CYNNWYS
Peredur Lynch
Emrys Williams
Heledd Haf
Robin Llwyd ab Owain
Huw Dylan Jones
Huw Dylan Owen, Dolgellau
Moi Parri
Robin Llywelyn
Dafydd Evan Morris
Andrea Parry
Ynyr Williams
Emyr Lewis
I'r Athro Geraint Gruffydd ar ei Ymddeoliad
gan
Peredur Lynch
Mae dyfnder, mae llawnder lliw - dydd o haf
Yn dy ddysg diledryw,
Canys clared aeddfed yw
Gwin i hudo'r gwan ydyw!
Fel ffrwyth gla^n dy winllan di - heneiddio'n
Fonheddig foed iti
A pharhau i rannu'n ffri
Haul euraid dy seleri!
Dau englyn
gan
Emrys Williams, Llangeryw
Treth ar Ryw
Mae son fod grym y senedd - am hawlio
'Treth Mul' ar ein gwragedd
A rhoi VAT ar wr a fedd
Un hydfawr tros naw modfedd
Tatw^
Ar ei fogel, Pwllheli; - ar ei fraich,
Tref y Rhyl a weli,
A jiawl! Mae Llanfair PG
I'w weled hyd ei wili!
Pam Fi?
gan
Heledd Haf
Trwy ffenest carchar f'ymennydd
Syllaf ar gyfoedion f'arddegau:
Cerdded
Rhedeg
Neidio,
Breuddwyd gwrach i mi.
Disymud
Dienaid
Diysbryd,
Diog yn eu golwg nhw.
Llusgo fy nghorff llesg fel malwen
I glydwch fy nghadair fetal.
Pam fi?
Symyd trwy'r stryd yn ofalus
Breichiau egwan yn troi olwynion
Llygaid yn dilyn
Yn busnesu
Yn beirniadu
Ac yn llygadrythu
Ar esgymyn eu cymdeithas,
Pam fi?
Mudandod cyfarchion cymdogion
Wrth fy ngweld yn y stryd,
Didafod
Difeddwl
Dideimlad.
Fy ngadael i'n unig
Yng nghaethiwed fy nghadair fetal.
Pam fi?
Pam fi!
Tri Englyn
gan
Robin Llwyd ab Owain
Wrth edrych allan drwy'r ffenest, efo Eirian
Gwlad ysgariad. Oes garwach - ei rhynwynt?
Trodd y brwyn yn ffradach,
Derwen gadarn yn gadach.
Glynaf i'n dy galon fach....
O Dan y Siwt
Roedd y cyfan mor lanwych - a fy nhei,
Un fin nos sidanwych;
Ond roedd nadroedd yn edrych
Drwy wen angylaidd y drych...
Yr Hanesydd Emyr Preis
Weiren frau yn wefr o hyd - yn ei we^n
Drydanol mae'r cynfyd;
Weiren fyw i'r hen fywyd,
Weiren fyw i'r hen, hen fyd.
Tri Thriban
gan
Huw Dylan Jones
Dafydd El
Tra rydwyf yn mawrygu
Dy 'gwango' na all ddeddfu,
Y mae ein hiaith, O Arglwydd Mawr!
Ar lawr yn cael ei sathru!
Elwyn Jones
Fe'th fagwyd ymysg cyni
Sosialaeth bro'r chwareli,
Undebwr brwd fu'n mynu'i hawl:
Sut ddiwal wyt ti yn dori?
John Roberts Williams
Arloeswr ar y radio
John Aelod Jones y Cymro
A thros dy sbectol rwyt o hyd
Am firi'r byd yn sgwrsio.
Englyn
gan
Huw Dylan Owen, Dolgellau
Yr Ailsymudiad
Roedd y bos rhyw hwyr noson - yn canu
'Rol cinio mewn baddon;
Fel sgrech daeth rhech o'r trochion,
Eiliad o sawr Aled Sion!
Epigramau
gan
Moi Parri
Brenin y llys â barn llo
Yw beirniad - mae bai arno!
Mae arian heb ymyraeth
Ar y bir yn sobor o beth!
Ca^n di a geisi gysur,
O feddu cân a fydd cur.
A fo ddoeth a fydd ddethol
A saff fydd rhag dewis ffol.
A fo ddynol fydd anwar
A feddo wn ni fydd wâr.
Iaith y fam yw'r iaith a fydd
Yn aros ar leferydd.
