www.barddoniaeth.com Golygyddol 2

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Cerddi
Golygyddol 2
Y Winllan
Lefel A
Y Gymraeg ar y We
Dafydd Price Jones
 

 

 

Brawd neu Elyn?

Pan fo cwsmer yn prynu copi o'r 'Faner Newydd' dros gownter Siop Awen Meirion, Bala, yna ni fyddai perchnogion y siop yn gwybod dim mwy amdano na'i edrychiad a'i lais (a'i arogl, efallai!)

Nid felly'r Rhwyd, ysywaeth! Pan rydych yn ymweld ag unrhyw safle ar y We, cedwir llawer o wybodaeth amdanoch mewn o leiaf dau le: ar eich disg caled chi eich hun, ar Wasanaethwr (neu 'server') y saflen rydych yn ymweld a hi ac ar adegau ar gyfrifiadur trydydd parti megis yr heddlu. Mae hyn yn digwydd heb i chi wybod, a'r wybodaeth amdanoch yn cael ei dal ar gyfrifiaduron am nifer o flynyddoedd.

Mewn ffeil o'r enw "cookies" er enghraifft (o fewn "windows" ar eich disg galed), gallwch weld negeseuon a adawyd yno gan wasanaethwyr safleoedd rydych wedi ymweld a hwy! Ie, cyfrifiadur arall yn gadael ei ol, yn ddiarwybod! Agorwch y ffeil ac fe gewch y math hwn o raffiti: 'uk.plus.cookie:caerdydd@imspace.com/cgi-bin/htmlscript?~publish' - geiriau sy'n golygu cryn dipyn i beirianau megis Alta Vista a'i fath (gweler erthygl broffwydol Huw Williams, peirianydd y cwmni hwn yng nghorff y cylchgrawn). Pwrpas hyn oll ydy creu proffil amdanoch. Pob tro rydych yn ymweld a thudalen arbenig, mae'r gwasanaethwr yn darllen y graffiti a adawodd y tro cynt; gall wedyn eich cyfeirio'n union ac yn sydyn i'ch hoff dudalen (yr un rydych wedi ymweld a hi amlaf).


Ond, ysywaeth, mae ochr sinistr i'r defnydd y gellir ei wneud a gwybodaeth fel hyn. Nid yn unig fe ellir targedu pobol er mwyn marchnata'n fwy dwys, ond gellir hefyd storio feirwsau (neu geffylau Trojan) cyfrin mewn ffeiliau nad ynt yn dwyn y gair "cookies". Ceffylau Trojan sy'n darllen eich disg galed ac yn adrodd yn ol - yn prepian am ei gynwys i'w berchenog. Math o geffylau Trojan defnyddiol (ar hyn o bryd) ydy'r Asiant Deallus sydd oherwydd ei allu i benderfynu rhai pethau'n anibynol wedi ei ailenwi'n Bots (neu robots). Mae rhain yn asiantau symudol a all grwydro'r We'n chwilio am wybodaeth arbenig. Mae Aglet (gan IBM) er enghraifft yn debycach i'r meddalwedd a ddown ar ei draws mewn llenyddiaeth wyddonias. Gall y rhain neidio o un cyfrifiadur i'r nesaf cyn rhwydded a Lynn Davies gan gludo eu cod a'u data rhaglenu gyda nhw.


Gyda dyfodiad Netscape 3, o leiaf fe ellwch chi atal safleoedd rhag cadw gwybodaeth yn y ffeil "cookies", ond dyna'r cyfan.

Yn ail, cedwir gwybodaeth amdanoch gan wasanaethydd y safle rydych wedi syrffio iddi: cyfeiriad Ebost, pa ffeiliau neu gipluniau rydych wedi eu hagor a'u darllen ar y Wead, sut fath o gyfirfiadur sydd genych, o ba safle y daethoch ac i ba safle y syrffiwch iddi, ac amser a dyddiad popeth wrth gwrs! Mae na lawer o asiantaethau - a rhai darparwyr ISP gyda llaw - yn cynig y math hwn o wasanaeth i'w cwsmeriaid sef dadansoddi'r data ynglyn a'r bobl sydd wedi ymweld a'r safle. Unwaith eto, mae na ochor dderbyniol i hyn - sef pa dudalenau sydd fwyaf llwyddianus yn denu cwsmeriaid, o ba wledydd y daw'r cwsmeriaid, ac er mwyn danfon gwybodaeth arbenigol i'r cwsmeriaid. Er enghraifft, os ydych wedi ymweld hyn a hyn o weithiau a Microsoft, maent yn danfon catalog o'u meddalwedd atoch (junk mail) naill ai ar ffurf Ebost neu bost malwen.

Ond fel pob cyllell, darn o bren neu'r llaw - gellir eu defnyddio a'u camddefnyddio. A pherthyn i'r Brawd Mawr mae'r defnydd anerbyniol - y manipiwleiddio gwleidyddol. I bwy y trosglwyddir y wybodaeth? Pa ddefnydd a wneir o'r wybodaeth?

A dyma'r trydydd lle y cofnodir y manylion amdanoch: ar fasau data cyfrifiaduron y Ddelwedd Fawr, yr heddlu a'u tebyg. Pob tro rydych yn ymweld a Safle Sinn Fein, er enghraifft, cofnodir eich Ebost gan yr MI5.

Ond mae un ffordd o sicrhau nad yw'r gelyn yn eich sugno i'w drobwll sef drwy ragleni megis "Anonymizer" - gallwch islwytho copi'n rhad ac am ddim o: www.anonymizer.com/

Ydy mae'r Brawd Mawr yn clorianu pob anadliad, pob sillaf ohonom. A oes gwir ymwared rhagddo?

Ychydig cyn yr etholiad cyffredinol, fe basiwyd Papur Gwyrdd drwy'r senedd i sicrhau fod gan y llywodraeth (drwy asiantaethau megis BT) yr hawl i agor a darllen eich EBost. Syniadau'r GCHQ yw'r rhain mewn gwirionedd ac fe allwch eu gweld ar www.dti.gov.uk/pubs/

Mae'r papur hwn yn ein gorfodi i drosglwyddo unrhyw "encryption keys" preifat i BT (a thrwy hyny i lygaid barcud MI5, Special Branch a gweithwyr eraill eu mawrhydi)! Yr allweddau hyn sy'n eu caniatau hwy i agor y negeseuon rydych yn eu danfon at berson mewn co^d.

Beth oedd y stori hono yn y Mabinogi am y Coranod ers stalwm dudwch?




 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.