www.barddoniaeth.com Rutzan: Robin Llywelyn

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Rutzan: Robin Llywelyn
Cerddi
Golygyddol
Y Winllan
Llythyrau
 

 

Ruztan

(Nofel newydd gan y Prif Lenor Robin Llywelyn)

 

Cyflwyniad

Pennod 1   Pennod 2

 

 

Pennod 1

 

Tua'r hanner ffordd i lawr y stryd y mae'r Ambiwlans wedi'i barcio a chlaf ar ei wely cludo'n cael ei symud yn ofalus ohono. Maen nhw'n ei godi'n hylaw rhwng pyst y glwyd, yn ei gario at y ty ac yn ei ddadlwytho ar y trothwy.
Agorir y drws. Saif cloben o ddynes fawr yn y bwlch a'i dwylo ar ei chluniau. "Lle cawsoch chi hyd iddo?" Mae barclod bras amdani a chanddi lond ei phen o gyrlyrs gwallt. Yn ei llaw dde mae rholbren a blawd yn dal i ddisgyn ohono.
Pesycha'r blaenaf o'r dynion ambiwlans. "Sut ydach chi heno, Mrs Ruztan?"
    "Lle cawsoch chi hyd iddo fo!" Cyfyd y rholbren megis i ergydio'r claf sy'n griddfan ar y trothwy.
Mae'r swyddogion yn camu'n ôl. "Doedd o ddim yn teimlo'n dda, wyddoch," medd yr arweinydd. "Ar ei ffordd i'r sbyty oedd o pan ddalion ni o."
    "Mi fydd angen mwy na sbyty arno ôl i mi orffan hefo fo! Dowch â fo i'r ty."

Eir ag ef i mewn a hithau wedyn yn pwyntio â'i bys uwd diwyro at gasgliad o blanhigion hynod o anialwch Mecsico a dyf gerllaw tanc pysgod mawr yng nghornel y stafell fyw. "Rhowch o'n fan'na!"
Daw gwich enbyd o enau'r claf .
    "Ar y cactysys ynteu yn y tanc?" hola Gwyn Ambiwlans.
Amneidia hi a chaiff yntau'i osod ar wely pigog reit annifyr.
Sefyll uwch ei ben wna Mrs Ruztan a'i rholbren yn hofran. "Deudwch eto lle 'dach chi wedi bod ers tridiau?"
Dal i wichian yn wylofus a wna yntau. Yna o dipyn i beth daw pytiau o eglurhad dros ei safn. "Wedi bod... ac wedyn... ac wrth gwrs mynd i gwfwr d'ewyrth Hanc i'r maes awyr ac wedyn yr oedfa yng Nghapel Garmon a dyna lle'r oeddan ni o'n dau'n crwydro strydoedd Bangor a chael ein llarpio a hanner ein lladd gan giwed o garidyms o Gaergybi... tydwi'n deud dim gair o anwiredd wrthoch chi, gannwyll fy llygaid i, ar fy marw, go iawn, mae o'n efengyl wir. Tydi'r dynion yma'n dystion i'r cwbwl, tydach hogiau?"
Mae'r dynion ambiwlans yn anghydweld ymysg ei gilydd ac un yn llefaru drostynt. "Nac'dan."
    "Ydach chi'n gweld rwan fy mod i'n dweud y gwir, anwylyd? Ar fy ffordd i'r sbyty i gael rhywbeth at y gweir oeddwn i pan ddaeth rhain heibio efo'u hambiwlans. Mae arna'i ofn fod yr hen Hanc wedi ei dorri'n dipiau mân gan y fandaliaid o Fôn, 'toedd dim posib cael bag digon mawr i'w ddal o, mi fuo'n rhaid imi adael darnau ohono ar ôl, ond dyma'i wats o 'lwch, mae hi'n cadw amser a phob dim a dim angen ei weindio... Mae'r gweddill ohono fo'n reit ddel bellach yn ward Glaslyn... Ac mi wn i pwy sy wrth wraidd hyn ac mi..."
    "Ward geni plant ydi ward Glaslyn, Ruztan." Mae hi'n ei daro'n enbyd ar ei dalcen. "Pethau bach diniwed geir yn fan'no fel chitha cyn ichi fynd yn hen ac yn hyll, Ruztan. Waeth ichi heb a lluchio llwch i'm llygadau fi, mi ddyfyd Gwyn Ambiwlans y gwir amdanoch chi."
    "Fasa raid ichi mo 'mygwth i," medd Gwyn gan gadw ei gefn at y wal. "Os mai'r gwir plaen dach chi isio mi cewch o gynna'i o'm gwirfodd." Cyfyd ei law i gyffwrdd pig ei gap sgleiniog. "Mrs Offeren blannodd ei hymbarel i'w ystlys o ond roedd Arthur Llamu Heibio yn taeru'n ddu las mai Mrs Wilderbeest-Evans ddaru gicio fo'n ei gwd, cofiwch. Yn bersonol roeddwn i'n bleidiol i'r ystyriaeth y gallai mai Wenddysbin ei hun ddaru daro'r bwls ei, mi gwelais i hi â'm llygaid fy hun yn goddiweddyd y gweddill ac yn ei drywanu a'i hymbarél yn nhwll ei dwll. Mi fasa 'di bod yn werth ichi glywed o'n sgrechian."
    "Nid ar ochor lôn ar y ffordd i'r sbyty ddalioch chi o, felly?"
    "Ia'n tad."
    "Twt lol," medd Mrs Ruztan. "Toes rhyfedd fod y gwasanaeth iechyd yn mynd â'i ben iddo a chithau'n cymowta hyd y fro ar ôl rhyw gynthronyn llac ei drôns fatha'r epa yma ar ben y cactys."
    "Cactysys" medd Ruztan.
    "Mae'n haws gennym ei ddilyn o le i le fel hyn, Mrs Ruztan," eglura Gwyn Ambiwlans. "Fel arall cael ein galw allan ar ryw awr annaearol o'r nos gaem ni a gorfod mynd i chwilio amdano fo."
    "Chi wyr eich pethau," medd hi dan ei chuwch. Yn y munud daw gwên yn ôl i'w hwyneb. "Paned, hogiau?" Nid un i ddal dig am byth ydi Mrs Ruztan, heblaw hefo Mr Ruztan.
Wedi rhannu'r paneidiau mae rhai o'r dynion fel petaen nhw'n aros am rywbeth.
    "Wel?"
    "Rhai o'r hogiau heb arfar cael paned heb fisged," eglura Gwyn.

