|
|
'Y Gwir...Yr Holl Wir?' Casgliad o storiau byrion gan
HUW GRIFFITHS (Wrecsam) CYNNWYS
Rhan I - O Fôn i Faelor (Penodau o Hunangofiant)
Rhan II - Cofio'r Geiriau (Darnau Amrywiol) Pwy Fydd Yma Ymhen Can Mlynedd?
Rhan I O Fôn i Faelor (Penodau o Hunangofiant)
Roeddwn i wedi bod yn rhyw hanner meddwl am roi trefn ar y llofft gefn 'na ers wythnosau. Ond ar ôl dihysbyddu pob esgus ynglyn â phethau amgenach i'w gwneud, dyma godi'n gynnar un bore, a cherdded at ddrws y llofft a bwrw iddi i glirio'r holl lanast. Mae'n rhaid imi gyfadde 'mod i'n dipyn o gasglwr. Cadw hen ddarnau o bapurau newydd am hanesion lleol mewn un bocs, a bocsys eraill yn llawn anialwch yr oeddwn i wedi hen anghofio amdanynt. Roedd yno rai pethau yn yr ystafell a oedd yn cael eu defnyddio'n rheolaidd. Pethau fel yr hwfer, y bwrdd smwddio, y clybiau golff a'r raced sboncen, esgidiau ac yn y blaen. Ac roedd yno bethau a ddefnyddid unwaith y flwyddyn yn unig, fel y cês mawr, y gadair haul, y gôt sgio a'r esgidiau cerdded, y goeden 'Dolig a'r bocs tinsel. Ond roedd 'na focsys eraill hefyd. Bocsys ym mhen draw'r ystafell, allan o'r ffordd. Roedd yno bethau yn y bocsys hynny nad oedd yn gweld golau ddydd o un flwyddyn i'r llall. Dyma'r pethau dibwys na fydda'i byth mo'u hangen nhw, ond mae'n neis gwybod eu bod nhw yno o hyd. Jync sentimental, os mynnwch chi. Agorais un o'r bocsys i edrych beth allwn i ei ddidoli. Pâr o sanau ddaru Nain eu gwau imi pan o'n i'n hogyn bach, a hwythau'n llawn tyllau ac aiff fy nhraed i ddim ar eu cyfyl nhw. Hen bêl-droed wedi byrstio - fy mhêl-droed gyntaf. Y crys ysgol ddaru mi wisgo ar fy niwrnod olaf yn yr ysgol - wedi'i arwyddo gan bawb o bwys ac olion melynaidd y blawd a'r wyau wedi sychu'n galed arno. Dyma gau'r bocs yn ei ôl. Doeddwn i ddim yn poeni pa mor hyll na pha mor ddrewllyd oedd rhai o'r pethau hyn. Dyma bethau sy'n rhan o 'ngorffennol i - yn dod ag atgofion melys yn ôl, ac felly'n werth eu cadw. Yn y man, dyma ddod at focs arall, ac YSGOL GYNRADD wedi'i ysgrifennu mewn inc du ar ei gaead. Agorais y bocs a gwelais hanner dwsin o luniau ohonof i fy hun. Daeth y diwrnodau tynnu llun hynny yn ôl i'm cof. Ond alla'i ddim gwahaniaethu rhwng un na'r llall. Roedd pob un mor debyg i'w gilydd. Y diwrnod hwnnw yn y gwanwyn bob blwyddyn pan oedd y gwersi'n cael eu drysu, ac ystafell dau yn cael ei throi'n stiwdio gyda bylbiau llachar a'r ymbarelau tinffoil yn yr awyr. A phob un ohonom, yn ein tro, yn eistedd ar y bwrdd o flaen y sgrin o awyr las a choed. Ie, yr un un cefndir ffug bob blwyddyn. Yna, gwrando'n astud ar gyfarwyddiadau'r dyn a safai rywle y tu ôl i'r holl lampau llachar: 'Gwenwch yn ddel...Clic...ac eto...Clic-Clic...lyfli.' Edrychais ar y llun cyntaf, wedi'i ddyddio Ebrill '77. Roeddwn i wedi ymdrechu i gael rhyw hanner gwên ar fy wyneb, ond doedd honno'n cuddio dim - roedd golwg 'wedi cael llond bol' arna'i. Y tro cyntaf imi orfod sefyll yn y ciw y tu allan i ystafell dau, a minnau, yn ôl pob golwg, wedi hen alaru ar Miss Roberts yn cribo ein gwalltiau drosodd a throsodd wrth inni aros ein tro. Roedd cwlwm y tei'n edrych yn anferth am fy ngwddf, a sylwais ar y ploryn bach coch ar fy moch chwith. Na, nid ploryn oedd o. Mi ges i ddigon o'r rheini wrth dyfu - ond ddim mor gynnar â hynny chwaith! Edrychai'n fwy fel briw bach oedd yn mendio. Sut ges i hwnnw, tybed? Wrth loffa ymhellach yn y bocs, gwelais lun dosbarth o'r un flwyddyn. Roedd Miss Roberts yn sefyll yn y cefn a chanddi steil gwallt nodweddiadol o'r saithdegau. Roeddwn i'n sefyll yn y rhes gefn hefyd. Sylwais ar y marc bach coch ar fy moch. Doeddwn i ddim yn edrych yn hapus iawn yn y llun hwnnw chwaith. Roedd Rhisiart, fy ffrind gorau, yn sefyll un ochr imi, a Ffion ar y llall. Gallwn i ddeall pam 'mod i'n sefyll wrth ymyl Rhisiart - roeddem ni gyda'n gilydd ym mhobman bryd hynny - ond pam Ffion? Yna, daeth yr holl beth yn ôl imi - y rheswm y tu ôl i'r wyneb hir, y marc coch a'r ffaith imi orfod sefyll nesaf at hogan yn y llun dosbarth. Doedd gen i fawr o gariad at ferched bryd hynny. Hen bethau main a delicet a oedd yn crio ar ddim. Hel clecs a herian yn greulon ac yna troi i ddweud wrth Miss pan fydden ni'r hogiau yn talu'r pwyth yn ôl. Roedd Ffion yn wahanol. Doedd hi ddim yn hel clecs am neb, nac yn dweud pethau creulon a than din fel rhai o'r genethod eraill. Doedd hi ddim yn mynd at Miss i geisio'ch tynnu chi i helynt, chwaith, ond roeddwn i'n ei chasáu hi fwy, bryd hynny, na'r holl enethod eraill. Doedd hi ddim yn fain nac yn ddelicet fel y genethod eraill. Roedd hi'n fwy ac yn gryfach na phawb arall yn y dosbarth. A dweud y gwir, roedd gen i andros o'i hofn hi. Roedd hi'n gweiddi ac yn sgrechian weithiau - yn strancio os nad oedd hi'n cael ei ffordd ei hun. Roedd gen i biti dros Miss Roberts weithiau, pan fyddai hi'n trio cael Ffion i ymgymryd â rhyw weithgaredd nad oedd wrth ei bodd hi. Roedd hi'n gallu bod yn ystyfnig, ac os oedd Ffion wedi rhoi ei meddwl ar wneud rhywbeth arall, neu i wneud dim byd, yna doedd dim troi arni. Cofiais fod Ffion wedi cael un o'i thantryms ar y prynhawn arbennig hwnnw. Roedd hi'n go agos at flaen y ciw tynnu lluniau y tu allan i ystafell dau, ond roedd yn rhaid iddi fynd i'r ty bach, a phan ddaeth hi yn ei hôl, bu'n rhaid iddi fynd i gefn y rhes. Doedd hyn ddim yn plesio o gwbl, ac yn anffodus, fi oedd yr olaf ond un. Dyma hi'n dechrau sgrechian ac mi deimlais i andros o slap ar draws ochr fy mhen nes bod fy nghlust i'n chwislo. Pan drois i weld o ble daeth y glec, dyma hi'n plannu ei hewinedd yn fy moch ac yn rhoi andros o binsiad imi. Teimlais fy moch yn dechrau poethi, ac ar ôl rhwbio ochr fy wyneb, sylwais ar y mymryn gwaed ar ben fy mys. Er bod Miss Roberts wedi cael gafael arni erbyn hyn, parhaodd Ffion i sgrechian a strancio. Er imi drio fy ngorau glas i ddal y dagrau'n ôl, dechreuodd fy llygaid lenwi, a chofiaf, hyd heddiw, fy moch fach yn llosgi wrth i'r dagrau hallt redeg dros y briw. Syniad twp Miss Roberts oedd rhoi y ddau ohonom i sefyll nesaf at ein gilydd ar gyfer y llun dosbarth - er mwyn inni faddau i'n gilydd ar ôl y ffrae a dod yn ffrindiau eto. Peth anodd iawn oedd gwenu o flaen y camera, a minnau'n hanner disgwyl slap arall ar ochr fy mhen! Er i bob un ohonom ni gael profiad anffodus gyda Ffion rywdro neu'i gilydd, daethom ni i gyd i'w hadnabod hi ac yn hoff ohoni. Ni ddywedodd Miss Roberts, na neb arall, wrthym ni am gyflwr Ffion. Ond wrth i'r misoedd fynd heibio, daeth pob un ohonom ni i ddeall ei bod hi'n wahanol, mewn rhyw ffordd. Ond er ei bod hi'n wahanol, roedd hi yn un o blant Miss Roberts - yn un ohonom ni. Fe ddaethom i ddeall sut roedd ei meddwl hi'n gweithio a deuthum innau, yn y man, i wybod sut i osgoi ochr pen annisgwyl! Daeth hithau, hefyd, wrth gymysgu, i arfer gyda ni, ac i ddeall beth oedd yn plesio a beth oedd yn digio - ac yn y man, i ddysgu yr hyn oedd yn dderbyniol ac yn annerbyniol yn nosbarth Miss Roberts.
SUL DIOLCHGARWCH Mae hi'n fore Sul, a minnau, yn ôl yr arfer, wedi treulio gormod o amser yn chwarae Capten Emo hefo'r llong danfor yn y bath. Mae Mam yn gweiddi'n ddiamynedd eto o waelod y grisiau. 'Huw! Tyrd yn dy flaen! Mae dy frecwast di ar y bwrdd ers meityn.' Mae Dad wedi gadael yn gynnar i gadw'i gyhoeddiad yng nghapel Seion, Amlwch, a minnau'n manteisio'n llwyr ar hynny - pan ddaw hi at weiddi arna'i i hastio o droed y grisiau ar foreuau fel hyn, dydi rhincian cwynfanllyd Mam ddim hanner mor effeithiol â'i waedd frathog o. Gwenaf wrth i mi stryffaglu i gau'r botwm ar goler fy nghrys gorau, sy'n edrych braidd yn swil arna'i bellach. Mae pawb yn dweud 'mod i'n tyfu'n hogyn mawr yn ddiweddar. Mae Nain yn sôn o hyd fod angen rhoi bricsen ar 'y mhen i. Mae'r syniad o gael bricsen drom yn gwasgu ar fy nghorun a'i chorneli brwnt yn brathu i mewn i 'nghawd yn swnio'n ofnadwy o boenus. Nain bach, am beth twp i'w ddweud - a Meurig Jones o'n dosbarth ni yn gwisgo caliperau am ei goesau ac yn gorfod mynd i'r ysbyty am driniaeth yn rheolaidd. Dydw i ddim yn deall pam 'i fod o mor fyr. Mae Miss Roberts yn dweud fod ei esgyrn o'n tyfu'n wahanol i'n rhai ni, a bod yn rhaid i ni ofalu peidio â mynd dros ben llestri wrth i ni chwarae hefo fo amser cinio. Mae Dad yn clymu cwlwm Windsor i mi ar fy nhei ysgol, ond mae'r tei cortyn elastig 'ma yn gyfleus ar fore Sul fel hyn. Unwaith mae'r elastig yn 'i le, mae o'n edrych fel tei go iawn, ond mae Ffion yn hen gyfarwydd â'i liw a'i batrwm - mae hi'n gwybod mai tei cortyn elastig ydi o. Mae hi'n manteisio ar bob cyfle i'w dynnu led y pen, a'i ollwng yn glep yn fy ngwyneb y tu ôl i gefn Mrs Owen yn yr Ysgol Sul. 'Babi Mami, methu clymu tei!' medd hithau i bawb gael clywed. Ond dwi'n gwybod sut i gau ceg y bits fach. Dwi'n tynnu'r rhubanau'n rhydd o'i gwallt hi... 'Mrs Owen?! 'Drychwch be mae Huw 'di wneud!' Dwi'n gwybod y ca'i row am wneud bob tro, ond dwi'n cael boddhad mawr wrth weld y rhubanau cochion yn datod a'i phlethi euraid yn chwalu, a hynny ar ôl i bawb ddweud pa mor ddel oedd hi'n edrych! * * * * * 'Huw! Ma hi'n ddeg munud wedi. Ddweda' i ddim wrthot ti eto...' 'Dod rwan, Mam.' Rydw i'n ceisio fy ngorau glas i wthio fy nhraed i mewn i'r sgidiau brôg duon er mwyn arbed datod clymau'r Sul diwethaf. Anobeithiol - maen nhw'n gymharol newydd, a'r lledr heb ystwytho eto. Rhedaf i lawr y grisiau a'r esgid chwith yn gwichian ar bob yn ail ris. Cyrhaeddaf y gegin o'r diwedd ac eistedd wrth y bwrdd sydd wedi hanner ei glirio'n barod a llyncu'r te a'r frechdan facwn. 'Ble fuest ti?' medd Mam. Â hithau ymlaen i draethu cyn i mi gael cyfle i ateb. 'Cofia ei bod hi'n wasanaeth Diolchgarwch y bore 'ma. Dwi wedi gosod ffrwythau ac wyau mewn basged i ti gael mynd i'r Ysgol Sul. Paid ti â chyffwrdd yn y grawnwin 'na. Maen nhw i bobol sy'n llai ffodus na ni. Wyt ti'n clywed?' 'Ydw, Mam.' 'A dyna i ti beth arall, mae'r gweinidog yn dod draw i gael cinio hefo ni ar ôl yr oedfa. Mae'r Parch. Edgar Lewis yn heddychwr mawr, a dydw i ddim yn gwybod beth fasa fo'n ddweud wrth weld yr holl ddrylliau 'ma ym mhob man.' Casgla Mam y teganau sy yma ac acw ar lawr a dilynaf innau hi i'r parlwr. 'Mi roddwn ni nhw i gyd yn y fan hyn,' medd wrth agor cwpwrdd y dresar. 'O, Mam!' dywedaf innau'n ymbilgar. 'Paid â swnian, mi gei di eu nhôl nhw ar ôl iddo fo adael.' Pwy oedd yr Edgar Lewis 'ma tybed? A beth oedd heddychwr - dyn oedd ddim yn hoffi M16's, cowbois nac Action Man, am 'wn i. * * * * * Dyma ras wyllt am gapel Bethel drwy'r gwynt a'r dail. Minnau'n dal yn dynn yn llaw Mam. Rydw i'n cael trafferth dal i fyny â'i chamau anferthol wrth i mi chwarae gêm o osod troed ar bob llech ar hyd y palmant diddiwedd. * * * * * Mae cyntedd Bethel yn dawel ar y gorau, ond teimla'n anghyffredin o lonydd a thyner ar ôl i ni gau'r drws mawr derw ar ffyrnigrwydd y gwynt y bore 'ma. Synnaf innau at brydferthwch yr holl flodau Mihangel sy'n addurno'r capel. Mae siliau'r ffenestri'n llawn ffrwythau a llysiau gwyrddion ac yn ddigon o ryfeddod, ond mae 'na glamp o dorth euraid yn gorffwys ar yr allor a honno sy'n hawlio fy sylw i. Alla i ddim credu sut y gall adeilad a ymddengys mor llwydaidd a llwm o'r tu allan, edrych mor lliwgar a ffrwythlon y tu mewn. 