Dorothy Jones
Teulu Ni
Mae Rhys yn chwarae Lego
A chodi tþ to fflat
A'r babi'n tynnu cynffon Pws
A'i halio hyd y mat;
Ond Nain sy'n chwarae bingo
A'i het ar dop ei phen,
Hwrê! caiff ddau bysgodyn aur
A bwni cynffon wen!
Chwarae Ysbryd
Ddoi di i chwarae ysbryd, Nain?
'Sdim isio golau 'sti,
Rhaid cau y drws yn glep rðan, Nain -
A dweud ti 'Bw-w-w' fel fi!
Mae isio rhedeg fel hyn, Nain
A dal i weiddi 'Bw-w-w';
Plant mawr sy'n chwarae ysbryd, Nain -
... Mae o'n beryg medden nhw!
... Ond Nain wyt ti go iawn - 'te, Nain,
Wyt ti isio golau nawr?
Does dim rhaid iti ofni, Nain,
Rydw innau'n hogyn mawr!
Cael Cam
Ew, bore Sadwrn dwaetha
Ces ffrae go iawn gan Mam;
Rwy'n siwr gwnewch chi gytuno
Fy mod i 'di cael cam!
'Mae wedi rhewi neithiwr,'
Medd hi, 'rhaid gwisgo cap.'
'O, na, dwi'n boeth,' atebais.
'Gwna fel dwi'n deud, go drap!'
'I'r cae 'na efo'r hogia
A hithau'n farug gwyn!
Os na roi gap ar unwaith
Rhaid aros mewn, fan hyn!'
...Tro cyntaf im gael
chwarae
I fechgyn Blwyddyn tri!
Y ni 'di Man United!!
... Ond... Cap Lerpwl sydd gen i!
Hen Gath y Stryd
Mae'r gath goch heb gartref na ffrind yn y
byd,
A phawb yn ei galw yn 'hen gath y stryd';
Mor ddel pan yn fechan - yn flewog a chwim,
Mae'n hen nawr a rhacsiog, heb goler na dim.
Ni chaiff hi byth Kitty-kat na physgod ffres,
drud,
A sleifio i'r biniau mae hen gath y stryd.
Mae'n mewian drwy'r nos ar y to yn y glaw -
Bydd ffenestri'n agor -"Hysgiat, niwsans - taw!"
Rhag eira a rhewynt rhaid cyrlio wrth wal,
Breuddwydia am hufen a llygod i'w dal.
Pan fyddwch chi heno mewn gwely bach clyd
Meddyliwch am funud am hen gath y stryd!
|