Ar ôl i'r brys feddygon fynd daw Mrs Ruztan yn ôl at ei gwr a sefyll rhyngddo â'r golau o'r ffenest. "Be ddeudoch chi?"
Mae'r griddfan yn peidio. A'i lygaid yn troi'n ei ben a'i dafod yn dew mae'n gwthio geiriau digyswllt o'i big. "Meddwl oeddwn i, f'anwylyd, mor anffodus fy ngorwedd ar ben eich casgliad hynod o lysiau prin - gallai hyn lesteirio'u twf. Chwi wyddoch agosed y sioe fawr, ac yn wir mi fasa'n gas gennyf weld Wilderbeest-Evans yn cipio'r wobr. Yn enwedig a chitha wedi gwerthu'r un drud drud iddi dridiau'n ôl."
    "Yr un gwenwynig hwnnw hefo pigau cochion?"
    "Y feri un."
    "Werthis i mohono fo. Sbïwch dannoch."
    "O'r andros enbyd! Be wnawn ni rwan! Mae o wedi ei frig daro. Chewch chi byth mo'i werth o rwan gan Wilderbeest-Evans."
    "Rydach chi wedi difetha fy nghactys gorau, Ruztan. Roedd Mrs Wilderbeest-Evans wedi cynnig mil o bunnau imi amdano fo a dyma chithau'n ei fandaleiddio. Ac mae'r hen waed afiach yna sgynnoch chi ar hyd y pigau. Faddeua'i byth ichi am hyn tasa chi'n gweitsiad gant o Suliau Pys."
Try Ruztan lygaid ymbilgar ati. "Ydio'n gactys gwenwynig iawn?"
    "Yndi."
    "Well imi dynnu 'nhrwsys."
Gyda chymorth drych a gefail ddrain llwydda'r ysgolhaig i ryddhau ei ben ôl o haint y pigau marwol. Gosod chwaneg o gyrlyrs yn ei gwallt mae Mrs Ruztan gan feddwl am ffyrdd i ddial ar ei gwr. Mae yntau wrthi'n taenu eli ar ei din pan ddaw cnoc ar y drws.
    "Cer i'r tanc," medd hi. "Cerwch y tu ôl i'r llenni i dynnu amdanoch."
Mae'r swigod dwr yn codi o waelod y tanc a'r pysgod bach yn heigio o'i gylch. "Hoffwn ofyn ffafr ichi, anwylyd," medd a'r dwr yn byrlymu yn ei safn.      "Nid fy mod i am ichi fynd i fath o drafferth yn y byd drosta'i ond a rhygnu'ch bodd a fyddai modd cael gostwng peth ar lefel dwr y tanc yma, dim ond i'm galluogi i anadlu rywfaint drwy fy nhrwyn. Byddai'n gymwynas hefyd i'r sgodyn swil sy'n rhannu'r preswyl dyfrllyd pe bai yntau'n cael ei fwydo gennych heno, os gwelwch yn dda. Mae'n amheuaeth gennyf a gaiff lawer o faeth o sugno fy mysedd a'm bodiau a'm haelodau eraill...Gyda llaw credaf fod rhywun yn y drws."
    "Neb ond y Ficer. Mi gaiff ddwad eto. Rwan be gymrwch chi, Ruztan, cael gostwng y dwr ynteu rhoi bwyd i Fish Fawr, chi biau'r dewis!"
    "Y dwr, y dwr..." medd yr ysgolor a'i geg yn codi ac yn gostwng yn unol â thynnu'r pysgodyn yn ei bidlan.

