www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Edgar Parry Williams

Holiadur:

Enw Llawn Edgar Parry Williams
Rwy'n byw yng Nghroesor
   
Mi ges i fy ngeni yng Nghroesor
Ysgol Gynradd Croesor
Roeddwn i'n hoffi Croesor - a dydd Gwener!
... ac yn casau dydd Llun!
   
Beth wnes i wedyn? Gadael Ysgol Croesor yn 14 oed a chychwyn gweithio ar ffermydd. Rhwng 1946 ac 1979 roeddwn yn fugail defaid yng Nghroesor. Yn 1979 mi es i'r coleg. Rwy'n dad i chwech o blant ac yn daid, bellach, i 15!
Fy ngwaith yw Dwi wedi ymddeol o'm gwaith diwethaf - sef swyddog yn adran Twrisitiaeth Cyngor Dosbarth Meirionnydd.
Fy niddordebau yw Rhodio'r llwybrau defaid - a llwybrau eraill yn ardal Croesor. Dwi hefyd yn mwynhau eisteddfodau.
   
Anifeiliaid anwes Cðn defaid
Ffobias (beth rwy'n eu hofni) Saeson cegrwth yn ddi-ri 
yn trampio drwy ein pentref ni!
Rwy'n hoffi sgwennu cerddi ... Cerddi rhydd a thelynegion, rhigymau a limrigau tra'n gyrru'r car neu yn y bath.
   
Enwau'r llyfrau dwi wedi eu sgwennu: Dim llyfr - ond mae gen i gerddi mewn ambell lyfr fel Pigion y Talwrn.
Fy hoff bryd o fwyd ydy Bwyd maethlon a blasus afiach!
Yn y bath, rydw i'n meddwl am golli pwysau, limrigau ac ymlacio.
Arall: Pob dymuniadau da i Sycharth yn sicrhau lle i'r Gymraeg ar Fyd y Beirdd a'r safwe yma.