www.barddoniaeth.com Dafydd Price Jones

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Cerddi
Golygyddol 2
Y Winllan
Lefel A
Y Gymraeg ar y We
Dafydd Price Jones
 

 

Y Gymraeg ar y Rhwyd

 

gan

Dafydd Price Jones

dafyddpj@dafyddpj.demon.co.uk 

 



Beth amser yn ôl, gyrrodd y golygydd, “Bardd y We”, sef y Prifardd Robin Rhwyd-Webber, wehoddiad (sic) i mi, gan ofyn tybed a hoffwn i sgrifennu darn “am y defnydd o’r Gymraeg ar y Rhwyd.”  A dyma fi, o’r diwedd, yn derbyn, ac yn dod i’r parti.

Faint o Gymraeg sydd ar y Rhwyd?  Mewn tri gair: lot fawr iawn.  Ond, ystyriwch yn gyntaf:  Faint o stwff sydd ar y Rhwyd?  Wel, ar hyn o bryd (mis Mai 1997) cyhoeddir cymaint o eiriau ar y Rhwyd â sydd mewn tua can mil o gopiau o weithiau cyfan Shakespeare bob dydd, ac mae mwy na hanner ohono yn Saesneg.  Mi ges i ambell i lesson yn English, chwarae teg, yn yr ysgol, felly mae’r cymwysterau gen i i ddarllen a deall yr iaith.  Mi ddwedwn i fod oddeutu 99.99% o’r cynnwys naill ai yn sothach gwael, neu heb fod o ddiddordeb i mi.  Ond, beth am y 0.01% sy’n weddill?  Dyna gymaint â deg copi o holl ddramau a cherddi Shakespeare bob dydd i’m diddori!  Os aiff pethau ymlaen fel y maen nhw, mi fydd llond 30 cyfrol bob dydd erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, llond 90 cyfrol ymhen dwy flynedd, llond 270 cyfrol ymhen tair, wedyn 810, 2430, 7290, … o stwff sy’n sothach da neu sy’n ddiddorol i mi.

Wel, ie, am y Gymraeg yr ydym ni’n sôn, ynte'?  Does gen i ddim data sy’n dweud faint o Gymraeg sydd ar y Rhwyd ar hyn o bryd, ond mae cymaint yn ymddangos, a hynny mor aml, fel nad oes gen i unrhyw obaith dilyn y datblygiad na'r twf. Am ben hynny, nid 0.01% ohono sy'n ddiddorol i mi, ond o leiaf milwaith hynny.

Beth sydd gennym ni, felly?  Mae

GRWPIAU NEWYDDION "USENET"

RHESTRAU E-BOST.

GWASANAETHAU, TUDALENNAU A SAFLEOEDD AR Y WE.


A thybed
BETH SYDD I DDOD?



GRWPIAU NEWYDDION "USENET"

Ganwyd Usenet yn ystod y chwedegau, a'i bwrpas oedd sefydlu dull cyfathrebu i lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod y rhyfel yn Fietnam.  Erbyn heddiw, mae dros ugain mil o grwpiau newyddion o fewn Usenet, ac mae pawb sy'n berchen cyfrifiadur efo modem ynddo'n cael cyfrannu a thrafod.  Pwrpas y fath grwp ydy darparu dull cyfathrebu i bobl sydd â diddordeb yn rhyw bwnc. Unrhyw bwnc, boed bedophilia, bi-pi'n y gwely, neu ddiwylliant Cymreig.

Ychydig iawn o Gymraeg sydd i'w weld ar Usenet. Yn wir, does dim ond un grwp gydag aelodau sy'n cyfathrebu yn yr iaith, a soc.culture.welsh (s.c.w.) ydy enw hwnnw.  Bedyddiwyd s.c.w. yn Llangolledig Gyfeiliorn ar un adeg.  Dim ond tua 10% o'r erthyglau sy'n ymddangos yn s.c.w. sydd wedi'u sgrifennu yn y Gymraeg.  Roedd adeg pan yr arferai ambell gyfrannydd "fflamio" (h.y. gyrru neges yn dweud y drefn) pobl a sgrifennai'n y Gymraeg.  Mae un sy'n dal i wneud hynny yn rheolaidd, ond does fawr neb yn ei gymryd ef o ddifri bellach.  Weithiau, fe welwn agwedd debyg i "Mae Clwb ecscliwsif y siaradwyr Cymraeg yn troi'r grwp hwn yn snobyddlyd".  Anodd yw deall yr agwedd honno pan ystyriwch fod bron pob cyfrannydd yn darparu cyfieithiad Saesneg os ydy unrhyw erthygl Gymraeg yn debygol o fod o ddiddordeb i'r darllenwyr di-Gymraeg.