'O, dydi hi'n dlws yma Huw?' 'Ydi. Be ydi'r oglau melys 'na, Mam? 'Crisanths.' * * * * * Erbyn hyn, mae'r oedfa drosodd. Mae Ffion wedi gwneud ei siâr o dynnu fy elastig a chwyno am flerwch ei gwallt yn yr Ysgol Sul. Mae'r holl ffrwythau a'r llysiau 'na bellach ar eu ffordd i'r bobol sy'n llai ffodus na ni, a chapel Bethel yn noeth unwaith eto. Mae'r daith adref o'r capel yn fwy cysurus o lawer pan ddaw'r pregethwr acw i ginio. Mae gan y Parch. Edgar Lewis Volvo GLT 'fatha un Mr Williams, ein prifathro - yr un lliw a chwbl, ond bod 'na fathodyn siâp pysgodyn ar gefn hwn. Efallai bod Mr Lewis yn dipyn o bysgotwr. 'Dydw i ddim wedi cael reiden mewn Volvo fel hyn o'r blaen. Mae'n fraint fawr. Seddau lledr, gwregysau yn y cefn, cloc digid ar y dashfwrdd a chant pedwar-deg i'w weld yn glir ar y mesurydd cyflymder! Dyma uchafbwynt fy Niolchgarwch i, ond sut alla'i wneud yn siwr bod y reid yn para cyn hired â phosib? Gwthiaf fy mhen rhwng y seddau blaen a throi at y gweinidog. 'Peidiwch â gyrru'n rhy gyflym, Mr Lewis, 'dan ni ddim yn byw'n bell.' * * * * * Mae 'na arogl cig oen drwy'r ty i gyd. Saif Mr Lewis yng nghanol ein parlwr yn edmygu'r llun Salem ar y wal uwchben y pentan. Fi sy'n cael yr orchwyl o gadw'r gweinidog yn ddifyr cyn i Dad gyrraedd adref o'i gyhoeddiad. Mae rhai ohonyn nhw â digon i'w ddweud ac eraill yn dawelach, ond ar y cyfan, maen nhw i gyd yn ddigon tebyg i'w gilydd. Mae Mr Lewis yn edrych yn ddigon tebyg i'r gweinidogion eraill sy'n dod atom i gael cinio. Mae ganddo fo ddwylo meddal a sbectols hanner lleuad. Sylwaf ar y gwrthgyferbyniad amlwg rhwng y du a'r gwyn ar ei gorff main. Mae'i brydwedd yn welw a'i wallt yn frith - ei sgidiau duon yn sgleinio a'i siwt resenog yn dywyll - mae torchau ei lewys startsiog a'i goler gron yn llachar. Mae o'n fy atgoffa o'r hudlath a chwifia Paul Daniels yn ei sioe ar y teledu bob nos Sadwrn! Daw Mam i mewn i'r ystafell â'r llestri gorau - y rhai coed India a rhimyn aur arnyn nhw. 'Paned ichi Mr Lewis.' 'Diolch yn fawr,' ateba yntau. 'Mae Idwal wedi bod yn Seion, Amlwch y bore 'ma. Mi fydd o adre cyn bo hir. Huw, edrycha di ar ôl Mr Lewis tra dwi'n edrych ar ôl y cinio - dyna fachgen da.' * * * * * Er ei fod o'n edrych yn debyg i'r gweinidogion eraill, dwi wedi penderfynu fod Mr Lewis yn wahanol. Wedi'r cyfan, mae ganddo fo Volvo GLT! Mae o am gael gwybod fy hanes ond dydi o ddim yn fy niflasu â gormod o gwestiynau am bethau 'fatha gwaith ysgol a chanu yng Nghymanfa'r Gylchdaith. Yn hytrach, mae o'n fy holi am dîm pêl-droed Lerpwl ac am fy hoff raglenni ar y teledu. Rydw i'n hoff o Mr Lewis a'i gerbyd smart, ond mae fy llygaid yn taro ar gwpwrdd y dresar bob hyn a hyn. Does ganddo fo ddim syniad am yr holl deganau diddorol 'na sy'n guddiedig yn y cwpwrdd. Dwi am iddo fo wybod 'mod i'n fachgen da, a bod Mam a fi wedi'u cuddio nhw er ei fwyn o, ond dwi bron â marw am gael dangos fy hoff deganau iddo fo hefyd. 'Mr Lewis?' 'Mmmm?' 'Mae Mam yn dweud eich bod chi'n heddychwr.' Ymleda gwên lydan ar draws ei wyneb. 'Dywed ti...' ateba ef. 'Felly 'dan ni wedi cuddio'r gynnau cyn i chi ddod.' Chwardda Mr Lewis yn uchel a rhoddaf ochenaid o ryddhad cyn ychwanegu'n hanner obeithiol. 'Fasa chi'n hoffi'u gweld nhw?'
Dydd Iau, 31ain o Hydref Er iddi fod yn oer ac yn wyntog heddiw, dwi wedi cael diwrnod i'w gofio. Er mai dydd Iau yw hi, ni chawsom ein gwers syms arferol yn yr ysgol y bore 'ma. Yn hytrach, cawsom amrywiaeth o storïau arswyd am fwganod ac ysbrydion. Bu'n rhaid i Miss Roberts adael un ar ei hanner pan sylwodd fod Gerallt wedi cuddio'i ben yn ei freichiau pleth ar ei ddesg. Mae gan Miss Roberts y ddawn arbennig i greu awyrgylch stori ac roeddem ni i gyd yn flin gyda Gerallt am fod mor ofnus o stori ysbryd mor ddiniwed. * * * * * Aeth Mr Williams allan amser cinio, ac er i Miss Roberts weiddi sawl gwaith am dawelwch, roedd pob un am y gorau yn ceisio clywed ei lais ei hun uwchben swn byddarol y cyllyll a'r ffyrc ar y platiau cinio. Am ei bod hi'n wlyb o dan draed, roedd llawr pren y ffreutur wedi ei orchuddio â chant a mil o olion traed budron - roedd pob un ohonynt yn batrwm gwahanol. Roeddwn i'n monitor ar un o'r byrddau. Dwi'n hoffi'r syniad o gael eistedd ar y gadair ar ben y bwrdd yn hytrach nag ar y meinciau ochr, ond mae gorfod helpu'r plant bach i dorri eu bwyd yn dipyn o boendod. Fel pob dydd Iau arall, felly, roedd Gareth a Rhisiart wedi llyncu eu cinio cyn i mi gael dechrau ac wedi rhuthro allan i'r iard o'm blaen. Dwi am ofyn i Miss Roberts a gaf i fod yn fonitor ar yr un diwrnod â nhw yr wythnos nesaf. Cefais ugain munud go dda yn chwarae gêm o ysbrydion anweledig gyda Rhisiart a Gareth. Canodd y gloch yn rhy gynnar o lawer wrth i'r tri ohonom, a'n cotiau dros ein pennau, erlid Gerallt yn ddidrugaredd o amgylch yr ysgol. * * * * * Cawsom brynhawn o waith llaw, ond cafodd y blychau gwnïo a'r bwrdd clai lonydd am heddiw. Bu Miss Roberts wrthi'n brysur yn torri un ar hugain o fygydau gwrachod i ni allan o'r cerdyn gwyn yn yr ystordy. Roedd y creonau gwyrddion yn bethau prin iawn y prynhawn 'ma. Bu pob un ohonom yn ein tro yn plannu ein bysedd i mewn i'r hen focs hufen iâ i chwilio am un a oedd yn ddigon o faint i gael gafael iawn ynddo. Daeth fy nhro innau i chwilota ym mherfeddion y bocs ond roedd hi'n anobeithiol - roedd y genethod wedi bachu'r rhai gorau. Dim ond y rhai budron oedd yn weddill - felly cymysgedd o frown a melyn oedd lliw croen fy mwgwd i eto eleni. * * * * * Bu cryn ddadlau rhwng hanner dwsin ohonom ar y bws ar y ffordd adref ynglyn â pha fwgwd oedd yr un mwyaf arswydus. Doedd Bethan ddim yn fodlon â'i hun hi gan fod y llinyn yn y cefn yn rhy lac, ac roedd y paent gwyrdd a ddefnyddiodd Gareth yn lle'r creon wedi rhedeg ychydig yn y glaw. Fy mwgwd i oedd y gorau heb ddim amheuaeth. * * * * * Ni fyddai Nos Glangaea yn Nos Glangaea heb stwmp maip a selsig i de. Dydw i ddim yn or-hoff o stwmp maip, a dweud y gwir, ond gofalais glirio fy mhlât yn lân heno gan fod Mam wedi mynd i gymaint o drafferth i blicio'r feipen a'i siapio ar ffurf llusern i mi. Roedd ceg anwastad y llusern yn rhoi golwg arswydus iddi - yn llawer mwy brawychus na mwgwd y wrach o'r ysgol. Gofynnais i Mam pam fod un llygad yn fwy na'r llall. Dywedodd Dad mai wincio arna i yn araf oedd o. Dwi'n gwybod mai tynnu coes oedd Dad, ond roedd golau gwan y gannwyll y tu mewn yn gwneud iddo edrych fel pe bai'n wincio arna i go iawn. Felly, er fy mod i wedi gwirioni'n lân â'r llusern, penderfynais beidio â syllu arni'n rhy hir pan oeddwn i ar fy mhen fy hun yn yr ystafell - rhag ofn! * * * * * Cerddais i dy Gareth gyda Mam. Daliais y llusern yn ofalus rhyngof i a'r wal rhag i'r gwynt ddiffodd y fflam wantan, ond bu'n rhaid i Mam ailgynnau'r gannwyll sawl gwaith ar hyd y ffordd. Aeth yr amser heibio'n gyflym unwaith eto wrth i Gareth a minnau chwarae ysbrydion yng ngolau ein llusernau. Cawsom hwyl a sbri wrth sefyll ar stôl yn y gegin yn ceisio brathu afalau cochion a arnofiai mewn powlen o ddwr wrth y sinc tra oedd mam Gareth yn ddyfal yn rhostio cnau. Fe fu bron i ni'n dau syrthio oddi ar ein stolion mewn braw pan gleciodd un o'r cnau yn annisgwyl yn y popty. Roedd y gwynt yn oerach ar y ffordd adref ac roedd blaen fy ngwallt yn llaith a'm coler yn dal yn wlyb ar ôl yr holl frathu gwag a fu yng ngwaelod y bowlen. * * * * * Cyn i mi ddod i'r gwely heno, gafaelais â blaenau fy mysedd yng nghaead poeth y llusern. Yr oedd wedi hanner ei rostio gan wres y gannwyll a daeth arogl amhleserus i'm hatgoffa unwaith eto o'r platiaid stwmp maip amser te. Mae'r gannwyll bellach wedi llosgi at waelod y feipen. Dwi wedi chwythu ar y fflam fel y byddaf yn gwneud ar fy nheisen benblwydd ym mis Mai ac mae'r llygaid trionglog a'r wên anwastad wedi diffodd - dyna ddiwedd ar yr ysbrydion a'r bwganod am flwyddyn arall. Gwers syms fydd hi bore fory, debyg! * * * * * Dydd Mawrth, 5ed o Dachwedd Er ei bod hi'n brynhawn gwaith llaw go iawn heddiw, cawsom ni wers go debyg i'r un honno a gawsom ni brynhawn dydd Clangaea yr wythnos ddiwetha. Doedd neb eisiau gwnïo dau ddarn o byjama at ei gilydd na rhowlio nadroedd allan o glai heddiw chwaith. Roedd gennym ni rywbeth mwy diddorol o lawer i'w wneud - collage anferth o Noson Tân Gwyllt! Roedd o wedi ei rannu'n dair rhan ac fe gawsom ninnau'n rhannu'n dri grwp o saith, un i lunio'r tân gwyllt, grwp arall i adeiladu'r goelcerth a'r llall i wneud Guto Ffowc druan. Mi ges i fy rhoi yn y trydydd grwp i gychwyn, ond cefais ganiatâd Miss Roberts i newid hefo Bethan er mwyn i mi gael bod gyda Gareth yn y grwp cyntaf. Buom yn brysur yn llunio rocedi drwy ludo gwellt plastig a thopiau poteli llaeth arian ar roliau papur ty bach wedi'u peintio'n llachar. Dwi wrth fy modd hefo tân gwyllt a'u lliwiau tlws, er bod y rhai swnllyd yn rhoi braw i mi. Er nad oedd y rocedi yn y dosbarth mor gyffrous â'r rhai go iawn a oedd ar lan y môr heno, gallais nesau atynt a gwerthfawrogi'u lliwiau del heb boeni am y glec fyddarol sy'n eu dilyn fel rheol. * * * * * Ar ôl te heno, fel y llynedd a phob blwyddyn cyn hynny, aeth Mam, Dad a finnau am dro i lawr at y traeth i weld y goelcerth a'r arddangosfa o dân gwyllt ysblennydd. Er nad oedd y goelcerth yn ymddangos gymaint o faint ag un llynedd, dywedodd Dad mai fi sy'n tyfu. Roedd hi'n taflu gwres allan fel dwn i ddim be, a'i hadlewyrchiad yn goleuo wyneb Mam a Dad yn felynaidd, er ein bod ni'n sefyll yn ddigon pell oddi wrthi. Roedd hi'n fy atgoffa i o eistedd ar y stôl o flaen y tân glo yn nhy Nain, a minnau'n gorfod troi fy nghefn at y fflamau am fod fy ngwyneb i'n crasu a'm llygaid i'n llosgi. * * * * * Yna, syllais yn ddisgwylgar i'r awyr goch, gan aros yn eiddgar am y roced gyntaf. Tybed pam fod yr awyr mor goch ar Noson Tân Gwyllt? Cawsom ni arddangosfa o dân gwyllt gystal ag erioed. Saethai rhai i fyny i'r awyr gan ffrwydro ar siâp madarch. Oedai rhai eraill yn eu hunfan fel golau fflêr llong mewn trybini, cyn i'w gwreichion amryliw ymledu fel tusw o flodau gan oleuo'r awyr a'r bae fel coeden Nadolig enfawr. Roedd hi'n ymdrech galed i gael brathiad teilwng o'r afal toffi a brynodd Mam i mi o un o'r carafanau niferus ar hyd y prom ger y traeth. Teimlai'n oer a llithrig o'i gymharu â meddalwch y ci poeth y suddais fy nannedd i mewn iddo ynghynt. Wedi i lais cras ar yr uwchseinydd ddiolch i bawb am ddod i gefnogi achos y Bad Achub lleol, taniwyd y roced olaf - honno oedd yr orau fel rheol! Gwyliais y roced werdd lachar yn gwibio i fyny i'r entrychion. Paratoais fy hun am ergyd arall - ond cefais siom o'i gweld yn diflannu'n ddi-stwr, a thywyllodd yr awyr unwaith eto. Ond