www.barddoniaeth.com Cerddi

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Rutzan: Robin Llywelyn
Cerddi
Golygyddol
Y Winllan
Llythyrau
 

         

 

GWEfr: Rhif 1

Y Cerddi

 

 


CYNNWYS

Marc Lloyd Jones
Y Prifardd Meirion Macintyre Huws
Yr Athro Iolo Wyn Williams
Huw Dylan Jones
Ynyr Williams
Dr Dafydd Evan Morris
Aled Lewis Evans
Moi Parri
Y Prifardd Donald Evans
Y Prifardd Robin Llwyd
Emrys Williams
Ifor ap Glyn
Y Prifardd Tudur Dylan Jones

 

O'r Dwyrain

gan

Marc Lloyd Jones, Abertawe

Llanc heb gymar na chariad:
Wele styd mewn diawl o stad;
A minau'n ddyn mor unig
'N awchu mwy am wlychu 'mhig,
Mawr yw'r dyhead i mi:
Mae'n bryd i mi briodi!

Daw! Daw uno dau enaid!
Madael am yr haul sy 'raid!
Codi pac ac ymlacio
I draeth dros y mor am dro,
Yn llawen, ble mae'r genod
Yn llawn rhyw yn byw a bod
A thra pharod i brodi
Unrhyw ffwl wnaiff dalu'r ffi.

Rhodio strydoedd paradwys;
Gobeithio, chwilio'n llawn chwys!
Daeth fflach o olau llachar
Fel mellten uwchben y bar
Yn arwydd, yn fy arwain
I yfed a'r merched main
Mewn stondin Philipinos
Noethfron yn neon y nos;
Yna'n fud drwy len o fwg
Ei golud ddaeth i'r golwg
Yn rhywiol, fy hudoles
A'i nwyf yn pefrio yn nes
Gyda hwyl ei llygad du
Ynddi'n iasol ddynesu.
Sadiais, do ceisiais oedi
Nes i flys fy hawlio i.

O'r Dwyrain ces firain fun,
A welwyd decach eilun?
Trwy ein nwyd fe'n hunwyd ni,
A bwriadwn briodi;
Dros y mor ces drysor drud!
Mwyach, hi yw mywyd...

 

Dysgu Dim

gan

Y Prifardd Meirion Macintyre Huws

Er ei chael mor sur a'i chath - yn wrach oer
a'i chot yn un sglyfath,
a'i hen dempar yn dwmpath,
af i'w thy fory 'run fath.

 

Bardd y We

gan

Iolo Wyn Williams

Y gwr a'r dolur geiriol - yn gollwng
ei gylla'n gytseiniol;
rhed llafariaid llifeiriol
yn rhuban aur o'i ben ol.

 

Dau Englyn

gan

Huw Dylan Jones

Mul

Er y dychan amdanaf - am fy llun,
Am fy llais, ni hidiaf;
Yn y gan lle oesol gaf
Yn achos y Goruchaf!

Cri'r Newynog

I ginio nid oes genym - ond geiriau,
Dy gariad sy' ddirym;
Eneidiau truain ydym,
Mewn gweithred o gred mae'n grym.

 

Dwy gerdd

gan

Ynyr Williams

Hyd traeth y llanw tro

Rhoi taw ar y poeri taer
wna mam y dyfynu mud
hyd traeth y llanw tro.

Dagrau rhad geiriau iaith
a hen lwon, sy'n arlwyo
dilead eiliadau

ym mhlygion y tonau.

Positano

Tai
a chartrefi hyd y bryniau
a'u llygaid gleision yn gwlychu'n yr haul.

Pobol
yn agosatrwydd cilfachau'n hel hwyl
a'r boreau awyddus yn bersawr o bysgod.

Mor -
Alffa ag Omegau'r mynediad a'r mynd
yn rhwbio'n esmwyth glitoris dynoliaeth.

 

Tri englyn

gan

Dr Dafydd Evan Morris

Cadernid

Un iaith sydd yn ei theithi - yn addo
hen hedd Ynys Enlli
hen arwriaeth Eryri
a hen nawdd Gwynedd i ni.

Ysgol

"Yn hon, pan ddelwn innau - y bu hwyl
heb ei ail... mae'ch lleisiau
ieuanc oll yn bywiocau
y cof am heulog hafau."

Maenor By^r
(Wedi ymweld a'r eglwys a'r castell. Yma y claddwyd Gerallt Gymro a'i frawd.)

Teg awel hen dawelwch ym Mhenfro;
mae unfryd lonyddwch
hyd y lle; hen goed; a llwch
hen arwyr a synhwyrwch.

