Selwyn Griffiths
Cath
Gwyn ei byd
y belen ffwr
ger y tanllwyth tân.
Deffro'n ddiog,
gan dynnu'i hewinedd o'i blew;
crwbio'i chefn,
a'i phawennau melfed yn suddo i'r carped,
wrth iddi lithro i'r gegin
fel teigres ar browl.
Llepian ei swper,
Cyn sleifio'n llond ei bol
yn ôl at y tân
i lyfu'r diferion gwyn
oddi ar ei wisgars.
Ymolchi,
a grwndi yn ei phader
yn gryndod ar y carped.
Cysgu!
Breuddwydio?
Breuddwydio am wlad
Yn llifeirio o laeth,
- a llygod yn prancio.
Gwyn dy fyd
y belen ffwr
ger y tanllwyth tân.
Ar y Ffôn
Rwy'n hoffi weithiau
Cael sgwrs ar y ffôn
Hefo Modryb Mari
Sy'n byw yn Sir Fôn.
Deialu 'Chwech, saith
Pump, dau, un tri,'
Ac aros eiliad ...
'Helo!' - dyma hi!
'Helo Modryb Mari,
Sut mae Dewyrth John?
Mae o'n swancio, rwy'n deall
Mewn car newydd sbon.
Wrth gwrs, Modryb Mari,
Wel ia, siwr iawn,
Cofiwch ddod acw
Yn y car ryw brynhawn.
Hwyl, Modryb Mari,
Rhaid mynd rwan O K?
Mae Lerpwl yn chwarae
Ar Match of the Day.
Rwy'n hoffi weithiau
Cael sgwrs ar y ffôn
Efo Modryb Mari
Sy'n byw yn Sir Fôn.
Gwalltiau
Dyn bach del ydy 'Nhad i,
Un annwyl, tawel, mwyn:
Dim blewyn o wallt ar ei ben o
Ond llawer o flew dan ei drwyn;
Ac mae Dadi Dafydd drws nesa'
Yn ddyn bach siriol a chlên,
Dim blewyn o wallt ar ei gorun
Ond clwstwr o wallt dan ei ên,
A dyn bach hynod o ddoniol
Yw Wiliam y Barbwr, tad Nest,
Dim blewyn o dan ei drwyn na'i ên,
Ei ben o fel ðy,
Wir, dd'weda i ddim mwy,
Ond mae'i wallt o i gyd ar ei frest!
Tipyn o Dderyn
"Mae dy Dad yn dipyn o dderyn",
meddai Dewyrth Sam,
Dychrynais
a rhedais adre'n syth
I ddweud wrth Mam.
"Mam", meddwn i,
"Choelia i ddim
fod dad yn medru hedfan
drwy'r awyr yn chwim;
ac yn siwr i chi,
Choelia i byth
ei fod o'n gallu
dodwy ðy mewn nyth.
Mae na flew ar ei goesa' fo, oes,
ac ar ei frest o - rhai du,
ond wir, wnes i ddim sylwi, Mam,
os oedd o'n magu plu"
"Ngwas i", medd Mam,
"Na, 'does gen dy dad ddim plu,
ond coelia di fi,
mae o'n dipyn o dderyn - ydy wir,
- dipyn o dderyn du!"
Ofn
Mae arna i ofn.
Ofn bwgan y nos,
Ofn ci sy'n cyfarth,
Ofn syrthio i mewn i'r ffos;
Ofn methu cyrraedd
Yr ysgol erbyn naw,
Ofn cael fy nal
Heb got yng nghanol glaw.
Mae arna i ofn
Y storm sy'n rhuo'n gry',
Ofn mellt a th'ranau
Ofn cymylau du.
Mae arna i ofn
Cael cosb am lyncu mul,
Ofn bod yn sâl
Ar ddydd trip Ysgol Sul;
Ofn doctor, ofn deintydd,
Ofn syrthio i'r afon ddofn;
Hen fabi ydw i'n tê?
Mae arna i ofn!
Gofyn i dy Dad
Ys gwn i pam mae dðr yn wlyb
A'r nos o hyd mor ddu;
A pham mae ci yn gwisgo blew
A'r iâr yn gwisgo plu?
