Cywydd
A oes cân yn Is-Conwy
ym mis y gwenoliaid mwy?
A oes dail fel rhai stalwm
i droi y canghenau'n drwm?
A oes sôn am flagur swil
drwy'r fro'n egino'n gynnil?
Oes paill? Oes blodau meillion?
Oes clawdd hardd ers claddu hon?
O farw hon, pam bod y fro
yn dewis ailflodeuo?
Am mai'r rhaid ym marw hon
yw rhaid yr holl gariadon
o Wynedd hyd derfynau
pella'r ddaear bob yn ddau
sy'n meddwi'n eu cyfrinach,
sy'n byw am gusanau bach.
Er eu mwyn y pery Mai
i ddeilio, er na ddylai.