Fe gawn drafodaethau diddan bob hyn a hyn yn s.c.w., gan sôn am ychydig lenyddiaeth, cerddoriaeth, bywyd y stryd, traddodiadau. Mae nifer fawr o'r cyfranwyr yn byw y tu allan i Gymru, llawer ohonynt yn Unol Daleithiau'r America, ac mae amryw yn dangos diddordeb dwfn yng Nghymru, y Gymraeg a'r Cymreig.  Fe gawn gwestiynau sy'n medru ymddangos yn wirion i rai Cymry, megis "Ydy'r Cymry yn gwisgo ciltiau?" neu "Beth yw uchder cywir het Gymreig?"  Ond, o drafod y bobl yn barchus, maen nhw'n dod i'n parchu ni'n uchel, ac fe welir yn aml eu diddordeb ynom a'n pethau yn dyfnhau. Oes, mae 'na ddiddordeb mawr ynom ni'r Cymry yr ochr draw i'r dwr, ac mae amryw wedi dysgu siarad a sgrifennu'r Gymraeg yn rhugl.  Mi wn am un, nad oes fymryn o waed Cymreig yn llifo drwy'i gwythiennau, sydd wedi trwytho'i hun gymaint yn y Pethe nes ei bod yn sgrifennu, ac yn trafod pethau, fel Cymraes.  Ac rydw i wedi sylwi ar un arall sydd wedi gwella'i Chymraeg yn aruthrol dros y flwyddyn ddiwetha', a sy'n darllen ein clasuron ni, megis nofelau Kate Roberts. Mae'r bobl hyn, yn gyntaf, yn dod i ddeall fod gennym ni'r Cymry ein diwylliant ein hunain, ac wedyn yn dod i ddeall a mwynhau'r diwylliant hwnnw.  Estynnwn groeso iddyn nhw â'n breichau'n agored!


RHESTRAU E-BOST

Mae rhestr e-bost, fel grwp newyddion, yn ddull cyfathrebu i bobl sy'n rhannu'r un diddordebau.  Y prif wahaniaeth rhyngddi a grwp newyddion ydy y gall unrhyw berson gychwyn rhestr unrhyw bryd, ond rhaid treiddio cryn dipyn o dâp coch cyn y caiff grwp newyddion fodoli.

Mae dwy restr lle'r defnyddir y Gymraeg, sef Welsh-L a Cymraeg-L.  Mae'r gyntaf wedi bod o gwmpas ers rhai blynyddoedd, a fforwm ydy hi i bobl gyfathrebu yn yr iaith Gymraeg yn bennaf.  Mae llawer o hiwmor i'w weld yn y rhestr, yn ogystal ag erthyglau bach addysgiadol, sy'n trafod, er enghraifft, ambell agwedd o'r iaith, neu lenyddiaeth, neu ddaearyddiaeth.  Mae un o'r cyfranwyr, lodes o Ganada yn wreiddiol, wastad yn diweddu ei herthyglau efo dihareb - un newydd bob mis, hyd y gwelaf - ac mae'r rheiny yn ennyn trafodaethau diddorol weithiau.  Rai misoedd yn ôl, cyrhaeddodd erthyglau diddan gan un o'n Prif Lenorion, ac un gan ei gyfaill nad yw cweit wedi ennill y Gadair hyd yma.

Rhestr newydd sbon ydy Cymraeg-L, wedi ei chreu yn arbennig i ddysgwyr o bedwar ban y byd gael trafod pethau, gyda chymaint neu cyn lleied o Gymraeg ag y teimlant yn gysurus yn ei defnyddio, a chyfieithiad i'r Saesneg.  Mae'n rhestr digon cyfeillgar.  Mae'n ymddangos eu bod wedi penderfynu galw "ti" ar ei gilydd, a pheidio â defnyddio "Mr., "Ms", "Br", ayb, wrth gyfarch ei gilydd.  Ar hyn o bryd, mae rhai ohonyn nhw'n trafod cerdd gan Bobi Jones.

GWASANAETHAU, TUDALENNAU A SAFLEOEDD AR Y WE

Dim ond rhagflas fedra' i ei gynnig i chi yn yr adran hon.  Mae dethol tudalennau Gwe wedi mynd bron fel dewis eich rhifau loteri efo pin mewn papur.