* * *

Drannoeth y bore mae golau'r haul yn gwthio drwy'r llenni trwchus ac yn taro ar y tanc a'i gynnwys gwelw. Daw cnoc ar y drws a'r gloch hefyd yn canu. Yn y tanc mae'r Athro Ruztan yn strancio. "Mae rhywun yn y drws eto, cariad!"
Daw Mrs Ruztan i'r stafell a'i chyrlyrs dal yn ei gwallt a'i gwn nos amdani o hyd. "Wel pwy gebyst sy'na rwan eto?"
    "Yr RSPCA efallai?' Swnia Rustan yn obeithiol.
    "Ddim ar y Sul, lembo."
Gwyra Ruztan ei ben. Dan gel mae'n ceisio rhyddhau un llaw o'r rhaffan sy'n ei chlymu. "Gariad, petasach chi'n fodlon agor y clymau yma ac yn fy ngadael i o'r tanc mi allwn fynd i'r drws i sbïo?"

Wedi i Ruztan ddringo'n boenus o'r dwr a'i lapio'i hun mewn tywel â i agor cil y drws. "Wel, helo, Ficer, hyfryd fore..."
Saif y ficer ar drothwy'r drws gan asesu'r sefyllfa. Pesycha i'w ddwrn. "Pnawn da, Athro Ruztan...tydw i ddim yn tarfu arnoch?"
    "I'r gwrthwyneb, Ficer. Wedi bod yn rhy hir yn fy maddon ydwi, wyddoch chi. Roedd yn bryd imi godi allan. Dewch i mewn. Dwi ond yn picio i'r siop i nôl llefrith ac mi gawn baned yn y munud."
    "Yn eich tywel, Mr Ruztan?"
    "Fiw imi fynd hebddo," meddai'r athro ar y trothwy ac allan â fo.

