www.barddoniaeth.com Y Cerddi

I Fyny / Lan • Yr Archifdy • barddoniaeth.com • Llenorion

   

    

Y Cerddi
Golygyddol
 

 

 

Cerddi Urien Wiliam, Rhys Dafis, Meirion Hughes a Martin Davies y tro hwn.  

Urien yn gyntaf...

 

"Y SAWL A UNODD BYW TALI NA WAHANED PRIODAS..."
         
          Rhyfedd fel mae pobol yn gwrthdaro,
          Ac yn ffaelu cytuno...
          Dyna i chi Brys
          A Beti 'i fisus -
          Y ddau wedi
          Bod yn byw tali
          Am flwyddyn neu ddwy,
          Neu fwy.
          Pan glywodd y ddau deulu
          Fe fu pethe'n tasgu -
          Gweiddi cas
          Ac ambell air go fras,
          A  dau dad yn gwgu
          A dwy fam yn pwdu,
          Yn fawr ‘u cur,
          Am nad oedd modrwy ar law'r bur -
          Y bur? - A hithau'n cydwelya
          Heb fendith cofrestrfa
          Na neb a fo'n gweinidoga?
          (Doedd hynny ddim yn beth gweddus, 
          A Beti'n ferch i ddiacon parchus.)
          A beth pe dôi babi
          A hithau'n "gorfod" priodi,
          A phawb yn cyfri'r misoedd,
          A'r rheiny'n fêl ar fysedd,
          Rhwng y diwrnod priodasol
          A dydd y cynnydd teuluol -
          A hynny ar un llaw?
          Rhyfedd ar y naw.
          Onid gwarthus -
          A rhyfygus - 
          Pe priodai "yn y gwyn",
          Gyda hyn,         
          Er ei bod yn nodedig
          O chwyddedig?
             Ta' pun,
          O'r diwedd fe gytunodd y fun
          Y byddai'n fwy taclus
          Petai hi a Phrys
          Yn rhoi cwlwm glân briodas
          Ynghyd â thipyn o urddas
          Yn ôl defodau cymdeithas
          Biwritanaidd,
          Anwaraidd,
          Ffilistaidd,
          A hollol
          Ragrithiol.
          A sylwer nad oedd sôn am fapa
          Yn ei bola.
          Serch hynny, pennwyd y dydd -
          Dydd yr ymbarchuso
          [Gobeithio] -
          A throi'n ðr gwraig ac yn wraig gðr,
          Bid siðr,
          Drwy ddefod
          A llofnod,
          A dymuniadau gorau
          I'r ddau,
          A chonffeti
          Dros het Beti
          A mis mêl, er nad oedd fawr o bwynt -
          Ond roedd y dydd yn eu hanes yn drobwynt.
          A dyna'r gwir -
          Oherwydd cyn hir
          LLedodd si,
          Gair o anfri,
          Fod Prys
          A'i fisus,
          Mewn brys i wahanu -
          A'r briodas yn simsanu -
          Ar ôl y sbloet a'r gost
          (Fe fu Dadi'n bur dost)
          A gorfod dychwel y rhoddion,
          Y llestri nad oeddyn yn deilchion,
          Gwrthbannau, tostiwr, tywelion,
          Murluniau, sosbenni,
          Y peiriant golchi,
          Y cyfan i gyd
          I'w dychwelyd
          Gydag ymddiheuriad
          Am y digwyddiad!
             Wel, os do fe'te!
          Fe fu yno'r fath le!         
          Os oedd Dad yn grac y tro o'r bla'n,
          Tro hyn roedd e'n wenfflam fel tân!
          A mam yn sgrechen mwrdwr,
          Yn athrist ei chyflwr -
          Pam ddiain na fydden nhw 'di aros yn ddibriod,
          Yn eu pechod,
          Gan fyw tali
          Yn deidi?

