|
|
gwefr
RUTZAN Dyma nodyn neu ddau o enau'r awdur: RUZTAN ydi enw'r darn. Ei enw'n llawn yw ANTURIAETHAU'R ATHRO RUZTAN E. REVR A FFISH FAWR Pennod Gyntaf rhywbeth neu'i gilydd ydi'r "stori" hon - mae llawer iawn yn weddill. Mae'n seiliedig ar ddeialog a sgwennais un tro. Ffish Fawr ydi enw cyfaill Ruztan (nid yw treiglio Ruztan bob amser yn taro deuddeg). Dyn dan bennyd ydio, wrth gwrs, ac yn chwilio am y ffordd yn ol at ei ffurf gynhenid yn lle goro cerddad o gwmpas hefo pen fatha pen pysgodyn ar ei sgwyddau. Mae'r ddau ohonyn nhw'n crwydro'r byd ei led a'i hyd ac yn mynd yn ol ac ymlaen mewn amser o gyfnod y Gododdin i fynyddoedd Tibet ac yn ol i bwll nofio Bangor. Yn un bennod mae nhw'n weision i Ddafydd ap Gwilym ac yn cael eu dychanu ganddo. Mewn lle arall mae Fish Fawr yn syrthio mewn ffansi hefo Llydawes o'r enw Jenovefa a oedd wedi ei rhithio'n gaseg cyn iddyn nhw ei hachub. Rhwng hynny a chwffio hefo'r Samwrai yn Cioto a chael eu halltudio i Awstralia hefo Lewsyn yr Heliwr adeg terfysg Merthyr mae nhw'n cael eu cadw'n eitha prysur. Yn y pen draw draw mae'r Ficer, Mrs Ruztan a'r ddau lembo yn trio sefydlu busnes teithio drwy amser ond nid yw'n llwyddiant ysgubol gan nad ydynt eto wedi perffeithio'r dechnoleg i ddychwelyd ymwelwyr yn ol o'u teithiau pell. Lol botas maip ydio i gyd wrth gwrs, ond roedd yn ddifyr i'w sgwennu ar y pryd. Llygaweg ydi RUZTAN E REVR gyda llaw a "TANBAID EI DIN" ydi ystyr ei enw [RUZ = RHUDD; TAN = TAN; E = EI; REVR = RHEFR) ond nid oes unrhyw arwyddocad i hyn yn y stori. Athro hanes o Lydaw ydi Ruztan ac yntau'n ewin o ddyn bach cefngrwm hefo mop o wallt gwyn ar ei ben a thueddiadau rhywiol gwyrdroedig (caru hefo pysgod ayb).
|
|