Robin Llwyd
Y Wledd
Pan fentrodd Dad i’r gegin
Efo clamp o sosban
Disgynnodd ambell angel
O’i gwmwl sidan.
Fe chwipiodd ef yr wyau
A’r bore’n gwstad
A’r blas oedd rhywle rhwng
Hunllef a mwstad.
‘Gormod o sment, mi fentraf!’
Ac ychwanegodd halen
A phymtheg sbrowt a choesau
Naw cocratsien...
... A thipyn bach o regi
A chilogram o ffydd,
Litr o chwys o’i dalcen
A’r haul liw dydd.
‘Rhof goelcerth nwy odano!’
Gwichiodd y cogydd cas,
‘Ac fe gewch gen i frecwast
Gwych ei flas!’
Cyrhaeddodd y trwyth o’r diwedd
Fy mowlen i
Ceisiais ei dorri’n ddarnau
Ond malodd fy lli.
Er rhygnu a thynnu
A dyrnu drwy’r dydd
A gwichian a rhochian -
Ddaeth ‘run darn yn rhydd.
Rwy’n deall o’r diwedd
Pam aeth Mam i ffwrdd.
Af innau - ar ôl i mi
Fwyta’r bwrdd!
Mae 'Na Betha Dwi'm yn Dallt
Mae 'Na Betha dwi'm yn dallt:
Pam fod angen golchi 'ngwallt?
Pam fod rhaid i minnau neud
Beth mae Mrs Jones yn ddweud?
Pam fod Radio Cymru'n canu
Petha Saesneg, pam fod Cymry'n
Dilyn Lloegr a Man U?
I dîm Wrecsam byddaf driw!
Mae 'na betha dwi'm yn dallt:
Pam fod dwr y môr yn hallt?
Pam fod Duw yn sbio'i ffwrdd
Pan nad oes fara ar y bwrdd?
Ond yr hyn sydd yn fy mhigo
Yw hen bobol wrth heneiddio
Sy'n credu'i bod nhw'n fawr eu ffortiwn
Yn gwybod ateb i bob cwestiwn!
Pan Fo Plant yn Crio
Pan fo plant yn crio,
Mae'r Ddaear yn stopio,
Mae'r tawelwch yn sgythru
A phob plismon yn crynu.
Mae'r nos yn sbio-sbio
Pan fo Sioned yn crio.
Pan fo plant yn chwerthin
Mae'r gaea'n troi'n Fehefin,
A'r nos yn troi'n fora
Ac yn dawnsio'n ei ddillad gora.
O'r tawelwch - y daw'r egin
Pan fo plant yn chwerthin.
Hen Benillion Newydd
Gwenno aeth i ffair Pwllheli,
Eisiau menyn ffres oedd arni
A Lasania gwyrdd a Twix:
Er bod sêl i lawr yn Kwiks.
Gwenno aeth yn fore i olchi,
Eisiau dillad glân oedd arni.
Fasa'n rheitiach i'r hen het
Fod wedi mynd i launderette!
Telyn aur a thelyn arian,
Telyn bren a thelyn sidan:
Na, ni allaf i eu canu:
Dyna pam mod i'n chwibanu.
Gwyn fy myd na allwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered;
I Awstralia a Tibet
Gyda Sian mewn Jymbo Jet.
Cân y
Morfil
'Pam,' ebe'r morfil
Wrth y wylan wen
'Na fedrwn i hedfan
I'r cwmwl uwchben?'
'Pam,' meddai'n dawel
Wrth y clogwyn serth,
'Na roddwyd i mi
Dy gadernid a'th nerth?
'Pam gebyst,' medd ef
Wrth lygoden yr þd,
'Pam gebyst na chefaist
Dy daldra a'th hyd?'
'A pham,' y gofynnodd
I'r gwynt uwch y lli,
'Na chefais anadlu
Dy ryddid di?'
'Pam, pam,' ebe'r morfil
Wrth ddyn yr harpðn,
'Mai coch fel ymachlud
Yw lliw'r lagðn?'