         

 

ENGLYNION

 

Babi

Bu wbain pan aeth Babi – am ei fwyd
(Ble mae’i fam?) i weiddi:
`Potel laeth lawn maeth i mi –
Ni ddotiaf fawr ar dditi’.

 

 

Englynion Meddwyn

Macwy sy am Mackeson - yn ochain,
Awchus am Worthington;
Am whisgi, sierri mae’n sôn –
Yfed cwrw fel afon.

 

Afon o fedd i feddwyn - neu Guineass
À gwên ar y woblyn;
Tancio’r trochion eigionwyn
Onid gwych yw’r gwydraid gwyn?

 

Surwin sy’n wych - a sieri – â’i ymbil
Ydi `ambell’ whisgi;
Ym mhoen ig mae’n mynegi
"Siandi nawr, un mawr, i mi"

 

Siandi a brandi i’r brawd - a hwylir
Yn hylaw rhwng deufawd;
A’i oerfron dwyma’r birfrawd
À `rum’ – ei feunyddiol rawd.

 

I’w rawd yn simsan rodio – yn hercog
Fel corcyn yn morio;
Fel eliffant yn danto -
Diurddas, un cas yw Co.

 

Co ag atgo am fodca – yn sgwrio
Ymysgaroedd ei gylla;
A’i gri ffôl i’w daith ola?
"Myn Diawl! – Boed imi win da!"

 

Cwestiwn

Sut hwyl gest ar dy wyliau? A fynnaist
Feinir yn dy freichiau
À thân yn ei chusanau
Am ennyd lwys, ddwys i ddau?

 

 

Ffor Owyr Inglish Spicing Ffrends:

Miss World

She’s so cute – such a beauty – a maiden
So modest and pretty;
A queen in her bikini –
So neat and so sweet is she.

 

I’r Olew Rhag Gorheulo


Sunhine is most essential – on your tum
For a tan right royal;
Rub hard my back – you’re a pal,
O spouse, with ointment special.

 

Pour Nos Amis Français

À Votre Santé

A Tours ‘il y a un hôpital – en ville
Qu’on voie en cadre spéciale;
Il est énorme - c’est normal
Pour guérir (sans mourir) le mal.

 

---------------------------------------------------------

 

Priodas Ruddem Mair a Dennis Miller,Dolwyddelan

[1960 –2000]

Mae wedi mynd yn ffasiwn ers tro byd

I fwrw gwawd a sen ar fyw’n gytûn

Mewn glân briodas; ac mae sôn o hyd

Fod chwant a gwefr yn well na serch i ddyn.

Byw tali nawr amdani – heb ddim coel

Ar fendith Eglwys ac addewid dau;

Ffyddlondeb sy’n hen-ffasiwn, oer a moel -

Na chredwch mewn perthynas sy’n parhau!

Ond mae ’na le i ramant yn ddi-os

Ar aelwyd gynnes fel safadwy graig,

A phlant sy’n diolch am fagwraeth glos

Gan ddeuddyn hoff sydd eto’n ðr a gwraig;

A gem a’i lliw yn rhudd sy’n brawf diau

Fod cariad yn hirhoedlog - tra bo dau.

 

 

 

 

Urien Wiliam.

 

 

Cerddi gan Rhys Dafis:

 

"Ie!"

Rhaid symud, mae'r byd ar ben!

Er pob cynnwr', pob cynnen,

A hau yr hen amheuon,

Y mae'r werin hydrin hon

Do, wedi meiddio â meddwl

Mor hy am rym, am hôm rwl!

O na! nid y ni a'n hiaith?

Ni diwmor nad â ymaith;

Ni staen ar ffenest hanes;

Ni â'n parhaus angen pres

Ar y sgrownj, nawr eisiau grym!

O!'r haid anniolchgar ydym!

Ie ni! fu gynt yn un

Ein gelyniaeth; fu'n glynu'n

Dynn wrth y Brydeinig deth

Â'n babanol ddibynieth;

Ni ail law, gwastraff o le;

Y ni, o bawb, â'n Ie!

