| |
Rhys Dafis
Llyn y Gist
Yn llun y bonyn, bu yno yr un
Falerina'n dawnsio
Waltz ddi-derfyn er cyn co.
Er llifo'n chwil ar ei llwyfan, ni ddaw'n
Ddi-ddiwedd o'i hunfan;
Mae o hyd yn yr un man.
Mae'n rhuthro dyfod o hyd; rhyw yrru
Aros a wna hefyd;
Pasio ymaith heb symud.
Ffoadur
Posmon llon, â'i wep fel llwy,
Yn naidredeg drwy'r adwy
I'r hewl, cyn troi, a sgrialu,
A rhesi daint yr ast hy
Yn sownd yn ei drowsus o;
Yna rheg, a swn rhwygo,
Swn bygwth - sgrech - swn begian,
Yna ras fawr am ddrws fan,
Agos, hirnos o siwrne
A'i lais clir yn llenwi'r lle
 geiriau coethaf gwerin,
Ac olion daint Gel 'nei din.
Tranc Cenedl
Colli tir, colli tarian; colli grym,
Colli gwraidd ein hanian;
Colli'r iaith yw colli rhan;
Colli'r cof, colli'r cyfan.
Darlun
Wedi i law Duw ei liwio, a'i orffen
Yn berffaith i'w fframio,
Dalwyd eiliad a'i hoelio'n
Olew cain ar wal y co.
Prysurdeb
Â'i ddawn yn newydd o hyd, 'rôl agor
Ei Lego, i wynfyd
Yr â plentyn mewn munud,
I'w chwarae bach - a chreu byd.
|