Un o Gaerffili'n wreiddiol yw'r ficer. Mae'n eistedd ar y soffa. "Wydoch chi, Mrs Ruztan, yn y ddeunaw mlynedd yr ydwi'n bugeilio'r praidd annwyl hwn o'r adeg y deuthum yma gyntaf eriôd, ni fu arnaf ond gofid a gwangalon. Problemau'r bugail, y praidd a'r llwynog, wyddoch chi... sacio'r Clochydd preifat am iddo golli'r clychau - a naw o'i gyd-glochyddion yn ymosod arnaf yn Eco'r Wyddfa am imi fod yn rhy llawdrwm arno - ac mae Abad Abaty Rhwystredigaeth yn gormesu arnaf o ddydd i ddydd ac yn gwadu imi'r hawl i ymuno yng nghylch cyfrin y Mynaich... Mrs Ruztan bach, ar ben bob dim fa lechws Mr Trewin ma's o'r eclws a finna ond weti gweid drefan wrtho fa'n gyhoeddis am gani'n rhi ichal...beth alla'i wneid, Mrs Ruztan, gwetwch wrtho i!"
    "Mae hon yn dipyn o broblam ichi, Ficar. Mae'n bosib y gallai therapydd llais fod o gymorth ichi. Lle mae Mr Ruztan?"
    "Wedi picio allan i nôl llefrith, wetws e." Cyfyd y ficer i dremio draw drwy'r ffenest.
    "Ie, ficer," medd Mrs Ruztan a hithau'n croesi ato o'r gegin. "Peth rhyfedd ar y naw a llond y ffridj o'r sglyfath gynnon ni eisoes yn llifo fel manna o'r nefoedd. Be haru'r crinc?" Mae hi'n gosod yr hambwrdd o'i flaen.
Arno, ar blât cywrain, mae nifer o gacennau bychain gyda hufen a jam yn goferu ohonynt. Daw hithau ato ac eistedd wrth ochr ei ochr. Cyfyd y plât ato. "Sconsen, ficer?"
Cymer yntau gacen weddus a brathu iddi'n wancus nes bod ei ên yn clecian. "Wyddoch chi, Mrs Ruztan," medd wedi llyncu, 'Pan fydd y golau'n taro o'r ochor fel'na a hithau'n lled-dywyll a ninnau yma ar ein pen ein hunain yn y ty, a Mr Ruztan yn crwydro'r dre mewn tywel gwyn a dim disgwyl amdano'n am oriau bywgilydd os nad blynyddoedd, fe allwn synio amdanoch mewn cyd-destyn eithaf beiddgar."
    "Cymerwch fy sgons i, Ficer," medd Mrs Ruztan yn dynner. "Ficer," medd a'i llais ar dorri, "mi wn mor hoff ydych ohonyn nhw."

 


Pennod 2


CARCHAR BATRIS

      
  Nid oes a'n cadwo rhag carchar Batris. Felly byddai'r sôn. Carchar Sarjant Batris a bod yn fanwl gywir.    Ar stad o dai mae stryd bach gefn lle chwery'r plantos gyda'u pêl. Sefyll a gwylio mae Ruztan a'i fawd yn crafu dan ei ên. Daw'r bêl ato ac yntau'n ei dal o dan ei droed. Try'r plant i syllu arno. Daw un ohonynt ato gan bwyntio at y bêl.
        'Be 'di d'enw di 'ngwas i?' medd Ruztan.
        'Bembo,' medd yr hogyn yn hy. 'Ruztan wyt ti'n de?'
        'Wel ie,' medd yr ysgolhaig gan graffu ar y bychan. 'Ruztan E. Revr M.A. at eich gwasanaeth.'
        'Tyd a'r effin bêl yna'n  ôl imi 'ta,' medd yr hogyn gan bwyntio at y swigen gron dan droed yr ysgolhaig.
        'Beth yw'r gair bach pwysig?' medd yntau.
        'Rwan,' medd Bembo. 'Gyda llaw, pam wyt ti mor hyll?'
        'Twt twt,' medd Ruztan yn bwyllog. 'Hylla'n y byd y bo'r anifail mwya'n y byd o blantos bach y bydd o'n eu bwyta!'
        ’Sut anifail wyt ti 'ta Ruztan,' gwaedda un arall o'r plant. 'Llwdwn ta mul?'
        'Nacia,' gwaedda Ruztan wedi ei gythruddo. 'Anifail enfawr rheibus blin sy'n licio bwyta hogiau drwg...Dowch yma!'
        'Reit,' medd Bembo, 'Yr Athro Ruztan E. Revr, rydym yn eich arestio chi am geisio dal plant a'u bwyta. Mi gei fynd at Sarjant Batris am hyn.
Sgin ti rwbath i'w ddeud... a chofia, mi newidiwn ni o wedyn...'
        'Chewch chi ddim bod yn blismyn a chitha'n blant!' gwaedda Ruztan yn ei hyll.
        'Nid plant ydym ni ond plismyn bach iawn.' Mae Bembo yn cau'i lyfryn ac yn pwyntio tua'r car. Arweinir y Sgolor Ffwndrus tua char heddlu bach a'i wthio'n ddiseremoni i'r cefn. 