 

Ffenestr Eglwys San Malo

gan

Aled Lewis Evans

(Wedi dinistr yr Ail Ryfel Byd bu San Malo heb Gadeirlan gyflawn cyn adeiladu'r ffenestr drawiadol bresenol, a wnaeth yr adeilad yn gyflawn drachefn.)

Gwewyr ein gorfoledd,
dryswch ein hawddfyd.
Dydy'r ffenestr ddim yn gwneud unrhyw synwyr arbenig.
Mae'n fodern.

medd hen wraig glen
yn gwerthu cardiau.

Dail aml-liw cyfoes
fel dagrau lliwgar
dyn
o oes i oes;
olwyn liwgar
yn diferu fflamau
o hapusrwydd
i'n dyrchafu
er eu bod yn syrthio.
Cofio dinistr diferu angau
drwy ein codi,
codi.

 

Yn dy liwiau a'th lewyrch
gellir maddau
i'r byd
ac i ninau
ein beiau oll.

 

Epigramau

gan

Moi Parri

Creu mae'r ifanc erioed,
Meuryna y mae'r henoed.

* * *

I wr ifanc dibrofiad
Hurt o hyd yw cyngor tad!

* * *

Hawdd i wr na wyr o ddim
Yw dioddef gwyr diddim!

* * *

A gais aur i'w gysuro
Tlawd o ffydd a fydd efo^.

* * *

Cyd-fyw a^ benyw benwan
A wna gawr yn gradur gwan!

 

Y Gymraeg i mi yw'r Rhwyd

gan

Y Prifardd Donald Evans

(I Sion Onwy yn Awstralia)

Eto, nawn o aea'n tynhau
gwelydd y lolfa'n gul,
bywyd mor ddinerth ag erthyl;
cell o ffobia'n cau
am anadl, ymenydd:
tranc o wasgfeuon aflonydd
yn gylch o haenau'n f'amgylchynu
a'u mwgwd, fy mygu
ar gyfnos Tachwedd ... ynysu'r meddwl
yn ddu, ei grebachu'n bwl
o banig yn yr unigedd
cyfyng, a'r caddug cw^l
yn ei foddi'n fedd...

Ond danynt, y cyrteni
llawn ofn, cnewyllyn iaith
rywsut yn goroesi,
rhyw wingo afael islaw'r anghyfiaith:
gwawr ei chyneddf yn gwreichioni
awel freuddwyd o'r rhwydwaith -
rhwylliad goleuni o'r myllni maith
: un wreichionen yn prin eni
un arall, hono cyn oeri'n
esgor ar ragor, geiriogi'n
ddarluniau ehangrwydd ar len
ymenydd o nudden:
bae o haul fel crib alarch
yn oleulawn - anadl eang;
y rhythmau hir yn rhyferthwy march,
ac ar daran sidan ei sang
rhyw chwa o hogyn yn marchogaeth
ei fwng, carlamu'n fwyn
tua rhithwe'r traeth:
cefnfor o haf diafwyn
ar lanw gwib dros y darlun i gyd
a'r lolfa o aea'n fyd!

 

Gorchest y Saethwr

gan

Robin Llwyd ab Owain

(Darllenwyd ar Talwrn y Beirdd, Chwefror 1997. Meuryn: Gerallt Lloyd Owen.)

Ni weli di, wr diwair,
Gawod waed mewn targed wair.

Yn dy wn mae oerni'r dydd,
Wyt yn orchest, anarchydd
Hen a brau na w^yr am bris
Y Catraeth yn y cetris.
Mae ynot sawl Romania'n
Gysgodion hirion o ia^.
Yn dy fwled o foliant
A chan plwm mae sgrechian plant
Yn oer fel pigau weiren.
Dy wn a'i blwm yw Dunblane,
Y difaddau, difyddin:

Doda dy arf yn dy din.

 

Englynion Coffa Llew Williams, Llangernyw

gan

Emrys Williams

Rhoddi Llew i bridd y llan - o'n gafael
Oedd gofid bro lydan;
I barhau hil heb ei ran
Yw gofid Cymru gyfa.

Ei gyfan fu'i gyfraniad, - rhoi o'i fodd,
Rhy fawr ei fesuriad,
Amryddawn ei ymroddiad.
A rhoes ei lw dros ei wlad.

I'w wlad mor amhrisiadwy - yma oedd
Ei her ym mhob adwy,
I'n hirlwm fe fu'n arlwy
A'i allu yn mynu mwy.

Mwy iddo e oedd deall - y to iau,
A'u paratoi'n ddiwall.
Eu dysgu y bu'n ddi-ball
A^ her Llywelyn arall.

Pwy arall feddai'r gallu - i drafod
Yr ifanc a'u denu
I ganol gem neu ganu
I lwyfan y Llan yn llu.

