|
|
Ymddangosodd y cylchgrawn GweFr (y cylchgrawn cyntaf yn y Gymraeg ar y we) fel a ganlyn: Rhif 1 : Gwyl Ddewi, 1997 Rhif 2 : Y Cyntaf o Fehefin, 1997 Rhif 3 : Mehefin, 1999 Rhif 4: Rhagfyr 1999
Gweddnewidiwyd y cyfan 01.02.02. Yn hytrach na'i gyhoeddi ar ffurf cylchgrawn, gosodwyd tudalen i bob bardd. Pwrpas y 'cylchgrawn' cynnar hwn oedd llenwi'r gofod neu'r diffyg llenyddol a oedd ar y we yr adeg hon. Yr unig fforwm llenyddol yn y Gymraeg yn y cyfnod hwn oedd y defnyddgrwp Welsh_L - ble ceid trafodaethau diddorol iawn ynglyn a'r gynghanedd a ballu. Cafwyd sawl cywydd seibr a sawl eisteddfod (a chadair drydan hyd yn oed). Ond effemeral oedd y defnyddgrwp hwn, fel defnyddgrwpiau eraill - dyna ei gryfder a'i wendid. Sefydlwyd GweFr er mwyn rhoi llwyfan i waith y beirdd a chafwyd graffig lliwgar yn cyd-fynd a'r cerddi. Braf oedd gweld eraill yn dilyn - efallai yn fwy llwyddiannus.... ... ond da 'ni yma o hyd, yn her i'r gyfundrefn fonolithig, gyfalafol Americanaidd, am ryw ychydig pellach. |
|