Gair gan y Golygydd
Hen air Celtaidd am 'amber' ydy 'gwefr' - fel y gwyr pawb ohonoch. Y gair Groegaidd
oedd 'electron' ac fe ddaeth i boblogrwydd mawr yn ddiweddar drwy'r ffilm Jurassic Park.
Ar wahan i'w ddefnyddio i wneud gleiniau, tlysau a phaderau fe sylwodd un o gyfoeswyr
Asterix fod ganddo nodweddion hynod iawn: pan ydych yn ei rwbio yn erbyn brethyn, rydych
yn ei lwytho a thrydan negyddol sy'n peri iddo atynu pethau man ato.
'Lliw gwefr ar drwnc sydd iach' medd rhyw hen wag yng Nghanrif 16 - gweler 'Adroddiad
ar Lawysgrifau Cymraeg' Gwenogfryn Evans (1898 - 1910). Ac erbyn Geiriadur John Walters
(1770 - 1794) fe ddefnyddid y gair 'gwefr' am 'electric' neu 'electrical'. Dyma, felly, yr
hen air Cymraeg am drydan ac fe'i ddefnyddiwyd yr adeg hono yn ei holl ogoniaint (gweler
geiriadur W Owen Puw er enghraifft): gwefreiddiad, gwefraidd, gwefrain ('electrine'),
gwefriad ('electrification'), hysbysai gwefrol ('an electric telegraph').
A'r gair hwn a roddodd ini 'gwefreiddiol', wrth gwrs. Shoc fawr i bawb! Mi greda i mai
o'r gair 'gwefr' y daeth 'gwifr' hefyd (yn hytrach nag o'r Saesneg 'wire'), ond mi adawai
ddadleuon felly i'r sglaigs yn ein plith.
Dyna ni'n deall englyn y gwyddonydd Iolo Wyn Williams, rwan:
Y Bardd
Fe roddwyd y wefr iddo, - dieithr hud
A thrydan y cyffro,
Ac wedi ei saernio
Gyr fellten trwy'i awen o.
Cynhwysir englyn arall i'r 'Bardd' gan y pencampwr hwn ar dudalen Beirdd
y We.
Ynglwm yn y gair Gwefr y mae 'gwe' ac ar lwyfan digidol y We Fyd-Eang yn
unig y gellir darllen y cylchgrawn hwn - efallai y daw nawdd o rywle i'w ehangu ac i
grynhoi'r deunydd gorau yn gopi caled ar ddiwedd y flwyddyn.
Diolch i'r beirdd wnaeth ymateb mor sydyn i'r gwahoddiad - tua deg
diwrnod o rybudd a gafwyd! Daliwch i yru! Fe welwch dudalen yn cofnodi pwy yw Beirdd y We
a phwy sy'n Lydiaid yn nes ymlaen! Byddwn yn rowlio'r rhestr o un cylchgrawn i'r llall
megis caseg eira - yn gofnod parhaol o feirdd blaenllaw ein cenedl. Fe wahoddwyd pawb i
ymateb drwy'r cylchgrawn Barddas.
Mae'n rhaid i mi enwi un neu ddau o'r criw - dyma gerdd gyntaf Marc
Lloyd Jones ar brint! Ei athro ydy'r catalydd cynganeddol hwnw Rhys Ab Elwyn Dafis. Diolch
Marc am gerdd WEFReiddiol! Mi gei di gadair y Genedlaethol cyn hir, os bydd y fath beth yn
bod erbyn hyny, wrth gwrs; po efallai?
Mae gwaith Ynyr Williams, Caernarfon wedi fy nghyffroi'n fawr erioed, a
ches i mo fy siomi efo'r stwff a welwch yn y rhifyn hwn; bydd chwaneg o'i waith gwych yn y
rhifyn nesaf. Mae yma hefyd un neu ddau o ddeinosoriaid megis Donald Evans a Moi Parri a
ddaeth i'r categori 'dan 40' drwy groen eu danedd! Ond mae ysbryd y ddau'n perthyn i'r Oes
Newydd (gweler y cerddi) - a sut fedrwn ni wrthod dau gawr fel hyn?
Adeiladydd o Langernyw ydy Emrys Williams, bachgen di-ymffrost, tawel -
nid anhebyg i wrthrych ei gadwyn o englynion: Llew Williams. Burum yn y bara...
Mae yma ddau weinidog hefyd: Morris P Morris (Ceredigion) a Huw Dylan
Jones, Llangwm. Mae'r ddau'n feistri ar ddweud eu dweud - a hyny heb fod yn bregethwrol!
Taniwch, hogia!
Y bwriad ar y foment yw cadw pob rhifyn sy'n ymddangos ar y We cyhyd ag
y gallwn (hyd ddiwedd amser, gobeithio) yn hytrach na'u dileu bob yn ddeufis. Fel hyn,
gellwch weld yr olrifynau am yr un pris!
Danfonwch eich syniadau atom - mae'n hen bryd ysgwyd ychydig ar
gyfundrefn fonolithig y llenorion llychlyd 'ma a chreu chwyldro ieithyddol. A-we!
robin llwyd ab owain