yna, ar ôl ychydig eiliadau o dawelwch, daeth taran o ffrwydrad o ganol yr awyr a disgynnodd dafnau o wreichion coch a melyn nes cyfarfod â'u hadlewyrchion yn y môr islaw. Parhaodd y ffrwydrad i atseinio yn fy stumog am rai eiliadau wedi'r ergyd. Yna, aeth pobman yn dawel, heblaw am y chwisl, a thrawiadau gwyllt fy nghalon yn dirgrynu yn fy nghlustiau. * * * * * Gwasgarodd y dyrfa boblog a'i throi hi am adref, gan adael gweddillion y goelcerth i losgi i'r llawr. Cerddasom gyda'n gilydd yn ôl adref a'm gwddw i a'm hysgwyddau yn cnoi ar ôl dal fy hun mor stiff wrth ddarparu ar gyfer yr holl ergydion swnllyd. Edrychais yn ôl dros y bae unwaith eto. Roedd yn gas gen i weld y goelcerth yn colli ei ffyrnigrwydd. Cefais yr un teimlad wrth wylio fflam yr Olympics yn cael ei diffodd ar y teledu yn yr Haf ac wrth i mi chwythu'r gannwyll yn y llusern yr wythnos diwethaf - y teimlad chwithig o hwyl a sbri yn dod i ben. Dwi'n gwybod, fel y sylwais ar y ffordd i'r ysgol y llynedd, y bydd y goelcerth a losgai mor wych heno, yn ddim mwy na chylch tywyll o ludw fel craith ar y traeth bore fory. Dwi wedi clywed ambell i glec yn y pellter ers i mi ddringo i'r gwely. Dyna glec arall - er ei bod hi'n hwyr iawn erbyn hyn. Mae'n debyg nad yw rhai am i Noson Tân Gwyllt ddod i'w diwedd - a wela i ddim bai arnyn nhw, a dweud y gwir. Dyna sut dwi'n teimlo ar Noson Dolig wrth i mi grefu ar Mam am gael deng munud arall i chwarae hefo fy nheganau newydd. Saith wythnos a diwrnod tan ddaw Santa. Mae'n teimlo fel oes - ond dyna yw hyd ein gwyliau Haf ac mae'r rheiny'n diflannu'n gyflym iawn. Hei lwc, mi fydd hi'n 'Ddolig toc! * * * * * Dydd Mawrth, 24ain o Ragfyr Codais am naw y bore 'ma, ac agorais y llenni gan hanner obeithio gweld pobman yn wyn. Mi faswn i'n hoffi gweld eira amser 'Dolig er mwyn i'n lôn ni fod fatha'r darluniau sydd ar y cardiau Nadolig - rhes o dai a thoiau gwynion, simnai yn mygu'n braf a goleuadau bach melyn yn pefrio drwy'r ffenestri. Ond dydan ni byth yn cael llawer o eira yng Nghaergybi. 'Rydym ni'n rhy agos at y môr i gael gaeafau caled,' medda Mam. Mae ganddi hi storïau da am dywydd oer go iawn pan oedd hi'n fach yng Nghorwen - am ei brws dannedd yn rhewi'n galed wrth y sinc a ffenest ei llofft wedi ei gorchuddio am wythnosau. Fe fyddai'n braf gweld eira y 'Dolig 'ma ond dwi'n falch hefyd nad oes rhaid i mi ddadmer fy ngwlanen cyn i mi folchi bob bore! * * * * * Pan gyrhaeddais waelod y grisiau, roedd Dad yn y parlwr yn agor y cardiau a oedd newydd gyrraedd ac yn eu gosod gyda'r casgliad ar y wal uwchben y pentan. Edrychai canghennau isaf ein coeden 'Dolig yn noeth. Siglai rhai o'r addurniadau yn ansicr ar y brigau simsan. Gorweddai hanner dwsin o'r peli bach gloyw ymysg y presantau wrth droed y goeden a rholiai Grwndi yn chwareus wrth eu hymyl. Clywais garolau o gyfeiriad y gegin. Wrth i mi nesáu, gallwn arogli'r mins peis yn y popty. Roedd Mam yn addurno'r gacen tra'n gwrando ar wasanaeth Nadolig ar Radio Pedwar. Roedd golwg fel pe bai wedi bod wrthi ers oriau ac yno y bu hi tan heno. * * * * * Prynhawn 'ma, aeth Dad a finnau i ffarm un o'i aelodau o gapel Pencarnisiog i nôl twrci. Fe gefais i brofiad annymunol gyda'u ci defaid nhw y llynedd - mae gen i graith fechan ar fy sawdl i'm hatgoffa ohono. Rhybuddiodd Dad lawer gwaith mai'r peth gwaethaf allwch chi'i wneud ydi gadael i gi ddeall bod arnoch chi ei ofn. Haws dweud na gwneud - a chan fod yr ast hon yn synhwyro fod arna i andros o'i hofn, aros yn y car fu'r peth callaf eleni! * * * * * Rydw i yn fy ngwely ers chwarter awr bellach. Mae pobman yn ddistaw fel y bedd. Daw ton o gyffro drosof pan edrychaf ar yr hosan a'r gorchudd gobennydd gwag wedi'u gosod yn dwt dros waelod y gwely. Mae Mam newydd weiddi o waelod y grisiau i mi ddiffodd y golau, ond sut alla i feddwl am gysgu ar amser fel hyn? Gwn y byddaf yn deffro bob hyn a hyn ac yn sbecian drwy'r tywyllwch i weld a fydd yr hosan yn llawn. Dwi wedi gweld rhai o helpwyr Santa mewn partïon dros y pythefnos diwethaf, ond ef ei hun sy'n ymweld ar noswyl Nadolig, meddan nhw. Mae hi'n bum munud wedi naw. Ydi o wedi cychwyn arni erbyn hyn? Faint o'r gloch ddaw o i'n ty ni, tybed? A welith o'r mins pei a'r llefrith ar fwrdd y gegin? Pwy a wyr? Well i mi ddiffodd y lamp cyn i Mam weiddi eto. * * * * * Dydd Llun, 6ed o Ionawr Pan aethom ni yn ôl i'r ysgol heddiw, edrychai'r dosbarth yn fwy, rywsut, ac yna sylweddolais fod yr addurniadau Nadolig wedi diflannu. Roedd golwg fel pe baent wedi cael eu rhwygo i lawr yn frysiog. Mae'n debyg mai Mr Pari, y gofalwr, a'u tynnodd nhw i lawr cyn i'r ysgol gychwyn y bore 'ma. Fe fydd o wedi cael mwy o amser i dacluso'r lle erbyn fory. Edrychai'r nenfwd lawer yn uwch nag o'r blaen. Roedd darn bach o dinsel coch wedi'i hoelio i lawr gan bin a adawyd yn un o'r corneli. Sylwais fod y selotêp wedi tynnu'r paent glas gan adael ambell i graith hyll yma ac acw ar y waliau noeth. Roedd siapiau'r clychau a'r sêr a chwistrellodd Miss Roberts ar y ffenestri wedi eu sgwrio, ond roedd gweddillion yr eira ffug wedi gadael llanast arnynt. Edrychai'r ffenestri cyn futred â'r hen fwrdd du calchog yng nghornel yr ystafell. * * * * * Mae hi wedi bod yn hen ddiwrnod annifyr - yr awyr yn llawn cymylau. Roedd hi wedi dechrau tywyllu cyn i mi gyrraedd adref y prynhawn 'ma. Cawsom ni olau bach sgwâr uwch ein seddau ar y bws ysgol. Pan gyrhaeddais y ty, sylweddolais fod Dad wedi bod yn brysur yn tynnu ein haddurniadau ni hefyd. Gorweddai ysgerbwd ein coeden 'Dolig wrth y bin y tu allan i ddrws y cefn. Edrychai'n druenus ar ôl bwrw'r rhan fwyaf o'i nodwyddau. Er i Dad fod yn fwy gofalus na Mr Pari wrth dynnu'r selotep a'r pinnau, roedd ein parlwr ni cyn hylled â'r ystafell ddosbarth heb addurniadau. Mae'r Nadolig i'w weld mor bell i ffwrdd erbyn hyn a does gen i ddim i edrych ymlaen ato am oesoedd. * * * * * Mae'n gas gen i fis Ionawr. Mae hi'n llwm yn y ty, yn llwm yn yr ysgol ac yn llwm y tu allan. Mae pobman yn edrych mor ddigalon, ond maen nhw'n dweud fod yn rhaid i bopeth orffwys yn yr oerni cyn y gallwn ni fwynhau'r prynhawniau poeth yn yr ardd. * * * * *
Gofynnais i Mam pryd ddaw'r prynhawniau poeth hynny a'r gwyliau hir o'r ysgol. Dywedodd y bydd y dyddiau'n dechrau ymestyn o hyn allan a bod hynny'n arwydd dda. Ydi hynny'n golygu y daw'r haf a'r gwyliau hir o'r ysgol yn o fuan? Gobeithio wir! Daw'r dail i liwio'r coed a'r llwyni nes bod bwrdd adar a thy gwydr drws nesa o'r golwg. Daw'r prynhawniau poeth yn yr ardd yn fuan wedyn. Bryd hynny, caf orwedd ar fy mol i graffu'n fanwl ar fuwch goch gota yn straffaglu o welltyn i welltyn - gwres tanbaid y lawnt yn crasu fy mochau ac ôl blêr y borfa sych yn goch ar fy nghoesau a'm breichiau. * * * * *
Ar ôl y sgwrs gyda Mam, edrychais allan ar yr ardd a sylwais mai'r glaswellt oedd yr unig beth a edrychai'n iach dros fisoedd y gaeaf. * * * * * Mae hi'n amser i roi'r gorau iddi eto. Dwi am ddiffodd y golau a thynnu'r blancedi dros fy mhen nes fy mod i'n gynnes braf. Gallaf anghofio wedyn am y tywydd oer y tu allan a breuddwydio am y prynhawniau poeth hynny yn ystod y gwyliau hir o'r ysgol - pan fydd yr awyr yn las a'n lawnt yn sych ac yn felyn.
Dwi'n cofio Dad yn sôn wrth y bwrdd bwyd un noson ei fod o wedi cael gwahoddiad gan Gylchdaith Maelor i symud yno. Roeddwn i'n un ar ddeg a hanner ar y pryd, a doedd gen i ddim syniad ble'r oedd Maelor, ond pan glywais am Wrecsam, roedd gen i fwy o grap am ble roedd o'n sôn. Yn rhyfedd iawn, cefais fy ngeni yn Wrecsam a buom ni'n byw yng Nghorwen, ond symudom ni draw i Gaergybi pan oeddwn i'n flwydd oed. O edrych yn ôl, treuliais y rhan helaethaf o'm plentyndod yng Nghaergybi a bu'r blynyddoedd hynny'n rhai dedwydd iawn. Wedi'r cyfan, doedd gen i yr un cof am unman arall bryd hynny. Ond mae'n rhaid i mi gyfadde i mi ymddangos yn bleidiol dros adael y dref lan-y-môr ar y pryd. Fel y gwyddoch, i fachgen un ar ddeg oed, gwerthfawrogir popeth bron yn ôl ei faint neu'i nerth. Roedd Escort tad Siôn yn fwy na'n Fiesta ni, tra oedd Cortina tad Gerallt yn fwy nag Escort tad Siôn, ond roedd Volvo'r Prifathro yn fwy ac yn well na'r tri gyda'i gilydd. Yn yr un modd, dwi'n cofio ambell i ddadl ffyrnig gyda bechgyn Llangefni, Amlwch a Llanfair-pwll yn Eisteddfodau'r Sir ar ôl i ni eu hatgoffa fod ein parti canu ni wedi cipio'r wobr gyntaf am fod ein tref ni'n fwy ac yn well na'u trefi nhw! Oedd, roedd fy ffrindiau a minnau'n ymhyfrydu yn y ffaith ein bod ni'n byw yn y dref fwyaf ar Ynys Môn, a rwan dyma fi'n cael y cyfle i frolio fy mod i'n symud i fyw i Wrecsam - tref a lysenwir yn Brifddinas Gogledd Cymru. Dyma dref a fyddai'n cywilyddio bois Bangor hyd yn oed! A dyna, mae'n debyg, fu'r rheswm pennaf dros fy mrwdfrydedd i adael fy nghyffiniau cyfarwydd am y Gororau. Doedd yr wythnosau cyntaf ddim yn rhy ddrwg. Roedd yna gymaint o bethau i'w gwneud - profiadau hollol newydd. Yr hwyl a'r sbort wrth edrych am safle priodol i osod y dodrefn a sylwi eu bod yn edrych braidd allan o'u cynefin yn y ty newydd. Dadbacio'r holl focsys bananas roedd Dad a finnau wedi bod yn brysur yn eu casglu ym marchnad Caergybi dros yr wythnosau blaenorol. Roedd pob un wedi'i labelu'n ofalus - y gegin, y pantri, yr ystafell fwyta, y parlwr, ystafell wely, ystafell wely Huw a'r ystafell wely orau. Gwylio'r ystafelloedd gweigion yn llenwi'n araf. Yna, wedi i bopeth gymryd ei le, deuthum i ymgyfarwyddo â'r ty. Anghofia i fyth y dyddiau cyntaf. Rhedeg i fyny'r grisiau ac oedi am eiliad i gofio i ba gyfeiriad i droi am yr ystafell molchi, a gwrando ar leisiau Mam a Dad heb syniad o ba ran o'r ty y deuent. Clywed gwichiadau annisgwyl y trawstiau o dan draed a hymian anghyfarwydd y pibelli dwr yn cnesu am saith bob bore. Roedd yn debyg i aros mewn ty rhywun diarth oedd yn llawn o bethau cyfarwydd. Os oedd canfod ambell i beth yn y ty yn gamp, roedd canfod y ty yn dasg anos byth ar adegau wrth i mi grwydro'r strydoedd estron ar fy meic. Roedd yr holl beth yn anturiaeth fawr i mi, fel gwyliau hir yn rhywle. Ond toc, wrth i mi ymgyfarwyddo â phopeth, fe ddaeth yr anturiaeth yn llai cyffrous. Cyn hir, dechreuais hiraethu am Siôn, Gerallt a'm ffrindiau eraill yn ôl yng Nghaergybi. Yr hyn oedd yn fy nhristáu'n fwy na dim oedd fy mod i wedi fy nhwyllo fy hun i gredu y byddai'r anturiaeth yn para am byth. Deuthum i sylweddoli na allwn i ddychwelyd yn ôl at fy ffrindiau. Doedd 'na ddim troi nôl bellach. Bu'n rhaid i mi dderbyn nad trip dros dro oedd hwn. Roedd hyn yn anodd iawn i'w lyncu dros y misoedd canlynol, yn arbennig wrth i mi ymweld â'm hen gyfeillion yn Ynys Môn gan wybod fod yn rhaid i mi ddychwelyd yn ôl i'm cartref newydd. * * * * * Deuthum i wneud ffrindiau newydd ac yn araf fe'm perswadiais fy hun nad oedd Wrecsam yn dre mor ddrwg i fyw ynddi wedi'r cyfan. Roedd yna McDonalds, K.F.C. a Wimpy i ddewis rhyngddynt ac roedd yna ddewis o hanner dwsin o siopau chwaraeon. Yn