'A pham fod eich dwylo
A dwylo pob dyn
Cyn goched?' ebe'r morfil -
Yr olaf un...
Anrheg Nadolig Cyntaf Gwern
Nid rhuddem a'r wawr drwyddi - a
lapiwyd,
Nid lapislaswli,
Nid aur oedd dy anrheg di,
Na nid diamwnt... ond dymi!
Cliciwch yma i glywed y bardd yn darllen ei waith:
rebel/dymi.wav
I'r Athro
Rhoi ei haf a'i roi o hyd - i'r llaw wag,
Rhoi holl wyrth bychanfyd,
Rhoi ei wên ac am ennyd
Yn y llaw fach mae'r holl fyd.
Hed Amser
Bûm wanwyn am bum munud - yna'r haf
Am ryw winc; aeth ennyd
O Hydref i'r diawl hefyd.
Un gaeaf gwag wyf i gyd.
Ym Mhen-Blwydd
Erin
Mae'r iaith 'di bod yma erioed
- yn ddawns
Drwy ein ddoe ysgafndroed.
Ei chof yn hyn na'i chyfoed:
Be 'di'r iaith? Merch bedair oed.
Llio Eiry yn 21 Oed
Yn y tywod, gweld tywallt - gwylanod
A'u sglein uwch yr emrallt.
Yn lliw'r lloer, Llio eurwallt,
Gweld Awst yn ogla dy wallt.
Un Teulu
Daw'r bore - dim ond ei ddymuno,
Daw heddwch os mynnwn ei wên,
Daw rhyddid i'r rheiny sy'n gofyn -
Drwy gariad yr ifanc a'r hen;
Felly ...
Canwch a dawnsiwch a gweiddwch
Fel teulu cytûn!
Canwch a dawnsiwch a gweiddwch
Fod y blaned yn codi o'i heistedd
Ac yn bloeddio fel un...
Mae'r blagur yn sibrwd wrth agor
A'r bore yn codi ei lais,
A'r eryr a'r glomen yn unfryd
Fod cariad yn gryfach na thrais,
Felly ....
Canwch a dawnsiwch a gweiddwch
Fel teulu cytûn!
Canwch a dawnsiwch a gweiddwch
Fod y blaned yn codi o'i heistedd
Ac yn bloeddio fel un...
Hyn
Na'r Coed
Ar ymyl llif y draffordd
Roedd un genhinen fler:
Cenhinen y gwanwynau
A'i llafn fel cannwyll wêr,
Ni fedrodd holl gerbydau'r byd
Fyth ddiffodd fflam ei swyn a'i hud.
Fe droellai'r mwg o'i chwmpas
A holl dechnoleg dyn,
Ym mhydew ein byd modern
Roedd hon yn dal yr un
Genhinen felen ag erioed
A'i hen, hen iaith yn hþn na'r coed.
Pan beidia'r byd a gyrru
Yn wallgo i lawr y ffyrdd,
Pan beidia'r mwg a'n llygru
Bydd hi'n dragwyddol wyrdd:
A her ei dawns fel fflam ar daith
A'i gwanwyn hi fydd gwên ein hiaith.
Y Lleuad
Mi welais leuad tenau
Fel gewin fy mys bawd
A'i gwyneb bron-a-llwgu
Yn ddigon llwyd a thlawd.
Es allan chydig wedyn
A'i gweld yn eneth dlos
Fu'n stwffio'i hun mewn parti
Gan lyncu sêr
y nos.
Y Ferch Ar Y Sacsaffôn
Cysgodion ar benrhyn fy ngobaith
Yn gryndod ar ymyl y lôn
Mae cyffro'n carlamu ble bynnag
Mae'r ferch ar y sacsaffon
Unigrwydd yw nodau ei chalon
A rhith ydyw hanfod ei thôn,
Ai ysbryd na fedraf ei gyffwrdd
Yw'r ferch ar y sacsaffôn?
Deffrwch, mae'n fore
A chwiliwch yn rhywle
Rhwng breuddwyd a hunlle
Am y ferch ar y sacsaffôn.
