www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

W D Williams
(Y teulu biau hawlfraint y cerddi canlynol)

Oed Nain

Addefodd Nain o'r diwedd
Faint oedd ei hoed wrth Gwynedd:
'Run oed, run oed
 bawd fy nhroed
A thipyn hyn na 'nannedd!

 

Concar Cant

Mae yn fy mhoced Goncar Cant
Sy'n destun syndod pawb o'r plant.

Does neb am fentro'i herio fo
Gan na cheir dim ond cweir bob tro!

A phwy sy'n hoffi gweld yn glau
Ei goncar hoff yn malu'n ddau?

Mae fel y graig, a bron mor ddu,
Ar ôl bod drwy y brwydrau lu.

O gastanwydden ger Tþ Nant
Y cefais ef, - mae'n un o gant!

Fe'i ces o llynedd, deud y gwir,
Ac yn y popty bu am hir.

Gan na dderbyniodd neb fy her
Am ornest fawr, am ennyd fer,

Mae'n haeddu pensiwn a V. C.
'Victorious Concar,' coeliwch fi!

 

8 o'r Gloch

Dau amser drwg sydd ar y cloc.
Ie, dim ond dau, tic toc, tic toc.
Un yn y bore bach y sydd
A'r llall fin hwyr ar derfyn dydd.

Am wyth o'r gloch yn y bore bach
A mi ynghwsg ac yn chwyrnu'n iach,
Daw mam i'r llofft mewn helynt fawr
A thynnu'r dillad gwely i lawr.

Ac wyth o'r gloch fin nos yw'r llall
A hwyl y chwarae yn ddi-ball,
Daw mam o'r tþ gan weiddi'n groch -
'Tyrd, brysia i'r tþ, mae'n wyth o'r gloch.

'Nawr dowch gyfeillion (sy'n llawn gwg)
I wneud i ffwrdd â'r amser drwg,
A dowch â'ch cyllill 'nghyd i'r cwrdd -
I dorri'r ffigwr 8 i ffwrdd!