Ie ni! fu'n destun hwyl -

Mor anwar, O mor annwyl!

Ni gyntefig ein tafod;

Ni'r mannau â'r enwau od,

Yn dal mewn rhyw fyd a aeth;

Annalluog a llywaeth.

Ie ni! ac mae 'na her,

Mae 'na nwyd, mae 'na hyder

Yn ôl yn ein llygad ni;

Mae 'na wên tu mewn inni.

Yn ddi-daw, ogledd a de,

Aeth Na am byth yn Ie!

 

 

Rhaid cael tamaid pentymor!

(cerddi gwahodd i swper blynyddol y dosbarth nos)

 

Sbeis a reis ac ymryson

(1998)

Dewch i'r wledd; cyd-eisteddwn;

I feirdd a'u crefft cawn fwrdd crwn!

Cawn sgwrsio a llowcio llên,

A mwynhau chow mein awen;

Cnoi cyw, ciniawa cywydd,

Mwynhau swyn y gerdd mewn sudd -

Afon goch dros fin a gên

Y saws wrth racsio asen;

Afon goch mor goch â'r gân

I'w rhoi i'm feuryn druan!

Ai mwynhau eich odlau chi -

Chips awen, rhyw chop suey

Di-ddant yw'r mwyniant i mi?

Na, cwrdd i racsio'ch cerddi

Yw fy mlys - yw fy mhleser!

A rhoi sweips wrth rannu'r ser;

Gweld pwy sy'n cario'r goron,

Pa arwr yw y king prawn!

Da chi, ffowch o'ch uwd a'ch ffa

Yn dorf i'r Hapus Dyrfa*;

Yn ddi-au, cawn noson dda!

(* Bwyty Tseiniaidd yn Nhreganna)

 

 

 

Talwrn y Balti-Wallah

(1999)

Chi byncwyr, drychwch, bancwet

O gyri iach! Noson grêt!

Bwyd lysh, sy'n llawn perlysiau;

Dyma'n wir ydi mwynhau.

Bwytawn yn hael; nid awn ni

Yn brin, na myn biriani!

Mae rhin ciwmin yn cymell

Awen y bardd; ni bu'i well

Am ennyn ias fel rasal,

Am gerdd goeth, a phoeth fel Phall;

A'r canu - nid llymru llên -

Yn gry gan gyri'r awen.

Cawn wneud acen o dikkas,

A mydrau rhemp o Madrás!

Cawn ddal y glec sy'n galw

Yn odlau iach Vindaloo!

A daw o hud poppadom

Rhyw ddawn sy'n corddi ynom!

Llaciwch felt, llowciwch Falti!

A dewch â cherdd gyda chi

I roi sbeis ar eisiau bwyd,

Blys, ysfa i'r blasusfwyd.

Am greu dwys! Am gyri da -

Wel talwrn Balti-Wallah!

 

Awn i dalwrn Eidalaidd!

(2000)

Hei! chi feirdd, dewch i farddas;

Y tro hwn, cewch brofi tras

A sawr y wledd glasurol

I ennyn canu'n eich côl;

Acenion cân yw y cig,

Y protin operatig!

Pwy sy' â llais top 'C' llên?

Traw Pavarotti'r awen?

Pwy fydd pencerdd ein llwyfan?

Am hawlio'i le'n ein Milan?

Pa gerdd? Pwy fydd y cerddor

Eleni'n cael ein 'encor'?

Dewch da chi! A dewch â chân

Un wych - dyna mor fychan

Yw'r pris gan Don Dafisi;

A chewch beth yw'ch tynged chi

Yn Zio Peppino, - pwy

Yw'r 'hood' sy'n gymeradwy!

 

Glas y Dorlan

Un nawn o haf wrth Gafn Hyrdd

Oedwn yn y gwawl hudwyrdd,

A'r dwr dan fy mhry di-hid

Yn ddiog ddi-addewid.