Mae sawl cwmni, sefydliad ac unigolyn yn cynnig gwasanaeth ar y We Fyd Eang.  Er enghraifft, mae'n bosib chwilio cronfeydd data y Llyfrgell Genedlaethol, a chael hyd i wybodaeth parthed llyfrau, dogfenni, mapiau, ayb.  Cyfeiriad y llyfrgell ydy

http://www.llgc.org.uk/lp/lp0068.html 


Os porwch ("pori'r We" fydda' i'n ei ddweud am "surfing the Web") dudalennau Chris Grooms, ysgolor yn yr America, cewch wledd o wybodaeth am iaith a llenyddiaeth ein gwlad.  Mae Chris Grooms wedi gwneud gwaith celfydd a graenus iawn, iawn.  Mae ganddo ddarnau wedi'u dethol o glasuron fel "Gwr Pen y Bryn" ac "Un Nos Ola Leuad", gydag eglurhad o bob treiglad a ffurf ramadegol sy'n ymddangos ynddynt.  Ac mae ganddo restrau cyflawn, am wn i, o lyfrau Cymraeg a Chymreig wedi'u dosbarthu yn ôl eu cynnwys - megis Hanes, Daearyddiaeth, Barddoniaeth Gyfoes. Gwerth chweil.  Ewch i'w gweld, gan gychwyn ar dudalen

http://www.ccccd.edu/cccc/directory/faculty/grooms/llgrall.htm 


Mae rhai o werthwyr llyfrau Cymraeg wedi sefydlu'u hunain ar y We.  Rhaid llongyfarch Y Lolfa ar eu casgliad, sydd mor hawdd i'w ddarllen a phori ynddo, ac ar gynnwys rhestrau o gymaint o bethau Cymraeg a Chymreig, megis cyhoeddwyr, llyfrgelloedd, theatrau, papurau bro, a siopau llyfrau Cymraeg eraill.  Mae cyfres o'u tudalennau yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddechrau yn

http://www.ylolfa.wales.com/ 


Yna mae gwasanaethau ar gael i'r sawl sydd am ddysgu'r Gymraeg.  Americanwr sy'n byw yn Rhode Island ydy Mark Nodine.  Treuliodd rai o'i wyliau yng Nghymru yn ystod yr 80au, a syrthiodd mewn cariad â'r wlad a'r iaith, gan ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl.  Yn fuan wedi i'r rhestr e-bost, Welsh-L, gychwyn, gofynnodd amryw o'r cyfranwyr am gymorth gyda'r Gymraeg.  Ymateb Mark i hynny oedd creu cwrs ar gyfer y We, gan ddefnyddio bron bob techneg fodern oedd ar gael iddo ar y pryd.  Cyfres o wersi ydy'r cwrs, ond mae'n bosib dysgu llawer wrth bori ynddo, hefyd.  Mae'n cynnwys ffeiliau "swn", er enghraifft, ac mae hynny'n ddefnyddiol tu hwnt i bobl sydd arnynt eisiau clywed sut i ynganu'r iaith. Hefyd, mae lecsicon Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg, a gwirydd sillafu.

Wedi meddwl, Mark ydy'r "feri dyn" i greu'r fath gwrs.  Gan mai dysgu'r Gymraeg yn oedolyn a wnaeth, mae'n deall anhawsterau dysgwyr eraill yn well o lawer na siaradwyr iaith gyntaf.  Mae ei waith i'w weld, gan gychwyn yn

http://www.cs.brown.edu/fun/welsh/home.html 


Yn awr, mae Lin Sherman o Florida wrthi'n creu safle ar y We, a llawer o hwnnw wedi'i seilio ar ei phrofiad hithau o ddysgu'r Gymraeg ymhell, bell o Gymru. Cewch weld sut mae safle Lin yn datblygu yn

http://www.concentric.net/~Linsherm/ 


Mae un safle wedi rhoi pleser aruthrol i mi ac i lawer, a hwnnw ydy gwyddoniadur (does dim gair arall yn ddigonol i'w ddisgrifio) Jeff Thomas am gestyll Cymru. Yn Saesneg y mae'r rhan fwyaf, ond mae ambell ran wedi'i chyfieithu i Gymraeg graenus iawn. Mae llun a disgrifiad ardderchog o bob castell yno, ac mae llawer o hanes Cymru i'w ddarllen. Mae hefyd daith rithwir o amgylch castell Dolwyddelan. Am gyflwyniad yn y Gymraeg, cychwynwch yn

http://www.castlewales.com/home_cym.html 


Mae nifer o ysgolion wedi mentro ar y We bellach, yn arddangos gwaith y plant a gwybodaeth am yr ysgol, ac yn rhoi cyfle i'r darllenydd gyfathrebu efo'r plant neu'r athrawon. Er enghraifft, mae tudalennau go dda, gyda barddoniaeth Gymraeg, gan Ysgol gynradd y Lawnt yn Rhymni. Gweler

http://dspace.dial.pipex.com/geraint/ylawnt.htm 


Hefyd, Ysgol y Llwyni, Wrecsam, ac Ysgol Aberdâr:

http://www.netlink.co.uk/users/merlin/groves/groves.html 

http://www.netlink.co.uk/users/merlin/ynyslwyd/ 

Yr uchod i gyd mewn ardaloedd a fu bron yn ddi-Gymraeg ugain mlynedd yn ôl.


