Y Gymraeg ar y
Rhyngrwyd
gan Huw Williams
(Prif Beirianydd Cynorthwyol Cwmni Digital)
Pa mor amlwg yw'r Gymraeg ar yr Rhyngrwyd? Tenau iawn yw'r defnydd o'r Gymraeg. Beth
bynnag yw eich barn ar dreiddiad yr iaith fain, ni fedr neb beidio a sylwi fod y rhan
fwyaf o gyfathrach yn y byd electroneg yn cael ei wneud yn Saesneg. Yn bennaf, yr
Americanwyr sydd yn gyfrifol am hyn, gan mai yn yr Unol Daleithiau y dyfeiswyd y
Rhyngrwyd, ac yno mae'r defnydd mwyaf ohono.
Ond, er hyn, mae ambell i safle ar gael ar y We Fyd-Eang sydd yn gwneud ymdrech lew i
gyflwyno gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn
esiampl dda. Wrth gysylltu a thudalen cartref y Llyfrgell, cewch ddewis eich hiaith, ac
wedyn cewch fynd ymlaen i chwilota drwy archifau ac arddangosfeydd y Llyfrgell. Mae'r
iaith yn loyw a naturiol, ac mae'n gwbwl amlwg fod gwaith caled iawn wedi mynd i greu'r
Wead hon.
Ceir wedyn safleoedd sydd ddim ond yn defnyddio ychydig o Gymraeg. Ceir y teimlad bod y
Gymraeg ond yn cael ei defnyddio i gadw'r ddesgil yn wastad, a bod yn well gan y cyfranwyr
ddefnyddio'r Saesneg, mewn gwirionedd! Enghraifft o hyn yw Eisteddfod Llangollen.
Mae llawer o safleoedd ar gael sydd yn berthnasol i Gymru ond sy'n uniaith Saesneg.
Cymerwch Telecom Prydain fel esiampl. Dyma gwmni sydd wedi cefnogi'r Gymraeg dros y
blynyddoedd. Maent yn noddi'r Eisteddfod Genedlaethol ac mae llawer o'u gwasanaethau ar
gael yn Gymraeg, ac mae teleffonau cyhoeddus drwy gydol Gwledydd Prydain yn rhoi'r dewis
i'r cwsmer o ddefnyddio Cymraeg neu beidio. Ond mae eu safle ar y We Fyd-Eang yn uniaith
Saesneg!
Dyma un o brif broblemau'r We Fyd-Eang parthed darparu tudalenau Cymraeg. Nid oes modd
gwybod ymhle mae'r tudalenau wedi eu sefydlu. Mae'n hynod debygol fod tudalenau Telecom
Prydain wedi'u paratoi, ac ar gael oddi ar gyfrifiadur yn eu pencadlys yn Lloegr. Prin
iawn yw'r Cymry Cymraeg yn y fan hono! Ond mae hyn yn broblem i sefydliadau Cymreig hefyd.
Cymerwch stori a glywais am y Swyddfa Gymreig fel esiampl. Gyrodd rhywun neges electroneg
iddynt yn holi am rhywbeth. Cafodd ateb cwrtais yn Saesneg yn gofyn iddo fod yn amyneddgar
tra eu bont yn cyfieithu ei ymholiad!
Un o'r sylwadau a glywir yn aml yw, "Pam fod yn rhaid darparu tudalenau yn y
Gymraeg?" Gan fod y Saesneg wedi ei fabwysiadu'n iaith 'de facto'r' Rhyngrwyd, pam
mynd i'r drafferth i baratoi tudalenau yn y Gymraeg o gwbwl? Onid yw'r Cymry'n gallu deall
Saesneg? Gellir dadlau i'r gwrthwyneb gyda'r un rhesymau dros ddefnyddio'r Gymraeg, er bod
mwyafrif y boblogaeth yn ddi-Gymraeg.
Sut mae chwilio am wybodaeth ar y We drwy gyfrwng y Gymraeg? Gyda pheth anhawster yw'r
ateb. Cymerwch "Alta Vista" fel esiampl o raglen gyfrifiadurol sy'n chwilio drwy
gyfarwyddiadur mawr am eich ymholiad. Ymholwch am y gair "Cymraeg" a chewch
pedair mil o gyfeiriadau s'yn cynnwys y gair. Ond ar ol ymchwiliad manwl, darganfyddir mai
Saesneg yw iaith y rhan helaeth o'r tudalenau a restrir. Nid oes modd mynu mai tudalenau
Cymraeg yn unig sydd o ddiddordeb. Rhaid cael cryn amynedd i ganfod yr hyn yr ydych yn
chwilio amdano!