Yn y cyfamser, yng Nghactysfa…mae'r prynhawnol hedd yn dew drwy'r parlwr ffrynt a'r pysgodyn yn ddiog yn ei danc. Daw Mrs Ruztan o'r gegin a photyn glas plastig yn ei llaw. Synhwyra'r pysgodyn ei bod hi'n amser te. Mae hi'n codi pinsiad o lwch o'r potyn a'i arllwys i'r dwr. Gwibia'r pysgodyn tuag ati a'i ddannedd bron a chau am un o'i bysedd. Sudda'n ôl i'r tanc yn bedrist gan ddechrau sugno'r llwch i'w safn. Mae'r ffôn yn canu a phrysura
hithau draw gan estyn lliain i sychu'i dwylo.
        'Helo?'
        'Mrs Ruztan? Swyddfa'r Heddlu Rachub sy ma...'
        'Dwi ddim am ei gymryd o'n ei ôl,' medd hithau ar draws y llais.
        'Peidiwch â meddwl yr â'i i’m poced i dalu'r tacsi 'chwaith.'
        'Ond mae o wedi bod yn trïo bwyta plant, Mrs Ruztan …'
        'Ers pryd mae gynnoch chi Swyddfa'r Heddlu yn Rachub?' hola Mrs Ruztan.
        'Ers tro byd,' medd y blismonas. 'Cofiwch tydio ddim yn amlwg.
Gweitsiad i Wil Wal orffan y lle newydd ydan ni. Bydd festri Salem yn iawn tan hynny. Dipyn bach yn ddrafftiog, ond rhaid inni beidio cwyno… Rwan,
ynglyn â'r gwr …’
        ’Choelia'i fawr ei fod o wedi bwyta plant,' medd Mrs Ruztan.
        'Tydio'n cael digon o drafferth hefo corn bîff... '
        'Nid plant oeddan nhw,' medd y blismonas, 'ond aelodau o'r heddlu cudd.'
        'Ia, mwn,' etyb Mrs Ruztan. 'Ydi o am stretsh go hir?'
        'Nacdi,' etyb hithau. 'Mae o'n gyrru ni'n benwan ac mae'r Sarjant iso'i le fo. Gyrrwch Gwyn Tacsis draw i'w nôl o, toes gynnon ni ddim iws
iddo fo bellach.'

Ystyria Mrs Ruztan y sefyllfa am ennyd ac yna ddeialu rhif. 'Gwyn Tacsis,' medd. 'Ewch chi i Festri Salem Rachub i achub Ruztan o ryw bicil. Cerwch a fo'n ddigon pell ac anfon y bil i'r glas.'

        Yn y cyfamser, mewn festri ar gyrion Bethesda. Festri moel a golau ar glwt o lawr yn y canol a Ruztan wedi ei glymu i gadair a'r golau yn ei lygaid. Mae o'n gwingo ac yn strancio ond yn ofer. Clywir lleisiau milain o'r tywyllwch y tu draw i'r pwll golau. 'Ma gynnon ni drwy'r nos, Ruztan, ac
mae isio gwell atab na hwnna i gadw dy groen di'n un darn.' 

