Tegwyn Jones
Tri Dyn Bach
Tri dyn bach a aeth i hwylio
Ar y llyn mewn hen dun baco,
Daeth yn wynt, ac aethant hwythau
Gyda'r tun o dan y tonnau.
Biti! Petai'r gwynt heb godi
Byddai gennyf fwy o stori!
Hosanau
Mi es i wlad y Wa-Wa
Ar gefn yr hen Jac Do
I brynu pedair hosan
I'w rhoi am draed y llo,
Ond gwelais deigr melyn
Yn wylo'i ddagrau'n lli,
Fe roddais iddo'r sanau
A "Diolch yn fawr!" ges i.
Beth Sydd yn Felyn?
"Beth sydd yn felyn?"
Meddai Tomos Llywelyn,
"Gwallt Gwenno o'r Dolydd",
Meddai Dafydd Meredydd.
"Be roit-ti am hwnnw?"
Meddai Morgan fab Gronw,
"Mi roddwn y cyfan"
Meddai Lowri Cadwgan.
"Am be roit ti'r cyfan?"
Meddai Hywel Wyn Ifan,
"Am wallt Gwenno'r Dolydd"
Meddai Dafydd Meredydd,
"Mor felyn! Mor felyn!
Meddai Tomos Llywelyn.
Cartref Wil
Yn Rhosllannerchrugog mae cartref Wil Ddiog,
Mae cartref Wil Ddiog yn Rhosllannerchrugog,
A wyddoch chi, Syr, ble mae cartref Wil Ddiog?
Mae cartref Wil Ddiog yn Rhosllannerchrugog.
Cath Yn Neidio
Neidiodd cath fy Modryb Margiad
O ben y clawdd i ben y lleuad,
Daeth i lawr cyn amser cinio
Am fod prinder llygod yno.
Cwpan a Soser
Cwpan a soser a chyllell a llwy,
Mi welai hen wreigan yn bwyta dau ðy,
Un yn ðy bychan a'r llall yn un mwy,
Cwpan a soser a chyllell a llwy.
Migl-di, Magl-di, Migl-di Mo
Mae dadi yn methu dod lawr o ben to,
Syrthiodd yr ysgol, wel dyna hen dro,
Migl-di, Magl-di, Migl-di Mo.
Fuwch Goch Gota
Fuwch Goch Gota,
Fuwch Goch Gota,
Ymhle cefaist ti dy smotia?
"Prynais nhw yn ffair Tregaron
Gan rhyw deithiwr rhadlon, rhadlon"
Fuwch Goch Gota,
Fuwch Goch Gota,
Faint yr un oedd pris y smotia?
"Dime'r un neu dri am geiniog,
Mae hi'n ddyddiau drud cynddeiriog!"
Lowri Fach
Lowri fach yn mynd â Nel
Tua'r ffair mewn ymbarel,
Beth os daw yn law yn sydyn?
"Fe gaiff Nel fy nghario wedyn!"
Chwerthin
Mae'r bachgen bach penfelyn
Yn chwerthin ac yn chwerthin
Wrth weld y ddau aderyn llwyd
Yn bwyta bwyd y mochyn.
Wrth Fynd i Lanole
Wrth fynd i Lanole
I weld fy hen fam-gu
Mi welais fuwch mewn ffedog
A chath mewn het fach ddu.
Mi welais ddwy hen wreigan
Yn chwarae cicio pêl
A phlisman mawr yn llusgo
Dau gangarw i'r jel.
Mi welais siopwr bychan
Yn bwyta llwyth o lo
A'i wraig wrth weini arno
Yn canu 'so-mi-do'.
Mi welais iâr
a milgi
Y ddau yn rhedeg ras
A hithau'r iâr rôl colli
Yn dweud y drefn yn gas.
Roedd yn y pentre ddafad
A chanddi gant o ðyn
Ac asyn bach a choeden
Yn tyfu ar ei drwyn!
Roedd yno deigar melyn
Yn prynu llestri te,
A theiliwr bach yn chwilio
Am flaen ei esgid dde.
A dyna'r rhyfeddodau
A welais ar bob tu
Wrth fyned i Lanole
I weld fy hen fam-gu.