Mae stori i'w glywed ar y Rhyngrwyd am y Ffrancwr annhechnolegol hwnw a gwynodd i
wneuthurwyr Netscape, fod ei fersiwn Ffrengig ddim yn cyfiethu'r tudalenau! Digon araf
yw'r ymchwil gymhleth i brosesu iaith naturiol, ac mae degawdau tan y dydd y gall
cyfrifiaduron gyfieithu iaith ddynol - yn synhwyrol!
Er mor ddatblygiedig yw'r ymenydd dynol, mewn cymhariaeth a'r cyfrifiadur, mae'n ddigon
anodd i mi weithiau ddeall rhai o'r termau sy'n cael eu bathu ar y Rhyngrwyd! Yn ddi-os
mae'r darparwyr diffuant yn ceisio eu gorau i baratoi tudalenau Cymraeg. Ond mae safon yr
iaith, a'u dewis o dermau yn aml yn rhygnu. Maent yn rhy barod i gyfieithu'r gair, ac nid
yr ystyr. Cymerwch fel esiampl "diweddarwyd", cyfieithiad o "last
updated", oni fuasai "y newid olaf" yn fwy derbynniol?
Eto, mae rhai bathiadau Cymreig yn fwy cymwys. COF - Cwestiynnau a Ofynnir yn Fynych:
rhestr o atebion i gwestiynau sy'n ailddangos yn aml ar y Rhyngrwyd. Mae'r term yn
argymell bod y wybodaeth yn dal ar gael, ac yn hawdd i'w dwyn i gof! Cymharwch hyn gyda'r
Saesneg: FAQ - Frequently Asked Questions. Nid yw mor gymwys, ac mae'n swnio braidd yn
anweddus!
Onid yw esblygiad geirfa iaith yn arwyddocad o'i hiechyd? (Clywch! Clywch! - Gol.) Mae'n
dangos pa mor iach yw'r iaith. Yn fy marn i, mae'n rhaid i eiriau newydd gael eu
mabwysiadu'n naturiol. Nid oes lle i bwyllgorau ddyfeisio geiriau ar eu liwt eu hunain.
Mae genyf restr gyhoeddiedig gan y Cyd-Pwyllgor Addysg o dermau cyfrifiadurol. Nid wyf yn
eu ddefnyddio oherwydd nid ydynt mewn defnydd yn ein iaith pob dydd. Pan rwyf yn sgwenu'n
Gymraeg, mae arnaf eisiau pawb i'w ddeall, heb ymgynghori a geiriadur neu restr termau.
Yn bersonol, nid wyf yn cytuno a'r gwrthwynebiad i eiriau benthyg, os nad oes gair cymwys
Cymraeg ar gael. Mae methiant yr "Academie Francaise" i ddisodli "Le
Weekend" a "Le Hamburger" yn dyst i anallu pwyllgorau i ddeddfu ar y
defnydd o iaith. Yr un yw'r hen joc am y Sais rhonc: "Ha Ha, you know Welsh is a dead
language, because it doesn't even have its own word for spaghetti!" Arwydd fod y
Gymraeg yn eitha iach yw ei gallu i ymgorffori termau estron yn rhwydd a naturiol. Pa air
mwy Cymreig na "pot jam" neu "ffenest" neu "atom"?
Beth felly yw dyfodol y Gymraeg ar y Rhyngrwyd? Wel, ni ellir dadgysylltu'r cwestiwn oddi
wrth tynged yr iaith yn y byd mawr. Bydd pocedi clos o Gymraeg i'w gael tra peru'r iaith.
Gyda treiddiad y Rhyngrwyd a chyfryngau newydd eraill i'n bywydau, rhaid wrth yr un
dyfalbarhad i fynu darpariaeth deg i'r Gymraeg. Cofiwch fod pob iaith leiafrifol o dan
bygythiad ac yn ceisio'i throedle ar y graig arw.
Gan nad oes un sefydliad yn rheoli'r Rhyngrwyd, ni ellir ymprydio i hawlio statws cyfartal
i'r iaith. Mae ei natur gwasgaredig yn gwneud hi'n anodd sicrhau darpariaeth ddwyieithog.
Pan fydd dewis iaith ar gael felly, defnyddiwch y Gymraeg ar bob cyfle. Gellwch sicrhau
bod rhywun, rhywle, yn cyfrif, ac yn penderfynu os yw'n werth y gost o baratoi darpariaeth
ddwyieithog neu boliglitig.
Mae rhai yn proffwydo fod saith mil allan o'r wyth mil o ieithioedd a ddefnyddir heddiw,
yn mynd i ddiflanu o fewn canrif. Gobeithaf yn arw na fydd y Gymraeg ddim yn un ohonynt.