Caoineadh Airt Uí Laoghaire : Marwnad Airt Uí Laoghaire
gan Eibhlín Ní Chonaill (fl. 1770)
Cyfieithiad Y Prif Lenor Robin Llywelyn
(Nodyn: Pwt o gerdd a gyfieithis beth amser yn ol - o'r Wyddeleg bid sicr - a
nodiadau a luniais i roi chydig bach o'r cefndir. Gellir cael fersiwn hwy o'r gerdd yn An
Duanaire gan Sean O Tuama t.200 - 219 (Dolmen Press, Portlaoise.)
Un o deulu cefnog O'Connell o Doire Fhíonáin (Derrynane) yn swydd
Ciarraí (Kerry) oedd Eibhlín Ní Chonaill a hithau'n fodryb i Daniel O'Connell y
Rhyddfreiniwr. Ym 1767, yn groes i ewyllys ei theulu, priododd ag Art Ó Laoghaire, capten
ifanc penboeth hefo'r Hwsariaid Hwngaraidd, a fynta newydd ddychwelyd i Iwerddon ar y
pryd. Aethon nhw i fyw i diroedd teulu Ó Laoghaire ger Maigh Chromtha (Macroom) yn Swydd
Corcaí (Cork) a byw ar ben eu digon a'u rhwysg yn fawr hyd nes i gweryl godi rhwng Art ac
Abraham Morris, Uchel Siryf yr ardal, a welodd yn dda alltudio Art o'i gynefin fel herwr
ar ffo. Mylliodd Art a chymryd yn ei ben ladd y Sais trahaus. Ben bore'r 4ydd o Fai, 1773
llamodd Art ar gefn ei farch ac i ffwrdd â fo i ddwyn ei fwriad i ben. Ond yr oedd wedi
ei fradychu gan ryw gynffonwyr i'r Uchel Sirfyf ac roedd Morris a'i wyr yn aros amdano dal
gêl ger y rhyd wrth Garraig an Ime ac yno y'i trechwyd a'i ladd ganddynt. Yn ôl
traddodiad canwyd y llinellau hyn gan Eibhlín a hithau'n penlinio uwch ei gorff.)
Fy nghariad gwyn i,
y dydd y'th welais di
yn nhalcen neuadd y farchnad,
fe sylwodd fy llygaid arnat,
fe ymserchodd fy nghalon ynot,
a ffoi a wnes o'm ceraint gyda thi
ymhell o'm cartref gyda thi.
Ac ni fu'n edifar gennyf :
Peraist beintio parlyrau imi,
a dodrefnu ystafelloedd imi,
cochi poptái becws imi,
tylino a phobi torthau imi,
cigoedd rhost ar ferau imi,
gorchymyn lladd gwartheg imi;
Finnau'n cael cysgu mewn gwely plu
tan hanner dydd
neu'n hwyrach byth os leiciwn i.
Fy nghariad gwyn i!
Mae fy meddwl yn cofio
y diwrnod braf hwnnw o Wanwyn,
mor dda y gweddai'r het iti
a'r bandyn aur main tynn amdani;
y cleddyf carn arian,
a'th law dde'n ddiwyro,
dy rodio bygythiol -
a'r crud o ofn
a ddeuai ar elynion bradwrus -
pan hwyliet ti i farchogaeth,
a cheffyl cul talcen gwyn oddi tanat -
Y Saeson yn moesymgrymu
lawr i'r llawr ichdi,
ac nid o ewyllys da ichdi
ond o lond tin o'th ofn di arnynt,
er mai nhw a'th laddodd di,
anwylyd gwyn fy enaid i...
Fy nghariad gwyn i!
A phan ddôn nhw adref ata' i,
Conchúr bach annwyl
a Fear O Laoghaire, y baban,
gofyn wnawn nhw'n union deg
ymhle y gadewais eu tad.
Dywedaf wrthynt yn fy ngofid
imi'i adael yng Nghil na Martar.
Galwant hwythau ar eu tada
na fydd yno i'w hateb.
Fy nghariad gwyn i!
Ni chredais erioed mo'th ladd
nes daeth dy farch adref hebot
a'r awenau hyd y llawr,
a gwaed dy galon ar hyd ei gefn
ac ar dy gyfrwy sgleiniog
lle byddet yn dy eistedd ac yn dy sefyll.
Rhoddais un llam dros y trothwy,
a'r ail lam i'r llidiart,
a'r trydydd llam ar gefn dy farch.