Fel cwmwl na fedraf ei gyrraedd,
Dirgelwch y llais ar y ffôn,
Fe'i ganwyd ar wely 'nghydwybod,
Y ferch ar y sacsaffôn,
Cysgodion na fedraf mo'u hysgwyd
Na'u gadael ar ymyl y lôn
Ai ynof yn hwian a hwian
Mae'r ferch ar y sacsaffôn?
Miss Rutter Ratbag
Athrawes anghynes o hyll
Ydy Miss Rutter Ratbag!
Hen glomen a'i chalon yn glymau!
"Dim mwy o gardiau Premier League!
Dwi 'di cael digon ohonynt"
A Miss Ratbag a wagiodd yr ysgol o sticers
ac o lawenydd;
efo'i dwylo Persil
a'i gwefusau tynn fel tannau ffidil.
"Dwi'm isio gweld Andy Young,"
sgrechiodd a'i llais main, miniog fel rasal
yn hollti'r galon.
"Na chlywed yr un gair am Ryan Giggs - fyth eto!"
ac i ffwrdd a hi i rwbio'r sialc o'i sgwyddau sgwâr.
Ond drannoeth, fe ddechreuodd petha boethi!
"Watsiwch!"
"Sgrialwch!"
"Cuddiwch y cardia cudd!"
medda llond buarth o bêl-droedwyr.
"Mi gymra i rheina!"
dartiodd ei llaw wen, wag
gan roi Fferguson a'i griw yn ei hanbag.
Ond wrth iddi nadreddu i lawr y buarth
cyfarthodd un o'r plant,
ysgyrnygodd un arall
a disgynodd yn glowt, yn glec
ar ei thin brenhinol, bron,
a'i choesau i fyny fel twrci.
A beth welodd y byd?
Beth welodd y byd i gyd?
O fewn leining synthetic ei nicyrs
roedd miloedd ar filoedd o - sticyrs!
A phwy, meddech chi, oedd am eu ffeirio
efo'r prifathro?
Miss Rutter Ratbag!
Rhyfedd o Fyd!
Yn tydy yn rhyfeddod
Mai'r un yw brics a thywod?
Mil rhyfeddach - gwir a gonest -
Yr un yw'r gwydyr yn y ffenest!
Llysieuwyr
Beth yw iâr ond plu a phig
A ffatri wyau, lwmp o gig?
Mil gwell gen i ac ewyrth Jon
Yw soia, llaeth a jam a sgon.
Ar y We
Mi luniais heddiw safwe
a'i roi ar syrfyr, do,
ac arni rwyf yn canu
gitâr fel jac-y-do;
rwy'n stiwdio gwell na Chwmni Sain -
mi ganaf ddeuawd efo Nain!
Cyhoeddais i fy ngherddi
mewn llyfr digidol llawn
a'r lluniau lliw, symudol
yn goelcerth swnllyd iawn.
Ni ches i grant argraffu chwaith -
rwy'n achub fforest gyda'm hiaith!
A rhoddaf luniau fideo
digidol ar y sgrin,
i bawb fy ngweld yn dawnsio
pan o'n i'n hawdd fy nhrin.
Rwy'n sianel cystal ag unrhyw un
ac ar y we - gwatsia dy hun!
Mae 'Di Canu!
(Cerdd a gyhoeddwyd gyntaf yn y
gyfrol Cofio Jennie Eirian)
Gadewch eich nag a dewch yn awr
I brofi ias y sgubor fawr:
Dau lygad tywyll cudyll coch
A'i acen gras yn canu'n groch.
Goruwch ei ben - dwy regen yr þd
Anwyla draw eu ffidlau drud
A buan dawr i ben y das
Gywynen ber i ganu bas.
Mae'r wydd dew, dew, sydd mor
ddi-don
Yn cosi'i phig a'r sacsaffon;
A golau'r ddawns, drwy siawns bid siwr,
Yw deg magien hen ddi-stwr.
Ar lorpiau'r cart - tri
ffwlbart ffôl
A'u daws pync-roc a'u roc-a-rol,
Ac ar ryw drawst yn curo'r drwm -
Hen loyn byw a chwilen bwm.
