Urien Wiliam
YNYS Y BARRI
Cael siwrnai yn y siarrri
A wnaeth y prydydd gynt;
O’r cymoedd glo i’r Barri
Dôi’r plant ar ddifyr hynt –
A threulio’r diwrnod wnân o hyd
Ar lan y môr yn wyn eu byd.
Bwced a rhaw i gychwyn
Ac adeiladu twr;
Castell o dywod melyn
A ffos yn llawn o ddwr –
Ac ar y tðr rhaid cael draig goch,
A dawns o’i chylch a gweiddi’n groch!
Awr ginio does dim penbleth –
Mae’r bwytai oll gerllaw
A’r sglodion gyda phopeth
Yn hwylus ar y naw –
Diwallu angen, llenwi bol,
Sy’n hawdd i’w wneud a heb ddim lol.
Yn ôl i’r traeth am dipyn
A bolaheulo’n braf,
Gan deimlo na ddaw terfyn
Fyth mwy ar heulwen haf;
A chladdu rhyw gysgadur mwyn
O dan y tywod at ei drwyn!
Neidio i mewn i’r tonnau –
Clywch y gwichiadau lu !
Blas hallt ar ein gwefusau,
Yr isdon yn tynnu’n gry’ –
Herio’n gilydd cyn ffoi i’r tir,
Sychu a newid – daw’r nos cyn hir.
Ffarwél i draeth yr Ynys,
Mae’n hen bryd mynd i’r ffair;
Nid yw yn siwrnai ddyrys –
Cam ceiliog, ar fy ngair.
Cawn gyfle nawr am fentrus hynt –
Llond bol o fraw a cholli’n gwynt!
Ceir dojan, tþ ysbrydion,
Cwch dðr, yr Olwyn Fawr,
Bingo a gemau gwirion,
Trên bach, tðr sglefrio i lawr,
Cerbydau chwyrn i’n gwneud yn dost –
A gwario’n pres heb gyfri’r gost.
Ond nawr mae’n bryd ffarwelio
Ar derfyn nos o haf;
Yn gysglyd ond heb gwyno
Mae pawb yn fodlon braf –
A rhywbryd eto fe ddaw’r plant
Yn ôl i’r Barri fesul cant.
Adroddiad i Frawd a
Chwaer ar gyfer Swper Gwyl Ddewi
BRAWD:
Un diwrnod fe ddwedodd Mami im
Fod gen i gyfle am swper am ddim!
Swper hyfryd o gawl cartre,
Yn llawn o datws a moron a phethe –
CHWAER
A "Sêrs ar ei wmed" , ys dwedodd
y Bardd,
Yn winco mewn bowlen enfawr, hardd,
A chwlffyn o fara a’r menyn yn dew
A threiffl i ddilyn – sôn am swper glew!
BRAWD
Roedd llygaid fy chwaer i fel dwy soser
Wa’th meddwl am fwyd fydd hi bron
bob amser,
CHWAER
"Swper am ddim?"
BRAWD
Medde hi wrthyf fi –
CHWAER
"Mi hoffwn i fynd – beth amdanat ti?"
BRAWD
Wel – fe wyddoch mai bachgen swil ydw i
–
Byth yn dangos fy hunan fel hi –
Rhy swil i ddweud adnod ar fore dydd Sul –
CHWAER
Rhy swil wir! Diogi sydd arnat ti’r mul!
Weles i neb mor ddiog yn ‘y myw,
Yn symud fel crwban a hwnnw dan y
ffliw!
Ni ddaliet fyth annwyd, heb sôn am ddal bws
–
BRAWD
Ym - maddeuwch i hon am wneud y fath ffws
–
Mae hi mor eiddigeddus, chi’n gweld, ata i.
Am mai fi yw’r adroddwr gore’n tþ ni –
CHWAER
Yr adroddwr gore? Paid â dweud celwydd!
Mae dy lais mor bersain â’r fran neu’r crychydd!
BRAWD
Ddes i ddim yma i gwympo mas!
CHWAER
Ddes inne ddim chwaith i siarad yn gas!