Curais fy nwylo'n glep
i gael ganddo garlamu,
hynny fedrwn i,
hyd nes dy ganfod ger fy mron a chdithau'n gorff
dan lwyn o eithin isel,
heb na Phab nac esgob
na gweinidog nac offeiriad
i ddarllen salm drosot,
neb ond gwreigen fusgrell lom
ac ymyl ei chlogyn wedi'i daenu drosot -
a'th waed yn ffrydio ohonot;
ni arhosais i'w sychu
dim ond ei yfed o gwpan fy nwylo.
Fy nghariad gwyn i!
Tyrd, cyfod i'th sefyll
a thyred adref gyda mi,
gael imi drefnu lladd gwartheg ichdi,
gael imi alw cwmpeini ynghyd,
ac mi gawn ganu a cherddi,
ac mi gyweiriaf ichdi wely
dan gynfasau gwynion,
a chwrlidau brithion braf,
a dynnith y chwys ohonot
yn lle'r oerfel sy'n gafael ynot.
(Nodyn 2: Cedwir fersiynau gwahanol o Farwnad Art Ó Laoghaire
ar lafar gwlad yn ardaloedd Gwyddeleg Corcaí a Chiarraí. O'u cwmpas magodd corff o ganu
atodol ar yr un thema ond traddodiadol yn y bôn yw llawer o hwnnw. Serch hynny, llais
Eibhlín sy'n cynnal y gerdd ac nid oes fawr o amheuaeth nad hi yw awdures wreiddiol y
gân gan gynnwys y llinellau uchod. Ystyrir Caoineadh Airt Uí Laoghaire yn un o farwnadau
mawrion Iwerddon a hi hefyd yw un o gerddi serch gorau'r iaith.)
Tri Englyn
gan
Dafydd Evan Morris
Gwydion Tomos
(Baban newydd Sue ac Aled Jones-Williams)
Wyt tramant ymysg plantos; wyt ddyheu;
Wyt ddewin chwedleuos;
Wyt ein dileit; wyt wên dlos;
Wyt yma, Gwydion Tomos!
Nofel
Am hon, am eiriau gonest, daw angau
dy dynged ddiamnest;
am y gwir, Solmon, mi gest
dy warchae am dy orchest.
Ymson
(Wedi derbyn y rhestr dasgau gan Aled)
Nid ydyw'n hawdd dwedyd, "Na!" - ac Aled
yn galw a^'r tasgau;
anodd im yw gwneud yn dda;
anos cyffesu hynna!
Englyn
gan
Andrea Parry
Amser
Hiraeth yw trefn tymhorau, - hen atgof
Yn datgan gwanwynau
Doe y wefr, pan ydoedd dau;
Ennyd yw mywyd innau.
Cerdd
gan
Ynyr Williams
Ym Mhoenydio'r Mynd
Yn ecstasi'r dod
gafael
i rewi'r hwyl, atal llifeiriant y llafurio -
llaw wleb yn tynhau'r swn;
ym mhoenydio'r mynd
gwasgu
i gynal y ge^m, harneisiau y dyrnau iasoer,
yn cau am grothau'r ga^n;
ac ar gynfasau gwyn
staen coch yn rhwygo'r enyd.
Heddiw eto wedi marw
Heddiw eto wedi marw
rhwng y gwely a'r gwin.
Haul arall wedi'i ffrio
am einioes, mor ddiddymuniad.
Ffenest arall rhyngof a'r dydd
cyn i'r lleuad ansicir
wenu'n ein cwmni.
Paham rhwng anadliadau'r gwynt
ag oglau'r haul y doist?
A phaham rhwng y gacen
a'r gwaed yr est?
Paham na elli yn dy wychder
ateb y gofyn sy'n hy^n na'r nos?
Cywydd
(Drafft Cyntaf. Bydd y drafft nesaf yn ymddangos yn y rhifyn nesaf.)
gan
Y Prifardd Emyr Lewis
A oes ca^n yn Is-Conwy
ym mis y gwenoliaid mwy?
A oes dail fel rhai stalwm
i droi y canghenau'n drwm?
A oes son am flagur swil
drwy'r fro'n egino'n gynil?
Oes paill? Oes blodau meillion?
Oes clawdd hardd ers claddu hon?
O farw hon, pam bod y fro
yn dewis ailflodeuo?
Am mai'r rhaid ym marw hon
yw rhaid yr holl gariadon
o Wynedd hyd derfynau
pella'r ddaear bob yn ddau
sy'n meddwi'n eu cyfrinach,
sy'n byw am gusanau bach.
Er eu mwyn y pery Mai
i ddeilio, er na ddylai.