ôl yn Ynys Môn roedd y bechgyn yn cynrychioli un o ddau dîm, Lerpwl neu Maniw. Ond yma, roedd 'na gynrychiolwyr Lerpwl, rhai Maniw - ac Everton hyd yn oed. Ond yn fwy arwyddocaol na hynny, roedd yna ddyrnaid o ddilynwyr triw y gwir gochion. Oedd, roedd gan Wrecsam dîm pêl-droed gwerth ei halen hefyd. Anghofia i fyth y tro cyntaf i mi ymweld â'r Cae Ras. Daeth Mam i mewn i'm ystafell un bore Sadwrn a dweud fod Mr. Roberts, un o flaenoriaid y capel, wedi bod ar y ffôn i holi a hoffwn fynd gydag ef i wylio Wrecsam y prynhawn hwnnw. Llusgodd gweddill y bore heibio yn araf a minnau wedi cynhyrfu'n lân. Doeddwn i erioed wedi bod mewn match go iawn o'r blaen. Ar ôl cinio, dyma wisgo siwmper wlân a chôt drwchus, dau bâr o sanau ac esgidiau cryfion ac aros yn ddisgwylgar wrth ffenest y parlwr i gadw golwg am gar Mr Roberts. Cyrhaeddodd yntau'n brydlon am ddau. Pan holais pam nad oedd yn ei gar arferol, eglurodd fod car bach Mrs Roberts yn haws o lawer i'w barcio mewn mannau cyfyng y tu allan i'r maes. Cyrhaeddom y Cae Ras mewn da bryd ac aethom at un o'r tollbyrth troëdig niferus. Talais i ddyn main mewn oferôl goch. Agorodd hwnnw'r bachyn a gwthiais fy hun yn anhylaw drwy'r gromfach wichlyd. Cerddom ar hyd twnel tywyll i mewn i berfedd y sylfaen concrid. Gallwn glywed selsig yn ffrio a daeth arogl nionod yn gryf wrth i ni gerdded heibio i stondin fwyd ar y chwith. Dyma droi cornel a cherdded yn frysiog heibio i res o ddynion a safai y tu allan i'r ty bach drewllyd. Wrth i ni nesáu at ben draw'r ogof goncrid, daeth golau dydd i'r golwg unwaith eto. Dyma ddringo i fyny'r stepiau diddiwedd nes i ni gyrraedd rhes N. Roedd rhai wedi cyrraedd y rhes o'n blaenau a symudon nhw'u gliniau i'r ochr wrth i ni gamu heibio'n ofalus. Cyfrais y seddau gweigion nes imi gyrraedd rhif 67. Roedd Dire Straits i'w clywed rywle uwch ein pennau. Yna, trois i wynebu'r maes. Tynnais y sedd blastig i lawr y tu cefn i mi ac eisteddais i syllu o'm hamgylch. Mae'r olygfa honno wedi aros yn fyw yn fy nghof hyd heddiw. Doeddwn i erioed wedi dychmygu y gallai cae fod mor las â hynny. Edrychai lawer iawn yn fwy nag a wnâi ar y teledu. Roedd y tir yn anghyffredin o wastad a phob gwelltyn yn ei le. Edrychai'n debyg i garped moethus neu i liain gwyrdd dros fwrdd petryal. Yn wir, byddai peli snwcer wedi rhowlio'n ddidrafferth ar ei hyd, heb sôn am bêl-droed! Yna syllais i fyny at y dorf a eisteddai gyferbyn â ni. Y gynulleidfa fwyaf i mi ei gweld erioed cyn hynny oedd naill ai mewn cynhyrchiad poblogaidd yn Theatr Gwynedd neu mewn Cymanfa Ganu mewn capel gorlawn ym Modedern. A dyma fi mewn torf a fyddai'n llenwi capel Bodedern tuag ugain gwaith drosodd! Edrychais draw at y dorf o ddwy fil a hanner a safai tu cefn i gôl y dref gan ryfeddu at y môr o sgarffiau coch a gwynion. Mewn gwrthgyferbyniad, edrychai'r ddau gant o gefnogwyr Colchester yn chwerthinllyd yn y bwlch gwag y tu cefn i'r gôl yr ochr draw. Erbyn deg munud i dri, roedd yr ychydig seddau cochion a ymddangosai'n wag pan gyrhaeddom wedi prysur lenwi. Yna, sylwais yn arbennig ar hen wr a eisteddai yn ei sedd blastig goch ryw ddwy res o'n blaenau. Gwisgai gôt drom a guddiai'r rhan fwyaf o'i drowsus rhesog. Roedd sgarff wlân goch a gwyn wedi'i lapio'n drwchus o amgylch ei wddw. Ceisiai gadw'r teimlad yn ei draed drwy eu taro i lawr, un ar ôl y llall, ar y llawr concrid. Dechreuais chwerthin wrthyf i fy hun - edrychai fel pe bai ar gefn un o'r beics llonydd 'na mae pobol yn eu reidio i gadw'n heini! Edrychai ar ei oriawr bob hyn a hyn a thaniai fatsien yn achlysurol i aildanio ei getyn. Tynnai arni am ennyd a deuai pwff o fwg yn araf i'n cyfeiriad gan lenwi ein ffroenau ag oglau melys St. Bruno. Tybed faint o faco a smociodd yr hen wr ar hyd y blynyddoedd wrth iddo eistedd yn ei sedd yn aros i'r Cochion ymddangos ar y cae am bum munud i dri? Pan redodd y chwaraewyr ymlaen o'r diwedd, daeth bloeddiadau byddarol o bob cyfeiriad nes gyrru ias fechan i lawr asgwrn fy nghefn. I fod yn onest, nid oedd y Cochion ar eu gorau'r prynhawn hwnnw, er iddyn nhw guro Colchester o ddwy gôl i un. Ond mae'n rhaid i mi gyfadde fod y gêm honno wedi aros yn y cof yn well nag ambell i glasur a welais ar y Cae Ras yn y cyfamser. Caeais fy llygaid â gwên ar fy ngwyneb y noson honno. Roeddwn i wedi canfod un fantais amlwg o symud i'r dref a lysenwir yn Brifddinas Gogledd Cymru. Na, nid oedd bywyd yn Wrecsam cynddrwg â hynny, wedi'r cyfan. Dim ond un peth oedd ar fy meddwl i bellach: beth allwn i wneud â'm sgarff Lerpwl a'r poster Ian Rush uwchben fy ngwely?
Rhan II Cofio'r Geiriau (Darnau Amrywiol)
Safai Doctor Gwynn wrth y ffenest yn un o ystafelloedd cynnes y cartref gan syllu dros y dyffryn ar olygfa hardd mynydd y Gaer a'i goedwigoedd pîn yn creu gwahanol gysgodion o wyrdd. Symudodd ei olwg yn araf at droed y mynydd is-law'r coed ble llochesai pentref Caer Owain yn gapel, eglwys ac ysgol, ynghyd â chlwstwr o dai a bythynnod o'u hamgylch. Dyma'r pentref lle bu'n Ddoctor am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Yn y pellter bob hyn a hyn, clywai ambell i ymadrodd gan hen wr a geisiai gynnal sgwrs ag ef. Yn wir, yr oedd golwg wedi heneiddio arno yntau erbyn hyn. Roedd ei wallt wedi teneuo bellach ac o'r un lliw â'i farf a fu'n frith ers blynyddoedd. Ymddangosodd mwy o rychau ar ei dalcen yn ddiweddar, yn ogystal â sypiau tywyll o dan ei lygaid. Roedd stribed neu ddau o groen llac ar ei wddw yn arwydd clir iddo golli cryn dipyn o bwysau yn dilyn ei brofedigaeth ychydig fisoedd ynghynt. Er hyn, daliai'r Doctor i edrych yn heini o'i oed. Nid oedd erioed wedi bod yn un i ennill pwysau, ac yntau wedi bod yn ofalus drwy ddilyn deiet cytbwys ac wedi gwneud digon o ymarfer corff ar hyd y blynyddoedd. Roedd gan bobl mewn pentref fel Caer Owain syniadau cryf ynglyn â dyletsweddau rhai o'r pentrefwyr yn rhinwedd eu swyddi. Disgwylid iddynt ymddwyn yn synhwyrol ac i ddangos esiampl i weddill y gymdeithas. Disgwylid i Weinidog faddau pechodau ac i bob Cristion ddweud ei bader bob nos, ac yn yr un modd, disgwylid i Ddoctor fyw'n iach a chymryd gofal o'i gorff. Unig wendid y Doctor yn yr ystyr hon fu ei hoffter o beint neu ddau yn y Swan. Gwelai rhai achos i'w feirniadu am hyn, ond ar y cyfan, bu'r Doctor yn uchel ei barch yn y gymdeithas. Wedi iddo syllu'n ddwys ar yr olygfa am sawl munud, trodd yn sydyn a cherddodd yn chwim i gyfeiriad y llais yn y cefndir. Eisteddodd y Doctor gyferbyn â'r hen wr, croesodd ei goesau a gadawodd i'w ben orffwys ar gefn y gadair esmwyth. Edrychai'n gyffyrddus iawn o'i gymharu a'r hen Owain John Robaits, a eisteddai o'i flaen mewn cadair olwyn. Roedd holl fetel noeth y gadair honno yn rhoi golwg rynllyd ar yr hen O.J. er bod cardigan wlân drwchus yn hongian amdano. Roedd y ffenestri dwbl caeedig yn creu gwres afiach ac annaturiol yn yr ystafell, a hithau'n brynhawn hyfryd o wanwyn y tu allan. Ond roedd corff yr hen O.J. yn fusgrell, ei goesau eiddil yn debyg i briciau tân a'i frest gaeth yn rhuo fel hen fegin, ac er mor anghyffyrddus yr edrychai'r gadair olwyn roedd yn gwbl amlwg ei fod yn llwyr ddibynnol arni. Traethai'r hen wr am hyn a'r llall mewn llais gwichlyd, a rhoddai hynny natur gysetlyd a chwynfanllyd i'w sgwrs ar adegau. 'Sut ydach chi'n teimlo erbyn hyn?' holodd y Doctor. Cwestiwn yr oedd wedi hen arfer ei ofyn ar hyd ei yrfa hir fel meddyg. 'O, rhywfaint yn well nag oeddwn i yr wythnos diwethaf, Doctor,' atebodd O.J. 'Mae'r hen beswch annifyr 'na wedi clirio, y tabledi coch a duon wedi gwneud y tric am wn i.' 'Da iawn...mae antibiotics yn dra effeithiol gan amlaf wyddoch chi.' Roedd golwg bell a blinedig yn llygaid y Doctor, a châi gryn drafferth i ganolbwyntio ar y sgwrs wrth i'r hen O.J. barhau i draethu'n fyrlymus mewn llais croch. 'Yr hen grydcymalau diawledig 'ma sydd wedi bod yn achosi poen dros y dyddiau diwethaf. Y newid yn y tywydd sy'n gyfrifol am hynny debyg....a henaint wrth gwrs!' meddai O.J. â gwên ansicr. Diflannodd y wên honno ac ymledodd rhychau poenus ar hyd ei dalcen wrth iddo ymdrechu'n ofer i sythu ychydig ar ei gefn crwm wrth iddo orffwys yn anghyffyrddus o anwastad yn erbyn cefn y gadair olwyn. Ar hynny, agorodd drws yr ystafell yn araf ac ymddangosodd nyrs ifanc gyda hambwrdd ac arno baneidiau o de a hanner dwsin o fisgedi Rich Tea wedi eu gosod yn gylch taclus ar blât. Roedd y bisgedi cyffredin hyn, ynghyd â phatrwm blodeuog y llestri, yn dra chyfarwydd i breswylwyr y cartref a'u hymwelwyr o'r byd tu allan o ran hynny. Edrychai'r Doctor i gyfeiriad yr hambwrdd wrth i'r nyrs ei osod i lawr yn ofalus ar fwrdd gerllaw y ddau. Ymddangosai'n fwy bywiog ar ôl gweld y te nag a wnâi wrth geisio dal pen rheswm gydag O.J. dros y chwarter awr a aeth heibio. 'Paned o de i chi,' meddai'r ferch ifanc. 'Hyfryd,' atebodd y Doctor. 'Diolch yn fawr i chi Nyrs....ymm...? Mae'n ddrwg gen i...' Roedd y Doctor yn amlwg wedi anghofio enw'r ferch ac achubodd yr hen O.J. y blaen arno i arbed y distawrwydd anesmwyth. 'Nyrs Williams...heb fod gyda ni'n hir, ylwch.' 'Pawb yn fy ngalw i'n Beth,' meddai'r nyrs wrth wenu a gwrido ychydig. 'Wel ie, wrth gwrs,' meddai'r y Doctor. 'Maddeuwch i mi, a diolch yn fawr iawn i chi cariad.' 'Oes 'na rywbeth arall alla i nôl i chi?' holodd y nyrs gan edrych ar yr hen wr. 'Nac oes diolch,' ebe O.J. Gwenodd y ferch ifanc arno, ac yna ar y Doctor a throdd ar ei sawdl a cherdded o'r ystafell yn dipyn mwy hyderus nag a wnaeth wrth fynd i mewn ychydig eiliadau ynghynt. Caeodd y drws yn dawel y tu cefn iddi gan adael y ddau yng nghwmni ei gilydd unwaith eto. 'Mae'n anodd i mi gadw trac ar yr holl nyrsus newydd yma, wyddoch chi,' ebe'r Doctor. Gorffwysodd ei ben unwaith eto ar gefn y gadair a throchi'i fisged yn ei baned. 'Wel ydi debyg iawn, yn enwedig i rywun 'fatha chi 'te Doctor,' atebodd O.J. wrth geisio edrych yn ddeallus ar y Doctor. Gwyrodd yr hen wr yn boenus ac ymestynnodd ei fraich grynedig at yr hambwrdd. Cododd ei baned yn ansicr nes i'r gwpan orlawn dincial, a diferodd ychydig o'r te llwydaidd i ganol y soser gan guddio ychydig ar batrwm del y blodau bach pinc. 'Ew, dwi'n falch o gael cyfle i gael sgwrs gyda rhywun 'fatha chi, cofiwch Doctor. A 'dwi'n edrych ymlaen yn arbennig at gael gweld yr hogyn 'cw, ac yntau wedi gaddo dod draw at ddiwedd yr wythnos 'ma.' 'Ydi o'n dod i'ch gweld chi'n rheolaidd?' holodd y Doctor wrth sipian ei baned. Ymdrechai'n galed i gadw'r sgwrs yn fyw er mwyn yr hen wr. 'Wel mae o'n trio'i orau Doctor, ond dydi o ddim yn gallu dod mor aml ag y byddai o'n ei hoffi. Mae o'n brysur iawn 'efo'i waith, a llond 'i ddwylo gyda'r plant hefyd, wyddoch chi.' 'Wel ie....siwr iawn,' ebe'r Doctor. Dychwelodd yr olwg freuddwydiol i lygaid y Doctor. Roedd ei frwydr i geisio cadw diddordeb yn y sgwrs yn amlwg wedi mynd yn drech nag o unwaith yn rhagor, ac aeth truth yr hen O.J. yn ddim mwy na rhyw sisial pell yng nghefndir ei ymwybod.
