Gwinllan I'm Gofal
gan Philip Jonathan,
Ar ddatganoli...
Yr unig resymeg boddhaol dros ddatganoli yw ffyniant democratiaeth. Y nod yw trosglwyddo'r
grym democrataidd i ddwylo'r bobl, er mwyn sicrhau rhyddid i fyw yn llawn i'r unigolyn a'r
gymuned. O reidwydd, ymestyna'r egwyddor syflaenol hon i bawb, heb eithrio iaith, na lliw,
na hanes - ym mhob cornel o Gymru, ym mhob cwr o'r Ddaear.
Nid hawdd diffinio'r rhanbarthau daearyddol y gellid eu hystyried yn unedau gwleidyddol
cymwys. Cyfrana ystyrieithau naturiol a dynol ill dau at y dewis. Yng nghyswllt
"Cymru", dengys tirwedd, hanes a diwylliant neilltuol ein gwlad fod yna resymau
dros benu'r 'cilcyn o Ddaear' yma yn uned wleidyddol i'r Unfed Ganrif ar Hugain a thu
hwnt. Y paradocs ydy fod dau ddatblygiad gwahanol iawn i'w gilydd yn gorwedd yn gyfochrog:
cytbwys yw'r datblygiadau llywodraethol Cymreig (fel Y Swyddfa Gymreig) a'r llu o
ystadegau etholiadol gwrth-Doriaidd yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf. A pwy fuasai
cyn ddewred a mynu, er enghraifft, y dylai Croesoswallt fod y tu allan i'n gwlad, a
Threfynwy y tu mewn iddi?
Pa swyddogaeth i drigolion Cymraeg eu hiaith yn yr ymgyrch am hunan-lywodraeth? Rhaid
cofio, mai datganoli y dylem er lles y mwyafrif yng Nghymru. Does dim dwywaith fod ambell
Gymro Cymraeg wedi chwarae rhan blaenllaw hyd yn hyn, yn llosgi icon "Cymru" yn
ddwfn ym meddyliau rhai ohonom, beth bynnag.
Digon rhwydd ymguddio mewn cwmwl o Gymreictod Cefn Gwlad; anos o lawer ymdopi a
realaeth Cymru ar drothwy'r Unfed Ganrif ar Hugain. Mae cwlwm a chywydd yn golygu llai na
dim i'r mwyafrif o Gymry 1997. Faint o'r Cymry di-Gymraeg, tybed, sy'n ofni datganoli
oherwydd ymddygiad "brawychus" y Cymry Cymraeg at y pwnc? Pa bryd y mae
cenhedlaetholdeb iachus yn troi'n hiliaeth ffiaidd?
Edrychwn o'n cwmpas ar wledydd bach Ewrop! Cydlynu'r goreuon o bob maes (ac o bob tras)
sydd ei angen i lywio a lliwio Cymru Fydd. Nid parhad yr iaith yw llygad y ffynon, ond
cymdeithas aeddfed, hyderus sy'n edrych i'r dyfodol, dyfodol a fydd o fudd i bawb ohonom.
Ac wrth gwrs, yn llewyrch y llwyddiant daw dyddiau disglair i'r Gymraeg a'r Pethau.
Y cam hanfodol nesaf yn natblygiad democratiaeth Cymru yw datganoli. I'w wireddu, y mae
iaith, diwylliant a thraddodiad yn bwysig. Ond mil-gwaith pwysicach yw cydraddoldeb,
goddefgarwch a'r rhyddid i fyw.
Philip Jonathan, Mathematics and Statistics Group,
Shell Research and Technology Centre - Thornton,
P.O. Box 1, Chester, United Kingdom.
Tel: ++44 151 373 5421 Fax: ++44 151 373 5843
e-bost:
p.jonathan@msmail.trctho.simis.com
__________________________________________________