Drwy'r hen goeden gysgedig

Nerf o wynt chwaraeai fig,

A thawel lwyth o ewyn

Eildro'n llywio o gylch y llyn.

Ond yna, holltwyd ennyd

Ar y banc, gan ddeffro'r byd;

Treiddiodd dart trwy hedd y dwr;

Saethodd, hyrddiodd i'r merddwr

Blymiwr â'i blu o emau;

Edn glas ar ei adain glau,

Â'i ehediad mor sydyn

Nes i'r lliw enfysu'r llyn;

Disgyn ar sydyn grwsâd,

Yna'n ôl yr un eiliad,

A'i ysgytwol bysgota'n

Rhuthr o liw, yn wyrth o'r lan.

Eiliadau hudol wedyn,

A'r dydd mor llonydd â'r llyn,

Nid oedd yn y distawddwr

Un dim i gynhyrfu'r dwr,

Dim ond tawel ddychwelyd

Rhimyn o ewyn o hyd.

Er mai profiad eiliad oedd,

Ni symudais am hydoedd.

 

 

Llyn y Gist

Yn llun y bonyn, bu yno yr un

Falerina'n dawnsio

Waltz ddi-derfyn er cyn co.

Er llifo'n chwil ar ei llwyfan, ni ddaw'n

Ddi-ddiwedd o'i hunfan;

Mae o hyd yn yr un man.

Mae'n rhuthro dyfod o hyd; rhyw yrru

Aros a wna hefyd;

Pasio ymaith heb symud.

 

 

 

Ffoadur

Posmon llon, â'i wep fel llwy,

Yn naidredeg drwy'r adwy

I'r hewl, cyn troi, a sgrialu,

A rhesi daint yr ast hy

Yn sownd yn ei drowsus o;

Yna rheg, a swn rhwygo,

Swn bygwth - sgrech - swn begian,

Yna ras fawr am ddrws fan,

Agos, hirnos o siwrne

A'i lais clir yn llenwi'r lle

 geiriau coethaf gwerin,

Ac olion daint Gel 'nei din.

 

 

Tranc cenedl

Colli tir, colli tarian; colli grym,

Colli gwraidd ei hanian;

Colli'r iaith yw colli rhan;

Colli'r cof, colli'r cyfan.

 

 

Pont Hafren

Dyma adwy y mudo; gwagenni'r

Dyn gwyn yn ymwthio

 sêl eu hoes i hawlio

Darn o fyd rhyw Navaho.

 

 

Llawenydd

Dwyn i gof fy Eden gynt, a chlywed

Uwchlaw twrw'r pelmynt

Bryfed anwel a'u helynt,

Swn gwair yn suo'n y gwynt.

 

 

Darlun

Wedi i law Duw ei liwio, a'i orffen

Yn berffaith i'w fframio,

Dalwyd eiliad a'i hoelio'n

Olew cain ar wal y co.

 

 

 

Prysurdeb

Â'i ddawn yn newydd o hyd, 'rôl agor

Ei Lego, i wynfyd

Yr â plentyn mewn munud,

I'w chwarae bach - a chreu byd.

 

 

 

Winc

Llinell i ffonio'n calonnau, â serch

I su ei negesau,

A rhed gwefr hyd ei gwifrau

I roi tinc i gariad dau.

 

Difa wrth dyfu

Onid gwir, pan enir ni,

O'n mewn yn fraint mae inni

Synhwyrau'r wig sy'n aros -

Dawn i weld yn nu y nos,

A gweled miwsig alaw,

Synhwyro, ogleuo glaw.

Yna'n gynnar o'n geni

'R doniau hyn 'afradwn ni;

O dyfu'n hÿn, camu'n ôl

Yw'n hanes; mae'r bod dynol

Yn rhy wâr i ddoniau'r wîg,

Ac yn tyfu'n gyntefig.

 

 

 

Ysgol Gyfun Llanhari yn 25 oed (2000)

(rhan o’r gerdd)

Anwylwyd yr anialwch,

A chreu cyfle lle bu llwch;

Torri gwarchae'r ddaer ddi-hid

 gofal maith, â gofid,

Nes daeth tw irlas, a do

Bu ail dw, bu blodeuo.