* * * * * Syllai Emyr yn flin at gefn Fiesta arall a oedai ar y cylchdro. Trawodd ei ddwrn yn ddiamynedd ar y corn yng nghanol y llyw er mwyn ceisio hastio ychydig ar y gyrrwr petrusgar o'i flaen. 'Damia! Heddiw o bob diwrnod,' meddai wrtho'i hun. Ac yntau wedi meddwl yn siwr y gallai alw i weld ei dad yn yr Henlle ar ei ffordd adref. Roedd y drafnidiaeth yn drwm tua'r amser hyn bob dydd, gyda chymaint o bobl yn gorffen eu gwaith yr un amser yn peri i draffig yng nghanol y dref sefyll yn ei unfan am dri chwarter awr go dda. Penderfynasai ef a Llinos ymgartrefu mewn pentref er mwyn dianc o swn a phrysurdeb o'r fath. Roedd yn flin wrtho'i hun hefyd am adael pethau'n ben set. Roedd wedi gobeithio gadael y swyddfa yn gynt nag arfer i arbed daliad o'r fath, ond cododd mater pwysig na ellid ei anwybyddu, ac o ganlyniad cafodd ddaliad hirach na'r disgwyl. Edrychodd ar ei oriawr yn frysiog. Roedd amser yn ei erbyn heno, ac yntau wedi addo bod adref erbyn saith i edrych ar ôl Catrin a Guto er mwyn i Llinos gael mynd i gadw ei dosbarth Cadw'n Heini. 'Tyrd yn dy flaen, wir Dduw,' meddai wrth ysgyrnygu ar y gyrrwr o'i flaen gan obeithio y câi yntau gip ohono yn ei ddrych. O'r diwedd, symudodd y Fiesta a chafodd Emyr y cyfle i daclo'r cylchdro ac i fynd ar ei hynt yn ddi-oed. 'Diolch byth, dyna adael y gwaethaf y tu cefn i mi,' meddai wrth fanteisio ar y cyfle i gael gosod y car i'w drydydd gêr am y tro cyntaf ers iddo adael maes parcio'r swyddfa dros hanner awr yn gynharach. Edrychodd ar ei oriawr unwaith eto. A hithau'n ddydd Gwener, dyma'r cyfle olaf a gâi cyn i wythnos arall fynd heibio ac yntau heb fod ar gyfyl ei dad. Byddai yfory yn Sadwrn llawn arall wedi ei aberthu i bêl-droed Guto ac i ddawnsio disgo Catrin. Y Sul, bellach, oedd yr unig ddiwrnod didramgwydd a gaent i'w dreulio gyda'i gilydd fel teulu. Aeth teimlad o gywilydd ac euogrwydd fel ias drwyddo wrth iddo sylweddoli cyn lleied yr oedd wedi ymweld â'i dad dros y deufis diwethaf. 'Efallai y bydd gen i amser i alw yno wedi'r cyfan,' meddai wrth newid i'r pedwerydd gêr. Cyflymodd y cerbyd ac ymlaciodd Emyr wrth iddo adael prysurdeb strydoedd cyfyng y dref am dawelwch ffyrdd troellog y wlad. * * * * *
Pan gyrhaeddodd Emyr y cartref, oedodd am ychydig cyn penderfynu lle i adael ei gar oherwydd fod cymaint o ddewis ganddo. Dim ond un cerbyd arall oedd i'w weld ar y sgwaryn eang o darmac y tu cefn i'r Henlle. Chwarddodd Emyr wrtho'i hun pan sylwodd ar y gwahaniaeth rhyngddo a'r maes parcio prysur a adawodd awr yn gynharach. Cerddodd ar hyd y llwybr ochr nes iddo gyrraedd talcen yr adeilad. Camodd Emyr yn ddi-oed i fyny'r ramp graddol at y drysau llydan, a llamodd yn chwim dros y rhiniog. Teimlodd effaith y gwres canolog ar ei wyneb ac ar unwaith bron, ymddangosodd dafnau o chwys ar flaen ei drwyn. Daeth teimlad o gaethder a chlawstroffobia drosto o ganlyniad i awyrgylch glòs yr adeilad, ac ymledodd y defnynnau llaith yn araf fel gwlith ar hyd ei dalcen. Arafodd ei gerddediad nes i'w lygaid ddod i arfer â'r bylbiau llifolau gwan ar y coridor tywyll. Troediodd yn ofalus ar hyd y llawr llithrig a oedd wrthi'n cael ei fopio gan ddynes ganol oed mewn gorwisg las. Rhedodd ei law chwith yn ansicr ar hyd rheiliau isel y wal a gwichiodd gwadnau ei esgidiau ar y leino gwlyb gan achosi eco annifyr ar hyd y coridor moel. Roedd drewdod yr hylif diheintio ynghyd ag arogl melys ffrwythau goraeddfed bron â throi'n gyfog arno. Neidiodd Emyr pan glywodd glep uchel un o'r drysau sbring niferus yn cau y tu cefn iddo. Trodd yn sydyn a gwelodd nyrs gyfarwydd yn cerdded tuag ato. Gwenodd hithau a theimlodd Emyr ryddhad o weld wyneb cyfeillgar mewn coridor mor llwm yr olwg. 'Helô Beth,' meddai yntau. 'Sut hwyl sydd wedi bod ar fy nhad yr wythnos hon?' 'Yn 'o lew a dweud y gwir,' atebodd hithau heb fanylu dim. 'Lle mae o, yn ei ystafell neu yn y lolfa?' holodd Emyr gan edrych i gyfeiriad drws ar yr ochr chwith ym mhen draw'r coridor. 'Nage,' atebodd hithau. 'Mae hi wedi bod fel syrcas yn y lolfa 'na heddiw. Mae teclyn clywed Tom Morris wedi bod yn chwibanu drwy'r prynhawn. Mae'r hen Leusa Robaits wedi bod yn rhegi ac yn sgrechian arno i newid y batri, ac yntau fel postyn yn begio'i bardwn ac yn gofyn iddi ail-adrodd popeth.' Trodd ei phen gan wneud arwydd at un o'r drysau ar ochr chwith y coridor. 'Cael sgwrs fechan yn un o'r ystafelloedd ymweld mae o ar hyn o bryd.' Arweiniodd Beth ef at ddrws yr ystafell a gostyngodd ei llais. 'Mae mwy o lonydd iddyn nhw gael sgwrsio yma.' 'Un o'i hen gyfeillion o'r pentre sy gyda fo, ia?' sibrydodd Emyr wrth iddi gnocio ar y drws. 'Wel...nage, ddim yn hollol,' atebodd hithau gan wenu. 'Mi gewch chi weld rwan.' Agorodd Beth y drws a cherddodd i mewn yn araf. Dilynodd Emyr yn ei chysgod. Trodd y Doctor ei olwg o gyfeiriad y ffenestr a gwenodd ar y nyrs eto. 'Mae'n ddrwg gen i dorri ar eich traws chi eto,' meddai hithau. 'Ond mae 'na ymwelydd yma i'ch gweld chi.' Edrychodd yr hen O.J. arni yn ddiamynedd, ond gloywodd ei lygaid pan welodd pwy a safai y tu ôl iddi. 'Emyr!' llefodd O.J. mewn llais cynhyrfus. 'Ew, dyma be ydi syrpreis! 'Dan ni wedi bod yn dy ddisgwyl di, cofia. Sut wyt ti'r hen hogyn?' Gwenodd Emyr yn gwrtais, a cherddodd at yr hen wr a gosododd ei law ar ei ysgwydd esgyrnog. 'Dwi'n iawn. Sut ydach chi sy'n bwysicach?' holodd Emyr wrtho. 'Wel, yr hen gorff 'ma sy'n dechrau darfod 'sti. Roeddwn i'n dweud gynnau nad yw'r newid yn y tywydd 'ma yn help chwaith. Ond dydi pethau felly'n effeithio dim ar gorff heini y gwr bonheddig acw,' meddai O.J. wrth edrych i gyfeiriad y Doctor. 'Ew 'faswn i wrth fy modd petaswn i'n ystwyth fel dy dad, cofia,' ychwanegodd O.J. yn eiddigeddus. Edrychodd Emyr ar y Doctor, ond rhoddodd wên ansicr y tro hwn. 'A sut ydach chi, Dad?' holodd yn obeithiol. Efallai y câi fwy o synnwyr ganddo yr wythnos hon, meddyliai wrtho'i hun. 'Prynhawn da i chwithau wr ifanc,' atebodd ef. 'A sut mae eich iechyd chi erbyn hyn?' 'Fi sydd yma Dad, Emyr,' 'Wel ie...Emyr...siwr iawn,' meddai'r Doctor. Oedodd am rai eiliadau cyn ychwanegu'n ansicr, 'Guto a Catrin...Sut maen nhw?' 'O maen nhw'n brysur yn paratoi ar gyfer arholiadau ar hyn o bryd. Mi ddo i â nhw draw un o'r dyddiau 'ma, ar ôl iddyn' nhw orffen.' 'Da iawn...hyfryd,' atebodd y Doctor. Teimlodd Emyr foddhad oherwydd ar yr olwg gyntaf, nid ymddangosai ei dad mor ddryslyd.
O leiaf roedd yn ei Yna, edrychodd y Doctor i fyw llygaid ei fab. 'Eirlys...' meddai'r Doctor. 'Mi fydd yn rhaid i mi ddweud wrth Eirlys. Mi fydd hi mor falch eu bod nhw'n gwneud yn dda.' Disgynnodd wyneb Emyr yn siomedig pan sylweddolodd fod y gorffennol a'r presennol yn gymysgfa o lobsgows ym meddwl dryslyd ei dad. Estynnodd Emyr am law ei dad a gafaelodd ynddi'n dynn. Ymddangosai deigryn yng nghornel ei lygad wrth iddo geisio egluro'n ofer iddo unwaith eto mai gwr gweddw ydoedd bellach. 'Na Dad, mae Mam wedi...dydi Mam ddim gyda ni bellach,' meddai Emyr yn dyner. Roedd llaw ei dad mor llipa, a'i lygaid yn bwl. Syllai i'r eangderau gwag. 'Wel ie...ie...siwr iawn,' ebe'r Doctor yn freuddwydiol. Dychwelodd i'w fyd bach ei hun. Sleifiodd ei law o afael ei fab a chododd yn annisgwyl a brasgamodd yn ôl am y ffenest i olwg Caer Owain a'r mynydd mawr. Trodd Emyr at y nyrs a oedd yn sefyll y tu cefn iddo yn dal yr hambwrdd a'r llestri gweigion. Camodd ati gan ysgwyd ei ben yn araf. 'Mae'n anobeithiol,' meddai wrthi'n dawel. 'Codwch eich calon,' meddai hithau wrth geisio cysuro ychydig arno. 'Ar ôl brecwast mae o ar ei orau. Mae ei feddwl o'n blino at gyda'r nos.' 'Ie', cytunodd O.J. a fu'n ddigon craff i glustfeinio ar eglurhad y nyrs ifanc. 'Mae Nyrs Williams yn llygad ei lle. Blino mae meddwl eich tad, fel mae 'nghorff innau'n blino wrth i mi eistedd yn y gadair olwyn 'ma drwy'r prynhawn.' Oedodd yr hen wr am eiliad gan edrych yn eiddigeddus unwaith eto ar gorff unionsyth y Doctor a safai wrth y ffenest. Yna trodd i edrych ar Emyr. Pesychodd a thorsythodd yn boenus yn ei gadair. 'Diolch ddywedaf i, am feddwl clir....a diolchwn i gyd am gael byw.' 'Ie,' atebodd Emyr gan edrych ar ei dad. 'Rhyfedd sut mae henaint yn effeithio ar y corff mewn amryw ffyrdd, yn dydi?'
Pwy Fydd Yma Ymhen Can Mlynedd?
PWY FYDD YMA YMHEN CAN MLYNEDD? (Ymson Beth, a weithiai fel nyrs yn y cartref). Rhaid i mi gyfadde nad oedden ni wedi bwriadu cychwyn teulu mor gynnar â hyn, ond pan ddeallodd Llyr a minnau, ychydig fisoedd ar ôl i ni briodi, fod y ddau ohonon ni yn mynd i ddod yn dri, bu'n rhaid eistedd a threfnu'r holl newidiadau y byddai'n rhaid eu gwneud ar gyfer y dyfodol agos. Anghofia i fyth mo eiriau Miss Elsie Pritchard pan gadarnhawyd y newydd da wrthi. 'Ydi hi'n wir be maen nhw'n ddeud wrtha i...fod 'na un bach ar y ffordd? Llongyfarchiadau ichi cariad - ac i'r gwr 'cw hefyd. Wrth gwrs, mi fydd rhaid ichi roi'r gorau i'r nyrsio 'na am y tro, a chithau â'ch dwylo'n llawn. Gadael i'r gwr ennill y bara menyn, dyna be ddweda i. Galwch fi'n hen ffasiwn os mynnwch chi - ond i be arall maen nhw da, deudwch? O, rydw i'n falch cofiwch!' Chwaraeodd sylwadau diflewyn ar dafod Miss Pritchard ar fy meddwl yn ystod misoedd cyntaf fy meichiogrwydd. Efallai bod synnwyr yn yr hyn a ddywedodd, meddyliais - ond eto, digon hawdd yw i hen ferch fel hi ddweud peth felly - doedd hi ddim yn siarad o brofiad personol wedi'r cyfan. Bu cryn drin a thrafod ar y mater rhwng Llyr a minnau dros ddegau o baneidiau o de ar hyd nosweithiau hir y gaeaf hwnnw. Roedd sylwadau Llyr yn dal dwr gan mai ef a enillai'r cyflog uchaf, ond roeddwn innau'n benstiff ac yn gyndyn iawn i gyfaddawdu. Roeddwn i wedi gweithio ar y ward honno ers i mi adael yr ysgol ac roedd gen i feddwl y byd o'm swydd a'm cydweithwyr. Does yna ddim llawer a all ddweud peth felly y dyddiau hyn, a dydy Llyr ddim yn un ohonyn nhw. Mi fuodd o'n ddigon cwynfanllyd ar adegau ynglyn â'r holl bwysau gwaith a'i hwynebai yn y banc. Bygythiodd roi'r ffidil yn y to cyn i reolwr newydd gael ei benodi rai misoedd ynghynt, ond pwysleisiai fod pethau wedi gwella ers hynny. Ond er gwaetha'r holl draethu a fu rhyngom, nid am y tro cyntaf yn fy mywyd, cyngor doeth fy mam fu'n gyfrifol am bigo fy nghydwybod. Dywedodd hithau pa mor bwysig fyddai'r blynyddoedd nesaf i ni fel teulu, ac yn bwysicach fyth pan ddeuai'r amser i edrych yn ôl arnynt. 'O edrych yn ôl,' meddai hithau, 'dydw i ddim yn gofidio i mi roi'r gorau iddi yn y Post pan oeddwn i'n disgwyl Rhys. Mae gen i atgofion melys amdanoch chi'ch dau pan oeddech chi'n fychan, ond ddim hanner gymaint ag a hoffwn. Efallai nad wyt ti'n ymwybodol ohono ar hyn o bryd, ond mae'r cyfnod hwn o'ch bywyd yn dueddol o hedfan. Cofia di hyn Beth, buan iawn mae babis yn tyfu'n bethau mawr ac annibynnol.' Roedd y penderfyniad i roi'r gorau i'm swydd yn Ysbyty'r Sir yn un anodd iawn i mi, ond felly y bu, ac o edrych yn ôl dros y pedair blynedd diwethaf, sylweddolaf fod gwirionedd mawr yng ngeiriau Mam. Ganwyd Dewi ar Fawrth y cyntaf gan lenwi ein bywydau â hapusrwydd ac addewid, yn union fel y cennin Pedr a dyfai i liwio'r ardd ar ôl llymder y gaeaf. Bu'n amser dedwydd iawn i ni. Atgofion melys o'r sugno a'r cnoi - y wên yn dod yn chwerthiniad iach. Gwylio'r cropian diwyd a thystio'r cam ansicr cyntaf. Clywed y mwmian diystyr yn datblygu'n eiriau mor bwysig - Ma..Mam, Da..Dad a Na..Nai..Nain. Ydi, mae'r cyfnod hwnnw'n drysor yng nghof Llyr a minnau bellach. Derbyniais rôl gwraig ty amser-llawn, a hynny'n fodlon a di-gwyn, er mawr syndod i Mam. 'Ti o bawb!' meddai hithau. 