   'Ylwch,  plîs, Sarjant Batris,' ymbilia Ruztan. 'Mi dwi di deud wrthych chi.' Mae o'n ceisio tynnu’i dafod tew dros ei ddannedd. 'Ylwch, jest
cardiau oeddan ni'n chwarae. Procar Tynnu Amdanat. Gwyn Tacsis,  Jac Saim, Ffish Mawr a fi...'
        'Wyt ti'n meiddio awgrymu'ch bod chi’n chwarae tynnu amdanoch hefo pysgodyn?' medd y Rhingyll Batris yn sarrug.
        'Nacia, ddim hefo fo, ond ein bod ni heb bedwerydd ac mi rowyd llaw i'r sgodyn i wneud y rhif.'
        Mae P.C. Bembo'n croesi ato ac yn estyn cefn llaw iddo ar draws ei wep. 'Twpsyn,' gwaedda. 'Fedar sgodyn ddim tynnu amdano fo'r mul. Deud
clwydda wyt ti. Rwan 'ta, jest deud y gwir ac mi gei di fynd.'
        'Mae hyn yn efengyl ichi. Os basa'r sgodyn yn colli mi fydda'n cael mynd hefo Jac Saim i gael ei ffrio yn lle goro tynnu amdano, dyna gytunwyd.'
        'Ond chafodd o mo'i ffrio, yn naddo?'
        'Wel naddo,' medd Ruztan yn dawel. 'Fi ddaru achub ei groen o trwy ffeirio llaw hefo fo a goro tynnu amdanaf yn y fan a'r lle ac mi aeth y
lleill wedyn, cwyno eu bod nhw'n teimlo'n sâl oeddan nhw. Ac mi fydd Jac Saim a Gwyn Ambiwlans yn barod i gadarnhau hyn. '
        'Mae nhw'n gwadu'r cwbl,' medd Bembo. 
        'Gwadu? Ond pam?' medd Ruztan yn ymbilgar. 'Deud wrtho fo y ceith o Ffish Mawr am y pris oedd o'n gynnig…mi ceith o am ddim gen i…'
        'Mae Jac Saim yn wr parchus, fasa'n gas gynno fo gael ei dynnu i'r helynt, a beth bynnag mae o wedi marw. Ac mae Gwyn wedi mudo i Rwsia i agor
siop Rew.'
        'Siop Rew?' hola Ruztan. 'Sgynnyn nhw'm digon yna'n barod?'
        'Ddim yn y siopau,' medd Bembo 'Ond mae o i'w gael yn hawdd er bod yna neb yn ei werthu. Mae o’n ei gwneud hi'n iawn medda'r hogiau. Mi
anfonodd samplau inni yr wythnos o'r blaen ond toedd o i gyd wedi dadmar cyn cyrraedd?'
        'Anaml hebog mewn cegin,' medd Ruztan.
        'Be mae hynna'n feddwl?' medd nifer o'r heddgeidwaid.
        'Dwi'n ddieuog,' medd Ruztan.
        'Rwyt ti wedi gwastraffu ein hamser ni, Ruztan,' medd Sarjant Batris. 'Gad i hyn fod yn wers iti. Rwan dos.'
        'Ddim tan dwi'n cael adfer fy enw da,' medd Ruztan yn bendant.
        'Pwy enw da?' medd Bembo. 'Tydi pawb yn gwybod dy hanes di?'
        Daw cysgod cuwch dros wyneb y sgolor. 'Felly mi rydych chi'n tynnu'n ôl y cyhuddiad yn f'erbyn i?'
        Cyfyd Sarjant Batris bâr o fenig duon a'u taro i gledr ei law. 'Pa gyhuddiad oedd hwnnw, Ruztan?'
        'Wel, os nad oes gynnoch chi rwbath yn f'erbyn i mi fyddai'n flin odiaeth.'
        'Un odiaeth fuest ti eirioed,' medd P.C. Bembo gan halio'r cyn-garcharor ar ei draed. 'Mae dy dacsi di yma.'

