www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

       

Robin Llwyd ab Owain

Holiadur:

Enw Llawn Robin Llwyd ab Owain
Rwy'n byw yn Rhuthun
   
Mi ges i fy ngeni  yng Nghynwyd, ger Corwen yn 1958.
Ysgol Gynradd St Paul Bangor, O M Edwards Llanuwchllyn a Phen y Bryn Tywyn.
Roeddwn i'n hoffi Peintio, tynnu ar fy nwy chwaer fach a phigo fy nhrwyn.
... ac yn casau bysus, hen bobol a hunllefau
   
Beth wnes i wedyn? Mynd i Ysgol Uwchradd Tywyn, Gwynedd. Tref glan y mor.
Fy ngwaith yw Prif Bensaer gwefanau a meddalwedd Cyfrifiaduron Sycharth.
Fy niddordebau yw canu, gwyddbwyll, yfed a bwyta bwydydd gwahanol a dweud fy nweud.
   
Anifeiliaid anwes Ych, nag oes. Dwi ddim yn or-hoff o anifeiliaid o unrhyw fath. A deud y gwir dwi'n llysieuwr ers i mi fod yn wyth oed.
Ffobias (beth rwy'n eu hofni) Bysus. Mi ges i ddamwain erchyll pan o'n i tua saith oed - torrwyd fy mhenglog gan fys Crosville a dwi'n dal i gael hunllefau erchyll, erchyll, erchyll.
Rwy'n hoffi sgwennu cerddi ... Nac ydw. Dwi'n casau eu sgwennu nhw, mae'n brifo fy mhen.
   
Enwau'r llyfrau dwi wedi eu sgwennu: Rebel ar y We (ar y we; dwi'm yn credu mewn difrodi fforestydd).
Yn y bath, rydw i'n meddwl am ddim. Fyddai byth yn cael bath - mae'r gawod yn llawer haws: i fewn ac allan a dynna fo!