www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

W J Gruffydd (Elerydd)

Claddu'r asyn

Yn ymyl Tre-lech mae comin Cil-hir
Lle dôi teulu'r sipsiwn, wrth grwydro'r sir.

Roedd ganddynt hen asyn esgyrnog, di-werth,
Yn canlyn o hirbell, wedi colli ei nerth.

Fe glywid ei nadu - Hi - o - i - o
Yn codi dychryn fin hwyr dros y fro.

Bu farw'r asyn un nos dan y lloer,
Ac erbyn y bore roedd yn gelain, oer.

Daeth y Ficer ar daith, ac edrych i lawr
O gefn ei feic  ar y trychineb mawr.

Ac i ffwrdd yr aeth heb aros yn hwy
I chwilio am Glerc y Cyngor Plwy;

I dorri'r newydd am farwolaeth syn
Ar gomin Cil-hir wrth droed y bryn.

Llefarodd y Clerc: "Nid fy ngwaith i
Yw claddu'r asyn; eich dyletswydd chi

Yw claddu'r plwyfolion yn ôl eich trefn,
A pheidiwch dod yma fel hyn drachefn."

Atebodd y Ficer yn bwyllog iawn:
"Mi wn, wrth gwrs, am eich gallu a'ch dawn;

Ond cyn claddu neb ar ddiwedd ei rawd
Rwy'n arfer hybysu perthnasau'r brawd."

Pan adroddir y stori o hyd yn y fro
Mae rhywun yn ateb: Hi - o - i - o.

Hi - o - ho - ho - ho!

 

Y Gwaddotwr

Guto fain, gyda'i focs bach tun,
Ac eilun plant y fro
Yn dweud celwyddau a dyli dwl
Wrth ddyfod yn ei dro.

Guto fain, gyda'i focs bach tun,
Yn blingo'r gwaddod dall,
A'i chwerthin hir yn llenwi'r sied
Fel pe bai ddim yn gall.

Guto fain, gyda'i focs bach tun,
Yn wlyb o'i ben i'w draed;
Guto fain, oedd mor wyn ei fyd
Yn awr yn poeri gwaed.

Guto fain, heb ei focs bach tun,
A'r peswch bron â'i ladd;
Cyn hir bydd Guto fain ei hun
Mewn bocs yn is na'r wadd.