
Ac
weithiau, mae'n amau'n fawr
y
gwawria dyddiau gwell.
Iddi
hi
y
nefoedd
yw'r
adegau prin
pan
nad oes dim
yn
digwydd.
Dim.
A
bywyd yn llyn llefrith
yn
ddi-lanw a di-drai
Ond
gyda hyn
mae'r
ddrycin yn dwysau,
a'r
môr yn genlli flin,
yr
ewyn yn ei throchi -
eto
aros mae i ymresymu,
ei
dagrau a'r heli'n un
"So
ti'n galler bod heb
ofid, sbo
drwy'r
amser, nos a dydd -
Neu
shwt ma gwbod pryd 'ti'n joio
A
phryd ma bod yn rhydd?"
"Wel,'na
fe," meddai hi wedyn
wrth
iddi 'hwythu'i thrwyn,
"Sha
thre amdani, nawr
y
weilgi wyllt, ddi-fwyn
i
fflat fach oer, ddigysur
ac
i wely digynnwrf, di-gwtsh -
ond,
cofia, weilgi annwyl, - -
ma
'fory heb ei dwtsh."

DIRWASGU
Mwg
main dros doeau llwydwyn,
yn
stricio'r wawr ddilewyrch,
ddiffeind.
Yn
fuan, yn fore, gadael aelwyd
a
chymar a phlant yn llaeth enwyn
eu
breuddwyd.
Cofio
cysur cofleidio nwydwyllt,
yn
y llwydwyll;
rhwng
cwsg ac effro;
rhwng
y larwm a'r baned yn llaw;
rhwng
rhychwant ei choesau
ar
erchwyn y gwely.
Hitha
nawr
mewn
trwmgwsg didramgwydd, difraw;
ac
yntau'n sgriffinio'r barrug o'r sgrîn
â'i
winedd yn winthrew.
Y
cês i'r gist
a
ffarwél â Bro'r Gest,
wrth
iddo daro'r lôn orgyfarwydd
tuag
at wythnos arall
falwennaidd,
flin
yn
sbarc mewn ffatri dros y ffin.
Feunos,
am ddeunaw mis
yn
y lodjin.
heb
flys
a
rhy ddiog
i
godi o'r gadair fratiog,
gwylia'r
bocs
yn
ddiweld, diddiwedd
yng
nghwmni six-pack
a
hiraeth drafft dihysbydd.
Yn
rhythu ar dreigl rhithiol,
ara,
ara deg
rhifau
digidol cloc y fideo
20:15
Bydd
silffoedd Leos yn llawn
Fel
y llanw wrth y cei
Y
plant yn eu gwlâu
Thelma-drws-nesa
wedi'i thalu,
a
daw sðn y ffôn i grychu
clydwch
cras y smwddio
ym
Mro Dawel, East Avenue
"Heia."
Hi'n
naturiol braf am sbel -
hylif
ei Chymraeg
yn
falm i'w glustia;
yntau'n
lletchwith, unsill, -
yn
sbeitlyd bron - a hitha'n torri'i chalon.
Â'r
sgwrs ar drai
chwyth
sychwynt dros esgyrn brau
breuddwyddion
ddoe
wrth
i'r arian fynd yn llai.
"Nos
da."
"Nos
da. Rho sws i'r...."
galarnad
unsain
sy'n
dynodi
diwedd
eu soundbyte am heno.
Nos
Wener fudur.
Gweithiodd
drwy Nos Iau,
ac
mae'r blinder fel wadin
a'i
lygaid bron ynghau.
Mae
troeon Maentwrog
yn
llithro yn nadreddog,
gwiberod
duon
o
dan yr olwynion.
Clec
disymwth i'r cwrbyn
Sythu
cefn
Agor
ffenest yn sydyn
Rhwbio
llygaid trwm dan regu
Llwyddo
i ryw how-ddadebru.
Bydd
y bychan a'i chwaer
yn
y gwely,
a
bydd Rhian yn gwisgo
i'w
groesawu
yn
sidan du a choch
o
dani
Ei
thethi'n caledu,
angerdd
yn ei gwên
a
rhybudd ar ei min:
"Cofia
gloi'r drws tro yma,
a
chlirio'r bwrdd yn gynta -
rhag
ca'l soser am dy din."
Ac
mae ynta nawr yn gwenu.
Gwên
Nos Wener
gwên
luddedig
ar
hyd glannau Dwyryd
yn
wynias dan loer y gaea';
gola'r
car yn rhofio'r twllwch cyfarwydd
troed
yn drwm yn dirwasgu'r sbardun
wrth
ddilyn y lôn tua goleuadau'r Pendryn.
Fory
- ten-pin
yn
Llandudno
Wedi
gaddo; wedi gaddo...
Bydd
yn hwyl, cofia...
Ond
heno, cysgu... si-hei-lwli
fel
babi...si hei lwli
yn
ei breichia hi... si hei lyfli
Fel
hyn, te... Jest fel hyn...