www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

Wyn Owens

Ar y We
(Ymateb y bardd i wahoddiad y golygydd iddo sgwennu)


Rwy'n brydydd lled gyffredin - un swil iawn
A slow anghyffredin!
Nid robot ydwy, Robin,
Ar y we - bydd bardd yn brin!

 

Ifan

Un dyfal ydyw Ifan, - heb ei ail
Gyda'r bêl. Nid tegan
Ddaw â'r hwyl yn rhwydd i'w ran.
Ai bachwr fydd y bychan?

A'th ddileit, wyt athletwr - ym mhob dim,
Heb daw, wyt bencampwr.
Er dy oed, wyt beldroediwr
Solet, ac fe heriet ðr.

Di-ofid ydyw Ifan - yn ei fynd,
Mae ei fyd yn gyfan.
A medrus am ei oedran,
Yn ei sgwrs, ei gwrs a'i gân.

Cei hwyl â'th forthwyl a'th fat. - Carpedi
Dry'n dwyni odanat.
Erw maes y bêl yw'r mat:
Dinas yw'r tþ amdanat.

Mae'r haf ym miri Ifan, - a'i hyder
Yw lleufer ein llwyfan.
Ieuengoed a 'fynn yngan
Ei bysl mawr am bob sylw mân.

Ifan! Eiddot yw afiaith - y gwanwyn
A'i gân sydd yn obaith
Ynot, ac eiddot yw'r iaith
Fwyn 'rydd wanwyn i'r heniaith.

 

Rhy Gynnar Eto

Rwy'n clywed y cðn yn cyfarth o'r clôs
A'r adar yn canu ffarwel wrth y nos.
Mae'r ceir yn rhuthro ar wib drwy Flaen-ffos,
Ond mae'n rhy gynnar eto.

Mae'r tegell yn berwi yn uchel ei stðr
A'r pibelli'n rhuo lle rhed y dðr,
Fe glywais y larwm, ond nid wy'n siðr,
Mae'n rhy gynnar eto.

'Rwy'n clywed rhyw leisiau yn dod o'r llawr
A'r tþ yn deffro i'r prysurdeb mawr.
Ond i mi, er ei bod hi'n doriad gwawr,
Mae hi'n rhy gynnar eto.

 

 

Mae twrw'r radio ar fy nerfau n straen
A'r lleiaf o sðn ar fy nghlyw'n rhy blaen;
A chlywaf Mam gyda'i 'Dere'n dy flaen!'
Ond mae'n rhy gynnar eto.

Caiff y byd a'r betws a'r bws pan ddaw
Fynd yn eu blaen, er i'r cloc daro naw;
Ac ar bawb a phopeth carwn weiddi 'Taw!'
Waeth mae'n rhy gynnar eto.

Yng nghefn fy meddwl clywaf lais bach sydd
Yn dweud mai'n y bore mae dal y dydd.
Ond anodd yw codi o'r gwely'n rhydd
A hithau'n rhy gynnar eto.

 

Sali'n Flwydd Oed

Heddiw 'rwyt ti Sali Gwen yn flwydd oed
A pharti mawr sydd yn Nhan-y-coed.

Daw Gramma a Grampa, Mam-gu a Tad-cu,
Yr wncwls a'r antis i ddathlu yn y tþ.

I'r cefndyr a'r nitheroedd daw'r sbort yn rhwydd
Wrth ymuno yn chwarae y parti pen-blwydd.

Mae'r ford yn llawn dop o bethau neis:
Yn dreiffls a phancos twym a mins peis.

A'r deisen a channwyll arni ynghyn
Yn barod i'w diffodd gyda hyn.

Mae'r robin ar riniog drws Dan-y-coed
Yn canu am Sali sydd heddiw'n flwydd oed,

Fel y teulu i gyd, a Sam y ci
Sy'n dymuno Pen-blwydd Hapus i ti!

 

Yr Arlunydd Ifanc
(in nhafodiaeth Shir Bemro)

Dwy'n leico mynd i lan y môr
A whare in y tywod,
Câl cloddio twlle gida rhaw
A codi cestyll hinod.

Dwy wrth 'y modd pan ga i 'da Mam
Y fflwr a'r twês i'w siapo'n
Batwme pert o sgwârs a sêr
A finne'n wyn 'y nwylo.

A na! 'Sdim byd sy'n well 'da fi
Na pan ga i frwsh a lliwe,
In amal iawn bydd mwy o baent
Ar bopeth ond y llunie!

Ac O! am inc sy'n ddu fel glo
Neu'n las fel cliche'r gwanwin,
Ond tibed pam, wrth liwo â rhein
Ma pawb o hyd in achwin.

Fe es i'r cwpwrt dan y sinc
Un dydd a gweles ino
Rhyw dun mowr trwm a'i lond o stwff
A'r lliw rhifedda arno!