Ond ust! Dim smic! Daeth gwaed
y wawr!
Ar ddôl mae ôl y llwynog mawr!
A'u diwedd hwy fydd diwedd hynt
Y gwyr a aeth i Gatraeth gynt.
Y Crac yn yr Awyr
(Cyhoeddwyd gyntaf yn 1995 gan CBAC)
Mae 'na grac yn yr awyr
uwch simne fy nhy
a'r nos sy'n diferu ohono,
a miloedd o sêr
fel swigod bach gwyn
a chorcyn o loer yn arnofio.
Mae'n llifo ers meityn
gan foddi'r dydd
a lliwio'r petalau yn bygddu,
mae'n driblan a driblan
i'm stafell fin nos:
a finnau yn deilen yn crynnu.
A llithraf i'r gwely
gan rwyfo fy nghwch
yn dawel i Ynys Afallon,
ac yno breuddwydiaf
am bopeth sydd dda -
am fyd sydd heb nos na helbulon.
Ond bob tro cyrhaeddaf
yr Afallon hon
a'r traethau a'r cariad sydd yno:
Mae 'na grac yn yr awyr
uwch simne fy nhþ
a'r haul sy'n diferu i'm deffro!
Pan Fyddaf Yn Ddeg
Pan fyddaf yn ddeg mi ddringaf i'r Wyddfa
a chydag ochenaid fe'i llyncaf hi'n gyfa!
Pan fyddaf i'n un-ar-ddeg (os credwch chi fi)
mi nofiaf i'r haul o'r Caribi.
Yn ddeuddeg mi wisgaf y gwanwyn amdanaf
a swagro fel model - nes daw y gaeaf!
Ond yn dair-ar-ddeg - byddaf yn hen fel
pechod
a'm danned a 'ngwallt fydd bron â darfod.
Yn bedair-ar-ddeg byddaf yn FAWR fel
pafiliwn,
yn hen, yn hyll - ac ar fy mhensiwn!
Ond o holl anifeiliaid ein daear ddiderfyn:
Yr hynaf a'r hyllaf o'r rhain yw'r - oedolyn!
Problem Fwya'r Ganrif
Wrth orwedd yn fy ngwely
rôl cyfri rhes o wyn
yn neidio ac yn prancio
dros gopa moel fy nhrwyn...
daeth cwestiwn i'm cynhyrfu
tan amser brecwast, bron,
a phroblem y mileniwm
oedd y blincin broblem hon:
a'r cwestiwn fu'n fy mhigo
ers chwarter wedi tri?
A ydy'r wyn blinedig
yn cyfri rhai fel ni?
Daw'r cerddi canlynol allan o CD-ROM 'Cerddi Gwyrdd a BYW!'
Mae nhw'n addas i blant dan 8 oed.
Mae pob pennill wedi'i animeiddio! I brynu'r ddisg clicwich ar y ddolen hon.
Y Fuwch Wahanol
Mi welais i Ffrisian
ar gefn ei beic
yn mwio yn uchel
‘Dwi’n mynd ar streic!’
’Cewch goctels o gaca
a dwn-i-ddim-be,
a leim heddiw’n lymed
a dysgled o de!
‘A pi-pi pry-copyn,
chwys oer y cops
a pw-caci-pw
a Co-co Pops.
‘Ond peidiwch ’da chi,’
ebe’r fuwch wahanol
‘Â chymryd neb
Yn ganiataol.’
Babocs
Pawb yn
cysgu’n dawel, dawel:
dim cân gylfinir yn yr awel.
Cysga Babocs.
Ond yna’n sydyn
mae e’n deffro wedi dychryn.
‘Deffrwch!’
sgrechiodd ef o’i grud.
Ond dal i gysgu roedd y byd...
... yn llawn o
geir, ffatrioedd, mwg
ac awyrena – a phetha drwg.