Llan-Twdl-Dw
Pan fyddwch tro nesaf am fyned i'r dre
Ond ddim yn cael dyfod ar gyfyl y lle,
Gwell lawer na phwdu a chrio bw-hw
Fydd mynd am brynhawn bach i Lan-twdl-dw.
O! Dyma le hyfryd - yn wir tewch a sôn -
'Does unlle yn debyg o Fynwy i Fôn.
Gwell ydyw na syrcas, gwell hefyd na sð,
Mae pob rhyw ryfeddod yn LLan-twdl-dw:
Ceiliogod yn darllen, gwiwerod yn gwau,
Hen wragedd bach bochgoch yn byw mewn coed cnau!
Y gwartheg yn mewian a'r gath yn dweud "Mð!"
Rhyw le reit gyffredin yw Llan-twdl-dw.
Does neb yno'n cerdded - mae'n ormod o ffws
-
Na neb chwaith yn aros am dacsi neu fws,
Cewch yrru o gwmpas ar gefn cangarð,
Mae pethau'n fwy modern yn Llan-twdl-dw.
Cewch ddringo pob coeden a neidio pob ffos
Ac aros yn effro tan ganol y nos,
Does neb yn dweud 'Peidiwch!', ' Twt-twt' na 'Pw-pw'
Cewch wneud fel y mynnoch yn Llan-twdl-dw.
Mae pawb yno'n chwerthin - does neb byth o'i
go -
A chroeso sydd yno i bawb ddaw am dro.
Os dewch ar ymweliad fe af ar fy llw
Nad ewch chi byth wedyn o Lan-twdl-dw.
Ffrindiau
Brynhawn ddydd Mercher diwethaf
O'i gartref ar y fron
Aeth Tomos Ifan Wiliam
I gerdded gyda'i ffon.
Roedd ganddo het fach felfed
'Run lliw a'r eira gwyn
I gadw'r haul o'i lygaid
Wrth gerdded dros y bryn.
Ar draws y ddôl y
troediodd
A thua'r goedwig fwyn
Lle trigai ei gyfeillion
Mewn llawer perth a llwyn.
Fe aeth y newydd llawen
O gwmpas yn ddi-oed,
"Hwre! Mae Tomos Ifan
Yn dyfod tua'r coed".
Ac yna i'w gyfarfod
Daeth ei gyfeillion lu:
Cwningen lwyd a gwiwer
Yng nghwmni'r wadden ddu.
A'r adar oll yn tiwnio
Yn llawen ar y pren
Wrth weled Tomos Ifan
Yn dod mewn het fach wen.
Y draenog swil oedd yno
A'r carlwm bychan glân,
Y cadno coch a'r wenci
A hwythau'r llygod mân.
A thrwy'r prynhawn bu'n eistedd
Yn hapus gyda hwy
Gan adrodd straeon difyr
Am ryfeddoda'r plwy.
A hwythau oll yn gwrando
Heb gyffro yn eu plith
Nes aeth yr haul i'w wely,
A disgyn wnaeth y gwlith.
Ac yna Tomos Ifan
Ddychwelodd gyda'i ffon
Yn ôl ar draws y caeau
I'w gartref yn y fron.
A meddai Siani'r wiwer
Wrth wylio'i het fach wen,
"Un ffeid yw Tomos Ifan
A nodiodd pawb ei ben.
Jones y Plismon Tew
Un dydd aeth Jones y Plismon Tew
I'w waith gan wenu'n fwyn,
Ond O! fe aeth heb gofio rhoi
Ei sbectol ar ei drwyn.
Cerddodd yn araf hyd y ffordd
Dan fwmian pwt o dôn,
A safodd i gael sgwrs fach fer
 phostyn teliffôn!
Ni ddwedodd air wrth Huws y Cwm
A gerddai tua'r dref,
Roedd Huws yn fain - a chredodd Jones
Mai postyn lamp oedd ef.
Fe welodd fuwch yng nghae Ty'n-rhos
Yn pori yno'n ffri
A rhedodd bant gan gredu'n siwr
Mai eliffant oedd hi!
Aeth adre i ddweud y stori i gyd,
Ac meddai'i wraig yn fwyn -
"Gwell ichi beidio myned mwy
Heb sbectol ar eich trwyn.
|