Gohebiaeth (Ionawr
97 - Ebrill 97)
Llythyrau Electronig a Malwen

> Oddi wrth: Ken Richards (richark@GOV.ON.CA)
> Ymwelais a Sycharth heddiw...gwych!

> Oddi wrth: Iolo Wyn Williams (i.w.williams@bangor.ac.uk)
6.2.97
Dros dro felly:
> > Boi rhy ddwfn yw Bardd y We - i'w adlais
> Ein goglais mewn gwagle;
> Enaid yw hwn, onide
> Yn rhodio yn y rhwydwe.

---------- >Oddi wrth: Beidas (Beidas@btinternet.com)
> 23.2.1997>
> Llongyfarchiadau ar y safle a'r gyfrol - mae'n edrych yn dda iawn.
> Oes 'na gyhoeddiadau eraill naill ai ar y we neu ar y gweill?
> Rydw i wedi anfon y cyfeiriad i Seland Newydd ac i America -
> gobeithio felly y bydd digon o ddarllenwyr dramor!
>
> Hwyl
> Sian<

> Oddi wrth: darren@dewin.demon.co.uk
> 07 Mawrth, 1997
> Llongyfarch-blydi-iadau i ti!
> Sdim digon o farddoniaeth ar gael ar y Rhyngwrwyd fel y mae hi.

Oddi wrth: firstformula@btinternet.com
(14.3.97)
Mistar Golygydd,
O, diolch i chi
am rifyn cynta' cylchgrawn o fri.
Braf darllan cerddi mewn iaith 'dwi'n 'i dallt
er bod amball i frawddeg 'chydig yn hallt!
Marc Lloyd Jones bia'r gadar gynta'n reit siwr,
er 'mod i'n poeni am foesau y gwr!
Dyna fo, - mae o'n ifanc, a'i lygaid yn pefrio;
'mhen 'chydig flynyddoedd wneith o ddim byd, - ond cofio!
I'r Prifardd Don Evans rhaowch Elastoplast; -
mae'r "llafariaid llifeiriol" wedi llifo'n rhy ffast!
Bu raid i mi ddarllad bob gair fwy nag unwaith
cyn deall mai testun y gerdd oedd "Y Rhwydwaith"!
Wrth gwrs, da o beth 'di cofio "a fu",
ond mae gormod yn syrffed i leugberson fel fi.
Mae darlun o'r Saethwr a'i wn yn 'i d=EEn
bron cystal a'r llencyn sy'n methu dal ...
Meri Jones, Benllach

Oddi wrth: HuwDylan@msn.com
UPMAIL03.199703311918570022@msn.com
'Rwyf yn prydyddu fy hunan ac yn cyffroi o weld y Gymry Gymraeg yn
cofleidio'r dechnoleg newydd. Dyma'r unig ffordd i achub yr iaith. Gwelaf ddyfodol lle y
bydd popeth yn cael ei wneud drwy'r we neu gyffelyb beiriannau.
Pam na chawn ni eisteddfod ar y we? Cystadlaethau barddoni ar y we?
Os am gymorth 'rwyf yn fwy na pharod i helpu.

Oddi wrth: Linda K. Sherman linsherm@concentric.net
http://www.concentric.net/~linsherm
16.04.97
Mae'ch tudalennau yn gampus, Robin. Llongyfarchiadau!
Maddeuwch f'anwybodaeth--beth (neu bwy) ydy "Sycharth"?
Lin
(GOL: Pwy ydym ni? Chi. Un teulu gwiw yn anadlu yw'r holl genhedloedd...
Sgin ti gerdd yn dy galon eisiau ei gollwng yn rhydd? Cartha dy hun ac fe gei di gompost
da. Diolch Lin ac i bawb sydd wedi danfon gair.)