'Pwy fasa'n meddwl?' Ni chollais i'r gwaith yn yr ysbyty gymaint â hynny chwaith - roedd digon o bethau i'w gwneud gartref heb orfod poeni am hynt a helynt ward Dyfrdwy. Yn rhy fuan o lawer, daeth hi'n amser i ddechrau meddwl am ysgol feithrin. Anghofia i fyth y llaw fach dynn oedd mor gyndyn o ollwng ei gafael y bore hwnnw, ond ar ôl i mi sbecian, yn ddiarwybod iddo, trwy gil y drws am rai munudau, sylwais i'r dagrau ddechrau sychu, ac i'w sylw symud at y plant eraill a'r car bach coch ym mhen draw'r stafell. Mae'n debyg mai bryd hynny, wrth iddo redeg o'm gafael at y car bach coch bob bore, y sylwais i ar yr arwyddion cyntaf o'r annibyniaeth honno y soniodd Mam amdani. Cafodd Llyr a minnau hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd ar gyflog un, a phan ddechreuodd Dewi yn ysgol y plant mawr, chwedl yntau, sylwais mai fi oedd yn hiraethu wrth eistedd yn segur yn y ty, a hithau fel y bedd. Penderfynom ni felly, y byddai'n syniad da i mi chwilio am waith rhan-amser. Mae chwe mis wedi mynd heibio bellach ers i mi ddod yn aelod o staff yr Henlle. Ystyriaf fy hun yn ffodus iawn i gael gwaith unwaith eto, a hynny mewn lle mor gyfleus, heb fod ymhell o'r pentref. Er mai dim ond chwe mis dwi wedi bod yma, dwi wedi gweld llawer o fynd a dod yn barod. Dyna be sydd i'w ddisgwyl mewn cartref fel hyn mae'n debyg - hen bobl yn ein gadael a hen bobl newydd yn cymryd eu lle yn eitha buan. Allwch chi ddim bod yn rhy siwr pwy fydd gyda ni fory - rhywbeth yn debyg i ward Dyfrdwy, ond fod y rheiny'n gadael ar droed gan amlaf. Mae'n dipyn o agoriad llygad i weld rhai o'r criw sydd yma. Dyna chi Leusa Robaits, roedd hi'n andros o bishyn yn ei hamser ac yn dipyn o hogan yn ôl y sôn. Yr Iancs ar ei hôl hi un ar ôl y llall amser rhyfel - gwneud gwaith siarad i bawb, medda Nain un tro. Mae hithau bellach yn hen wreigen fusgrell a melynder ei chroen crebachlyd yn fy atgoffa o blanhigyn heb ei ddyfrhau. Bu unwaith yn ffrwythlon, ond o'i esgeuluso, mae'i ddail yn sych grimp a'i flodau wedi gwywo. Alla i gofio rhai ohonyn nhw pan oeddwn i'n blentyn, a rhai wedi hynny, yn bobl bwysig a fu'n weithgar iawn yn yr ardal - bellach maen nhw'n dihoeni a llesgáu mewn lle fel hyn. Roedd Robert Morris, neu Bob Ffisig fel y'i gelwid ef y tu ôl i'w gefn, yn fferyllydd ac yn gynghorydd lleol. Mae o'n ddigon ffwndrus y dyddiau hyn. Daeth chwithdod drosof y bore 'ma pan sylwais arno'n grynedig wrth y bwrdd brecwast, yn glafoerio uwd i lawr ei ên a'i drwyn yn diferu i'w fowlen. Rhyfedd nad oes ganddo fo a Doctor Gwynn fawr ddim i'w ddweud wrth ei gilydd y dyddiau hyn, a hwythau wedi bod yn gyfeillion mynwesol ar hyd y blynyddoedd. Maen nhw wedi drysu'n lân wyddoch chi - effaith yr holl nosweithiau 'na yn y Swan mae'n debyg! Roedd pawb yn gwybod pa mor hoff oedd y ddau gyfaill o'u diod. Roedd bechgyn yn yr ysgol yn arfer brolio eu bod nhw wedi bod yn sbecian drwy ffenest gefn y fferyllfa ambell noson, a bod Bob Ffisig a'r Doctor wrthi'n brysur yn gwneud chwisgi a chwrw cartref. Dywedodd Mam lawer gwaith ei fod o'n ddoctor da a chydwybodol, ond mai'r botel oedd ei wendid a'i elyn pennaf o. 'Mi fasa fo wedi colli ei drwydded yrru ers blynyddoedd,' meddai hithau, 'oni bai ei fod o wedi bod yn eithriadol o glen gyda theulu Sarjiant Parri yn ystod cystudd ei fam.' Dywedai ei bod hi'n ddigon hawdd sylwi pan oedd o dan ddylanwad y ddiod feddwol, ond doeddwn i ddim yn sylwi ar bethau felly cystal â Mam. Dwi'n cofio mynd i'w weld o yn y feddygfa pan oedd gen i ddolur gwddw un tro, a thro arall, mi ddaeth o i fyny'r grisiau i 'ngweld i yn y llofft pan o'n i'n symol iawn efo ffliw. Roedd hi'n arferiad ganddo fo i ddal fy nhafod i lawr gyda phren lolipop a gofyn i mi ddweud Aaaaa, a dwi'n cofio meddwl bryd hynny fod 'na arogl digri ac anghyfarwydd ar ei anadl, 'fatha'r hoglau oedd ar dreiffl Mam amser Dolig. Dyna'r hoglau y deuthum i'w gysylltu hefyd â phartis ffrindiau ysgol pan oeddwn yn fy arddegau. Rydw i'n cofio un o'r partis hynny ar nos Sadwrn arbennig pan oeddwn i'n un ar bymtheg. Roeddwn i wedi gwirioni 'mhen yn lân ar Llyr Evans, y bachgen o'r coleg chweched dosbarth yn y dref a ddeuai i Gaer Owain bob prynhawn Sadwrn i chwarae yn y gôl i dîm y pentre. Ond ni sylwodd Llyr ar ferch o'r pumed dosbarth yn syllu'n awchus arno drwy'r holl gyrff aflonydd a'r miwsig byddarol y noson honno. Roeddwn i wedi hen alaru ar ymdrechu'n ofer, ac er mor glòs ydw i at Bryn, fy nghefnder, suddodd fy nghalon i braidd pan fu'n rhaid i mi dderbyn ei gynnig arferol i 'ngherdded i adref. Cerdded i lawr y llwybr y tu cefn i'r eglwys oedden ni pan glywson ni leisiau uchel yn dod o gyfeiriad y fynwent. Sbeciodd y ddau ohonon ni dros ben y wal gerrig i ganfod Doctor Gwynn a Bob Ffisig yn eistedd ym mreichiau'i gilydd ar un o'r cerrig beddi. O feddwl yn ôl, mae'n debyg mai eistedd i gael seibiant oedd y Doctor a'r Fferyllydd, a hwythau ar eu ffordd adref ar ôl ymgais lew arall i wagio casgen yn y Swan. Dechreuodd Bryn chwerthin yn ddireidus wrtho'i hun pan glywodd y ddau'n malu awyr gyda'i gilydd. 'O Ddoctor a ffisigwr mawr y byd...' meddai Bob Ffisig gan godi ei ben i edrych at y lloer. 'Pwy fydd yma ymhen can mlynedd?' ychwanegodd y Doctor yn chwil. 'Neb, y diawled...' gwaeddodd Bryn o du draw i'r wal, 'os fyddwch chi'ch dau yn y lle 'ma yn hir iawn eto.' Gwyrodd Bob Ffisig ei ben o olwg y lloer uwchben a throdd at y wal yn llawer rhy sionc o ystyried ei gyflwr. Siglodd yn ansicr fel hen gwch ar donnau stormus y môr, a syrthiodd yn swp ar ei ben ôl gan dynnu'r Doctor i'w ganlyn. Gorweddai'r ddau yn y glaswellt hir a'u coesau i fyny'n yr awyr. Bu llonyddwch a thawelwch annifyr am rai eiliadau cyn i Bob ysgwyd ei ben a dod ato'i hun. 'Pwy ddiawl sy 'ne?...' holodd Bob yn ddig. 'Y tacle drwg!..' ychwanegodd y Doctor wrth iddo godi'n araf ar ei eistedd. Neidiais innau a chwarddodd Bryn yn uchel. Gafaelodd yn fy mraich yn dynn rhag i mi droi fy sawdl wrth i mi redeg i lawr y llwybr caregog yn fy sodlau uchel. Ie, mae'n chwith gweld dau gymeriad a fu mor ddylanwadol, os braidd yn anghyfrifol ar nosweithiau Sadwrn, bellach yn ddwlal mewn lle fel hyn! Peth rhyfedd ydi bywyd, yntê? A minnau'n cael pleser mawr o weld Dewi bach yn tyfu ac yn datblygu ar y naill law, ac yn cydymdeimlo â henaint a chystudd rhai o'r hen bobl yn yr Henlle 'ma ar y llaw arall - yn debyg iawn i wrthgyferbynnu blagur gwyrddion y gwanwyn a dail crin yr hydref. Mi fydda i'n 'y nghysuro fy hun weithiau drwy gofio bod yn rhaid i'r hen ddail syrthio i wneud lle i'r rhai newydd. Ond er i Bryn a minnau chwerthin llond ein boliau ar ben y digwyddiad hwnnw yn y fynwent flynyddoedd yn ôl, rydw i'n edrych i lygaid pell y Doctor weithiau ac yn sobri wrth gofio'i eiriau'r noson honno - Pwy fydd yma ymhen can mlynedd?
Un lem ei meddwl a miniog ei thafod fu Martha Tomos erioed. Roedd gan bawb ei lysenw ym mhentref Llanddelw, a Martha Mawth oedd hi i bawb y tu ôl i'w chefn, neu i'r dyrnaid hynny oedd yn ddigon dewr neu'n ddigon gwirion i'w galw hi'n hynny yn ei hwyneb! Roedd gan Martha y ddawn honno i roi pobl yn eu lle, pa un a oedden nhw'n gofyn amdani neu ddim. Byddai ffawd y sawl a'i cythruddai'n dibynnu'n llwyr ar sut hwyl oedd arni'r adeg honno. Pe digwyddai hi fod mewn hwyl go lew, byddai'r person a oedd wedi tynnu'n groes iddi'n ddigon ffodus i ddianc â rhyw fygythiad brathog. Ond os digwyddai rhywun fod yn ddigon anffodus i sathru ar ei chyrn pan oedd hi'n ddrwg ei thymer, yna Duw a'i helpo, byddai'n siwr o flasu mwy na miniogrwydd ei thafod! * * * * *
Prynhawn dydd Mercher oedd hi a bu Martha druan heb drydan er y noson cynt. Roedd Gwyn Bylb, gwr a fu'n gweithio i Manweb, ond a oedd bellach wedi cychwyn busnes ei hun yn y dref, wedi addo galw draw ryw dro'r prynhawn hwnnw i daro golwg ar ei bocs ffiwsus. Roedd hi'n hanner awr wedi dau, a Martha wedi hen ddiflasu ar aros, pan glywodd hi gnoc ar y drws. Cyn iddi ei agor, gwyrodd i sbecian drwy'r blwch llythyrau i weld pwy oedd yno. 'Helô, Mrs Tomos. Sut 'dach chi?' ebe rhywun a oedd wedi sylwi ar y blwch llythyrau'n agor ac wedi plygu i lawr ato. Nid oedd Martha'n gyfarwydd â'r llais. 'Be 'dach chi isho? Os ma casglu at Gymorth Cristnogol 'dach chi, dwi 'di rhoi yn y dre y bore 'ma.' 'Nage. Trefor sy 'ma. 'Trefor?' holodd hithau. 'Trefor pwy? 'Trefor Lewis...mab Ifor a Sarah Lewis.' 'Be wyt ti'n da 'ma?' 'Wedi dod i edrych ar y'ch 'lectric chi.' 'Ble mae Gwyn Bylb?' 'Ma ganddo fo joben fawr i lawr yn y dre. Dwi'n rhoi help llaw iddo fo pnawn 'ma. Ga i ddod i mewn? Ma 'nghefn i'n dechrau blino a mae pobol yn edrych arna i'n hurt.' 'Wyt ti'n dallt 'lectric, boi?' holodd Martha yn amheus. 'Mae Gwyn wedi dysgu'r basics i mi, a roeddwn i'n arfer 'i helpu o ar ddydd Sadwrn, cyn i mi adael yr ysgol a chael job yn y gwaith plwm 'cw.' Ar hynny gadawodd Martha ei gafael yn y sbring, a chaeodd y blwch llythyrau'n glep yn ei wyneb. Clywodd Trefor gadwyn yn rhyddhau ac agorodd y drws led y pen. 'Well i ti ddod i mewn, felly,' ebe Martha yn blwmp ac yn blaen. Camodd Trefor yn frysiog dros y rhiniog, yn falch o gael dianc o olwg ei chymdogion busneslyd 'Be 'di'r broblem Mrs Tomos?' holodd Trefor mewn llais swyddogol. 'Does gen i ddim 'lectric yn y ty. Dim golau na dim. Mi chwythodd 'na rywbeth neithiwr.' 'Ble ma'ch bocs ffiwsus chi?' Arweiniodd hithau ef at y twll dan grisiau yng ngwaelod y lobi. Agorodd yntau'r drws a syllodd i mewn. 'Ma hi fel bol buwch yn fa'ma. Allwch chi droi'r golau mlaen Mrs Tomos?...i mi gael gweld be dwi'n wneud.' Chwarddodd Trefor yn uchel pan welodd Martha'n ymestyn am y swits. 'Jôc, Mrs Tomos! Dim 'lectric, ylwch! Ha, Ha!' Ni ddywedodd Martha yr un gair, dim ond gwenu'n sarcastig. Gwyrodd Trefor i mewn i'r gwagle a chwifiodd ei fflachlamp yn y tywyllwch. Safai Martha y tu ôl iddo a gallai ei glywed yn chwerthin yn dawel wrtho'i hun. Crychodd ei thalcen yn flin. Dim ond ei ben ôl tew oedd yn y golwg a theimlai Martha fel rhoi cic iawn iddo i gau ceg y diawl bach clyfar. 'O ia, dyma lle ma'r drafferth,' meddai Trefor yn ddeallus. 'Mae angen gosod uned newydd yn f'ma - mae'r hen un wedi llosgi allan. Dydi hi ddim yn joben hir. Dwi 'di gosod lot iawn o'r rhain i Gwyn - mi fydda i 'di gorffen erbyn amser te, hei lwc.' 'Da iawn,' atebodd hithau. Dychwelodd Martha i'w chegin ac yno y bu hi am hydion yn gwneud cacennau. Wedi iddi dynnu'r cacennau o'r popty wrth ochr y tân, edrychodd ar y cloc - roedd Trefor wedi bod wrthi'n dadsgriwio ac yn dyrnu am dros ddwy awr. 'Be sy'n dy gadw di? Wyt ti bron â gorffen?' gwaeddodd hithau o'r gegin. 'Dim problem. Popeth yn iawn. Mi fydda i 'di gorffen toc,' atebodd yntau o'r lobi. Newydd ddechrau plannu ei bysedd i mewn i'r toes yr oedd Martha, pan glywodd hi ffrwydrad uchel o gyfeiriad y twll dan grisiau. Neidiodd Martha yn ei hunfan a rhedodd i'r lobi. Heb gael amser i sychu'i dwylo, fe orchuddiai'r blawd hwy fel pâr o fenig gwynion. Gwelodd olion mwg yn dod o gyfeiriad y twll dan grisiau a gallai arogli rwber yn llosgi. 'Wyt ti'n iawn, boi?' holodd Martha gan syllu'n bryderus i'r twll myglyd. Bu tawelwch llethol am rai eiliadau. Yna, clywodd besychiad, a chododd Trefor ei ben o ganol y mwg. 'D-d-dim p-problem...P-popeth yn iawn,' atebodd yntau. Roedd ei wyneb wedi duo a'i ysgwyddau'n grynedig. Roedd o'n amlwg wedi ei ysgwyd gan y ffrwydrad. Ailymddangosodd y rhychau blin ar dalcen Martha pan welodd nad oedd Trefor wedi gwneud niwed iddo'i hun. 'Be ddiawl wnest ti?' gwaeddodd yn frathog. 'W-wedi gosod ffiws las yn lle ff-ffiws goch...d-dwi'n meddwl,' atebodd Trefor yn ofnus. 'Ma'ch ll-llwybr trydan canolog chi wedi chwythu. Mae arna i ofn y byddwch chi yn y t-tywyllwch nes i mi gael g-gafael ar Gwyn. Alla i dd-ddefnyddio'ch ffôn chi am funud?' Pwyntiodd Martha yn ddiamynedd at ben draw'r lobi. 'Twmffat!' meddai wrthi ei hun. 'Pam oedd Gwyn Bylb yn gyrru ponsiwr fel hyn i dai pobl?' Dychwelodd Trefor ymhen ychydig gan wenu'n ansicr. 'Popeth yn iawn Mrs Tomos...Sy'm eisiau 'chi boeni. Mae Gwyn am ddod draw toc hefo bocs ffiws newydd. Fydd o ddim yn hir.' Ar ôl rhai munudau, daeth Trefor ato'i hun a cheisiodd ddarbwyllo Martha, a oedd wedi'i chynddeiriogi'n lân ar ôl gweld y llanast ar ei phapur wal yn y lobi. Mor druenus yr edrychai'r dail iorwg wedi'u pardduo gan y mwg. Ceisiai Trefor hel esgusodion dros wneud cymaint o smonach o bethau. 'Dwi ddim ar fy ngorau heddiw, a dweud y gwir. Dwi 'di blino'n lân. Allwch chi mo'i dal hi ym mhob man. Wyddoch chi ble'r oeddwn i am hanner awr wedi pump y bore 'ma? 'Ble?' holodd hithau'n ddiamynedd. 'Ar dop shafft yn y gwaith 'cw ar ôl gorffen shifft.' 'Piti ddiawl na fasa ti wedi bod ar ei gwaelod hi!' atebodd hithau'n swta. Sylweddolodd Trefor na châi lawer o gydymdeimlad gan Martha Tomos ac ofer fu ei ymdrech i guddio'r ffaith na wyddai ryw lawer am gymhlethdod y llwybr trydan canolog yn y twll dan grisiau. 'Oes 'na obaith am baned o de tra dwi'n aros am Gwyn?' holodd Trefor 'Dwyt ti ddim 'di gwneud llawer i haeddu paned eto, myn dian i.' 'Alla i gael cwpaned o ddwr 'ta?' holodd heb anobeithio'n llwyr. Ar hynny collodd Martha ei limpyn yn llwyr a bloeddiodd arno'n ffyrnig. 'Dos allan i'r buarth 'cw, washi, a mi gei di fwcedaid!' Cafodd Trefor druan brofiad digon amhleserus y prynhawn hwnnw. Ni wyddai beth achosodd y sioc fwyaf iddo, ai ffrwydrad y bocs ffiwsus neu ergyd coes brws llawr Martha mewn lle tendar. Ond gwyddai Trefor am un peth yn sicr - roedd y shafft yn Efail Wen yn lle mwy diogel o lawer na'r twll dan grisiau yn nhy Martha Tomos.