Mae gardd yn awr, mae gwerddon

I gynnal yr ardal hon,

I'w dyfrio a'i hawlio'n ôl

Yn Eden i'r dyfodol;

I'w hadfer nes bod gweryd

Yn deffro'n gyffro i gyd.

Daw ffrwythlondeb lle bu llwch

O anwylo anialwch.

 

"isio Mam"

 

Er bod cefnfor yn torri - ym mhob gwaedd,

fy mab gwyn, er iti

adael i mi'th gysgodi

dy dad dyna i gyd ydw i.

 

gan Meirion Hughes

 

 

YFORY

gan Martin Davies

 

"Dim ond wrthot ti," meddai hi

Wrth y weilgi ffrom ei gwedd,

"y galla i weud y cwbwl

a rhannu'r pethe dwli dwl."

 

"Dim ond wrth wrando llio cyson

y feiston,

neu fwstwr y storom

yn erbyn y gro

y galla i lwyr ddadlwytho."

 

Wedi drifftio draw o'r pyb

i'r prom,

am ymgom â'r eigion â'r sêr -

yn froc digymar, deugain oed,

wedi arfer dygymod ag aml gnoc;

atgofion ddoe'n wymon flêr

yn tagu'i meddwl -

a bron â'i hala'n ddwl:

Pob cariad hen a newydd

Y gobeithion rhif y gwlith

Pob siomiant, pob llawenydd

i gyd yn driphlith  draphlith."

 

"Pe bai, petai, petase,"

atebai'r tonnau oll yn ffyrnig -

"Pe gwyddid be' sy'n dyfod

I ba radde y rhoddid cynnig

ar wyro hynt y rhôd?"

 

"A fydde heddi'n wahanol?

Fyddet heno  ar y trâ'th?

Yn llefen uwch y llanw;

Yn hiraethu bod yn sâff?"

 

"A fyddet 'falle nawr yn fam

pe baet ti wedi ateb "gwnaf"?

pe baet ti wedi paso pob ecsam

A fydde bywyd yn fras a braf?

'Set ti'n fenyw fusnes, falle;

Neu'n gantores roc o fri,

A'th henw yn y neon

ym mhedwar ban y byd

Neu drwy aberthu wrth yr allor,

yn wraig gymen, bert a ffel

yn gaeth i hud y botel,

yn hen yn gynt na'i phryd,

yn buten-briod i racsyn salw

sy'n ddwrn a  choc i gyd."

 

Mae ei nerth ar drai mor fynych

A'i ffydd ar ddistyll bell

Ac weithiau, mae'n amau'n fawr

y gwawria dyddiau gwell.

Iddi hi

y nefoedd

 yw'r adegau prin

pan nad oes dim

 yn digwydd.

 

Dim.

 

A bywyd yn llyn llefrith

yn ddi-lanw a di-drai

 

Ond gyda hyn

 mae'r ddrycin yn dwysau,

a'r môr yn genlli flin,

yr ewyn yn ei throchi -

eto aros mae i ymresymu,

ei dagrau a'r heli'n un

 

"So ti'n galler bod  heb ofid, sbo

drwy'r amser, nos a dydd -

Neu shwt ma gwbod pryd 'ti'n joio

A phryd ma bod yn rhydd?"

 

"Wel,'na fe," meddai hi wedyn

 wrth iddi 'hwythu'i thrwyn,

"Sha thre amdani, nawr

 y weilgi wyllt, ddi-fwyn

i fflat fach oer, ddigysur 

ac i wely digynnwrf, di-gwtsh -

ond, cofia, weilgi annwyl, - -

ma 'fory heb ei dwtsh."

 

 

 

DIRWASGU

gan Martin Davies

 

Mwg main dros doeau llwydwyn,

yn stricio'r wawr  ddilewyrch, ddiffeind.