BRAWD
Dod yma wnes i i adrodd ‘rôl swper –
CHWAER
A finne hefyd – ond heb golli ‘nhymer!.
BRAWD
Wel, beth am gytuno fan yma nawr
I adrodd yn deidi i’r bobl fawr?
CHWAER
Popeth yn iawn – ond rwy i wedi anghofio
Pob gair a ddysgais cyn dod yma heno.
Wrth weld yr holl wynebe hyn
Yn gwenu, yn chwerthin ac edrych yn syn
Mae arna i ofan agor fy mhen
I adrodd dim byd ond y gair bach `Amen’.
BRAWD
Fe allen fynd mlaen fel hyn tan yn hwyr
Oni bai fod Dadi ‘di blino yn
llwyr,
Fe hoffai fynd adre i weld rhaglen hwyrol
Ar Es Pedwar Ec a honno’n ddigidol.
Ac felly mae’n amser i ninne ddistewi
A gwneud gair mwys o’r enw Gðyl Dewi!
Y DDAU
Gobeithio fod pawb yn cael amser da
Ac felly fe ddwedwn ni’n dau fach "Ta Ta!"
Enwogion Cymru Gynt
Weldyma ni yn gwmni llon
Yn sefyll yma ger eich bron
I ddweud yr hanes wrthych chi
Am rai o’n pobol enwog ni.
Caradog ddewr yw’r cyntaf un
A welwch yma yn ei lun;
I Rufain bell mewn cadwyn aeth
A sôn am ryddid yno wnaeth.
A Buddug fu ar dân i gyd
I gadw Cesar draw a’i fflyd;
Fe welwch bicell yn ei llaw –
 hon mae’n cadw’r gelyn draw!
Yr ail ðr enwog yma yw
Y gðr a ddaeth i sôn am Dduw
Wrth ein cyndadau gyda’u plant –
A’i enw, wrth gwrs, yw Dewi Sant.
A Hywel Dda sydd yma nawr –
Fe ddododd drefn ar ddeddfau mawr
Dros Gymru gyfan, fwy neu lai –
Bu ef yn frenin doeth, di-fai.
Mae pawb sydd yma heddiw’n siðr
O nabod Owain o Lyn-dðr;
Ein senedd cyntaf inni roes –
A hynny’n bell o flaen ein hoes!
Esgob da oedd William Morgan;
Helpu’r Cymry oedd ei amcan;
Am un peth mae’n cael ei foli –
Ef a roes y Beibl inni.
Roedd Gruffydd Jones ar dân i gyd
I sôn am Iesu drwy’r holl fyd;
Ond aros gartre wnaeth serch hynny
I roi ysgolion i blant Cymru.
Gðr o’r gogledd oedd Syr Ifan –
Ond daeth i ddeffro Cymru gyfan;
Dysgodd ef dri pheth i’w caru –
Ein gwlad, ein brawd a’r Arglwydd Iesu.
A dyma ni, blant bach yng Nghymru,
Yn Gymraeg yn cael ein dysgu –
Diolch i arwyr y gorffennol –
Ffyddlon fyddwn i’r dyfodol.
(Yes! We have no Bananas...)
(Cyfieithiad)
Oes! Does gen i fanana,
Does gen i fanana i chi;
Mae panas a chenin
A moron ac erfin,
A llysiau a ffrwyth o fri.
Mae yma bys gardd a thomato,
A sweds a digonedd o dato,
Ond oes! Does gen i fanana –
Does gen i fanana i chi!
Cân Tomi (Allan o `Agi Agi
Agi!’)
(I’w chanu ar y dôn `Colonel Bogey’)
Ta ra ra ra ra ra ra om tidl om pom pom!
Tomi sy’n lico merched pert!
Mae’n hoff o bawb sy’n gwisgo sgert –
Blonden neu ambell gochen
Neu un â’i thalcen yn gymen
Dan wallt mor ddu â’r fran;
Croten wahanol at bob nos –
Beti o’r dref a Mair o’r Rhos –
Siwsi a Meg a Liwsi ,
Bob un ar Tomi yn dwlu yn lân!
O Eneth!
O – eneth! Prydferth wyt ti!
