GWEfr: Rhif 3
Y Cerddi:
Huw Dylan Owen, Dolgellau
Menna Elfyn
Ynyr Williams
Dafydd Evan Morris
Nici Beech
Portread o Nici Beech
Y Gadair
gan
Huw Dylan,
Llangwm
Mae alaw yn y moelydd, - swn awel,
Sain ieuanc ar fynydd,
Rhyw do^n a dawns aflonydd,
Hen gan ar y delyn gudd.
Alawon cain leni'n canu - a sain
Hir swynol yng Nghymru,
Cordiau caeth yn hiraethu
Nodau cerdd cyn oes tadcu.
Aros mae afiaith llenorion - mewn nant
Min hwyr heno'n Meirion;
Tincial yr haf mewn afon
Ac yn y lli canai'n llon.
Ynys
gan
Menna Elfyn
(Salm 104)
Ar ben y mynydd-dir, daw'r gwynt ar ffo
daw, fel ffroen yr ych, atoch,
daw'n hwrdd sy'n topi
daw a gwrid llencynaidd yn fochau fflam
daw ar duth traed y meirw
daw'n wylofain am lwyfan
daw, a'ch curo o'ch synhwyrau
ei chwibanogl ym mhob twll heb allwedd yn y clo
a thry'n gellweirus dro arall
pan ddaw'r eira i gadw'i gwmni
ac i ddileu ol troed bras yr eira
troi ei law'n gerflunydd lluwchfeydd
iconau gwynias ar ymyl cloddiau
yn allorau glân, ar ystlys ffordd,
yna, daw i draflyncu'r eira'n fedrus
cyn barbali straeon am y glog
chwifio'n chwareus ar ol snoched y plu,
unwaith eto, ail afael a'i hyder
i ysgwyd dynoliaeth, o'i chorun i'w thraed
a daw a'u negeswyr at ein drws i ddatgan
nad oes dim byd hyd yma yn sad.
Heddiw eto Wedi marw
gan
Ynyr Williams
Heddiw eto wedi marw
rhwng y gwely a'r gwin.
Haul arall wedi'i frifo
am einioes, mor ddiddymuniad.
Ffenest arall rhyngof a'r dydd
a'r plant diog yn chwythu'r dail
cyn i'r lleuad ansicr
wenu'n ein cwmni.
Paham rhwng anadliadau'r gwynt
ag oglau'r haul y doist?
A phaham rhwng y gacen
a'r gwaed yr est?
Paham na elli yn dy wychder
ateb y gofyn sy'n hyn na'r nos.
Disgyrchiant
gan
Dafydd Evan Morris
A Newton yn pendroni
Uwch ystyr ein natur ni,
yno daeth, a disgyn, do,
fel hwyrnos afal arno;
un afal dihafal oedd,
afal a phwys canrifoedd
yn ei gwymp, yn syrthio'n gaeth
er enyn fflach athroniaeth
ar ei ben ... mewn amser byr
i Isaac, dyna'i gysur
wrth ddeddfu, tra'n barnu bant
"Does gwarchod rhag disgyrchiant!"
Camau Cyntaf
gan
Nici Beech
(Hwn ydy'r y cywydd a ennillodd y
"Slam" neu'r "Stomp" Gymraeg i
Nici mis Mawrth, 1999 yng gwyl Ty Newydd yng Nghricieth. Llongyf am gerdd gret!!! -
Gol)
A minnau'n friwiau o fri,
yn storws o dosturi,
fel rhyw ddawn, a ddaw'n ddi-wad,
yn amlach fe ddaw'r teimlad.
Fo'n Jiwdas a fi'n jadan,
dyn a'i nerth sy'n ngwneud i'n wan!
Pam 'mod i, yn gi sy'n gaeth,
yn udo am warchodaeth?
Ond eto fyth, dwyt ti fawr
o arth-foi, dim byd gwerthfawr.
