Gwinllan I'm Gofal
Ennill gwlad a cholli iaith
Peth cyffredin yn ystod y degawdau dwaethaf yw gweld y genhedlaeth ifanc yn dod yn
bwysig fel y mae etholiad cyfredinol yn nesau. Fel arfer, does wahaniaeth gan y pleidiau
gwleidyddol gyflwyno toriadau sy'n diswyddo athrawon, neu dlodi cyfleusterau hamdden i'r
gymuned ac yn sicrhau fod myfyrwyr unai ar eu cythlwng neu'n ddyledwyr i'r banciau am dalp
go helaeth o'u bywydau. Ond pan ddel yr etholiad, fe'n hatgoffir mai'r ifanc yw
"dyfodol ein gwlad".
Pam? Pleidleisiau. Mae sawl arolwg barn yn ddiweddar wedi ein hatgoffa mai canran isel
iawn o bobol ifanc sydd mewn gwirionedd yn defnydio eu pleidlais o gwbwl ac mae'r
gwleidyddion yn awyddus i enill eu cefnogaeth. Peidied neb a chael ei dwyllo! Gem fudr
felly yw gwleidyddiaeth! Nod y gwleidydd a'i blaid wleidyddol yw enill grym ac i wneud
hyny rhaid sicrhau fod eu polisiau'n adlewyrchu barn y mwyafrif. I leiafrif fel y Cymry,
mae hyn yn ein hatgoffa eto mai ychydig o enillion y gellid ei ddisgwyl drwy'r broses
wleidyddol.
Gwelir yr ysfa am rym yn glir yn ymdrechion "Plaid Cymru - the Party of
Wales" mewn etholaethau megis Ceredigion a Dyffryn Clwyd. A'n gwaredo rhag cynwys
geiriau hyll fel 'national' neu 'nationalist' yn ein maniffesto a'n pamffledi! Mae'r
ystadegau'n dangos yn amlwg mai drwy sicrhau pleidleisiau'r mewnfudwyr yn unig y gellir
enill y seddau hyn, gan fod canran y Cymry wedi lleihau mor enbyd! Yr ateb naturiol felly
i arweinwyr lleol y blaid yw cyflawni puteindra gwleidyddol a hyny yn gwbwl ddigywilydd -
sef bradychu'r Cymru a Chymru, gan geisio argyhoeddi mewnfudwyr nad yw'r Gymraeg bellach
yn fater o bwys. Pennawd pamffled a ddaeth drwy'r blwch post yn ddiweddar oedd "Not
born in Wales? Not Welsh speaking? Not a problem!" Un o bamffledi "Plaid Cymru.
The party for Wales"!
Gobeithio nad yw Saunders ac eraill o'r tadau yn gweld yr hyn a wna eu llinach
anystywallt er mwyn enill grym! Ond dyna ni, mae geiriau fel "Saunders" hyd yn
oed wedi troi'n air budur i'r rhyng-genedlaetholwyr newydd!
Pan ddwrdir pobol ifanc y dyddiau hyn am beidio ac ymarfer eu "hawl
democrataidd" byddaf yn meddwl mai nhw - y bobol ifanc - sy'n iawn. Ac yn yr etholiad
nesaf mi fydd yn well gen i hepgor fy "hawl democrataidd" ac arddel fy hawl fel
Cymro i wrthod dewis lliw tei fy ngormeswr.
"Ie, dros Gymru?" "Senedd i Gymru yw'r unig ateb?" Mater arall yw
hyny.
Morris P Morris