www.barddoniaeth.com Ymryson

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Casgliad o Straeon
Y Cerddi
Ymryson
 

 

Ymryson yn y Cwps

 

3ydd o Orffennaf, 1997 (Ymddangosodd ar dudalenau GweFr y diwrnod wedyn!)


Pedwar tim: Y Cwps, Ffair Rhos, Gwesty'r Emlyn a Darlithwyr o'r Coleg;
Tegwyn oedd y `meuryn'. Cyfraniad Manon Roberts, Aberystwyth.

CYNOG

Roedd haf a'i hud ar Ddyfed
Awyr las, a ffydd ar led
Calan Mai wefreiddiai'r fro'n
Argoeli hwb i'r galon,
Yn ein gwadd yng nghan y gog
I sgwennu croes dros Gynog

Yn galennig eleni
Mwy na haf roes Mai i ni
Rhoes inni Geredigion,
Rhoes in fwy, rhoes inni Fon
Ac Arfon a Meirionnydd
Eto'n un ar derfyn dydd.

Ac i Gynog ei hunan
Hael y rhoes yn ol i'w ran
Ei deyrnas heb ei darnio
A heb warth, ac felly y bo'n
Darian werdd, yn Dir Na-n-Og,
Yn ddigonedd i Gynog.
Darl.

Prin oedd geiriau'n herwau ni
Iaith oedd heb obaith iddi,
I firi'r ddol, rhyw efrau ddaeth
A fridiwyd gan ryddfrydiaeth,
Nes troi twf y meistri tir
A'u ildio yn anialdir.

Aredig Ceredigion
Ebe rhai, ail-hau o'r bron,
A chael gwr o uchel gais
Heb ol edliw i'w bleidlais
I roi nol ar ein tir ni
Eu llain yng ngwisg y llwyni.

A hwn ddaeth yn syth i'r ddol
I'w waith ar ol ei ethol
I wneud ei siar, a pharod
Heddiw fydd, oherwydd fod
Mwy i'w roi i Gymru war
Na bod yn un o bedwar
G. Emlyn

Bu Seithenyn yn huno
yn y fan ers cyn co
a bro eiddil mewn breuddwyd
er bod lli di-arbed, llwyd
a'i fwd lle bu'n hiaith yn fyw;
ideoleg y dilyw.

Ond daeth un i'n dihuno
un a'i lais rhybuddiol o
yn gweld o bell, gweld y byd
ger y Bae yn gor bywyd;
gwr tawel y gorwelion
ond rhagfur dur yn ei don

Dyn i bawb, dyn y bobol,
a boi o'r wlad heb ryw lol.
Ei ardd goeth yn wyrdd i gyd,
a'r cof yn Gymreig hefyd.
Styfnig fu Ceredigion
ond i'w ddawn fe ildiodd hon.
Y Cwps

********************

Is y dwr didosturi - yn y dwfn
Dan y don bron trengi'
Ond mae Iachawr gerllaw'r lli
A byw fyddaf heb foddi.
FFair Rhos

Dwr y baddon rol cronni - yn uchelCYNOG

Roedd haf a'i hud ar Ddyfed
Awyr las, a ffydd ar led
Calan Mai wefreiddiai'r fro'n
Argoeli hwb i'r galon,
Yn ein gwadd yng nghan y gog
I sgwennu croes dros Gynog

Yn galennig eleni
Mwy na haf roes Mai i ni
Rhoes inni Geredigion,
Rhoes in fwy, rhoes inni Fon
Ac Arfon a Meirionnydd
Eto'n un ar derfyn dydd.

Ac i Gynog ei hunan
Hael y rhoes yn ol i'w ran
Ei deyrnas heb ei darnio
A heb warth, ac felly y bo'n
Darian werdd, yn Dir Na-n-Og,
Yn ddigonedd i Gynog.
Darl.