Yn fuan, yn fore, gadael aelwyd

a chymar a phlant yn llaeth enwyn

 eu breuddwyd.

 

Cofio cysur cofleidio nwydwyllt,

yn y llwydwyll;

rhwng cwsg ac effro;

rhwng y larwm a'r baned yn llaw;

rhwng rhychwant ei choesau

 ar erchwyn y gwely.

Hitha nawr

 mewn trwmgwsg didramgwydd, difraw;

ac yntau'n sgriffinio'r barrug o'r sgrîn

â'i winedd yn winthrew.

 

Y cês i'r gist

a ffarwél â Bro'r Gest,

wrth iddo daro'r lôn orgyfarwydd

tuag at wythnos arall

 falwennaidd, flin

yn sbarc mewn ffatri dros y ffin.

 

Feunos, am ddeunaw mis

 yn y lodjin.

heb flys

a rhy ddiog

i godi o'r gadair fratiog,

gwylia'r bocs

yn ddiweld, diddiwedd

yng nghwmni six-pack

a hiraeth drafft dihysbydd.

 

Yn rhythu ar dreigl rhithiol,

 ara, ara deg

rhifau digidol cloc y fideo

 

20:15

 

Bydd silffoedd Leos yn llawn

Fel y llanw wrth y cei

Y plant yn eu gwlâu

Thelma-drws-nesa wedi'i thalu,

a daw sðn y ffôn i grychu

clydwch cras y smwddio

ym Mro Dawel, East Avenue

 

"Heia."

 

Hi'n naturiol braf am sbel -

hylif ei Chymraeg

 yn falm i'w glustia;

yntau'n lletchwith, unsill, -

yn sbeitlyd bron - a hitha'n torri'i chalon.

Â'r sgwrs ar drai

chwyth sychwynt dros esgyrn brau

breuddwyddion ddoe

wrth i'r arian fynd yn llai.

"Nos da."

"Nos da. Rho sws i'r...."

 galarnad unsain

sy'n dynodi

diwedd eu soundbyte am heno.

 

Nos Wener fudur.

Gweithiodd drwy Nos Iau,

ac mae'r blinder fel wadin

a'i lygaid bron ynghau.

 

Mae troeon Maentwrog

yn llithro yn nadreddog,

gwiberod duon

o dan yr olwynion.

Clec disymwth i'r cwrbyn

Sythu cefn

Agor ffenest yn sydyn

Rhwbio llygaid trwm dan regu

Llwyddo i ryw how-ddadebru.

 

Bydd y bychan a'i chwaer

yn y gwely,

a bydd Rhian yn gwisgo

i'w groesawu

yn sidan du a choch

o dani

Ei thethi'n caledu,

angerdd yn ei gwên

a rhybudd ar ei min:

 

"Cofia gloi'r drws tro yma,

a chlirio'r bwrdd yn gynta -

 rhag ca'l soser am dy din."

 

Ac mae ynta nawr yn gwenu.

Gwên Nos Wener

gwên luddedig

ar hyd glannau Dwyryd

yn wynias dan loer y gaea';

gola'r car yn rhofio'r twllwch cyfarwydd

troed yn drwm yn dirwasgu'r sbardun

wrth ddilyn y lôn tua goleuadau'r Pendryn.

 

Fory - ten-pin

 yn Llandudno

Wedi gaddo; wedi gaddo...

 

Bydd yn hwyl, cofia...

 

Ond heno, cysgu... si-hei-lwli

 fel babi...si hei lwli

yn ei breichia hi... si hei lyfli

 

Fel hyn, te... Jest fel hyn...

 


 

 

 

 

 

 



Hawlfraint: (1997 - 2002) Cyfrifiaduron Sycharth. Hawlfraint y cerddi: y beirdd.
Cedwir pob hawl. Uwchlwythwch cerddi rydych yn berchen yr hawlfraint arnynt yn unig.
Caniateir islwytho'r testun uchod i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.