Cael llu o'r ifanc llawen - yn fyddin
Ryfeddol a'u diben
I warchod pob tywarchen
O emau'r hen Gymru wen.

Ar hen gaeau hau yr had, - had newydd
Ar ddolydd ei alwad,
O roi ei sel a'i berswad
Eginodd ffrwyth ei genad.

O'i genad wele ganoedd - o'r ifanc
Heno'n profi'r gwerthoedd!
Rhodd fory i Gymru ar goedd,
Aeth i orwedd i'w thiroedd.

Ein tir a thyfiant iraidd - y doniau'n
Lledaenu'n werinaidd:
Blagur y gwr poblogaidd,
A'r cyfan yn rhan o'i wraidd.

Ei wraidd sy'n dal drwy'r priddyn! Enillwyr
Ym er colli eilyn!
Bore ddaeth i'r broydd hyn
A holl heulwen Llywelyn.

 

Cegin Gareth Ioan

gan

Ifor ap Glyn

(11.12.1983)

Blynyddoedd y blodau, medden nhw,
oedd bia'r ddelfrydiaeth fawr,
a'r weledigaeth fawr,
ynglyn a'r waredigaeth fawr
a roddai ini ein Cymru Rydd Gymraeg

Ond roedd genym ninau, blant pync,
plant y pinau cau,
roedd genym nina'r ddelfryd hefyd;
roedd y peth dal yn bwysig ac yn bosib
ym mlynyddoedd materol
y blaendwf Thatcherol

... nes cyraedd cegin Gareth Ioan
wedi noson flodfresych yn London House, Crymych,
a thafodau'n blodeuo, a'r cwrw'n egino,
cyn mynd nol i dy oer, a'r hwyl yn edwino
a cheisio mwytho'r crac
o'r tri can o Felinfoel oedd ar ol,
gwrthod gadael i'r afiaith gilio
nes godro'r tropyn ola ohono.

Roedd hi'n oer y noson hono
a ninau mewn cotia
o amgylch Aga
oedd yn methu gwrthweithio
noson Llywelyn o Ragfyr rhewllyd,
y cymylau'n rasio a'r ser yn syrthio,

ac roedd hi'n dlawd arnon ni'r noson hono,
Alff yn trio gwneud tric y dorth a'r sgodyn
hefo owns o sbageti a haner nionyn,
ac albym gynta'r Maffia, uchafbwynt blwyddyn
ar Dansette ar y llawr
yn cael ei droi bob haner awr,
fel stecsan gyndyn

a'r sgwrs yn dilyn trywydd naturiol,
(os bogeiliol)
i griw o Gymry cydwybodol,
sef iaith, mewnlifiad
a ffigura'r cyfrifiad,

a dyma ni'n cymharu'r plwyfi mor hawdd,
Llanfairisgaer a Charon uwch clawdd,
fel 'tai penio'r stadegau rhwng ein gilydd
yn eu cadw'n yr awyr ryngom ni rywsut.

Tri can o Felinfoel oedd ar ol,
fel trysor yn ein dwylo, yn iro'r sgwrs,
ond ar y noson hono wrth gwrs
y gwawriodd y gwirionedd

a 'nghalon yn gorfod agor y clo
ar rywbeth fu 'mhen i'n amau ers tro:
Tydi hi ddim yn mynd i ddigwydd....
Oerodd fy nghalon
yng nghegin Gareth Ioan....

 

I Rhianon Evans

gan

Y Prifardd Tudur Dylan Jones

(Gwraig Gwynfor Evans)

Trwy ddolur neu drwy seguryd - ac oes
O esgusion enbyd
Y mae gardd ynom i gyd
Heb ei hau yn ein bywyd.

Ond er hyn daw arweinydd, - un fel hon
Yn ddiflino beunydd,
I hau, bob blwyddyn newydd,
Y darn o dir yn ei dydd.

Ni raid gofyn ond unwaith - iddi hi
O hyd, cyn daw afiaith
Y Rhianon hon ar waith,
Yn Rhianon i'r heniaith.

Fe fu yn gefn i ni gyd - i'r eithaf
Trwy waith ei hanwylyd;
Bu hon yn rhoi bob enyd
I deulu Cymru cyhyd.

Trwy yr hwyl a'r treialon, - er i glais
Hagru'i gwlad yn gyson,
Ac er y gad, gwraig yw hon
Na chilia o'i gorchwylion.

Yn iach yn ol daw'n chwyn ni - yma byth;
Gwyddom bawb am erddi
A dagwyd drwy'n diogi,
Ond gwyrdd o hyd ei gardd hi.

Ei haeddiant roddwn heddiw, - a'i roi oll
I wraig mor unigryw,
Rhyw un we^n mor gadarn yw,
Gardd o hyd mewn gwyrdd ydyw!

 



 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.