Prin oedd geiriau'n herwau ni
Iaith oedd heb obaith iddi,
I firi'r ddol, rhyw efrau ddaeth
A fridiwyd gan ryddfrydiaeth,
Nes troi twf y meistri tir
A'u ildio yn anialdir.

Aredig Ceredigion
Ebe rhai, ail-hau o'r bron,
A chael gwr o uchel gais
Heb ol edliw i'w bleidlais
I roi nol ar ein tir ni
Eu llain yng ngwisg y llwyni.

A hwn ddaeth yn syth i'r ddol
I'w waith ar ol ei ethol
I wneud ei siar, a pharod
Heddiw fydd, oherwydd fod
Mwy i'w roi i Gymru war
Na bod yn un o bedwar
G. Emlyn

Bu Seithenyn yn huno
yn y fan ers cyn co
a bro eiddil mewn breuddwyd
er bod lli di-arbed, llwyd
a'i fwd lle bu'n hiaith yn fyw;
ideoleg y dilyw.

Ond daeth un i'n dihuno
un a'i lais rhybuddiol o
yn gweld o bell, gweld y byd
ger y Bae yn gor bywyd;
gwr tawel y gorwelion
ond rhagfur dur yn ei don

Dyn i bawb, dyn y bobol,
a boi o'r wlad heb ryw lol.
Ei ardd goeth yn wyrdd i gyd,
a'r cof yn Gymreig hefyd.
Styfnig fu Ceredigion
ond i'w ddawn fe ildiodd hon.
Y Cwps

********************

Is y dwr didosturi - yn y dwfn
Dan y don bron trengi'
Ond mae Iachawr gerllaw'r lli
A byw fyddaf heb foddi.
FFair Rhos

Dwr y baddon rol cronni - yn uchel
Sy'n achos im boeni
Fe af a'r wraig gennyf i
A byw fyddaf heb foddi.
G Emlyn

(Rod Richards)
Be di'r ots i'r angor dorri? Ta waeth
fod twll yn y dingi
Gan taw dim ond gwynt ydw i
A byw fyddaf heb foddi.
Darl.

(Dic Sion Dafydd)
Y mae ynof bwysau meini - hen hil
A iaith fy rhieni
Yn llwfr fe'u lluchiaf i'r lli
A byw fyddaf heb foddi.
Cwps.

********************************

Nid ymlyn yr un dyn doeth
Fel gefel wrth ei gyfoeth

Ddoe'n ei breim a heddiw'n brae
`Outclassed', yn bwyta clustiau (Tyson)

Mae'r fflam las yn eirias nawr
daw'n lludw yn y llwydwawr
Darl.

Ar hyd llwybr seguryd
pellhau mae'r gripell o hyd

draw o'r rhych yr edrychwn
ar y grefft o agor grwn

mae i'r ifanc lanc ei gledd
mae i henwr amynedd
G. Emlyn

heddwch a phob dedwyddyd
mae'r drwg o'r golwg o hyd

mor bell mae'r llinell o hyd
i nifer, agos hefyd

mae hwyl yn troi i wylo
neu yn drais mewn dim o dro
FFair Rhos

os caiff dyn ei ddymuniad
a fydd hyn iddo'n foddhad?
mwy o werth na pherlau man
yw bib am wddw baban
daw gwaeledd a diwedd dyn
a marw wna pob meuryn
Cwps.

********************

WILLIAM HAGUE

Eilun y Ffionholics - i arwain
y Toris mewn panics,
gwr di-rawn, cul iawn i'r clics
Capten yr Ewrosgeptics
Ffair Rhos

Wrth y ford, pan fydd order - William Hague
sy'n stol Magi Thatcher
Tori a natur terier
yn tynnu blew Tony Blair
G Emlyn

Mae'n yr ardd flodau harddach - na'r ffion
sy'n bowio'n y bawiach
O barch i'r `sweet william' bach
Arloeswyr y wawr lasach.
Darl

 

 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.