Y Gymraeg i mi yw'r Rhwyd
(I Sion Onwy yn Awstralia)
Eto, nawn o aea'n tynhau
gwelydd y lolfa'n gul,
bywyd mor ddinerth ag erthyl;
cell o ffobia'n cau
am anadl, ymenydd:
tranc o wasgfeuon aflonydd
yn gylch o haenau'n f'amgylchynu
a'u mwgwd, fy mygu
ar gyfnos Tachwedd ... ynysu'r meddwl
yn ddu, ei grebachu'n bwl
o banig yn yr unigedd
cyfyng, a'r caddug cw^l
yn ei foddi'n fedd...
Ond danynt, y cyrteni
llawn ofn, cnewyllyn iaith
rywsut yn goroesi,
rhyw wingo afael islaw'r anghyfiaith:
gwawr ei chyneddf yn gwreichioni
awel freuddwyd o'r rhwydwaith -
rhwylliad goleuni o'r myllni maith
: un wreichionen yn prin eni
un arall, hono cyn oeri'n
esgor ar ragor, geiriogi'n
ddarluniau ehangrwydd ar len
ymenydd o nudden:
bae o haul fel crib alarch
yn oleulawn - anadl eang;
y rhythmau hir yn rhyferthwy march,
ac ar daran sidan ei sang
rhyw chwa o hogyn yn marchogaeth
ei fwng, carlamu'n fwyn
tua rhithwe'r traeth:
cefnfor o haf diafwyn
ar lanw gwib dros y darlun i gyd
a'r lolfa o aea'n fyd!