Ac yna’n sydyn
mewn pesychiad morgrugyn:
I fyd y dyfodol
y taflwyd e
(i rywle tebyg iawn i’r ne’),
Heb geir yn unman! Roedd wedi ffoli
ar y wlad lle roedd cariad yn rheoli.
‘Wel iesgob mawr, jiw-jiw!’ sibrydodd,
‘Dwi wedi gweld digon!’ ac yna rhwygodd
yr awyr eto ac fe’i taflwyd, chwap,
yn ôl i’w wely efo slap!
‘Mae’r byd yn
ein dwylo!’ sibrydodd e
a chododd y Ddaear yn ôl i’w lle.
Roedd y byd yn
deffro! Roedd y blaned yn iach!
A daeth cân gylfinir drwy’r bore bach.
Teithio Nol
Wel dyna i chi
‘Waw!’
Wel dyna i chi ffôl
Pe bai bysedd y cloc
Yn mynd yn ôl!
Wel dyna i chi
‘Iesgob!’
A ‘Craici!’ a ‘Iê!’
Fyddai mynd i’r ysgol
Ar ôl cael te.
A’r hen, hen
bobol
Dros hanner cant
Yn chwarae’n y parc
Ar ôl tyfu’n blant!
Wel dyna i chi
wych
Pe bai’r byd yn dadweindio
Yn union fel llun
Ar y peiriant fideo.
Teimladau
Dwi’n newid,
dwi’n morffio,
dwi’n mynd yn hyn,
ond yn fy nghalon
– dwi dal ’run un.
Ond weithia –
jyst weithia -
dwi’n teimlo’n unig,
yn big, yn bifis
ac yn felltigedig!
Ar fuarth yr
ysgol
mae na fwlis aflan:
dwi fel oen y tu mewn –
ond fel llew y tu allan.
Am dri yn yr
ysgol
daw’r gloch i ’neffro!
Dwi’n dechrau byw –
ac yn dechrau blodeuo!
Dwi’n newid fel
glöyn
wrth fynd yn hen:
colli, ennill;
dagrau, gwên.
Dwi’n llyncu
mul
fel pob rhyw ddyn:
ond mae’n anodd cuddio
rhag fi fy hun.
Gwibio mae’r
dyddiau
yn gynt na roced!
Ond mae pob un eiliad
yn deisen siocled!
Robin Rhywbeth
Fy enw yw
Robin... rhywbeth!
Jones, Morris neu... na fê!
Wi’n byw ar bwys Llan-bethna
On’ ’sai’n cofio nawr ym mhle.
Mi gollais fy
ngwallt
A ’nannedd wrth ganu
A mae darne ohonof
Wedi hen ddiflannu!
Mae gen i gi,
Sef... Dwn-i-ddim-be
A chof fel Indian
Tec-awê!
Mae rhywun yn
rhywle’n
Fy nghofio, Duw’n cato!
Pwy, pwy fase honno?
Y Ddraig? Wel, O damo!
Y
Lleidr Lliwiau
Mae rhywun wedi
dwyn fy myd
A phob un enfys sy’n y byd!
Daeth teithiwr gyda sment a thár
I godi garej hyll i’w gar.
A’r teulu o
betalau aeth
Yn llwyd, yn goncrit du – a gwaeth!
Taflwyd y lliwiau i gefn rhyw fan:
Mae’r Lleidr Lliwiau ym mhob man.
A’r
triliwn-biliwn lliwiau nawr
Sy’n ddau neu dri - a llwyd yw’r wawr.
Pwy ddygodd fy enfysau i?
Ai’r Lleidr Lliwiau hwn wyt ti?
Robo Rafin
Caniau, peipiau,
gwifrau fel gwe
A phawb yn rhegi arno fe.
Dim ond un llygad – mae e mor wahanol!
Hwn ydy’r mochyn yn y canol.
‘Mwnci!’ ‘Gwichyn!’
medde’r criw,
’Twmffat Metel!’ ‘Nyts!’ a ‘Sgriw!’
Gwaedda’r plant a’i alw’n ‘Pots!’
Ond mwmiai Robo, ‘Be ’di’r ots?’
