I Rhianon Evans
(Gwraig Gwynfor Evans)
Trwy ddolur neu drwy seguryd - ac oes
O esgusion enbyd
Y mae gardd ynom i gyd
Heb ei hau yn ein bywyd.
Ond er hyn daw arweinydd, - un fel hon
Yn ddiflino beunydd,
I hau, bob blwyddyn newydd,
Y darn o dir yn ei dydd.
Ni raid gofyn ond unwaith - iddi hi
O hyd, cyn daw afiaith
Y Rhianon hon ar waith,
Yn Rhianon i'r heniaith.
Fe fu yn gefn i ni gyd - i'r eithaf
Trwy waith ei hanwylyd;
Bu hon yn rhoi bob enyd
I deulu Cymru cyhyd.
Trwy yr hwyl a'r treialon, - er i glais
Hagru'i gwlad yn gyson,
Ac er y gad, gwraig yw hon
Na chilia o'i gorchwylion.
Yn iach yn ol daw'n chwyn ni - yma byth;
Gwyddom bawb am erddi
A dagwyd drwy'n diogi,
Ond gwyrdd o hyd ei gardd hi.
Ei haeddiant roddwn heddiw, - a'i roi oll
I wraig mor unigryw,
Rhyw un we^n mor gadarn yw,
Gardd o hyd mewn gwyrdd ydyw!