Adref
Nejlepší umĕní života je spokojenĕ umírati
“Dysg fwyaf bywyd yw marw’n fodlon”.
Arysgrif uwch ddrysau’r capel ym
mynwent Zdešov ger Žirovnice yn y Weriniaeth Tsiec.
Y dde yn
gaeth eto, ond gwaeth.
Ie, nage, symud pen, ambell air,
A’ch llygaid yn dân o gariad a thosturi.
Llyncu yn alltud, a’ch ceg yn graith
O wely afon sychedig,
Yn marw am ddisgled o dê.
Piben
i’ch stwmog a phiben o’ch pledren
Yn cyflyru’ch dynoliaeth.
A gwacter y cydnabod cyntaf
Mai fel hyn y byddai hi.
Ystafell
i’ch hun - ond nid chi yw hon?
Llygaid cul-agored, byth ynghau, dal ynghynn.
Brwydr anadlu yn cau’r drysau o’n cwmpas
I dderbyn y diffodd yn dawel.
A’r rhyddhad. A’r euogrwydd.
Tor cwmwl
yn lleddfu’r llefain,
Ing yr emyn olaf a’r drysau’n agor.
Ail-gydio cyd-gordio hen gyfeillion
Yn dystion i urddas tawel eich gŵr
A alarai ddewraf.
Eich
croes lychlyd yn gwynnu’r mynydd-dir,
Annelwig yng ngwres y dydd islaw,
A dywynna’n dirion ymhob nos.
Cysgod a lliw - tan i ninnau hefyd gyrraedd
Adref.