www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Tudur Dylan Jones

Dydw i Ddim Eisiau

Dydw i ddim eisiau aros mewn
Os yw hi'n bwrw glaw
Mae'n well gen i
Fynd mas â'r ci
I chwarae yn y baw.

Dydw i ddim eisiau bwyta'n iach
Mae hynny'n lot o lol,
Mae llond y lle
Mae tsips i de
Yn llawer gwell i'r bol.

Dydw i ddim eisiau golchi gwallt
Bob bore, pnawn a nos,
Mae'n berffaith iawn
Cael gwallt sy'n llawn
O faw a bwyd a sôs!

Dydw i ddim eisiau mynd bob nos
I 'ngwely i am saith,
Na chodi'n iach
Y bore bach
Yn gynnar, gynnar chwaith.

Dydw i ddim eisiau mynd a mynd
A mynd a mynd o hyd,
Dwi'n dweud y gwir,
A'i ddweud yn glir:
Dwi'm eisiau gwneud dim byd!

 

Pan Fydda I Yn Fawr...

Pan fydda i yn fawr
Fe fydda i'n blismon pwysig,
Fe fydda i'n gas wrth ladron drwg,
Wrth eraill - yn garedig.

Pan fydda i yn fawr
Fe fydda i'n nyrs mewn sbytu,
Fe fydda i'n gwella cleifion sâl
Sy'n gorwedd yn y gwely.

Pan fydda i yn fawr
Fe fydda i'n chwarae rygbi
Fe fydda i'n gwneud fy ngorau glas
I sgorio cais dros Gymru.

Pan fydda i yn fawr
Fe fydda i'n adeiladydd,
Yn adeiladu tyrau mawr
O Blwmp i Efrog Newydd.

Pan fydda i yn fawr,
Y diwrnod ar ôl fory!
Fe hoffwn fod yn fwy na dim
Yn Brif Weinidog Cymru!

 

Mae Gen I

Mae gen i iâr sy'n hedfan
Yn gyflym fel y gwynt,
Mae gen i sgidiau rhedeg
A gostiodd chwe chan punt.

Mae gen i gôt sy'n sychu
Yng nghanol storom law,
Mae gen i frawd sy'n gallu
Lladd teigr ag un llaw.

Mae gen i beiriant adref
Sy'n chwarae mil CD,
Mae gen i gi Alsesian
Sydd nawr yn gant a thri.

Mae gen i gath sy'n nofio,
A hynny rownd y byd...
Mae gen i feddwl hefyd
Sy'n gelwydd noeth i gyd!

 

 

Bai ar Gam

Rwy'n byw mewn tþ cysurus
Yng ngwmni dad a mam,
Rwy'n hapus iawn, ond hefyd
Rwyf weithiau yn cael cam.

Mae Sian fy chwaer yn bedair,
Mae gas i fi o hyd,
Y mae hi'n cwyno, cwyno,
A minnau'n gwneud dim byd.

Ac wrth gael bath mae Dafydd
Fy mrawd yn taflu dðr,
Mae mam yn wlyb bob amser,
Ond fi sy'n cael y stwr.

Mae'r gath yn crafu, crafu
Y llawr a'r papur wal,
Rwy'n gwneud dim byd ond edrych,
Ond fi sy'n cael fy nal.

Mae un o'r teulu'n annwyl,
A hwnnw yw fy nghi,
Mae hwn yn ffrind bob amser,
Mae'n brathu pawb ond fi!

 

Yn y Nyth

Mewn nyth ar ben y gangen
neithiwr wrth ddrws y tþ
roedd yno gywion melyn
yn canu oddi fry.

Ar gangen arall wedyn
eisteddai wiwer lwyd
yn edrych ar y cywion
yn disgwyl am eu bwyd.

Ond gyda'r wawr rwy'n sylwi
ar blisgyn ar y llawr,
y wiwer wedi rhedeg
a'r nyth yn wag yn awr.

 

Y Gornel Dywyll

Mae gen i gornel dywyll, fach
Yng nghefn fy stafell wely,
Dim ond y fi sy'n mynd i'r lle
Achos dim ond fi sy'n gallu.

Mae'r gornel yma weithiau'n troi
Yn unrhyw beth rwyf eisiau,
Trwy gau fy llygaid bach yn dynn
A meddwl am y gorau.

Mae weithiau'n llong sy'n croesi'r môr
A chyrraedd traeth Awstralia,
Neu weithiau'n gar yn mynd ar ras
A fi yn dod yn gynta.

Unwaith mi ro'n i'n frenin mawr,
Ac ar fy mhen roedd coron,
Ac yna ro'n i'n sgorio cais
A Chymru'n curo'r Saeson.

Lle bynnag rwyf yn mynd ar daith
I'r gogledd neu i'r de,
Rwy'n dod yn ôl oan glywaf mam
Yn gweiddi, 'Amser te!'