www.barddoniaeth.com Lefel A

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Cerddi
Golygyddol 2
Y Winllan
Lefel A
Y Gymraeg ar y We
Dafydd Price Jones
 

Adran Ysgolion Uwchradd

Cerddi Lefel A

Ar y tudalenau hyn, bwriadwn gymryd cip-olwg slei i fewn i fagiau rhai o athrawon Cymraeg ysgolion led-led Cymru. Mae na rywbeth braf iawn mewn rhanu cyfrinachau, yn toes? Diolch i bawb sydd wedi cyfranu hyd yma, mae can croeso i bawb ddanfon dehongliadau neu nodiadau eraill atom yn Sycharth.


Tudur Dylan Jones yn dehongli tair cerdd gan Alun Llywelyn Williams:
Pan Oeddwn Fachgen, Cofio'r Tridegau a Gwerthu Dodrefn
Mae beirdd a llenorion ar hyd y canrifoedd wedi cyfleu i ni brofiadau bywyd, yn ei orfoledd a'i siomedigaethau. Wrth astudio eu gwaith, fe ddown i weld nad profiad syml yw byw, yn hytrach mae'n gymysgedd o lawenydd a thristwch, gorfoledd a siom, ieuenctid a henaint. Mae ein traddodiad llenyddol ni yn glytwaith eang o brofiadau; cawn olwg ar gyfaredd mabinogi yn y Pedair Cainc hyd at lesgedd henaint yng Ngwaith Llywarch Hen. Ond cawn y profiadau hyn i gyd yng ngwaith un bardd arbenig, gan nad bardd yr un profiad mo Alun Llywelyn-Williams.


Mynegi ei brofiadau yn fachgen yn ardal y dociau yng Nghaerdydd a wna yn Pan Oeddwn Fachgen. Gwel ddihangfa yn nhonnau'r mor, a gwel un cwch dychmygol a fyddai'n gyfrwng iddo fynd tuag at yr hyn yr oedd yn ymgyraedd tuag ato. Nid taith gorfforol mo hon, yn hytrach pererindod ysbrydol i geisio cyrraedd y man gwyn man draw. Mae'n arwyddocaol mai dyma'r union gyfrwng a fyddai'n ei gludo yn nes ymlaen yn ei fywyd i weld rhai o erchyllterau gwaethaf dyn yn erbyn ei gyd-ddyn.


Cawn gipolwg ar rai o'r erchyllterau hyn yn Cofio'r Tridegau. Os mai cerdd am obaith oedd Pan Oeddwn Fachgen, yna cerdd y dadrithiad yw hon. Nid oes yma ramantu am beth allai fod, ond yn hytrach, gwelwn dristau am yr hyn sydd. Mae llawenydd ac ysgafnder y gorffenol wedi ildio eu lle i ofn a dychryn a grewyd gan ddyn, "y cyfalafwyr bras a boliog". Cyfeiriad penodol sydd yma tuag at y gyfundrefnau Franco yn Sbaen a Hitler yn yr Almaen, ac er na welwn eu henwi hwy, yng ngeiriau'r bardd ei hun:
"hawdd oedd adnabod awduron ein cancr a'n clwy."
Mae'n arwyddocaol ein bod yn gweld y gobaith yn y gerdd i ieuenctid lle nad yw'r bachgen yn sylweddoli bod y fath beth a thristwch a marwolaeth. Mae'n wir iddo sylweddoli y clyw "farwol guriadau'r cnawd" wedi dychwelyd o'i fordaith, ond yn ol y bardd, "deil y golau'n y gwyll dros y bae" i dywynu arno o hyd. Mae hyn iddo'n symbol o barhad, tra mai degawd o ddarfod oedd y tridegau iddo.


Cerdd sy'n cynrychioli pegwn arall bywyd ywGwerthu'r Dodrefn. Er mai marwolaeth yw cefndir y gerdd, nid cerdd o anobaith mohoni. Mae'r darfod a'r parhad yn un yma. Nid rhamantydd sy'n siarad yma fel yn y gerdd gyntaf. Yn honno, gobeithio beth oedd o'i flaen a wnai; ofni beth oedd o'i flaen a wnai yn Cofio'r Tridegau; ond yma, gwybod beth sydd o'i flaen y mae. Gwel dristwch yn y syniad o orfod gwerthu celfi a olygai gymaint iddo, yn arbenig gan eu bod oll yn cynrychioli gwahanol agweddau ar ei fywyd. Serch hyny, sylweddola nad ydynt ond gwrthrychau i'w atgoffa o'i farwoldeb, ac na fyddai diben dal atynt am fwy nag sydd raid.


Mae Alun Llywelyn-Williams yn fardd sy'n ymboeni am ddyfodol dynoliaeth, yn gresynu fod diawlineb ein byd yn gallu ymddangos yn drech na daioni. Cafodd ef, uwchlaw bron pob un ohonom, brofiad o'r pegynau hyn, ac felly gallodd eu defnyddio i greu'r clytwaith amrywiol hwn o brofiadau, y Mabinogi a Llywarch Hen o fewn yr un awen. Mae'n ymboeni digon fel ei fod am wneud gyda phethau gorau bywyd fel y gwaneth gyda'r trysorau yn yr hen gist dderw, sef: "eu cyflwyno'n ddiogel i'r nesaf a ddel."


Geirfa:

brudio - proffwydo
cnyw - anifail ifanc
gweilgi - mo^r
giau - gewynau
mabol - yn ymwneud a phlentyndod
apocalyptig - yn ymwneud a diwedd y byd
Hwch Ddu - ymgorfforiad o'r diafol

 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.