www.bydybeirdd.com

 

 

Eich Sylwadau

Gwaith Plant

 

 

 

 

I Fyny

 

 

Peter Hughes Griffiths

Doctor Od



Doctor, Doctor, rwy'n teimlo fel mefus
'Ry'ch chi yn awr mewn jam yn anffodus!'

Doctor, Doctor, rwy'n teimlo fel llenni
'Tynnwch eich hun at eich gilydd yn handi!'

Doctor, Doctor, rwy fel pont afon Tywi
'Beth yn y byd a ddaeth drosoch chi heddi?'

Doctor, Doctor, rwy'n teimlo fel decpunt
'Ewch i'r dre am newid, ni bydd mwy o helynt!'

 

Plant Od:

    Bachgen Bach

'Hwyr i'r ysgol heddiw eto!'
Gwaeddodd Mr Jones ar Ifan.
'Ro'n i'n gynnar nes gweld yr arwydd
- Arafwch ar yffordd tu allan.'

 

Athrawes Od

'Pum afal yn fy llaw chwith.
Saith afal yn fy llaw dde.
Be sy gen i?' meddai'r athrawes.
'Clamp o ddwylo,' atebodd e!

 

Ateb Od

'Enwch bedwar dydd o'r wythnos,'
Meddai'r athro yn ei wyneb,
'Heddiw, ddoe, rhaid cofio echdoe
Ac yfory,' oed yr ateb!