A pham mae'r coed yn gwisgo dail
Drwy'r haf, a hithau'n boeth?
Ond eto, pan ddaw'r gaeaf oer
Mae'r brigau i gyd yn noeth!
Pam mae y lleuad ambell dro
Fel oren yn y nen,
Dro arall fel banana fain
Yn hongian wrth fy mhen?
Waeth i mi heb â gofyn, wir,
I Mam am eglurhad;
Yr ateb gaf bob tro yw hyn -
'O, gofyn i dy Dad!'
Llyncu Mul
'Mami, mae pob plentyn
Sy'n dod i'n hysgol ni
Hefo anifail anwes -
Deryn, neu gath, neu gi.
'Yn wir, fe hoffwn innau
Anifail o ryw fath:
Mul bach, neu beth am fwnci?
Lot gwell na chi neu gath.'
'Mwnci?' medd Mam mewn syndod,
'Mwnci?' wel na chei byth,
Ac os daw mul i'r lle 'ma
Mi lyncith dy dad o'n syth.'
Dichon y byddai mwnci
Braidd yn rhy wyllt a chwim,
Ond wir, sut gallai 'Nhad i
Lyncu mul? Wel, dwn i ddim!
Rhyfeddodau
Mae'r sebra sy'n swagro
O gwmpas y sð
Yn gwisgo crys rygbi,
Medda nhw.
Ac mae'r eliffant mawr,
Yn ôl pob sôn,
Yn defnyddio'i drwnc
I ddeialu'r ffôn.
Mae Mistar Crwban
Yn dweud y drefn
O orfod cario
Ei dþ ar ei gefn.
A'r neidr gantroed
Sy'n cwyno o hyd
Am fod esgidiau
Yn costio mor ddrud.
Ai gwir yw hyn?
'Wel, ie,' meddan nhw,
'O, gwir pob gair' -
'Nôl y Gwdihð.
Jac Codi Baw
O, Dad, pam na wnei di
Brynu Jac sy'n codi baw,
Yn lle chwysu chwartia
Hefo caib a rhaw?
Wedyn fe gei eistedd
O fewn ei gaban clyd
I wylio'r Jac yn codi
Y cerrig mawr i gyd.
O symud ambell lifar
A newid ambell gêr
'Fyddai'r Jac 'run chwinciad
Yn clirio'r mieri blêr.
A gallet weithio, wedyn,
Ynganol gwynt a glaw
O gysgod caban gwydyr
Y Jac sy'n codi baw.
'Cym On Reff'
Chwiban yn deffro'r dorf,
cymysgedd o liwiau
yn ymwau drwy'i gilydd,
cymanfa o sðn.
A dyn bach mewn du
a'i goesau dryw
yn padlo beic anweledig drwy'r mwd.
Pib, pensel, llyfr bach a dwy oriawr;
lwmp o awdurdod,
mor benderfynol â warden traffig,
mor fyddar â'r pyst gôl.
Y dorf yn ei bledu'n barhaus
â bwledi o wawd.
- 'Deffra'r clown!'
- 'Syrcas 'di dy le di!'
- 'Lle ma' dy ffon wen di'r lob?'
Cawodydd o ddirmyg
yn peltio dros y maes
a'r gwawd yn berwi.
- 'Camsefyll y ffðl!'
- 'Sbectols, Reff?'
- 'Penalti!' -
- 'Cym on Reff, Penalti!'
Cicio, rhegi, dadlau, baglu,
a sgrech o chwiban
yn tawelu'r storm;
daw'r bensel fel cledd o wain yr hosan
i nodi trosedd,
a chytgan fygythiol yr 'off, off, off!'
yn taranu o'r teras.
Cerdyn coch,
a'r bys awdurdodol
yn pwyntio at y smotyn gwyn,
a chawdod gynnar
i'r bwystfil o droseddwr milain.
- 'Gofyn amdani, Reff!'
- 'Da iawn, Reff!'
- 'Well done, Reff!'
Chwiban arall, -
GOL, GOOOoool! HWWwwREêê.
'Dew,
Reff da 'di hwn, bois!'
|