Englynion Coffa Llew Williams, Llangernyw
Rhoddi Llew i bridd y llan - o'n gafael
Oedd gofid bro lydan;
I barhau hil heb ei ran
Yw gofid Cymru gyfa.
Ei gyfan fu'i gyfraniad, - rhoi o'i fodd,
Rhy fawr ei fesuriad,
Amryddawn ei ymroddiad.
A rhoes ei lw dros ei wlad.
I'w wlad mor amhrisiadwy - yma oedd
Ei her ym mhob adwy,
I'n hirlwm fe fu'n arlwy
A'i allu yn mynu mwy.
Mwy iddo e oedd deall - y to iau,
A'u paratoi'n ddiwall.
Eu dysgu y bu'n ddi-ball
A^ her Llywelyn arall.
Pwy arall feddai'r gallu - i drafod
Yr ifanc a'u denu
I ganol gem neu ganu
I lwyfan y Llan yn llu.
Cael llu o'r ifanc llawen - yn fyddin
Ryfeddol a'u diben
I warchod pob tywarchen
O emau'r hen Gymru wen.
Ar hen gaeau hau yr had, - had newydd
Ar ddolydd ei alwad,
O roi ei sel a'i berswad
Eginodd ffrwyth ei genad.
O'i genad wele ganoedd - o'r ifanc
Heno'n profi'r gwerthoedd!
Rhodd fory i Gymru ar goedd,
Aeth i orwedd i'w thiroedd.
Ein tir a thyfiant iraidd - y doniau'n
Lledaenu'n werinaidd:
Blagur y gwr poblogaidd,
A'r cyfan yn rhan o'i wraidd.
Ei wraidd sy'n dal drwy'r priddyn! Enillwyr
Ym er colli eilyn!
Bore ddaeth i'r broydd hyn
A holl heulwen Llywelyn.

Dau englyn
Treth ar Ryw
Mae son fod grym y senedd - am hawlio
'Treth Mul' ar ein gwragedd
A rhoi VAT ar wr a fedd
Un hydfawr tros naw modfedd
Tatŵ
Ar ei fogel, Pwllheli; - ar ei fraich,
Tref y Rhyl a weli,
A jiawl! Mae Llanfair PG
I'w weled hyd ei wili!