O – eneth, gwrando fy nghri!
Rwy’n dy garu, rwy’n dy garu,
Rwyt ti’n eilun i fi!
O’r edrychad – gwreichion o dân!
O’r ddau lygad – du fel y frân!
Syrthiais dros fy mhen a ’nghlustiau
A phob munud ti yw testun fy nghân!
Rwyt ti’n bertach,
Rwyt ti’n ddelach,
Rwyt ti’n lanach,
Rwyt ti’n ffelach,
Dy wên yw fy llawenydd,
Rwyt ti yn fy meddwl beunydd –
O eneth – gwrando ar fy nghri!
O eneth – oes’na obaith i fi?
Rwy’n dy garu, rwy’n dy garu,
Rwyt ti’n eilun i fi!
Y GWYLLIAID COCHION
Flynyddoedd gynt yng Nghymru fu –
Gwrandewch ar stori greulon –
Fe drigai haid o ladron hy
Ym Maldwyn ac ym Meirion;
Nid un neu ddau ond cant a mwy
A heriai Ddeddfau’r goron,
A thaenu arswyd drwy bob plwy
Wnâi enw’r Gwylliaid cochion.
Pob gðr neu wraig gyfoethog âi
Mewn ofn rhag colli‘u harian
Dan ddwylo’r Gwylliaid mawr eu bai –
Ysbeilwyr gwaeth na’r cyfan!
Ac at y Barwn Owen aeth
Eu cri am gael ymwared,
Ac yntau’n llawen addo wnaeth
Eu hachub rhag y giwed.
A’r flwyddyn bron â dod i ben
Ym Mallwyd fe fu parti,
A’r Gwylliaid dan y lleuad wen
Yn gwledda a dawnsio’n harti;
Heb ofni dim ar nos mor oer
Ar drothwy Gðyl y Geni,
Roedd pawb yn llon dan wenau’r lloer
Yn fawr eu hwyl a’u miri.
Ac yna’n sydyn dyma lu
O filwyr a marchogion
Yn rhuthro drwy y noson ddu –
A dal y Gwylliaid Cochion!
Ar ganol gwledd, ar ganol dawns,
Heb arf, a rhai yn feddwon,
I ffoi neu guddio nid oedd siawns
Na gobaith chwaith i’r lladron.
Ond pwy sy’n dod ar bwys ei ffon
A’i dagrau yn ddiddiwedd?
Mam dau o’r Gwylliaid ydi hon
Yn ymbil am drugaredd.
"Maddau" medd hi, "i’r bechgyn hyn
A rho yn ôl eu bywyd..."
"Maddau?" atebodd yntau’n syn –
"Ni allwn fod mor ynfyd!"
A’u crogi wnaeth o un i un
O flaen yr henwraig druan,
A’i gadael yno wrthi’i hun
Yn ochain ac yn cwynfan;
Ac yna cododd hithau’i llef
A gwaeddodd dan ochneidio
"Boed arnat, Farwn, felltith Nef
Am ladd fy meibion heno!"
A diwrnod ddaeth ‘mhen hir a hwyr,
A’r Barwn eto ym Mallwyd,
Y Gwylliaid aeth yn angof llwyr
A’r wreigan drist ni welwyd.
Y Barwn gerddodd yn ddi-oed
Mewn brys i gyrraedd adre
Ond – usht – mae rhywun yn y coed
Yn dilyn hynt ei gamre.
A chyn i’r Barwn ddianc draw
Mae cyllell yn ei daro
A’i ostwng yntau yn y baw
Mewn gwaed i orwedd yno.
Ac o’r cysgodion fe ddaw llu
O ffurfiau tywyll, rhyfedd –
Ysbrydion yr hen Wylliaid hy,
Yn rhydd o’u cosb o’r diwedd!
A dacw’r henwraig eto’n llon
Fel cynt, cyn y gyflafan,
Yn dawnsio’n hapus gyda’i ffon
Hebo wylo a heb gwynfan.
Ac unwaith eto her ysydd
I Farnwyr Llys y goron –
A brwydr arall am ryddid fydd
Gan blant y Gwylliaid Cochion!
|