| |
Philip Jonathan
(Yn iaith Cwm Tawe)
Hen wr o Odre'r
Graig,
Ben mynydd welodd DDRAIG,
'R ôl cwrso hir, fe ddaeth yn glir,
Taw honno oedd ei WRAIG!
Cantores Pen Y Maes,
Oedd ganddi fôr o lais,
Gymerws hoe yng nghanol sioe,
I godi cefn ei phais!
Mi welais Twm Dwli,
Yn mynd i 'neud wi wi,
Fe sylws o, a mynd o'i go',
A phisho ar ei dad-cu!
TAW A DDAW AR DORIAD DYDD
(gyda help Katrin fy merch 11 oed!)
Titrwm, tatrwm, titrwm, tatrwm,
Twrw'r glaw yn taro'r
llawr,
Twrw taro, twrw taro,
Buan ddaw y storom fawr.
Fflichio, fflachio, fflichio, fflachio,
Mellt a tharan yma nawr;
Hidia befo, paid a phoeni,
Taw a ddaw ar doriad gwawr.
Crio, cocsio, crio, cocsio,
Llefain trist fy maban mwyn,
Si hei lwli, si hei lwli,
Suo-gan yn llawn o swyn,
Daio, deio, daio, deio,
Duwch nos a phryder sydd,
Hidia befo, paid a phoeni,
Taw a ddaw ar doriad dydd.
Annwyl Katrin
(ar dy benblwydd yn ddeuddeg oed, Rhagfyr 2002)
Bywyd dynol sydd yn gymleth,
Er mor sanctaidd, er mor ddrud.
Golwg plentyn ydyw’r gorau,
Gwyn y gwêl y cyw y byd.
Dydd yn
dilyn dydd, rwyt hynach:
Gweli lwydni, ac mae'r llun
Mas o ffocws mor aneglur:
Gan mai dynol ydyw dyn!
Ond yn
fuan cei di gyfle -
Siawns i fod, i greu, i fyw.
Bydd agored, bydd garedig,
Welid di mai bendith yw.
Trafferth
ddaw o bryd i’w gilydd -
Tristwch dyn mewn du a gwyn,
Hawdd anghofio egwyddorion,
Ond bydd gadarn - dal yn dynn!
Baich
dros dro yw’r holl waith cartref
Baich gormodol, heb ‘run os!
Hel cydbwysedd, gwna jyst ddigon,
Dangos iddynt pwy yw’r bos!
Paid â
phoeni am y dyrfa,
Hidia dim am nerth y lli’,
Gwranda, ‘styria, penderfynna,
Dilyn di dy drywydd di.
|