Un yfwr, un o nifer,
un llyfr o fewn blwyddlyfr blêr.
Un o griw i wella'r graith,
un neis - mi wnest am noswaith.
Ond heddiw y mae'r briwiau
mewn lliw ac er mwyn lleihau
y brad, rhaid cyrraedd y brig,
fi'n onest, a fi'n unig.
Ar ben ein rhestr roedd llestri
neis, ond mae'n anrhegion ni
bellach yn geriach i'w gwared.
Creiriau ynt o golli cred.
Ai hyn yw ein gwahanu?
Rhyw focs o wydrau a fu
unwaith yn ein cyfuno?
Nadu clwyf wrth newid clo
ein cyd-fyw; codi dau fys
ar yr allor, ewyllys
rhannu ar chwâl, anialwch
sy'n y gegin, a'r llestri'n llwch.
Ar llynedd, 'rwy'n cau'r llenni,
Ar y Ddoe mawr oedd i mi
Yn fwrn, ond eto, fe aeth.
Ac eleni, rhagluniaeth
hollol wahanol yw'r her.
Troediaf ar hyd tir hyder
Gyda'm rhwyd hel breuddwydion
A'm hunan-ffydd i mi'n ffon,
F'adduned yn garped gwyn.
Welwch chi'r cwch yn cychwyn?
A llid yn ei llywio hi?
Llechan lân fydd eleni.
Hunan bortread o Nici Beech
Dwi'n ferch 29ain oed, cefais fy magu yn Llangernyw mewn cartref
di-Gymraeg, dwi'n gweithio fel cynhyrchydd teledu yng Nghaernarfon a
dwi'n byw ym Mhontllyfni ers 9 mis.
Wrth gyfarfod Twm Morys ac Iwan Llwyd yn syth ar ôl iddyn nhw wneud yr
englyn "Glaw" yn Eisteddfod Llanelwedd, cefais deimlad cryf o "Wwwww,
dwi'sio darn o'r crac yna!"
Rhywbryd yn ddiweddarach cefais gafael ar copi o "Clywed Cynghanedd"
Myrddin ap Dafydd a cheisio mynd ati ar fy mhen fy hun ...gyda
chanlyniadau erchyll!
Cafodd un neu ddwy o nosweithiau difyr eu cynnal yn Nhafarn Y Werin
(heddwch i'w lwch) a wnaeth hogi fy awydd i ddysgu hyd yn oed yn fwy a
dyma Mei Mac yn cyhoeddi ei fod am ddechrau gwersi yn nhafarn y Ship &
Castle, Caernarfon.
1994 felly oedd y flwyddyn pan ddysgais y rheolau a dechrau sgwennu.
Dwi'n hoff iawn iawn o'r cywydd, yn hoffi'r englyn ac yn teimlo y dylwn
i ddysgu mwy am y mesurau eraill pan ga'i sachaid o amynedd.
Dwi'n gapten ar tim Talwrn Y Beirdd CRIW'R SHIP sef aelodau dosbarth Mei
i ddechrau ond erbyn hyn, fi + pwy bynnag arall ga'i. Dwi'n falch o
wneud y talwrn am y rheswm ei fod yn fy ngorfodi i sgwennu ond dydi'r
tim byth yn mynd yn bellach na'r ail "rownd". Mae'r ddwy ran ola'r
cywydd yn ddau gywydd sgwennais i'r talwrn dan y testunau 'Eiddo' a
'1999' ond mi oedden nhw'n dilyn yr un gyntaf a wnes i HEB UNRHYW
ORFODAETH heblaw isio arllwys fy nheimladau, felly mi rois i nhw efo'i
gilydd ar gyfer y Slam/Stomp ac yn ôl y sôn "cyfareddu'r gynulleidfa" i
ngwneud i'n fuddugol..
Mae gen i 4 cywydd yn y gyfrol Cywyddau Cyhoeddus 3.
Dwi'n hoff iawn o gael canmoliaeth :-)
|