Golygyddol
Dau fater y tro hwn:
Yn rhifyn Haf 1993 o'r Cylchgrawn Sglodion
(Cyhoeddwyd
gan MEU Cymru, Pontypridd), mi sgwenais erthygl am y rhaglen Genesis (gan
Oak Solutions). Rhagflaenodd y meddalwedd hwn Windows a'r egwyddor o agor
ffenestri ar sgrin y cyfrifiadur o rai blynyddoedd. Dyma ran o'r erthygl hono:
Yn hytrach na dilyn y patrwm llinellol
arferol (llyfr) ble yr awn o dudalen 1 i 6 yn gronolegol mae Genesis yn
ein galluogi ni i fynd i ba gyfeiriad ag y dewisiwn: llyfr aml-ddewis yn hytrach
na'r un confensiynol.... O roi clic-ddwbwl ar ffram betrual gallwn weld tudalen
lawn gyda chipluniau wedi eu tynnu gyda chamera fideo'r ysgol a'u digiteiddio....
Dyma hanfod rhagleni aml-gyfrwng wrth gwrs, cysylltu tudalenau (neu
ffenestri) efo'i gilydd yn anghronolegol; cedwir ein ffeiliau megis cabined
ffeiliau taclus ar ein cyfrifiaduron: llun ffeil felen ac is-ffeiliau oddi fewn
y ffeil dau ddimensiwn. Ceir nifer o safleoedd ar y we, bellach, sy'n
defnyddio'r trydydd dimensiwn. Nid ffenestr o fewn ffenestr ond drws yn arwain
at ddrws a'r cyfan mewn byd tri-dimensiwn.Cyn hir bydd ein system ffeilio
cyfrifiaduron yn adlewyrchu hyn: drysau neu geg i ni gerdded neu hedfan
drwyddynt. Activeworlds ydy fy ffefryn. Ein gwaith cyntaf ar ol glanio yn y byd
swreal hwn ydy dewis ein hedrychiad: dynes ddu, Tseini neu hyd yn oed wylan.
Does neb yn cerdded yn Activeworlds: arnofio yr ydym. Ac o'n cwmpas: arwyddion a
hysbysfyrddau (erchyllbethau) a thrwy'r rhain cewch fynediad i safleoedd eraill
- i fydoedd eraill - bydoedd o fewn bydoedd o fewn bydoedd tri dimensiwn,
rhithwir.
Gallwch brynu tir rhithwir, sef cof ar syrfyr y cwmni ac
adeiladu safle 3D. Er enghraifft gallwch wneud copi tri-dimensiwn o'ch gwesty
neu oriel a chaniatau i'ch darpar-gwsmeriaid arnofio drwyddo i weld sut le sydd
genych i'w gynig.
Cyn hir bydd ein porwyr ac yn wir ein peirianau archwilio yn
dri-ddimensiwn, rithwir gyda lluniau o safon fideo neu well yn ein cyrraedd i
lawr y we.
* * *
Pan gychwynodd y rhyngrwyd ychydig flynyddoedd yn ol, roedd
ysbryd rhyddid a chariad yn ymsymud ar wyneb y weiars. Roedd yr un ysbryd yn
fforwyr meddalwedd y saith a'r wythdegau: "freeware" oedd llawer o'r
stwff ar y
cychwyn - yn ysbryd diberchnogaeth yr hipi. Yr un syniad a'r llyfrgell, mae'n
debyg, ac yr un syniad yn union a holl gynwys y safle hon ag eithrio'r ffaith
ein bod yn gwerthu peth o'n meddalwedd er mwyn talu am gyhwfan llenyddiaeth
Gymraeg am ddim i bawb.
Mae hi'n bryd i bob cyhoeddwr llyfrau yng Nghymru roi eu
llyfrau ar y we - am ddim. Pob llyfr Cymraeg! A dyna ni ar unwaith yn sicrhau
einioes yr iaith Gymraeg.
Mae na lawer o gyhoeddwyr Cymraeg wedi twchu ar fraster
grantiau'r Cyngor Llyfrau. Saith och! meddech, "Byddai'r hwch yn mynd
drwy'r siop wedyn!" fe glywaf rywun yn gwichian. Ydio ots? Prun sydd
bwysicaf: iro tin hwch dew efo chwaneg o arian ynteu sicrhau bywyd y Gymraeg?
Mae'r dewis yn amlwg.
Mae na hen syniadau hurt yn mynd o gwmpas cyfalafwyr Cymru: ei
bod hi'n bosibl i ni brynu ein gwlad yn ol. Syniadau anrhesymegol fel hyn sydd
wrth wraidd Arianrhod. Ydy' nhw'n wirioneddol gredu y medran nhw
brynu Rupert a Gates, Sainsbury's ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru? Tydy
cyfalafiaeth BYTH yn mynd i lwyddo i sicrhau Cymru Rydd Gymraeg. Fedrwn ni ddim
defnyddio yr un arfau a'r gelyn. Sylweddolodd Saunders hyn flynyddoedd yn ol. Yr
arfau cryfaf sydd genym ni, bellach, yw'r pethau hyny na sydd gan y gelyn:
pwysigrwydd y pethau bychain (nid y monopoly), cariad, cadwraeth, ysbryd rhyddid,
pwysigrwydd llenyddiaeth a chrefydd a phopeth sy'n groes i arian, ein obsesiwn
at arian a thrachwant.
Mae Byd y Beirdd ar gael AM DDIM i bob plentyn yng Nghymru a thu
hwnt; dyma'r casgliad mwyaf o gerddi erioed yn yr iaith Gymraeg ac mae AM DDIM,
hen ddimai goch o grant.
Rhagfyr 1999.