Ac mae fy hen ysgol i ym Mangor, Ysgol Tryfan (rhan o Friars) wedi creu safle celfydd:

http://schoolsite.edex.net.uk/170/tryfan/index.html 


Mae mwy a mwy o ysgolion yn ymddangos ar y We.  Os am y wybodaeth ddiweddaraf, medrwch archwilio cronfa ddata yn

http://schools.sys.uea.ac.uk/schools/wales.map.html 

Mae hefyd fap o Gymru yno sy'n dangos lle mae'r ysgolion sydd â safleoedd ar y We.


Ac, wrth reswm, mae cyhoeddiadau fel hwn ar y We!
Tybed faint ohonoch a wyddai fod y gyfrol gerddi a enillodd y Fedal Lenyddiaeth i Tudur Rhys Hallam yn Eisteddfod yr Urdd 1995 wedi'i chyhoeddi ar y We ers o leiaf blwyddyn?  "Blith Draphlith" ydy enw'r gyfrol, ac mae i'w gweld yn

http://www.satproj.org.uk/~maesyryrfa/blith.html 


NODYN:

Wrth ddarllen drwy rannau cynta'r erthygl hon, rwy'n sylwi cymaint nad ydw i ddim wedi'i grybwyll.  Mae hyd yn oed ein gwlad fach ni a'i hiaith nas siaredir gan fawr mwy na hanner miliwn yn ymddangos yn enfawr ar y Rhwyd.  Bydd nifer ohonoch yn meddwl, "Beth am y fan hon?" a "Sut all y creadur siarad am y We heb grybwyll y fan-a'r-fan?"  Rydw i'n ymwybodol o hyn.  Yn ffodus, mae safle sy'n trio rhestru popeth!  Yn wir, mae'n ddefnyddiol iawn.  "Every Celtic Thing on the Web"!

http://celt.net/og/index.html 



BETH SYDD I DDOD?

Peidiwch â gofyn i mi, wir!  Ffuglen ydy fy maes i.  Fodd bynnag, mae un peth yn arbennig yn fy nharo i, a hynny ydy pa mor gyflym mae cyfrifiaduron yn datblygu.  Mi ddwedwn fod y twf o leiaf bum gwaith mor gyflym ag y bu yn y diwydiant ceir modur.  Dw i'n credu y byddwn ni bron i gyd yn cyfathrebu drwy'r Rhwyd mewn rhyw ffurf ymhen llai na deng mlynedd, ac yn ystyried cyfrifiadur yn declyn mor gyffredin ag ydy'r teleffon a'r post "malwen" heddiw.

Synnwn ni ddim na fyddwn ni'n medru prynu cyfrifiaduron sy'n teimlo fel llyfrau.  Mi fyddwn ni'n cael dewis sut i ddarllen llyfr.  Bydd yr hen ffordd ar gael o hyd, achos mi fydd tudalennau i'w troi, a bydd geiriau a lluniau llonydd a symudol yn ymddangos.  Dewis rhywun arall, efallai, fydd edrych a gwrando ar ffilm o'r awdur yn darllen ei stori neu gerdd.  Gwthiwn y botwm "cartwn", a dyna ni ym myd animeiddiedig Tincar Saffrwm, dyweder.

Os ydy rhywun yn dewis rhoi Cymraeg ar y Rhwyd, mi wnaiff.  Dyna roi peth o'r cyfrifoldeb am ddyfodol yr iaith yn nwylo'r Cymry eu hunain, o leiaf.

Yn barod, os ydy cwmni yng Nghymru yn cyhoeddi eu tudalennau yn uniaith Saesneg, mae'n debygol o gael ei fflamio gan rywun.  Efallai, felly, y bydd mwy o bwysedd ar ein busnesau i ddefnyddio'r iaith.  Dw i'n simsanu braidd wrth sgrifennu hynny, ac yn gobeithio nad bod yn or-optimistaidd yr ydwyf.

Mae'n mynd yn haws bob blwyddyn i awduron o'r tu allan i Gymru sgrifennu am Gymru oherwydd bod y Rhwyd yn ffordd mor gyfleus a chyflym o gyfathrebu efo Cymry yng Nghymru.  A dyma ni'n ôl at yr holl ddiddordeb sydd gan bobl o'r tu allan - yn arbennig o'r America hyd yma - ar hyn o bryd.

Fuom ni'r Cymry erioed mor weladwy!



 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.