Roedd hi'n brynhawn Sadwrn glawog yn Llanddelw, a cheisiai Martha wibio o un siop i'r llall rhwng cawodydd. Prynodd beint o lefrith a dwy dorth o'r siop fara ar y gornel, a dechreuodd gerdded i lawr Stryd Ioan i gyfeiriad y farchnad. Roedd yr awyr wedi tywyllu eto, a phan deimlodd hi ddafnau llaith ar ei hwyneb, mentrodd i mewn i'r Wisg Sidan, siop ddillad ddrud i ferched. Safai dynes y siop ar y carped moethus yng nghanol y dillad amryliw. Roedd yn amlwg ei bod hi'n gweithio yno. Hi oedd yr unig un heb gôt ac nid oedd ei gwallt wedi'i anesmwytho gan y gwynt. Gwisgai ffrog ddrud amdani. Roedd y colur yn dew ar ei hwyneb a'i gwefusau wedi'u plastro â minlliw llachar. 'Roedd hi'n nodweddiadol o'r merched a weithiai mewn siopau fel hyn,' meddyliodd Martha wrthi ei hun. 'Pwy arall fyddai'n gwisgo esgidiau o'r fath ar ddiwrnod mor drychinebus?' Safai'n sidêt gan ddal ei dwylo segur a sbecian o gornel ei llygaid ar rai a fyseddai'r dillad. Ni fu Martha yn Y Wisg Sidan o'r blaen, gan y gwyddai na allai fforddio'r prisiau drud. Ni fwriadai brynu dim oddi yno, ond gan ei bod hi'n bygwth bwrw hen wragedd a ffyn y tu allan, a hithau wedi gadael ei hymbarel adref, ni welai ddim o'i le mewn bwrw golwg o amgylch y siop nes iddi ostegu ychydig. Gafaelodd Martha mewn sgert ddu a theimlodd lygaid dynes y siop wedi'u hoelio arni. 'Oes gynno chi un o rhain mewn e'tin?' gwaeddodd Martha. Cododd y ddynes ei thrwyn a gwenu'n sur. 'Mae gen i un ar ôl yn y cefn. Ydych chi am i mi 'i nhôl hi ichi?' holodd yn gyndyn. 'Na,' atebodd Martha gan godi ei thrwyn yn ôl arni. 'Dwi ddim yn licio'i defnydd hi lawer.' Gafaelodd Martha yn un o'r sandalau duon a orweddai'n rhes daclus ar ochr y wal. Ciciodd un o'i hen esgidiau i ffwrdd a gwthiodd ei throed chwith i mewn i'r sandal dynn. Cawsai drafferth i gael ei sawdl i mewn a daeth dynes y siop i'w chynorthwyo rhag iddi rwygo'r strapiau simsan. Gwyrodd hithau y tu ôl i Martha i agor y bwcwl. Ar hynny, torrodd Martha wynt mwyaf amhleserus yn ei hwyneb. 'Sgiws mi,' meddai Martha. 'Pys amser cinio.' Torsythodd y ddynes gan ddal ei hanadl a chrychu ei thrwyn. 'Ffiaidd..' meddai o dan ei gwynt. Yna, cododd yn sydyn a chymerodd gam yn ôl. Trodd Martha a sibrydodd wrthi gan wenu: 'Dwn i ddim amdanoch chi, del, ond oni bai fod gen i dwll yn 'y mhen ôl, mi faswn i wedi bostio ers blynyddoedd!' * * * * * Sylwodd Martha fod y gawod wedi mynd heibio. Llithrodd ei throed yn ôl i'w hen esgid gyfforddus, ac er mawr ryddhad i'r ddynes, trodd ar ei sawdl a brasgamodd allan o'r siop. Trodd am eiliad i edrych drwy'r ffenest. Roedd dynes y siop yn gafael yn ei thrwyn ac yn chwistrellu potel o Chanel o'i chwmpas. Gwenodd Martha'n fodlon a chychwynnodd ar ei ffordd i lawr at y farchnad. Pan gyrhaeddodd Martha'r farchnad roedd rhes hir o bobl wrth stondin Joe Ellis, ond manteisiodd ar y cyfle i arbed amser pan sylwodd fod gweinidog Bedyddwyr newydd y dref yn sefyll ryw ychydig o'i blaen hi. 'Sgiwsiwch fi, Mr Ifans,' meddai Martha wrtho. 'Ga i ddod o'ch blaen chi yn y ciw? Dwi 'di cael daliad y bore 'ma, a dwi'n rhedeg braidd yn hwyr.' 'Cewch, siwr iawn,' atebodd yntau. Gwthiodd Martha ei hun i mewn i'r rhes, er mawr syndod i'r rhai a safai'r tu cefn i'r gweinidog. 'Sut 'dach chi'n setlo?' holodd Matha. 'Yn dda iawn diolch,' ebe yntau. 'Maddeuwch i mi -ydych chi'n un o fy mhobl i? 'Dwi ar eich llyfrau chi, ond dwi ddim yn un o'ch ffyddloniaid chi,' atebodd hithau'n ddiflewyn ar dafod. 'Martha 'di'r enw.' 'Martha... Martha Tomos, ie?' 'Ia. Sut gwyddoch chi?' 'O...' oedodd y gweinidog. 'Dwi wedi clywed llawer o sôn amdanoch chi. 'O, felly wir?...' 'Dywedwch i mi, Mrs Tomos,' meddai'r gweinidog er mwyn troi'r sgwrs. 'Allwch chi fy nghyfarwyddo i at y swyddfa bost? Mae gen i lythyr pwysig i'w bostio.' 'Mae'r post ym mhen draw'r dre - heb fod ymhell o'ch capel chi. Rhyfedd nad ydach chi 'di sylwi arno fo o'r blaen.' 'Alla i dy helpu di, Martha?' holodd y cigydd o du draw i'r cownter. 'Be sgin ti heddiw, Joe? Ydi'r porc 'na'n ffres? 'Dwi 'di 'i gael o ers ddoe.' 'Be wyt ti 'di gael i mewn heddiw?' 'Sosej.' 'Blydi sosej,' ebe Martha'n gwynfanllyd. 'Maen nhw'n rhoi pob math o sothach yn rheiny. Mi ga i bwys o facwn gen ti, a thyrd â'r darn 'na o gig oen i mi,' meddai Martha gan bwyntio'i bys ato. 'Yr un ar y chwith.' Wedi i Martha dalu i Joe am y cig, a'i roi yn ei basged, magodd y gweinidog ddigon o hyder i'w holi. 'Pam na ddowch chi atom ni i Salem, Mrs Tomos?' 'Wel, a dweud y gwir, Mr Ifans, dydw i ddim yn gweld llygad yn llygad gyda rhai o'ch pobl chi.' Edrychodd Martha ar ei horiawr. 'Rhaid i mi ei throi hi. Neis siarad gyda chi, Mr Ifans.' Cerddodd o'r stondin a chlywodd lais y gweinidog y tu cefn iddi. 'Dowch i'r oedfa bore fory, Mrs Tomos, ac fe ddangosa i ichi'r ffordd i'r nefoedd.' Trodd hithau ato a chwarddodd yn uchel. 'Y chi - ddangos i mi - y ffordd i'r nefoedd? Allwch chi ddim ffeindio'ch ffordd i'r Post!' Disgynnodd wyneb y gweinidog a phesychodd yn annifyr. 'Dydd da i chi, Mrs Tomos,' meddai gan wenu'n chwit chwat arni. 'Adre amdani,' meddai Martha wrthi'i hun. Roedd hi wedi cael llond bol ar bawb a phopeth yn y dref y prynhawn hwnnw. * * * * Cerddodd yn ôl am adref gan adael prysurdeb y dref y tu cefn iddi. Dringodd allt y Bryngwyn at ei thy, ac yna i goroni prynhawn Sadwrn annifyr, wrth iddi ymestyn am glicied y giât, syrthiodd un o'r torthau bara allan o'r fasged orlawn. Gwyliodd hithau'r dorth gron yn troi'i lliw wrth iddi rowlio i lawr yr allt drwy'r pyllau dwr. Teimlai Martha rywbeth yn berwi y tu mewn iddi. Yna, cipiodd y dorth arall o'i basged, a gwyrodd i lawr fel pe bai'n chwarae bowls. 'A dos dithau ar ei hôl hi hefyd!' gwaeddodd Martha'n flin. Ac ar hynny, taflodd y dorth nes ei bod hi'n adlamu i lawr y llwybr anwastad i'r un cyfeiriad â'r llall. Brasgamodd i fyny'r llwybr at y ty a chaeodd y drws yn glep ar ei hôl, gan adael ambell gymydog busneslyd yn syllu'n anghredadwy drwy'r ffenest ar ddwy dorth yn rhowlio i lawr yr allt, ac allan o'u golwg.