Un diwrnod clir
fe welodd ffermdy -
Ac edau o fwg yn dringo i fyny
Heb aros i feddwl fe redodd yn gynt
Na milgi neu roced neu gar neu wynt.
Ac achubodd
Wali, sef bos y criw
Oedd yn ei alw’n ‘Nyts’ a ‘Sgriw!’
‘Robo Rafin’ medd pawb bellach
’Robo Man!’ a dim byd afiach.
Caniau, peipiau, gwifrau fel gwe -
Does neb yn rhegi arno fe.
Robo yw’r Brenin yn y Canol
Diolch ei fod e mor wahanol!
Pethe’n Newid
Yn lle coed a
dail yn darian
Planwyd mil o beilons trydan.
Yn lle gwylan
uwch y glennydd
Dacw ruo yr hofrennydd.
Yn lle crwban
rwy’n darganfod
Tân a mwg Gwennol y Gofod.
Lle roedd llyn
yng nghanol coedwig:
Llond ysgyfaint du o draffig.
Y
Deinosoriaid
Rwy’n gweld y
deinosoriaid
Pan fyddaf ar ben fy hun:
Rhai mawr, rhai bach, rhai hynod,
Rhai o bob lliw a llun!
O sbio yn
ofalus
Fe welwch ddeigryn bach;
Yno ar ffilm eu llygaid
Mae’r Ddaear hon a’i strach.
Mae nhw mor hen
â’r blaned,
Yn hyn na dail y coed,
Yn gweld pob drwg sydd ynom,
Pob da a fu erioed.
A ninnau ar y
blaned
Ers dim ond llyfiad llo
Yn chwerthin ar y pethau
Fu yma ers cyn co!
Ben y Bardd
Fi ’di Ben y
Bardd
A dwi’n freuddwydiwr ffôl
Ble bynnag dwi’n mynd –
Dwi’n gadael fy ôl.
Dwi’n byw mewn
rhyw freuddwyd,
Heb fawr o frys,
A dwi’n berchen ar ddim
Ond fy nhrôns a fy nghrys!
Dwi’m isio
gwneud DIM
Ond fy y mheth fy hun,
A bod yn brifardd -
Y gora un!
Brog
‘Gei di fod yn
d’wysog os ca i snog!’
Ebe Glöyn Glesni wrth Bili Brog.
Ebe Bili Brog
wrth Glöyn Glesni,
’Iesgob, mae dy wynt yn drewi!’
’No wê!’ crawciodd e' a’i wên fel y wawr,
’Dwi’n llawer rhy ifanc i setlo i lawr!’
Deg o Elyrch Gwynion
Deg o elyrch
gwynion
Yn hwylio ger eu nyth
Yn ymyl ffatri fudur:
Bu farw dau yn syth.
Wyth o elyrch
gwynion
Yn stelcian draw yn Stoke;
Bu farw dau rôl llyncu
Gwydr hen botel Coke.
Chwech o
elyrch gwynion
Ddaeth draw i Fferm y Cwm;
Ond dau fu farw’n sydyn
Rôl bwyta pelets plwm.
Pedwar alarch
perffaith
Mor wyn ag eira’r ddôl
Yn croesi traffordd docsig
A nawr – mae dau ar ôl.
Dau o elyrch
gwynion
A oedd yn ‘Adar Prin’
Yn bwyta gwenwyn llygod
A’r ddau a drodd yn ddim.
Dim un! A phwy
sy’n malio
Am swp o fflyff bach gwyn?
Pa blincin ots os nad oes
’Na elyrch ar y llyn?
Hawlfraint y cerddi hyn: Robin Llwyd ab Owain.
PERCHNOGAETH
Dymuna Robin Llwyd ab Owain arddel ei hawl i gael ei gydnabod yn awdur y geiriau
/ testun a dylunydd yn unol a Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Perchennog yr hawlfraint, teitl, 'trademark', a hawliau eraill parthed cynnwys y
CD-ROM yw Cyfrifiaduron Sycharth. Ni chewch ond yr hawliau a roddir i chi yn y
drwydded uchod.
|