        Yn yr Holiday Bin ym Mangor Uchaf mae dyn bach blin yn ceisio cael sylw. Ar waetha'r cleisiau byddai rhywun oedd yn ei adnabod yn dda yn gwybod
o'r offer mae'n ei gludo mai Ruztan y Llydawr yw hwn. Mae'r dyn y tu ôl i'r ddesg â'i drwyn yn ei gyfrifiadur yn gwneud ei orau glas i'w anwybyddu.
Pwysa'r un curiedig ei fys ar fotwm ar ganol y ddesg. 'Yes!' gwaedda'r derbynnydd gan sbïo i lawr yn amheus ar y dyn glas a du a’i fagbib dan ei gesail. 'O wela' i,' medd'n wfftiol. 'Llydawr ydych chi.' Mae'n hanner troi'n ôl at ei gyfrifiadur. 'Isio aros ydach chi? Wel, tydan ni ddim yn
cynnwys anifeiliaid.'
        'Wrth gwrs fy mod isio aros,' medd Ruztan. 'Ac nid anifail ydi o, ond binioù cozh. Math o fagbib i chdi, ynde.' Dechreua bwmpio megin y cwdyn
a'i wasgu nes gyrru'r seiniau mwyaf erchyll dros bob man.
        'Taw yr uffarn gwirion!" gwaedda’r derbynnydd gan estyn ei law i gau ar wddf yr offeryn. 'Llofft i un, ia?''
        'Nacia,' prepia'r cerddor.
        Gollynga’r derbynnydd wddw’r fagbib  a gwasgu botwm ei beiriant.
        'Fyddech chi gystal â thorri'ch enw yma, syr. A rhif eich car chi yn fan'na, plîs.'
        'Sgin i ddim rhif car,' medd Ruztan.
        'Mae gan bob car rif,' medd y derbynnydd.'Hyd yn oed ceir Llydawyr.'
        'Mae yna bobol heb geir fodd bynnag,'medd Ruztan gan droi a phwyntio at ei bethau yn un tocyn bler ar lawr wrth y ddesg. 'Rwan, pwy eith â'm
bagiau fi?'
        'Eith neb â nhw,' medd y derbynnydd. 'Mi gadwaf fy llygad arnyn nhw ichi. Mi ddaw'r porthor â nhw i fyny i'ch llofft yn y munud.'

        Toc wedi i Ruztan fustachu i'r lifft mae'r drws troi yn sgubo ar agor a dyn tacsi'n camu i'r cyntedd a hwnnw'n wlyb diferyd. 'Sumai Jac?'
medd Gwyn. 'To car yn gollwng eto?'
        'Nacdi,' medd Jac.
        'Be sy ta, dy basinjyr di wedi pi pi arnach di?' Tremia Gwyn derbynnydd ar hyd ei drwyn ar Jac Tacsis.
        'Blydi pysgodyn ydi o,' eglura Jac. 'Mae o'n wlyb soc newydd ddwad o'i danc. Mae o am aros hefo chi medda fo. Hefo ryw Ruztan neu'i gilydd.'
        'Mi ddeudis i wrtho fo am ein rheolau anifeiliaid,' ochneidia Gwyn.
        'Ydi pysgodyn yn anifail, Jac? O, bedi'r ots. Jest cer â fo i stafell tri dau chwech. Dacw'r lifft.'

        Daw cnoc ar ddrws llofft Ruztan.
        'Dlifri ichi, Mr Ruztan,' medd Jac Tacsis.
        'Bedio?' medd Ruztan.
        'Ffish,' medd Jac.
        'Rwm syrfis?' hola Ruztan. 'Ond ordris i ddim byd. Ta waeth, mi dwi isio bwyd; dowch a photelaid o win Mwscadê i'w olchi o i lawr.'
        'Dyn tacsis ydw i,' medd Jac.
        'Dim snac llofft ydw inna,' medd llais pysgodyn piwis.
        'O'r nefi, Ffish Mawr ydi o. Dowch â fo i mewn a'i roi o'n y bath yn syth bin!' medd Ruztan.

