Edgar Parry Williams
Y Bugail Bach
Mae gen i gi defaid
O frid, nôl y sôn:
Ei fam o Drawsfynydd
A'i dad o Sir Fôn.
Mae'n edrych yn berffaith:
Ci du coler wen,
A'i glustiau yn sefyll
Yn syth ar ei ben.
Mi wn i na welodd
'Run bugail erioed
Gi defaid mor wirion
Yn hanner blwydd oed.
Rwy'n ceisio fy ngorau
I'w ddysgu fo'n iawn:
Un awr yn y bore
A dwy yn y pnawn.
Rwy'n dweud wrtho, "Gwranda!,
Ychdi ydi Tos
A fi ydy'r bugail
A'r bugail yw'r bos."
Mae'n edrych ar ddefaid
Fel tase nhw'n faw,
Ac mae'n gowredd i lawr
Os gweiddai "Sa draw!"
Pan rydwi'n gorchymyn,
"Hei Tos, cer i ffwrdd!"
Mae o'n mynd i guddio
I'r nyth dan y bwrdd.
Y fi sy'dd yn gorfod
Hel defaid o'r ddôl,
A Tos fydd yn llusgo
Wrth linyn o'm hôl.
Fe ðyr pob rhyw fugail
Mor ddiflas i ddyn
Yw casglu ci defaid
A rhedeg ei hun.
Mi faswn i'n hoffi
Cael gair ar y ffôn
Efo'r ast o Drawsfynydd
A'r ci o Sir Fôn!
Gwibiwr y Gofod
Pan oedwn i yn bedair oed
Fe roeddwn i'n breuddwydio
Am gap pig gloyw ar fy mhen
Ac injan dren i'w ddreifio.
Ond wedi cyrraedd oedran teg
A phasio'r deg, rwy'n gwybod
Mai dim ond roced wnaiff y tro
I wibio drwy y gofod.
Siffrwd y Dail
Paid ac edrych yn ôl
Mae na glamp o lew
Yn dilyn yn glos ar fy ngwt;
Mae'n barod i neidio o'r nos ar fy nghefn
A'm llarpio i fel doli glwt.
Paid a meiddio gwneud dim
Ond cerdded ymlaen
A gwrando ar siffrwd ei droed
Yn dyfod a dyfod yn nes drwy'r dail
Sy'n drwchus fan hyn dan y coed.
Paid a dweud dim un gair
Nes cyrraedd tþ ni,
A rhuthro i mewn drwy y drws,
A gweld mai nid llew oedd yn dod ar fy ôl
Ond cath fach ryfeddol o dlws!
Corlannu
Cer i ffwrdd Mot, i ffwrdd
I ben draw'r ddôl.
Mae defaid y ffriddoedd
I lawr yn eu hôl!
Dacw'r defaid yn rhuthro
Dros ymyl y bryn,
Dos i ffwrdd Mot ymhell
A'u hel nhw ffordd hyn.
Hei, hei sa' blaen,
Bell, bell, cer i ffwrdd,
Mae gen ti fwy o draed
O lawer na'r hwrdd.
Dyna chdi ar y blaen,
Da iawn yr hen gi:
Hys i'r ddafad farus
Hen gnawes yw hi.
Tyrd, tyrd, hel nhw yma,
Tyrd closia nawr Mot.
Na, na paid a rhuthro
Neu mi gollwn ni'r lot.
Ara deg drwy yr adwy,
Paid, paid bod yn gas,
Mae'n rhaid bod yn bwyllog,
Gorwedd lawr, gwranda was!
Dyna nhw yn y gorlan,
A'r giat wedi'i chau:
Tyrd Mot, 'da ni'n heuddu
Cael llymed ein dau!
Sgrech y Cawr
Yng nghanol coed y goedwig unig
Ymhell o olwg byd
Mae cartref y cawr olaf
Sy'n dal yn fyw o hyd.
Ar ddiwrnod ei de parti
Pen blwydd yn gan mlwydd oed,
Fe gafodd yntau'r ddannodd
Y waethaf un erioed!
O geg mor fawr ni allodd
Y deintydd dynnu'r dant,
Heb rwymo rhaff amdano
A gosod hanner cant...
O ddynion cadarn, cryfion
I dynnu am dair awr,
A'r cawr yn gweiddi "Mami!
Mae gen i bopo mawr!"
Pan ddaeth y dant o'i enau
Fe syrthiodd ef i lawr,
A heddiw caiff ei enw
Gan bawb: "Yr Wyddfa Fawr".
Lladd Nadroedd
Mi af ymhell i'r goedwig
Ar hyd y llwybr troed,
I hela'r neidr fwyaf
A welodd neb erioed;
Mae ganddi lygaid creulon
A dannedd hirion, main:
Fe'i saethaf drwy ei chalon
A mynd a'i chroen at Nain.
O'r croen bydd Nain yn gallu
Gwneud waled fawr i 'Nhad
A phwrs i Mam - yr harddaf -
A'r llawnaf yn y wlad.
O'r croen a fydd yn weddill
Mi wnawn ni ffisig hallt
I'w werthu i hen bobol
Sy'n dechrau colli gwallt.
Ac felly mae 'na ffortiwn
I'w cael - i mi a Nain
Wrth hela'r neidr creulon
A'r dannedd hirion, main.
Ydi Wir
Pe byddai corwynt nerthol
Yn chwythu'n hysgol ni
Ymhell i ebargofiant
Rôl hanner-awr-di-tri,
Buaswn i a'm ffrindiau i gyd
Yn mynd am adre'n ddigon clyd.
Mi fyddai'r hen brifathro
Rhwng breichiau'r gadair FAWR
Yn segur yn ei swyddfa
Yn cysgu ers rhyw awr,
A'r corwynt yn ei gario fry
Fel hediad bran dros grib ein tþ.
Mi hoffwn weld y llyfrau
(Rhai diflas a di-lun)
Fel haid o adar drycin
Yn mynd i ffwrdd bob un,
A'r holl gadeiriau caled, oer
A'r desgiau ar eu taith i'r lloer.
Yr unig un sy'n bwysig
Ei chadw'n saff rhag cam
Yw'r ddynes yn y gegin -
Mae hi yn well na Mam
Am ffrio sglodion meddal, hir;
Mae'n werth ei chadw - ydy wir!
|