Ymestynnodd Ifor ei fraich ar y bwrdd o'i flaen a chafodd gipolwg bach slei ar ei oriawr unwaith eto. Roedd hi'n hanner awr wedi pedwar. Bu'n brysur yn gwneud nodiadau ers iddynt ailgychwyn ar ôl yr awr ginio. Roedd nodiadau sesiwn y bore eisoes yn ei gês, a syllodd i lawr ar y swp nodiadau o'i flaen. Safai gwr ifanc wrth ben y bwrdd yn traethu am bwysigrwydd cwtogi ar hyn a'r llall er mwyn sicrhau buddiannau'r cwmni. Nid oedd hi'n ystafell fach ond gwnai'r bwrdd enfawr a'r holl gadeiriau o'i amgylch iddi edrych yn gyfyng. Roedd hi'n boeth iawn yno hefyd ac oherwydd ei lleoliad yng nghanol yr adeilad, nid oedd ynddi ffenest ac ychwanegai hynny at yr awyrgylch glostroffobig. Aeth y llanc hyderus ymlaen i gloriannu prif bwyntiau ei ddarlith unwaith eto gan oedi bob hyn a hyn i sgriblo ychydig eiriau ar y bwrdd gwyn wrth ei ochr, ond roedd meddwl Ifor wedi dechrau crwydro ers tro bellach. Craffodd o gornel ei lygaid ar yr wyth arall a eisteddai o amgylch y bwrdd a sylweddolodd nad ef yn unig oedd wedi syrffedu ar druth Mr Long B.Sc. Roedd pawb wedi rhoi eu beiros i lawr ers tro ac roedd dau ohonynt wedi cau eu ffeil nodiadau. Roedd yn gas gan Ifor gyrsiau fel hyn. Gwastraff amser ac adnoddau oeddynt yn ei farn ef, ond gan iddynt ddod yn orfodol yn sgil yr holl newidiadau a fu y llynedd, bu'n rhaid iddo frathu ei dafod a bodloni ar y ffaith eu bod bellach yn rhan o'i swydd. Yr unig fantais a oedd gan gyrsiau deuddydd yng ngolwg Ifor oedd y'u cynhelid nhw i gyd i lawr yn y de. Roedd y cwmni wedi bod yn hael iawn â'u costau teithio a chafodd dâl digonol ar gyfer aros dwy noson mewn gwesty. Un garw fu Ifor erioed am ganfod ffordd i arbed ceiniog neu ddwy. Ni welai ef ddiben mewn talu trwy'i drwyn am noson yn un o westai crand y ddinas a rhyw fymryn o jam ar groissant i frecwast. Roedd yn well ganddo ef deithio ychydig filltiroedd allan i un o dai fferm y wlad a gynigiai noson dawel o gwsg a llond bol o frecwast seimllyd am bris rhesymol. Erbyn i Ifor adael y brif swyddfa a cherdded y chwarter milltir i'r maes parcio, roedd wedi penderfynu i ba gyfeiriad yr âi i chwilio am lety. Roedd ei frawd yng nghyfraith wedi sôn am hen dy fferm ag iddo enw da. Cofiodd eiriau Trefor: 'Glan Afon - hen dy fferm wedi'i addasu, ar yr ochr chwith ryw ddwy filltir y tu draw i Frynsalem. Croeso iawn, a phrisiau rhesymol, meddan nhw - gei di nunman gwell ffor'na.' Ar ôl chwarter awr ddiflas y tu ôl i'r olwyn, cyrhaeddodd Ifor bentref bach Brynsalem. Ryw chwarter milltir o dai y naill ochr i'r ffordd a thri chapel enfawr, siop bost a thafarn yn eu plith. Lledodd y ffordd ymhen ychydig, a chyflymodd y cerbyd unwaith eto. Edrychodd Ifor yn ei ddrych yn ysbeidiol ac wedi i arwydd y pentref ddiflannu y tu cefn iddo, cododd ei droed oddi ar y sbardun a dechreuodd gadw golwg am y ffermdy. Ar ôl trofa gas yn y ffordd, gwelodd fwlch yn y clawdd a'r llythrennau bras 'GLAN AFON B&B - CROESO' wedi'u peintio'n wyn ar arwydd gerllaw. Trodd Ifor i mewn a gyrrodd yn araf i fyny'r llwybr cul nes cyrraedd y ffermdy mawr. Roedd Land Rover mwdlyd wedi'i barcio ym mhen pellaf yr iard, ond nid oedd cerbyd arall i'w weld yn unman. 'Dwi 'di bod yn lwcus,' meddyliodd Ifor wrtho'i hun. 'Dydyn nhw ddim yn rhy brysur. Siawns y ca i le yma heno.' Cerddodd at y drws. Nid oedd cloch i'w gweld yn unman arno. Cododd ei ddwrn at y drws, ond agorodd hwnnw cyn iddo gael cyfle i gnocio ar y derw trwchus. Cafodd groeso anghyffredin o glên gan y wraig ganol oed a rhoddodd hithau ddewis iddo o bedair llofft wag. Dewisodd Ifor lofft yng nghefn y ty. Roedd wedi cymryd ffansi at y gwely mawr, ac roedd dwy ffenest sylweddol ynddi. Edrychodd Ifor drwy un o'r ffenestri a rhyfeddodd at yr olygfa brydferth o'i flaen. Edrychodd i lawr y cae serth yng nghefn y ty. Gallai weld dros bennau'r coed bedw ac i lawr at yr afon lydan a ystumiai'n araf wrth droed y bryncyn. 'Mor wahanol yw hon i'r hen stafell gyfyng 'na y treuliais y rhan fwyaf o'r diwrnod ynddi,' meddyliodd wrtho'i hun. Wedi iddo dynnu ei ddillad a'i daclau ymolchi allan o'i fag, edrychodd ar ei oriawr a chafodd gipolwg drwy'r ffenest. Roedd ganddo ddigon o amser i fynd am dro bach cyn iddi ddechrau nosi a byddai tipyn o awyr iach yn gwneud byd o les iddo. Aeth i lawr y grisiau a holodd wraig y ty a allai fynd am dro i lawr i waelod y bryncyn. Edrychodd hithau braidd yn bryderus ac awgrymodd os oedd yn rhaid iddo fentro allan i'r cefn, yna y dylai gadw at y llwybr, ac nid oedd, ar unrhyw gyfrif, i fentro i lawr at lan yr afon oherwydd bod y tir yn gorsiog iawn yno yr adeg hon o'r flwyddyn, ac y bu ambell i dirlithriad yno yn y gorffennol. Sylwodd Ifor mor anheini ydoedd erbyn iddo gyrraedd pen y llwybr ger y coed bedw. Trodd i edrych yn ôl i fyny'r bryncyn at y ty. Roedd dafnau o chwys ar ei dalcen a bron nad oedd yn difaru erbyn hyn iddo daro ar y syniad o fynd am dro. Roedd ar fin cychwyn yn ôl i fyny'r llwybr serth pan glywodd lais dwfn heb fod ymhell oddi wrtho. Oedodd Ifor am rai eiliadau, ac yna clywodd y llais eto, ond yn agosach y tro hwn. Roedd yn dod o ben draw'r coed, ond roeddynt yn rhy drwchus iddo weld y tu draw iddynt. Gwelodd gamfa dros y wal ym mhen y llwybr. Cofiodd am gyngor y wraig i gadw at y llwybr, ond roedd am wybod pwy oedd yr ochr draw i'r coed. Camodd dros y gamfa'n ofalus a cherddodd yn ofalus drwy'r coed a'r mieri. Clywodd y llais yn galw eto. Llais gwr ydoedd, yn bendant, yn galw'r enw - 'Iestyn...Iestyn.' Wrth iddo nesáu at ben draw'r tyfiant o goed, gallai weld amlinelliad o gorff gwr a safai â'i gefn ato. Roedd y gwr yn sefyll yn eithriadol o agos at lan yr afon. Oedodd Ifor am ennyd pan gofiodd am rybudd y wraig i gadw'n glir o lan yr afon - rhywbeth am beryglon tirlithriad, neu rywbeth. Ond roedd y ddaear yn sych iawn o dan ei draed ac ymddangosai'r tir lle safai'r gwr yn weddol gadarn. Edrychai'r gwr yn debyg i ffermwr. Os oedd glan yr afon yn ddigon diogel i wr lleol ymddiried ynddo, yna roedd yn ddigon da iddo ef, meddyliodd wrtho'i hun, ac ar hynny, camodd Ifor allan o'r coed i wynebu'r gwr. 'Helô, syr,' ebe Ifor. 'Sut hwyl sydd?' Ni throdd y gwr ato, dim ond parhau i syllu dros yr afon i'r pen draw. 'Iestyn?!...Iestyn?!...,' parhaodd y gwr i weiddi. Camodd Ifor yn nes ato fel ei fod ef hefyd yn sefyll ar fin yr afon, a blaenau ei esgidiau yn pwyso dros ymyl y tir tywodlyd. Trodd y gwr ei ben yn araf, ac edrychodd i fyw ei lygaid. Roedd golwg bell yn llygaid y gwr. Sylwodd Ifor yn fanylach ar ei wisg a daeth i'r casgliad mai ffermwr ydoedd. Gwr canol oed ydoedd, ond edrychai'n hyn na hynny. Roedd ambell noson o dywydd garw wedi gadael eu hôl ar ei wyneb rhychlyd, ond synnodd Ifor mor welw oedd lliw ei groen o ystyried y misoedd poeth a fu. Parhaodd y gwr i edrych ato, ond ni ddywedodd yr un gair. Teimlai'r ychydig eiliadau o ddistawrwydd fel oes. Roedd golwg bell yn ei lygaid a dechreuodd Ifor deimlo'n annifyr wrth i'r dieithryn syllu drwyddo fel pe na bai yno. Ceisiodd Ifor gychwyn sgwrs eto. 'Wedi colli rhywun 'dach chi?' Y tro hwn, nodiodd y gwr arno, a chaeodd ei lygaid yn araf cyn troi i syllu eto dros yr afon. 'Iestyn?!...' gwaeddodd eto'n annisgwyl gan beri i Ifor neidio a chamu'n ôl. '...Iestyn?!' Casglodd Ifor oddi wrth ymddygiad y gwr nad oedd yn mynd i gael llawer o sgwrs ag ef. 'Wel, mi adawa i chi 'ta...Sori'ch distyrbio chi, a gobeithio y gwnewch chi'i ffeindio fo cyn iddi nosi.' Trodd Ifor a cherddodd yn ôl at y coed. Oedodd am ennyd, a chlywodd lais oeraidd y dyn y tu cefn iddo. 'Hen afon enbyd yw hon. Mae golwg mor llonydd a thawel arni wrth iddi ystumio'n araf. Ond peidiwch chi â gadael iddi hi eich twyllo chi - mae'r nant fach sionc a disglair wedi tyfu ac wedi datblygu'n beth cyfrwys a thwyllodrus. O dan yr wyneb swrth, fe geir ffrydiau aflonydd sy'n ddigon abl i sugno'r nofiwr cryfaf i'w pherfeddion tywyll...Yno, cewch eich taflu a'ch chwyrlïo yn eich hunfan nes achosi penysgafndod...Yn y man, fe â'r ffrwd yn ei blaen a'ch gollwng o'i chrafangau - fel y blina'r ci defed 'cw ar lygoden fawr pan â'n ddiymadferth rhwng ei ddannedd. Erbyn hynny, mae'r ysgyfaint yn prysur lenwi â'r dwr dudew, a'r coesau gwan wedi'u clymu'n dynn yn y cawn dryslyd...Ie...hen afon greulon a didrugaredd. Cadwch yn ddigon pell oddi wrthi...hen jaden ydi hi!' Rhewodd Ifor yn ei unfan a rhuthrodd ias oer i lawr ei gefn wrth iddo feddwl amdano'i hun yn y fath drybini. Roedd trychineb o'r fath yn fyw o flaen ei lygaid. Ymhen ennyd, daeth ato'i hun. Trodd yn ôl i gyfeiriad y llais cras, ond roedd y gwr eisoes wedi dechrau cerdded yn ei ôl ar hyd glan yr afon. 'Am ddyn od,' ebe Ifor wrtho'i hun. Ac ar hynny, camodd yn frysiog drwy'r coed ac yn ôl am y gamfa a'r llwybr y dylai fod wedi cadw ato fel y'i cynghorwyd gan wraig y ty. * * * * * Cysgodd Ifor yn drwm y noson honno. Roedd effaith y cwrs llafurus y diwrnod hwnnw a'r awyr iach a gafodd y noson honno wedi ei flino'n llwyr. Yr unig dro iddo gofio deffro oedd rywbryd tua dau o'r gloch. Clywodd swn ergyd yn y pellter - ergyd gwn? 'Potsiwr neu gipar efallai,' meddyliodd Ifor ar y pryd. Neu hwyrach iddo freuddwydio'r peth yn ei drwmgwsg - pwy a wyr? Tra'n bwyta'i frecwast fore trannoeth, penderfynodd Ifor gadw'n dawel wrth wraig y ty am y gwr ar lan yr afon y noson cynt. Teimlai fel y bachgen hwnnw, flynyddoedd ynghynt, a adawodd iard yr ysgol i nôl y bêl, a hynny heb ganiatâd yr athrawes. Cau ceg fyddai orau, rhag ofn iddi ei ddiystyru am anwybyddu ei chyngor. Yn y man, diolchodd Ifor i'r wraig am ei chroeso, ac am y brecwast diguro. Dywedodd y byddai'n ei gweld eto'r noson honno a chychwynnodd yn ôl am ddiwrnod diflas arall yn y ddinas. Ni allai ddeall pan nad oedd mwy o fynd a dod yn y lle. Tybiai efallai nad oedd llawer yn gwybod amdano. * * * * * Ifor oedd y cyntaf i gyrraedd yr ystafell fechan, ddiffenest, ac eistedd i lawr wrth y bwrdd mawr. Cyn hir, cyrhaeddodd gwr arall ac eisteddodd nesaf ato. 'Gawsoch chi le da i aros neithiwr?' holodd Ifor. 'Rwy'n byw'n lleol, diolch byth,' atebodd yntau. 'Gefais i noson o gwsg yn fy ngwely fy hun. Alla i yn fy myw â chael noson dda o gwsg mewn gwely diarth. Ym mha westy fuoch chi?' 'Wel, mi es i allan i le Gwely a Brecwast y tu draw i Frynsalem.' 'Dyna fy mhentre genedigol i. Ble fuoch chi'n aros?' 'Mewn ffermdy ryw ddwy filltir y tu draw...Ymmm...' 'Dim Glan Afon?' holodd y gwr braidd yn betrusgar. 'Ie, pam? 'Dach chi'n gyfarwydd?' 'Ydw. Gawsoch chi groeso gan Eluned Jones?' 'Do,' atebodd Ifor. Oedodd y gwr cyn mynd yn ei flaen. 'Trist...trist iawn wir...yr hyn ddigwyddodd yno...' 'Be ddigwyddodd yno?' holodd Ifor yn bryderus. 'Wyddoch chi ddim am y drychineb a fu i lawr wrth yr afon yno?' Nid atebodd Ifor ef, dim ond ysgwyd ei ben a syllu yn anghredadwy ar y gwr fel pe bai wedi torri hunllef iddo. 'Mae'n syndod fod y wraig cystal. Mi gollodd hi a'i gwr eu hunig blentyn ryw ddwy flynedd yn ôl. Efallai ichi glywed ar y newyddion bryd hynny. Fe fu 'na chwilio mawr ar hyd yr ardal am ddyddiau. Roedd 'na ofnau ar y pryd ei fod o wedi cael ei gipio, ond fe gawson nhw hyd i'w gorff o ryw bum milltir i lawr yr afon.' Parhaodd Ifor i wrando ac ysgwyd ei ben yn anghredadwy. Aeth y gwr yn ei flaen â'r stori. 'Roedd hi'n anodd iawn. Roedd yr holl ardal wedi ei hysgwyd gan y fath drychineb. Ond roedd ei dad yn pallu derbyn y peth o gwbl. Roedd o'n beio'i hun am yr holl beth. Roedd y crwt...Iestyn?...Ie, Iestyn - adref gyda'i dad y p'nawn hwnnw pan aeth o ar goll.' Petrusodd Ifor pan sylweddolodd mai ef oedd y gwr a welodd wrth lan yr afon yn galw allan enw'i fab. Aeth y gwr yn ei flaen. 'Yn ôl y sôn, aeth Tomos Jones i lawr at lan yr afon bob bore a phob nos i chwilio am ei fab hyd at flwyddyn i'r diwrnod o'i ddiflaniad. Hyd y diwedd, fe allwch chi ddweud!' Am yr eildro o fewn ychydig amser, rhuthrodd ias arall i lawr ei gefn. 'Hyd y diwedd? Beth ydych chi'n feddwl?' holodd Ifor. 'Wel,' atebodd y gwr. 'Flwyddyn i'r diwrnod ar ôl boddi'r bachgen, fe dderbyniodd Tomos Jones druan nad oedd yn mynd i ddod o hyd i'w fab. Fe aeth i lawr at lan yr afon yn ystod oriau mân y bore wedyn...ac fe saethodd ei hun...Ie, trist iawn.' Rhewodd corff Ifor yn y fan a'r lle a daeth braw dros ei galon pan sylweddolodd iddo ddod ar draws cymeriad o'r fath ar lan yr afon honno neithiwr. Cofiodd mor dawel ac unig oedd hi yng Nglan Afon. Clywodd adlais Eluned Jones yn ei rybuddio i gadw'n glir o'r afon. Cofiodd am wyneb gwelw'r gwr a'r olwg oeraidd a phellennig oedd yn ei lygaid. Cofiodd hefyd am yr ergyd a glywodd - a hynny yn oriau mân y bore! Clywai Ifor guriadau ei galon yn byrlymu yn ei glustiau pan sylweddolodd oblygiadau ei brofiad y noson cynt. Er mai nhw yn unig oedd yn yr ystafell, closiodd y gwr yn nes ato a sibrydodd yn ei glust. 'Mae 'na sôn, wyddoch chi, os ewch chi am dro ar hyd glannau'r afon fin nos, yna fe glywch chi lais Tomos Jones yn galw allan. Ond sothach ofergoelus yw hynny, dybiwn i. Hen bobol a chanddyn nhw ddim gwell i'w wneud na hel cleps am ysbrydion a phethau digri felly.' Oedodd y gwr am ychydig pan sylwodd fod wyneb Ifor fel y galchen a'i ddwylo yn crynu fel deilen. 'Welsoch chi rywbeth...ymm...sut alla i ddweud? - allan o'r cyffredin tra fuoch chi yno?' 'Naddo,' atebodd Ifor â chryndod yn ei lais. 'D-dim byd allan o'r cyffredin.'
|
|