        Toc a'r bath yn llawn a'r dyn tacsis wedi mynd roedd Ruztan yn eistedd ar gaead y pan a'r pysgodyn yn swalpio yn y baddon. Bob hyn a hyn
trawai Ruztan nodiadau ar damaid o bapur sgwennu'r gwesty. 'Felly mi gwelist ti hi'n tynnu'i goler o, Ffish Mawr?'
        'Do,' medd'r pysgodyn sylweddol yn sionc, 'Mi roedd y ddau ohonyn nhw wrthi fel fflamiau. Duw a wyr,  ella'u bod nhw'u dau’n noeth lymyn groen
erbyn hyn ac yn dawnsio'r glocsen ar bennau'r byrddau, be wn i? Roeddan nhw'n rhy brysur i sylwi arna i'n sleifio o'r tanc, dyna'r cwbwl wn i.'
        'Maen rhaid ichdi fod wedi gweld mwy na hynna,' mynna Ruztan. 'Ar dy ffordd allan, be welais ti…'
        'Ylwch, y cwbwl welis i oedd y ddau ohonyn nhw ar ganol y soffa a nhwtha'n rhannu platiad o sgons hufen a jam mefus a  dyma'r sbrings yn rhoid. Y ddau ohonyn nhw'n rowlio hyd carpad.' Edrychodd Ffish Mawr ar Ruztan hefo dwy lygad felen oer. 'Ac wedyn mi aeth i'w drôns o.'
        Plymiodd Ruztan ei law i'r baddon a chydio gafael yng ngwar Ffish Mawr. 'A be wedyn?'
        'Roedd y trôns yn rhy fach iddi. Mi fyrstiodd.' Chwarddodd y pysgodyn yn wawdlyd. 'Swigan jeli,' ychwanegodd. 'Sdim angen ichdi fod yn gas,' medd Ruztan yn swta. 'Cofia pwy fyddai'n dy fwydo di.'
        'Bwydo fi, myn uffar,' medd Ffish Mawr. 'Cas?' medd wedyn. 'Mi wyddoch hanes nhad yn cael ei rwydo gan y sgotwrs a'i roi mewn tun… Ydach
chi ddim yn meddwl ei fod o'n beth cas i'r hen gnawas acw agor tun tiwna o’m blaen i a'i fwyta fo gan ddweud "Mi dwi'n reit hoff o dy dad, Ffish Mawr." '
        'Ond y fi ydi dy dad di Ffish Mawr,' medd Ruztan wedi seibiant hir..
        'Chdi?,' medd Ffish Mawr. 'Paid â hurtio. Tada Sgod oedd fy nhad i. Mi fuodd am yn hir yn y tun tiwna 'cw'n ffridj Cactysfa. Faddeua'i byth i'r
ast am be wnaeth hi.'
        'Dyna ni,' medd Ruztan. 'Mae hi'n hwyr y nos a phawb wedi blino… '
        'Mae hi'n hanner awr wedi saith ar nos Wener,' medd Ffish Mawr. 'Rwan cerwch i agor y mini bar, mi dwi jest a thagu isio diod!'
        Gwel Ruztan fod Ffish Mawr wedi ymlâdd a'i lygaid yn bwl. Tywallta wydraid o wisgi a dwr i lawr corn gwddf y pysgodyn a hwnnw'n galw am ragor.
'Mwy! Mwy!' gwaedda. Llowcia'r wisgi a'r gin a phob dim arall a gynigir iddo. Ymlithra'r hylif tryloyw trwy'r gwythiennau oerion ac fel pwmp yn llenwi wele yntau'n chwyddo ac yn newid ffurf. Fel y chwydda'i gorff ymestynna'i esgyll a'i gynffon onid ydynt yn freichiau ac yn goesau. Ysywaeth, ychydig o drawsnewid a ddaw o ran ei ben. Eithr gyda het gantel isel a sbectol haul pwy ddyfyd nad Eidalwr mohono neu ddyn o Sbaen? 'Diolch, Ruztan,' medd gan ddringo allan o'r baddon. 'Estyn y tywal yna imi nei di.'
        'Dow,' medd Ruztan. 'Lle dysgais ti'r tric yna Ffish Mawr?'
        'Nid pysgodyn mohonof mwyach,' medd y llall yn dawel. 'Felly peidiwch â'm galw i'n hynna.' Estyn ei law at Ruztan. 'Galwch fi'n Dic Ffish
o hyn ymlaen.'
        'Felly dwi'n gweld,' medd Ruztan. ’Ty'd mi gei fenthyg fy nillad nos i am heno.'
        'Diolch, Ruztan,' medd Dic. 'Un clên ydach chi hefo fi. A gwely glân imi hefyd. Mi dwi'n cysgu am ben fy nhraed.' Cwyd ar ei draed a’u hysgwyd er
mwyn eu profi.

        Yn hwyrach yr un noson mae Ruztan yn troi ac yn trosi a swn chwyrnu'i gyfaill yn llenwi'r llofft.  Yn ei fyw ni all Ruztan orwedd yn gyfforddus ac er bod ei draed a'i gorff yn chwys laddar mae'i ben a'i glustiau'n oer oer. 'Go drapia hyn,' medd gan dynnu'i ben o'r mini bar, codi ar ei draed a mynd yn ôl i'w wely.


 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.