www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

William Greenslade

Ymbarel

Ew! Mae'n swel
cael cerdded dan ymbarel!
Mae'n brofiad heb ei ail!
Am rwyd i ddal breuddwyd!

Pinc a glas yw lliwiau f'un i,
blodeuog fel carped un Mam.
'Does na'r un 'da Dad, mae wastad
yn eu colli; ond weithiau ymabarel
cwrs golff enfawr sydd uwch ei ben.

Mae codi ymbarel fel codi nen newydd
yn erbyn cwmwl du;
mae'n rhoi gwedd ryfedd
ar bafin, ar esgid ac ar fy wyneb i.

Pabell yw, neu dywel ar draeth,
a finnau yn newid o fod ar fy ffordd
i Ddosbarth Tri i fod yn Sgowt
dan ganopi'r goedwig.

Dro arall,
dan gysgod fy enfys glyd,
byddaf yn theatr fach y byd, a'm traed
yn bypedau yn y pyllau glaw.
Sblish yw enw'r naill a Sblash y llall,
nes i Mam fy neffro,
"Dere 'mlaen, y groten, dwyt ti ddim yn gall!"