Enw Llawn |
Dorothy Mary
Jones |
Rwy'n byw
yn |
Nhy'n yr Onnen,
Llangwm, Sir Conwy. |
|
|
Mi ges i fy
ngeni yn |
Nhrawsfynydd |
Ysgol Gynradd |
Bronaber - sydd
bellach wedi'i chau - tua pedair milltir i'r De o drawsfynydd. |
Roeddwn i'n
hoffi |
POPETH
- yn enwedig darllen llyfr o'm dewis i ar bnawn dydd Gwener. |
... ac yn
casau |
dim
byd o gwbwl! |
|
|
Beth wnes i
wedyn? |
i'r
ysgol i Ffestiniog (Ysgol y Moelwyn, erbyn heddiw). Gwnes ffrindiau da yno
a mwynhau popeth ar wahân i weld y niwl yn llithro'n
isel dros y creigiau o amgylch yr ysgol. Yna i'r Coleg Normal, Bangor. |
Fy ngwaith yw |
Rwy'n
gyn-athrawes yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, ond yn wraig tþ
llawn amser erbyn hyn. Nain i Brenig, Briall a Robert. |
Fy
niddordebau yw |
cerdded,
darllen, eisteddfota, cogio sgwennu cerddi i blant. |
|
|
Anifeiliaid
anwes |
Dwi'n
byw ar fferm yn Llangwm - dwi'n hoff iawn o'r defaid a'r cðn.
Dwi'n mwynhau gwylio'r adar yn pigo o'n bwrdd adar. |
Ffobias (beth
rwy'n eu hofni) |
Nadroedd
- mi gariais un i'r tþ heb feddwl, ers talwm - yng
nghanol coflaid o goed. |
Rwy'n hoffi
sgwennu cerddi |
i
blant. |
|
|
Enwau'r
llyfrau dwi wedi eu sgwennu: |
Dim
un. Ond mae llawer o'm gwaith wedi ymddangos mewn cyfrolau. |
Fy hoff bryd
o fwyd ydy |
Lobsgows.
Mi fwyta i rywbeth! |
Yn y bath,
rydw i'n meddwl am |
'Lle
ces i'r holl greithiau yma?' Sgarmes a chodwm ar y fferm ers talwm! |